a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni am heddiw, ymunwch â ni fory am 10am ar gyfer y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

  2. Toreth o gwestiynau!

    Wrth ymateb i gyfres o gwestiynau llafar gan yr aelod Ceidwadol, Russell George mae'r dirprwy weinidog yn nodi ei fod eisoes wedi gofyn 34 o gwestiynau ysgrifenedig ar y pwnc hwn.

  3. Seilwaith

    Julie James yn cyhoeddi "rhaglen bum mlynedd gwerth £12.5 miliwn ar draws Cymru gyfan i alluogi busnesau i fanteisio ar fand eang."

    Wedi'i hariannu gan lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a £7 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, bydd y prosiect yn "bennaf yn cefnogi busnesau bach a chanolig i ddeall, mabwysiadu ac ymelwa ar y seilwaith cyflym iawn."

  4. Band eang cyflym iawn

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at y datganiad olaf gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James ar fanteisio ar Fand Eang Cyflym Iawn ar gyfer Busnes.

  5. Datganoli

    Edwina Hart yn dweud wrth ACau, "Rwy'n parhau i bwyso ar lywodraeth y DU i gyflwyno datganoli pellach ar gyfer trafnidiaeth. Er bod Papur Gorchymyn Diwrnod Dewi Sant yn cynnig y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael cymhwysedd deddfwriaethol dros borthladdoedd, cyfyngiadau cyflymder , cofrestru gwasanaethau bysiau, a thacsi a rheoleiddio cerbyd hurio preifat, mae datganoli seilwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn hanfodol i gefnogi cyflenwad effeithlon i system drafnidiaeth integredig i Gymru.

    "Rwyf hefyd yn ceisio datganoli arwyddion traffig ar y ffyrdd, fel y gallwn fodloni ein dyheadau yn well ar gyfer teithio llesol a'r iaith Gymraeg."

    Edwina Hart
  6. Pwrpas

    Yn ôl llywodraeth Cymru, pwrpas y cynllun hwn yw:

    • cyflwyno'r amserlen ar gyfer cynnal y cynlluniau a gynhelir gan Lywodraeth Cymru
    • cyflwyno'r amserlen ar gyfer cynnal y cynlluniau
    • nodi amcangyfrif o'r gwariant sydd ei angen i'w cynnal
    • nodi ffynhonnell debygol y cyllid ar gyfer cynnal y cynlluniau.
  7. Gweinidog Economi

    Ymlaen at y datganiad olaf ond un gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Ediwna Hart ar y diweddariad ar Gynllun Cenedlaethol Cyllid Trafnidiaeth 2015.

  8. 'Argyfwng'

    Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth groesawu'r arian ychwanegol, yn cwestiynu "a ydyw'n ddigon ar gyfer yr argyfwng sy'n ein hwynebu?"

  9. Cysondeb?

    Dywed Elin Jones, "yr hyn sy'n methu argyhoeddi yw bod unrhyw gysondeb yn y gwasanaeth sylfaenol drwy'r wlad".

    Elin Jones
  10. 'Argyfwng meddygon teulu'

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud fod pethau yn "symud i'r cyfeiriad cywir, ond nid yw'n hynny yn ddigon cyflym, yn enwedig yn y rhannau hynny o'r wlad lle mae'r argyfwng meddygon teulu yn dechrau ymddangos."

  11. Clystyrau

    Meddai Vaughan Gething "flwyddyn ar ôl lansio ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol, rydym wedi cyflawni llawer iawn, fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod yna lawer mwy y mae angen ei wneud."

    Ychwanega fod "datblygu clystyrau gofal sylfaenol fel y gallant gynllunio gwasanaethau darbodus ar gyfer poblogaethau lleol a thynnu mwy o ofal y tu allan i ysbytai yn parhau i fod yn un o'n prif flaenoriaethau."

    Vaughan Gething
  12. Cynllun Gofal Sylfaenol

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at y datganiad nesaf gan y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething ar y Cynllun Gofal Sylfaenol.

  13. Bwrdd

    Mr Lewis yn cadarnhau ei fod wedi penodi Ann Evans yn ffurfiol fel Cadeirydd, Philip Blaker yn Brif Swyddog Gweithredol a phenodwyd pum aelod o'r corff cysgodol i fod yn aelodau llawn o'r Bwrdd Cymwysterau Cymru newydd. Bydd tri aelod ychwanegol yn cael eu penodi i'r Bwrdd maes o law, ychwanega.

  14. Staff

    Mr Lewis yn dweud fod Cymwysterau Cymru bellach wedi'i staffio'n llawn, gyda thua 60 wedi'u penodi.

    Hwn oedd y nifer a ragwelwyd yn wreiddiol, meddai.

    Mae'r cyfanswm yn cynnwys tua 10 o staff sydd wedi trosglwyddo o lywodraeth Cymru i'r corff newydd.

    Huw Lewis
  15. Deddfwriaeth

    Cafodd y ddeddfwriaeth newydd ar gyfer creu corff annibynnol i reoleiddio cymwysterau yng Nghymru Gydsyniad Brenhinol y Frenhines yn ystod yr haf.

  16. Symud ymlaen

    Mae'r Gweindiog Addysg, Huw Lewis wrthi yn gwneud datganiad ar greu Cymwysterau Cymru.

  17. Maes Awyr Caerdydd

    Yr aelod Ceidwadol Nick Ramsay yn cwestiynu £3 miliwn a gyhoeddwyd fel rhan o becyn ehangach o fuddsoddiad i gefnogi datblygu llwybrau Maes Awyr Caerdydd.

  18. Tanwariant

    Ms Hutt yn cyhoeddi fod y cyfrifon yn cofnodi tanwariant "bach" o £8.3 miliwn o refeniw a £1.4 miliwn o gyfalaf o'i fesur yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd.

    Mae hi'n dweud fod y canlyniadau yma, pan maent yn cael eu hychwanegu at y cronfeydd wrth gefn a ddelir ar ddiwedd 2014-15, yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn cario £6.9 miliwn o refeniw a chyfalaf o £3.3 miliwn drosodd i'r flwyddyn ariannol bresennol.

    Jane Hutt
  19. Ymrwymiadau

    Mae datganiad cyntaf y prynhawn gan Ms Hutt ar ymrwymiadau yn ystod y flwyddyn 2015-16.

  20. Busnes y llywodraeth

    Ymysg y pynciau a godwyd gyda Jane Hutt yw effaith llywodraeth y DU ar gyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru, dyfodol y BBC, contractau meddygon iau a'r cynllun taliadau sylfaenol ar gyfer ffermwyr.

  21. Datganiad Busnes

    Mae'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt wrthi yn rhoi'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes wythnosol, rhestrir busnes y Cynulliad yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.

  22. Gogledd Iwerddon

    Dafydd Elis-Thomas yn awgrymu y gallai Cymru chwarae rhan uniongyrchol wrth hyrwyddo datganoli yng Ngogledd Iwerddon.

    Dywed Carwyn Jones nad yw David Cameron wedi bod yn bresennol yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ers i Mr Jones fod yn brif weinidog.

  23. Prifysgol Abertawe

    Mae Mr Jones yn ychwanegu na fyddai'r campws gwyddoniaeth ac arloesedd newydd gwerth £450m ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael eu hadeiladu heb aelodaeth o'r UE.

    Prifysgol Abertawe
  24. UE

    Byddai gadael yr UE yn "wallgof yn economoaidd i Gymru" meddai'r Prif Weinidog, gyda mynediad at "farchnad ddilyffethair o 500 miliwn o bobl."

    UE
  25. Betsi Cadwaladr

    Mewn ymateb i'r Ceidwadwr Darren Mallir, dywed Mr Jones y bydd Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn aros yn ei swydd "mor hir ac y mae'n ei gymryd" i wella pethau.

  26. Ffeiliau'r Gwasanaeth Iechyd

    Aelod Plaid Cymru, Bethan Jenkins yn gofyn am ffeiliau yn mynd ar goll yn y Gwasanaeth Iechyd.

  27. Amseroedd aros diagnostig

    Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn am amseroedd aros diagnostig.

    Dywed Mr Jones bod rhaid cael targedau ar driniaeth hefyd.

    Leanne Wood
  28. M4

    Kirsty Williams yn dweud y byddai cael gwared ar ffordd liniaru'r M4 yn helpu i dalu am gartrefi.

  29. Adeiladu tai

    Kirsty Williams yn gofyn am dargedau adeiladu tai.

    Prif weinidog yn dweud bod angen iddi esbonio sut y bydd addewid y Democratiaid Rhyddfrydol o 20,000 o gartrefi yn cael ei hariannu.

    Kirsty Williams
  30. Gwasanaeth Iechyd

    Mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru " yn symud i'r cyfeiriad cywir heb amheuaeth" , meddai'r prif weinidog.

  31. Amseroedd aros

    Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn am amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd i Gymru ar gyfer llawdriniaeth ar y galon.

    Andrew RT Davies
  32. Cau banciau

    Kirsty Williams yn mynegi ei phryder am fanciau yn cau yn ei hetholaeth.

    Y prif weinidog yn dweud y dylid glynu wrth y cod ymarfer bob amser wrth ystyried cau banc.

    Arian
  33. Croeso nôl

    Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ateb cwestiynau'r aelodau ymhen 5 munud!

  34. Hwyl am y tro

    Mae'r pwyllgor wedi gorffen.

    Byddwn ni yn ôl am 1:30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog.

  35. Uwch dîm

    "Mae angen i ni fel uwch dîm fod yn fwy gweladwy ", meddai David Anderson mewn ymateb i gwestiwn gan Julie Morgan am yr arolwg staff.

  36. Cynllun ymadael yn gynnar

    Jocelyn Davies yn gofyn am y cynllun ymadael yn gynnar "hael iawn".

    Dywed David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru "roeddem wedi nodi fod hyn yn broblem cyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Rydym yn cydnabod ei bod yn anghyson â'r sector cyhoeddus, a byddwn yn ymgynghori â staff ar newidiadau i'r cynllun."

  37. Streiciau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi wynebu cyfres o streiciau yn ddiweddar wrth i aelodau Undeb y PCS wrthwynebu cynlluniau i atal taliadau ychwanegol a delir i staff sy'n gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.

  38. Tystion

    Mae David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol a Neil Wicks, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol o Amgueddfa Cymru yn rhoi tystiolaeth.

    Tystion
  39. Amgueddfa Cymru

    Mae'r aeoldau yn symud ymlaen at graffu ar Gyfrifon 2014-15 Amgueddfa Cymru.

  40. 'Costus'

    "Ry ni'n ymwybodol bod y cynllun yn gostus iawn" meddai David Michael.

    Aled Roberts yn gofyn a yw'r taliadau yn uwch na rhai arferol yn y sector cyhoeddus.

    "Mae'r taliadau diswyddo yn uwch", meddai David Michael "dan ni'n defnyddio hen system y gwasanaeth sifil."

  41. Cynllun ymadael gwirfoddol

    Mae'r llyfrgell yn cynnig cynllun ymadael gwirfoddol i'w staff ac yn ôl y cyfrifon blynyddol, gadawodd naw aelod staff cyn 31 Mawrth 2015 ar gost o £601,544.

    Derbyniodd 18 aelod staff arall y telerau a oedd yn cael eu cynnig a byddan nhw'n ymadael â'r llyfrgell yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16 ar gost o £752,230.

  42. Etifeddiaeth

    Gofynnodd Mohammad Asghar am y £7.5 miliwn a ddangosir yn y cyfrifon fel cronfeydd preifat anghyfyngedig.

    Dywed David Michael fod y ffigur hwnnw wedi tyfu 45% yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'n cynnwys "etifeddiaeth fawr o £ 1.25 miliwn y flwyddyn flaenorol."

    Mae cronfeydd preifat yn cael eu defnyddio i gymorthdalu ​​costau rhedeg, ychwanega.

    David Michael
  43. Hyfforddiant caffael

    Mae'r llyfrgell mewn trafodaethau gyda dau ddarparwr dros pris i ddarparu hyfforddiant caffael, meddai David Michael.

    Fe aeth Arwel Jones ac Elwyn Williams â'r llyfrgell i dribiwnlys yr haf diwethaf wedi i'w swyddi gael eu hisraddio o ddwy radd cyflog am y ffordd y cafodd tendr ei ddyfarnu a'i rheoli ar gyfer gwaith hyrwyddo.

  44. Tân

    Mae ffioedd cyfreithiol y llyfrgell wedi cyrraedd £75,000 yn yr achos yn erbyn y contractwr oedd yn gyfrifol am y tân ym mis Ebrill 2013, meddai David Michael - Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru.

    Mae Jocelyn Davies yn holi a oedd yn ddoeth i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmni sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

  45. Argymhellion

    Mae pob un o'r 11 o argymhellion gan PricewaterhouseCoppers wedi cael eu derbyn, meddai Colin John - Trysorydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru.

    Dywed fod pedwar eisoes wedi eu rhoi ar waith a bod gwaith ar weithredu'r saith arall ar y gweill.

  46. Tribiwnlys

    Ar ôl i dribiwnlys cyflogaeth ddyfarnu bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi diswyddo dau aelod o'r staff yn annheg, talwyd cyfanswm o £153,848 i'r ddau, mae'r cyfrifon blynyddol yn datgelu.

  47. Bore da

    Croeso i ddarllediad byw o'r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9am.

    Mae mis Medi yn gallu bod yn fis tymhestlog ym Mae Caerdydd. Dyma oedd mis y cynnig cyntaf o gerydd yn hanes y Cynulliad.

    Senedd