a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Anwen Lewis a Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ddiwedd dadl cyfnod 3 ar y Mesur Llywodraeth Leol.

    Byddwn nôl yfory am y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am 9.30am.

    Senedd
  2. Gwelliant 29

    Mae'r Aelodau yn trafod gwelliant 29 a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid i awdurdodau lleol greu Cyngor Ieuenctid, ar gyfer pobol dan 26 oed.

    Nid yw'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid y gwelliant.

  3. Pleidleisiau Trosglwyddadwy Sengl

    Mae'r Aelodau wedi cyrraedd grŵp naw o welliannau, o dan y teitl 'uno gwirfoddol gan awdurdodau lleol: etholiadau'.

    Gwelliant 5 yw'r prif welliant ac y mae yn enw Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Mae'r gwelliant hwn yn benodol am Bleidleisiau Trosglwyddadwy Sengl (STV).

  4. Gwelliant 26

    Mae gwelliant 26 yn enw'r aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders wedi cael ei wrthod gan ACau.

    Byddai'r gwelliant wedi caniatáu ar gyfer refferendwm i gael ei chynnal cyn gwneud rheoliadau uno.

  5. Cwtogi niferoedd y cynghorau

    Fis Mehefin fe wnaeth Leighton Andrews gyhoeddi cynlluniau i gwtogi niferoedd y cynghorau Cymreig o 22 i wyth neu naw.

    Ym mis Ionawr 2014 fe wnaeth comisiwn oedd wedi ei sefydlu gan lywodraeth Cymru awgrymu y dylai rhwng 10 a 12 o gynghorau gael eu sefydlu yn y dyfodol.

    Byddai unrhyw newidiadau i nifer y cynghorau yn cael eu gwneud yn dilyn etholiadau'r Cynulliad fis Mehefin nesaf
    Image caption: Byddai unrhyw newidiadau i nifer y cynghorau yn cael eu gwneud yn dilyn etholiadau'r Cynulliad fis Mehefin nesaf
  6. Adfywiad economaidd

    Simon Thomas yn cynnig gwelliant i hybu adfywiad economaidd a defnydd o'r iaith Gymraeg

    Simon Thomas
  7. Cyfnod 3

    Bant â ni gyda dadl ar gyfnod 3 y Mesur Llywodraeth Leol.

  8. Datganiad Busnes

    Y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes sydd ar y gweill erbyn hyn.

    Yn y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes, rhestrir busnes y Cynulliad yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.

  9. 'Ddim ar gael'

    Mae Simon Thomas a Leanne Wood yn codi'r pwynt bod yr adroddiadau mewn gwirionedd ddim ar gael ar y wefan.

    The National Archives
  10. Adroddiadau ar benderfyniadau

    Mae gwefan y llywodraeth yn dweud:

    "Mae adroddiadau am benderfyniadau yn rhoi'r ffeithiau a'r dadansoddiadau ffeithiol a oedd yn sail i benderfyniadau'r gweinidogion.

    "O 28 Medi 2015, fel canlyniad o symleiddio ein proses cynghori gweinidogol, nid ydym bellach yn cynhyrchu adroddiadau penderfyniad. Gallwch weld adroddiadau penderfyniad blaenorol ar wefan yr Archifau Cenedlaethol, yn archif Llywodraeth y DU (dolen allanol)."

  11. 'Byth wedi bodoli'

    Dywed y prif weinidog "nid yw adroddiadau penderfyniad cabinet byth wedi bodoli."

  12. Cwestiwn Brys

    Kirsty Williams yn gofyn Cwestiwn Brys: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i gyhoeddi adroddiadau ar benderfyniadau'r Cabinet?

  13. Toriadau

    Mae toriadau llywodraeth leol yn dod o dan lach nifer o Aelodau Cynulliad.

    Y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn gofyn am adolygiad o gyflogau swyddogion uwch a thaliadau diswyddo.

    Janet Finch-Saunders
  14. Busnes

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cyhuddo y prif weinidog o wneud tro pedol gydag agwedd "pro-fusnes ffyrnig".

    Mr Jones yn dweud hyn yn "troelli anhygoel o realiti" gan Ms Williams.

  15. Awdurdodau lleol

    Heddiw mae'r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi cynlluniau i roi'r gair olaf i gymunedau lleol ar uno awdurdodau lleol.

    Bydd yr Aelodau yn trafod cyfnod 3 y Mesur Llywodraeth Leol yn ddiweddarach y prynhawn yma.

    Ceir mwy am feirniadaeth y gwrthbleidiau o ad-drefnu cynghorau lleol yma.

  16. Siambr

    Y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Yn gyntaf ar y rhestr heddiw y mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies.

    Mae Mr Davies yn cyfeirio at yr oriel gyhoeddus lawn heddiw yn y Siambr, gan gwestiynu pam fod cyn lleied o eitemau wedi eu cyflwyno gan y llywodraeth ddydd Mawrth diwethaf - daeth y trafodion i ben am 16:50.

    Siambr
  17. Meddygon teulu

    "Mae'n rhaid i ni fod yn fwy arloesol" wrth recriwtio meddygon teulu, meddai'r prif weinidog ar ôl problemau ym Mhrestatyn.

  18. Dirprwy?

    Yr AC Ceidwadol dros Ogledd Cymru Janet Howarth yn galw'r Fonesig Rosemary Butler y Dirprwy Lywydd yn lle Llywydd.

    Dyma'r adwaith ...

    Rosemary Butler
  19. Moderneiddio ysgolion

    Y Prif Weinidog Carwyn Jones ar ei draed - mae'r cwestiwn cyntaf gan yr aelod Ceidwadol Russell George ar raglen moderneiddio ysgolion Llywodraeth Cymru.

    Carwyn Jones
  20. Croeso nôl

    Cwestiynau i'r Prif Weinidog fydd gyntaf wrth gwrs, am 1.30.

  21. Da bo am y tro

    Dyna ddiwedd y pwyllgor.

    Byddwn 'nôl am y cyfarfod llawn am 1.30pm.

  22. Adolygiad barnwrol

    Mae'r cadeirydd, Darren Millar yn gofyn "a fyddwch yn cefnogi bridge fel camp?"

    Bydd adolygiad barnwrol llawn o'i statws fel camp.

    Meddai Ms Powell "Byddwn yn aros am yr adolygiad barnwrol."

    Bridge
  23. Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

    Mae'r aelodau yn trafod perthynas Chwaraeon Cymru gyda Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

    Aled Roberts, y Demcorat Rhyddfrydol, yn dweud ei fod yn pryderu mai rhwng yr awdurdod lleol a Chwaraeon Cymru y mae'r berthynas ac nid gyda'r ysgolion unigol oherwydd, meddai, y gallai'r ysgolion dan sylw gau eu giatiau am 3:30 pm heb wneud defnydd llawn o'u cyfleusterau chwaraeon.

  24. Galw am Weithredu

    Yr Aelod Ceidwadol Mohammad Asghar yn gofyn cwestiwn am gydraddoldeb mewn chwaraeon. Ms Powell yn dweud bod £2.3 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn Galw am Weithredu "sydd bellach yn gweithio yn unig ar gydraddoldeb."

  25. Uchelgais

    Ms Powell yn dweud bod gan Chwaraeon Cymru ddwy uchelgais "beiddgar", "i gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes" a hefyd uchelgais i gael "cenedl o bencampwyr."

  26. 'Uno cenedl'

    Mae Sarah Powell yn cyfeirio at y dwymyn rygbi sy'n ysgubo ar draws Cymru yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn.

    "Mae gan Chwaraeon Cymru weledigaeth glir, mae gennym weledigaeth i uno cenedl sy'n caru'r campau. Yr wyf yn gobeithio yr aethpwyd peth ffordd i gyflawni hynny ddydd Sadwrn gyda chanlyniad rygbi gwych."

    RWC 2015
  27. Chwaraeon Cymru

    Mae'r aelodau nawr yn craffu ar gyfrifon 2014-15 Chwaraeon Cymru.

    Y tystion yw:

    Sarah Powell, Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru

    Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid, Chwaraeon Cymru.

    Tystion
  28. Ymwelwyr

    "Rydym yn cael mwy o ymwelwyr i'r Pierhead nag i'r Senedd" meddai David Melding.

  29. 'Siomedig'

    Mae'r aelodau yn trafod yr achos o dwyll y llynedd pan wnaeth Comisiwn y Cynulliad dalu £104,000 i gyfrif banc twyllodrus.

    Mae Aled Roberts AC yn gofyn a oes unrhyw gamau wedi'u cymryd i adennill rhywfaint o'r arian.

    Dywed Claire Clancy eu bod wedi cymryd cyngor cyfreithiol i weld a ddylai'r golled gael ei rhannu gyda'r contractwr "oherwydd y camau yr oeddem wedi eu cymryd i roi gwybod i'r contractwr y gallai fod problem ac oherwydd eu methiant i ddefnyddio'r prosesau rheolaeth gywir."

    "Trafodwyd setliad gyda'r contractwr. Dim ond £4,000 o'r £104,000 gytunon nhw i'w dalu, oedd yn siomedig."

  30. Adroddiad blynyddol

    I weld copi o'r adroddiad blynyddol cliciwch yma.

  31. Comisiwn

    Comisiwn y Cynulliad yw'r enw a roddir ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau arwyddocaol newydd i ddeddfu, ac mae'n cryfhau ei rôl graffu. Mae hefyd yn creu Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd ar wahân yn gyfreithiol a chorff corfforaethol newydd, sef Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Comisiwn y Cynulliad) a fydd yn gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi Aelodau'r Cynulliad.

    Senedd
  32. Cyfrifon Comisiwn y Cynulliad

    Mae'r Pwyllgor yn craffu ar gyfrifon 2014-15 Comisiwn y Cynulliad.

    Yn rhoi tystiolaeth:

    David Melding AC - Comisiynydd y Cynulliad Dros Dro

    Claire Clancy - Prif Weithredwr

    Nicola Callow - Cyfarwyddwr Cyllid.

    Tystion
  33. Bore da

    Croeso i Senedd Fyw.

    Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9.