a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Janet Ebenezer

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da!

    A dyna ni am heddiw. Fe fyddwn ni nôl am 9yb fory gyda'r Pwyllgor Cymunedau. Hwyl!

    Senedd
  2. Cyfnod pleidleisio

    Mae'r aelodau yn cyrraedd cyfnod pleidleisio.

    Os oes angen atgoffa unrhyw AC o bwysigrwydd canolbwyntio yn ystod y cyfnod pleidleisio, dylent edrych ar y fideo hwn o'r Gweinidog Iechyd ar y pryd, Dr Brian Gibbons, yn gwneud camgymeriad trwy bleidleisio gyda'r gwrthbleidiau am ymchwiliad cyhoeddus i wasanaeth ambiwlans Cymru, er bod y llywodraeth wedi datgan bod hyn yn ddiangen gan fod ymchwiliadau mewnol eisoes yn cael eu cynnal.

  3. 'Neges gref i Lywodraeth y DU'

    Mae aelod y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black yn galw ar lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i "anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998".

    Peter Black AC
  4. Rhentu Doeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Cymunedau Lesley Griffiths yn gofyn i'r aelodau i gymeradwyo'r fersiwn ddrafft o'r Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau.

    Mae Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn cyflwyno cynllun cofrestru gorfodol ar gyfer landlordiaid preifat a gofyniad ar landlordiaid preifat ac asiantau sy'n cyflawni tasgau gosod/ rheoli i gael eu trwyddedu.

  5. Gwerth am arian am yr ystâd dramor?

    Am y tro cyntaf, mae'r ystâd dramor yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad.

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn cwestiynu os yw trethdalwyr yn cael gwerth am arian am yr ystâd dramor.

  6. Gostyngiad ystâd llywodraeth Cymru

    Mae'r ACau yn gwrando ar ddatganiad y gweinidog cyllid a llywodraeth busnes: Adroddiad ar Gyflwr yr Ystâd.

    Mae Jane Hutt yn honni dros y cyfnod 2014/15 mae llwyddiannau yn cynnwys:

    • Gostyngiad o 2.7% ym maint ystâd llywodraeth Cymru, sy'n cyfateb i 2,277 metr sgwâr;
    • Gostyngiad yn nifer lleoliadau swyddfeydd llywodraeth Cymru, o 29 i 25;
    • Effeithlonrwydd o safbwynt faint o le sydd ei angen ar bob cyflogai - wedi gwella 8.13% ar draws yr ystâd ; a
    • Gostyngiad mewn allyriadau carbon o bron i 8% neu 772 tunnell o CO2 o'i gymharu â llynedd.
  7. Cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog

    Mae Leighton Andrews yn tanlinellu'r gefnogaeth sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog "ar draws pob adran y llywodraeth", yn ogystal â chymorth gan sefydliadau megis Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru a'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

  8. Dwy farn

    Mewn blog eleni ar Cymru Fyw mi fuodd Rhys Llwyd, gweinidog yn ardal Caernarfon, yn gofyn oes 'na wahaniaeth mewn gwirionedd rhwng dulliau recriwtio IS a Lluoedd Arfog Prydain.

    Ymatebodd Aled Huw Thomas, cyn-gaplan gyda'r Lluoedd Arfog, i rai o bwyntiau Rhys.

  9. Y Gweinidog dros y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr

    Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad y gweinidog ar gyflawni ar gyfer ein lluoedd arfog a'u teuluoedd.

    Yn 2014, sefydlwyd grŵp arbenigol i gynghori ar y ffordd orau y gall wasanaethau cyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned y lluoedd arfog.

    Cadeirydd y grŵp yw'r gweinidog gwasanaethau cyhoeddus, fel y gweinidog dros y lluoedd arfog a chyn-filwyr.

    Y lluoedd arfog
  10. 'Ffrindiau dychmygol' Stephen Crabb

    Alun Davies am Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: "Mae'n ymddangos bod grŵp o ffrindiau dychmygol o'i amgylch... yn creu fersiwn ffantasi o'r setliad cyfansoddiadol sy'n amhosibl ei adnabod".

  11. 'Bydd gweithredoedd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu rhwystro gan San Steffan'

    Dywed Kirsty Williams: "Ni all y sefyllfa bresennol o ran datganoli yng Nghymru barhau. Mae'r ffaith bod ein cyfreithiau yn rheolaidd yn mynd i'r Goruchaf Lys yn ddigon o dystiolaeth nad yw'r system bresennol yn ddigon addas.

    "Eto i gyd, mae 'na beryg y gallai'r Mesur Cymru drafft sicrhau bod gweithredoedd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu rhwystro gan San Steffan. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol".

  12. 'Pam na ddylai Cymru ddisgwyl neu haeddu gydraddoldeb llawn?'

    Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn galw am "gydraddoldeb i Gymru gyda'r genhedloedd datganoledig eraill".

    "Pam na ddylai Cymru ddisgwyl neu haeddu gydraddoldeb llawn?', mae'n gofyn.

  13. 'Cyfle da i gryfhau democratiaeth'

    Yn ôl Andrew RT Davies mae mesur drafft Cymru "yn gyfle da i gryfhau democratiaeth yng Nghymru".

  14. PW: "Y ddadl bwysicaf ers peth amser"

    Mae'r Prif Weinidog Cymru yn cyflwyno yr hyn mae'n ei ddisgrifio fel "y ddadl bwysicaf yng Nghymru ers cryn amser"

    Mae'n cyflwyno'r cynnig sy'n "nodi cyhoeddi Mesur Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn gresynu nad yw'r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk".

  15. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Mae'r ACau yn symud ymlaen at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes, sy'n amlinellu busnes y Cynulliad dros y tair wythnos nesaf.

    Ymysg y pynciau a godwyd yw'r A55, gwasanaethau iechyd meddwl, a chategorïau ieithyddol ar gyfer ysgolion.

  16. Preifateiddio Maes Awyr Caerdydd?

    Mae'r Ceidwadwyr a'r prif weinidog o'r farn bod sylwadau David Rowe Beddoe ddoe ar faes awyr Caerdydd yn cyfiawnhau eu sabwyntiau gwahanol.

    Dylai Maes Awyr Caerdydd gael ei breifateiddio yn y pum mlynedd nesaf, yn ôl ei gadeirydd.

    Cafodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe ei benodi ym mis Mawrth 2013 pan brynodd llywodraeth Cymru y maes awyr am £52 miliwn.

    Maes awyr Caerdydd
  17. Elin Jones yn holi am fand eang cyflym iawn yng Ngheredigion

    Elin Jones yn holi cwestiwn am fand eang cyflym iawn yng Ngheredigion.

    Ceredigion oedd yr ardal gynhesaf trwy Brydain ddydd Sul, gan hefyd dorri'r record am y tymheredd uchaf i'w gofnodi erioed ym Mis Tachwedd ym Mhrydain.

    Ond yn ôl Elin Jones nid yw cyflymder band eang ddim cystal.

    Band-eang
  18. 59 o alwadau i gael apwyntiad gyda meddyg teulu

    Dywed AC Plaid Cymru Jocelyn Davies bod aelod o'r teulu wedi ffonio 59 o weithiau i gael apwyntiad gyda meddyg teulu cyn 8.30yb, ac fe gymerodd dri diwrnod i weld meddyg.

    Ni ddylai meddygon teulu ddibynnu ar apwyntiadau dros y ffôn fel y gwnaethant 20 mlynedd yn ôl, meddai'r prif weinidog. Yn ôl Carwyn Jones, nid oes rheswm pam na allwch wneud apwyntiadau ar-lein.

    Jocelyn Davies AC
  19. Plant yn aros 112-diwrnod ar ôl asesiadau

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn gofyn os y bydd mwy o benodiadau er mwyn cyrraedd targedau iechyd meddwl. Mae'r PW yn dweud bod cynlluniau'r byrddau iechyd yn cael eu gweithredu ac y gallwn ddisgwyl amseroedd aros i wella diolch i recriwtio. Ond yn ôl Kirsty Williams mae plant dal yn gorfod aros 112-diwrnod ar ôl cael eu hasesu.

    Kirsty Williams AC
  20. 'Dim arweiniad' i Gomisiwn annibynnol Williams

    Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies fod negeseuon e-bost a gafwyd drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod y PW wedi cyfarwyddo'r Comisiwn Williams annibynnol.

    Nid felly, meddai'r PW. Ni chafodd y Comisiwn unrhyw arweiniad.

    Andrew RT Davies AC
  21. £800 mil yn ychwanegol wedi'i addo ar gyfer iechyd meddwl

    Leanne Wood yn croesawu torri amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion - ond beth am wasanaethau i blant a phobl ifanc? Mae'r prif weinidog yn dweud bod £800 mil yn ychwanegol wedi'i addo.

    Leanne Wood AC
  22. Gwahoddiadau i'r prif weinidog

    Mae cwestiynau i'r prif weinidog yn dechrau gyda gwahoddiadau i'r PW i ganmol y Lleng Brydeinig, Y Samariaid a gwirfoddolwyr llyfrgelloedd a hosbisau.

    Carwyn Jones AC