Mark Isherwood yn gofyn am "arwyddnod byddar" i gael ei hyrwyddo gan gyflogwyr i ddangos eu bod yn "gyfeillgar i gyflogaeth anabl."
Nam ar y clyw
Y pwnc a ddewiswyd ar gyfer y Ddadl Fer gan Mark Isherwood yw "Y rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl sydd â nam ar y clyw yng Nghymru".
Allweddi
Aelodau yn chwerthin ar ôl i Janet Finch-Saunders ddefnyddio ei hallweddi i ategu ei phwynt am berchentyaeth.
BBCCopyright: BBC
1,612 o deuluoedd
Y Ceidwadwr Paul Davies yn dweud ei fod yn "anffodus yng Nghymru mai dim ond 1,612 o deuluoedd sydd wedi gallu prynu eu cartrefi trwy'r cynllun cymorth y i brynu" o gymharu â dros 88,000 o deuluoedd yn Lloegr.
BBCCopyright: BBC
Cymorth i Brynu
Mae dau fath o gynnyrch Cymorth i Brynu ar gael i brynwyr yng Nghymru:
1. Benthyciad Ecwiti a Rennir
Menter Llywodraeth Cymru i helpu prynwyr tro cyntaf a pherchnogion tai i brynu eiddo newydd gwerth hyd at £300,000 gyda chyn lleied â 5% o flaendal.
2. Cynllun Gwarant Morgais y DU
Ar gael ar gyfer eiddo â pherchennog blaenorol ac eiddo newydd gwerth hyd at £600,000. Mae'r cynllun yn helpu gyda benthyciadau morgais hyd at 95% o'r pris prynu.
Ceidwadwyr Cymreig
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig sydd ar y gweill erbyn hyn, ynghylch eu cynigion i roi hwb i'r cymorth a roddir i brynwyr am y tro cyntaf.
Yr Arglwydd Barnett
Agorodd yr Arglwydd Barnett ei hun ddadl yn Nhŷ'r Arglwyddi ar y pwnc yn 2011 lle y dywedodd: "Yr wyf wedi bod yn pwyso am amser hir iawn i'r fformiwla yn fy enw gael ei newid i un am angen"
Diwygio
Yn ei hateb, y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn dweud bod y ddadl yn amlygu bod y system gyllido "angen ei diwygio."
'Rhyfedd'
Y Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud ei fod yn credu ei fod yn "rhyfedd" i gynnal y ddadl hon heddiw gan fod y Pwyllgor Cyllid wrthi yn cynnal ymchwiliad i'r fformiwla.
Dadleuol
The Guardian
"Un o'r rhesymau y mae mor ddadleuol yw ei bod wedi arwain at wariant cyhoeddus y pen 20% yn uwch yn yr Alban nag yn Lloegr. Y llynedd o dan y fformiwla, cafodd yr Alban £10,152 y pen, cafodd Cymru, er ei fod yn llawer tlotach, £9,709, a chafodd Lloegr £8,529. "
Gwariant cyhoeddus
Mae fformiwla Barnett yn system o grantiau sy'n pennu lefel y gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pan fydd y llywodraeth y DU yn cynyddu neu'n gostwng cyllid ar gyfer adrannau megis iechyd ac addysg yn Lloegr, mae'r fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio i benderfynu faint y bydd llywodraethau datganoledig yn eu derbyn.
BBCCopyright: BBC
Cynnig
Yr AC Llafur Mike Hedges sy'n agor y ddadl sy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a
2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn.
BBCCopyright: BBC
Fformiwla Barnett
Aelodau yn symud ymlaen at ddadl gyntaf y prynhawn, sydd gan Aelodau Unigol ar fformiwla Barnett.
Parcio
Janet Finch-Saunders yn dweud bod y "moethusrwydd" o ddwy awr o barcio am ddim mewn parciau manwerthu y tu allan i'r dref yn effeithio ar strydoedd mawr.
MarshallCopyright: Marshall
Metro
Mae angen cynllunio ar gyfer gorsafoedd newydd nawr ac nid ar ôl trydaneiddio, meddai Eluned Parrott tra'n siarad am y system metro ar gyfer de ddwyrain Cymru.
MetroCopyright: Metro
Map diweddara' o'r cynllun MetroImage caption: Map diweddara' o'r cynllun Metro
Cyllideb 2015
BBC Cymru Fyw
Cyllideb George Osborne yn dominyddu'r cwestiynau heddiw.
Cliciwch yma i weld yr hyn a gyhoeddwyd a sut y bydd yn effeithio ar Gymru.
Economi
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sydd ar y gweill.
Yr Aelod Ceidwadol Russell George yn dweud bod y Canghellor wedi addo ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos, gan ddyblu'r ddarpariaeth bresennol yn Lloegr.
Mr George yn gofyn i'r gweinidog "a wnewch ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad llywodraeth y DU yma yng Nghymru?"
Y gweinidog yn ateb, "Byddaf yn edrych ar y manylion ac edrych ar yr arian canlyniadol fydd gennym."
BBCCopyright: BBC
Russell GeorgeImage caption: Russell George
Cofrestr
Eluned Parrott yn gofyn i'r gweinidog am dai cymdeithasol addasadwy yng Nghymru ac a yw'r llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i "wneud llunio cofrestr o dai addasadwy yn orfodol i awdurdodau lleol."
Y mae'r gweinidog yn ateb ei fod yn "sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno."
Mae George Osborne newydd orffen ei ail Gyllideb y flwyddyn hon.
BBCCopyright: BBC
Lynne NeagleImage caption: Lynne Neagle
Rhieni
"Mae plant yn byw mewn tlodi oherwydd bod eu rhieni yn byw mewn tlodi" medd y gweinidog Lesley Griffiths.
BBCCopyright: BBC
Lesley GriffithsImage caption: Lesley Griffiths
Tlodi
Effeithiolrwydd mesurau i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru yw pwnc y cwestiwn cyntaf, ac mae Bethan Jenkins yn cyfeirio at yr elusen Gweithredu dros Blant.
Croeso nôl
Bydd Cwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi am 1.30pm.
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Hwyl am y tro
Dyna ddiwedd y pwyllgor.
Bydd Democratiaeth Fyw nôl ar gyfer y Cyfarfod Llawn am 1.30pm.
'Gwendidau'
"Mae dweud ar sail cyfnod byr iawn iawn bod y system ddim yn gweithio yn ddatganiad mawr ond mae'r gwendidau sydd yn dechrau ymddangos yn barod, a'r ffaith bod pobl yn mynegi pryder yn y dyddiau cynnar, yn golygu bod angen edrych nawr ar ba gamau ychwanegol sydd angen eu cymryd" medd Meri Huws.
'Diffygion'
Ms Huws yn dweud bod "diffigion cyfansoddiadol yn deillio o'r ddeddfwriaeth."
"Dyw ymyryd bob tair blynedd ddim yn gweithio" meddai.
Dwy egwyddor
Mae dwy egwyddor yn sail i waith Comisiynydd y Gymraeg:
Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru
Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Cynlluniau tair blynedd
Dywed Aled Roberts AC os yw'r cynllun gwreiddiol yn cael ei dderbyn "i bob pwrpas 'da ni'n "stuck" efo'r cynllun am dair blynedd".
Mae Ms Huws yn ateb bod "problem o ran y ddeddfwriaeth."
Swyddogaethau
Mae swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys:
hybu defnyddio'r Gymraeg
hwyluso defnyddio'r Gymraeg
gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg drwy osod dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau'n ymwneud â'r Gymraeg
cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd
ymchwilio i ymyrraeth â rhyddid unigolyn i ddefnyddio'r Gymraeg.
'Angen clywed lleisiau'
"Mae clywed lleisiau'r sefydliadau a'r unigolion hynny (rhieni, Mudiadau Ysgolion Meithrin, rheiny yn y maes amddifadedd a rheiny sy'n gweithio yn y byd addysg ôl 16) o fewn y broses cynlluniau wrth greu cynlluniau strategol yn holl bwysig" medd Meri Huws.
Meri Huws
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg sy'n dechrau rhoi tystiolaeth.
BBCCopyright: BBC
Cludiant
"Mae cludiant yn broblem fawr" gyda rhai rhieni ddim yn gallu fforddio talu'r cyngor ar gyfer cludiant nôl ac ymlaen i'r ysgol, meddai'r AC Llafur David Rees.
Dywed y gweinidog "Mae angen i awdurdodau lleol ystyried nawr ... sut mae teuluoedd yn cael cymorth."
BBCCopyright: BBC
David ReesImage caption: David Rees
Fforymau
"Dylai'r fforymau gael eu cymryd o ddifrif gan yr awdurdod lleol" meddai'r gweinidog addysg.
Galw
Dywed Keith Davies bod "cynlluniau strategol yn gam ymlaen."
Ond mae'n ychwanegu, "Rwy'n credu bod cael fforwm ym mhob sir yn hynod o bwysig gan eu bod yn helpu'r sir i benderfynu beth yw'r galw" am addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal.
BBCCopyright: BBC
Keith DaviesImage caption: Keith Davies
'Gwallgof'
Dywed y gweinidog addysg: "Mae'n fy ngwneud yn wallgof pan fydd rhywun yn cyfeirio at 'ysgol Seisnig; mae ysgolion Seisnig yn Lloegr, nid oes unrhyw ysgolion Seisnig yng Nghymru, mae pob ysgol yng Nghymru yn ysgolion Cymreig."
BBCCopyright: BBC
Budd
Simon Thomas o Blaid Cymru yn mynegi pryderon "nad oes digon o rieni mewn ardaloedd llai dosbarth canol neu fwy difreintiedig" yn gwybod y ffeithiau ynghylch a fyddai addysg Gymraeg neu ddwyieithrwydd o fudd i'w plant.
BBCCopyright: BBC
'A fyddai angen i chi wneud?'
AC Llafur, Mike Hedges, yn gofyn "Os wyf eisiau bod yn drydanwr, a allwn wneud fy arholiadau trydanol City & Guilds i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg?"
Gari Lewis, Pennaeth y Gymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru yn ateb "A fyddai angen i chi wneud?"
BBCCopyright: BBC
Mike HedgesImage caption: Mike Hedges
Saith maes
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cynlluniau yn cwmpasu saith maes/canlyniad:
Mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;
Mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith wrth drosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd;
Mwy o fyfyrwyr 14-16 oed yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mwy o fyfyrwyr 16-19 oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgolion, colegau a dysgu seiliedig ar waith;
Cynllunio'r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus.
'Cynnydd gweledol'
Mae'r Strategaeth yn cynnwys targedau sefydlog pum mlynedd a thargedau mynegol deng mlynedd yn seiliedig ar ganlyniadau.
Yn sgil hynny, medd Llywodraeth Cymru, byddai "cynnydd gweledol yn erbyn y targedau hyn yn cael eu mesur o fewn system gynllunio mwy effeithiol, atebol a chydlynol.
"Mae'r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yn greiddiol i'r system gynllunio hon".
Strategaeth Addysg
Yn Ebrill 2010 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg wedi'i anelu at wella statws a chynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, a gwella safonau yn y Gymraeg (iaith gyntaf ac ail iaith) fel pwnc.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Anwen Lewis a Alun Jones
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Da bo chi
Dyna ni o ran ein darllediadau o'r Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon.
Ymunwch â ni ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf ar gyfer yr wythnos olaf cyn toriad yr haf.
I gael mwy o newyddion gwleidyddol, cliciwch yma.
Cyflogwyr
Mark Isherwood yn gofyn am "arwyddnod byddar" i gael ei hyrwyddo gan gyflogwyr i ddangos eu bod yn "gyfeillgar i gyflogaeth anabl."
Nam ar y clyw
Y pwnc a ddewiswyd ar gyfer y Ddadl Fer gan Mark Isherwood yw "Y rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl sydd â nam ar y clyw yng Nghymru".
Allweddi
Aelodau yn chwerthin ar ôl i Janet Finch-Saunders ddefnyddio ei hallweddi i ategu ei phwynt am berchentyaeth.
1,612 o deuluoedd
Y Ceidwadwr Paul Davies yn dweud ei fod yn "anffodus yng Nghymru mai dim ond 1,612 o deuluoedd sydd wedi gallu prynu eu cartrefi trwy'r cynllun cymorth y i brynu" o gymharu â dros 88,000 o deuluoedd yn Lloegr.
Cymorth i Brynu
Mae dau fath o gynnyrch Cymorth i Brynu ar gael i brynwyr yng Nghymru:
1. Benthyciad Ecwiti a Rennir
Menter Llywodraeth Cymru i helpu prynwyr tro cyntaf a pherchnogion tai i brynu eiddo newydd gwerth hyd at £300,000 gyda chyn lleied â 5% o flaendal.
2. Cynllun Gwarant Morgais y DU
Ar gael ar gyfer eiddo â pherchennog blaenorol ac eiddo newydd gwerth hyd at £600,000. Mae'r cynllun yn helpu gyda benthyciadau morgais hyd at 95% o'r pris prynu.
Ceidwadwyr Cymreig
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig sydd ar y gweill erbyn hyn, ynghylch eu cynigion i roi hwb i'r cymorth a roddir i brynwyr am y tro cyntaf.
Yr Arglwydd Barnett
Agorodd yr Arglwydd Barnett ei hun ddadl yn Nhŷ'r Arglwyddi ar y pwnc yn 2011 lle y dywedodd: "Yr wyf wedi bod yn pwyso am amser hir iawn i'r fformiwla yn fy enw gael ei newid i un am angen"
Diwygio
Yn ei hateb, y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn dweud bod y ddadl yn amlygu bod y system gyllido "angen ei diwygio."
'Rhyfedd'
Y Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud ei fod yn credu ei fod yn "rhyfedd" i gynnal y ddadl hon heddiw gan fod y Pwyllgor Cyllid wrthi yn cynnal ymchwiliad i'r fformiwla.
Dadleuol
The Guardian
"Un o'r rhesymau y mae mor ddadleuol yw ei bod wedi arwain at wariant cyhoeddus y pen 20% yn uwch yn yr Alban nag yn Lloegr. Y llynedd o dan y fformiwla, cafodd yr Alban £10,152 y pen, cafodd Cymru, er ei fod yn llawer tlotach, £9,709, a chafodd Lloegr £8,529. "
Gwariant cyhoeddus
Mae fformiwla Barnett yn system o grantiau sy'n pennu lefel y gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pan fydd y llywodraeth y DU yn cynyddu neu'n gostwng cyllid ar gyfer adrannau megis iechyd ac addysg yn Lloegr, mae'r fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio i benderfynu faint y bydd llywodraethau datganoledig yn eu derbyn.
Cynnig
Yr AC Llafur Mike Hedges sy'n agor y ddadl sy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a
2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn.
Fformiwla Barnett
Aelodau yn symud ymlaen at ddadl gyntaf y prynhawn, sydd gan Aelodau Unigol ar fformiwla Barnett.
Parcio
Janet Finch-Saunders yn dweud bod y "moethusrwydd" o ddwy awr o barcio am ddim mewn parciau manwerthu y tu allan i'r dref yn effeithio ar strydoedd mawr.
Metro
Mae angen cynllunio ar gyfer gorsafoedd newydd nawr ac nid ar ôl trydaneiddio, meddai Eluned Parrott tra'n siarad am y system metro ar gyfer de ddwyrain Cymru.
Cyllideb 2015
BBC Cymru Fyw
Cyllideb George Osborne yn dominyddu'r cwestiynau heddiw.
Cliciwch yma i weld yr hyn a gyhoeddwyd a sut y bydd yn effeithio ar Gymru.
Economi
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sydd ar y gweill.
Dyma'r cwestiynau llafar a gyflwynwyd.
Gofal plant
Yr Aelod Ceidwadol Russell George yn dweud bod y Canghellor wedi addo ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos, gan ddyblu'r ddarpariaeth bresennol yn Lloegr.
Mr George yn gofyn i'r gweinidog "a wnewch ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad llywodraeth y DU yma yng Nghymru?"
Y gweinidog yn ateb, "Byddaf yn edrych ar y manylion ac edrych ar yr arian canlyniadol fydd gennym."
Cofrestr
Eluned Parrott yn gofyn i'r gweinidog am dai cymdeithasol addasadwy yng Nghymru ac a yw'r llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i "wneud llunio cofrestr o dai addasadwy yn orfodol i awdurdodau lleol."
Y mae'r gweinidog yn ateb ei fod yn "sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno."
Cyllideb
Lynne Neagle, o'r blaid Lafur, yn galw'r cyhoeddiadau gan George Osborne heddiw yn "ergyd i bobl Prydain."
Mae George Osborne newydd orffen ei ail Gyllideb y flwyddyn hon.
Rhieni
"Mae plant yn byw mewn tlodi oherwydd bod eu rhieni yn byw mewn tlodi" medd y gweinidog Lesley Griffiths.
Tlodi
Effeithiolrwydd mesurau i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru yw pwnc y cwestiwn cyntaf, ac mae Bethan Jenkins yn cyfeirio at yr elusen Gweithredu dros Blant.
Croeso nôl
Bydd Cwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi am 1.30pm.
Dyma'r cwestiynau llafar a gyflwynwyd.
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Hwyl am y tro
Dyna ddiwedd y pwyllgor.
Bydd Democratiaeth Fyw nôl ar gyfer y Cyfarfod Llawn am 1.30pm.
'Gwendidau'
"Mae dweud ar sail cyfnod byr iawn iawn bod y system ddim yn gweithio yn ddatganiad mawr ond mae'r gwendidau sydd yn dechrau ymddangos yn barod, a'r ffaith bod pobl yn mynegi pryder yn y dyddiau cynnar, yn golygu bod angen edrych nawr ar ba gamau ychwanegol sydd angen eu cymryd" medd Meri Huws.
'Diffygion'
Ms Huws yn dweud bod "diffigion cyfansoddiadol yn deillio o'r ddeddfwriaeth."
"Dyw ymyryd bob tair blynedd ddim yn gweithio" meddai.
Dwy egwyddor
Mae dwy egwyddor yn sail i waith Comisiynydd y Gymraeg:
Cynlluniau tair blynedd
Dywed Aled Roberts AC os yw'r cynllun gwreiddiol yn cael ei dderbyn "i bob pwrpas 'da ni'n "stuck" efo'r cynllun am dair blynedd".
Mae Ms Huws yn ateb bod "problem o ran y ddeddfwriaeth."
Swyddogaethau
Mae swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys:
'Angen clywed lleisiau'
"Mae clywed lleisiau'r sefydliadau a'r unigolion hynny (rhieni, Mudiadau Ysgolion Meithrin, rheiny yn y maes amddifadedd a rheiny sy'n gweithio yn y byd addysg ôl 16) o fewn y broses cynlluniau wrth greu cynlluniau strategol yn holl bwysig" medd Meri Huws.
Meri Huws
Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg sy'n dechrau rhoi tystiolaeth.
Cludiant
"Mae cludiant yn broblem fawr" gyda rhai rhieni ddim yn gallu fforddio talu'r cyngor ar gyfer cludiant nôl ac ymlaen i'r ysgol, meddai'r AC Llafur David Rees.
Dywed y gweinidog "Mae angen i awdurdodau lleol ystyried nawr ... sut mae teuluoedd yn cael cymorth."
Fforymau
"Dylai'r fforymau gael eu cymryd o ddifrif gan yr awdurdod lleol" meddai'r gweinidog addysg.
Galw
Dywed Keith Davies bod "cynlluniau strategol yn gam ymlaen."
Ond mae'n ychwanegu, "Rwy'n credu bod cael fforwm ym mhob sir yn hynod o bwysig gan eu bod yn helpu'r sir i benderfynu beth yw'r galw" am addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal.
'Gwallgof'
Dywed y gweinidog addysg: "Mae'n fy ngwneud yn wallgof pan fydd rhywun yn cyfeirio at 'ysgol Seisnig; mae ysgolion Seisnig yn Lloegr, nid oes unrhyw ysgolion Seisnig yng Nghymru, mae pob ysgol yng Nghymru yn ysgolion Cymreig."
Budd
Simon Thomas o Blaid Cymru yn mynegi pryderon "nad oes digon o rieni mewn ardaloedd llai dosbarth canol neu fwy difreintiedig" yn gwybod y ffeithiau ynghylch a fyddai addysg Gymraeg neu ddwyieithrwydd o fudd i'w plant.
'A fyddai angen i chi wneud?'
AC Llafur, Mike Hedges, yn gofyn "Os wyf eisiau bod yn drydanwr, a allwn wneud fy arholiadau trydanol City & Guilds i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg?"
Gari Lewis, Pennaeth y Gymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru yn ateb "A fyddai angen i chi wneud?"
Saith maes
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cynlluniau yn cwmpasu saith maes/canlyniad:
'Cynnydd gweledol'
Mae'r Strategaeth yn cynnwys targedau sefydlog pum mlynedd a thargedau mynegol deng mlynedd yn seiliedig ar ganlyniadau.
Yn sgil hynny, medd Llywodraeth Cymru, byddai "cynnydd gweledol yn erbyn y targedau hyn yn cael eu mesur o fewn system gynllunio mwy effeithiol, atebol a chydlynol.
"Mae'r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) yn greiddiol i'r system gynllunio hon".
Strategaeth Addysg
Yn Ebrill 2010 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg wedi'i anelu at wella statws a chynllunio addysg cyfrwng Cymraeg, a gwella safonau yn y Gymraeg (iaith gyntaf ac ail iaith) fel pwnc.
Bore da
Croeso i BBC Democratiaeth Fyw Cymru ar ddiwrnod cyntaf cyfres y Lludw!
Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dechrau am 9.30.
Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, sy'n rhoi tystiolaeth ar ymchwiliad y pwyllgor i gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg.