a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Pwyllgor Cymunedau
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r gweinidog iechyd
  3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
  4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y byd gwaith
  5. Dadl Plaid Cymru ar dlodi tanwydd
  6. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol ar adfywio'r stryd fawr
  7. Dadl fer: Cartrefi'r 21ain Ganrif

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Janet Ebenezer

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna'r cyfan gan Senedd Fyw tan ddydd Mawrth 10 Tachwedd.

    Senedd
  2. Dadl Fer

    Yr eitem olaf yw'r Ddadl Fer.

    Y pwnc a ddewiswyd gan Jenny Rathbone (AC Canol Caerdydd) yw: "Cartrefi'r 21ain Ganrif: yr achos dros dai di-garbon yn awr".

    Jenny Rathbone
  3. Buddsoddi

    Wrth ymateb i'r ddadl, mae Carl Sargeant y Gweinidog yn dweud bod llywodraeth Cymru wedi "ymrwymo i gefnogi canol ein trefi a'n dinasoedd, gyda'r angen i esblygu ac arallgyfeirio yn gadarn wrth wraidd ein hymdrechion".

    Mae'n pwysleisio bod y llywodraeth yn buddsoddi hyd at £109m mewn 18 o drefi a dinasoedd ledled Cymru.

  4. Tafarndai

    Peter Black yn credu bod tafarndai lleol yn ased i adfywio strydoedd mawr a dylai unrhyw benderfyniad i'w cau gael ei wneud gan bobl leol, yn hytrach na'r landlord.

    Meddai: "Ar hyn o bryd mae cyfraith cynllunio yn cynnig fawr ddim amddiffyniad i gymunedau sy'n dymuno cadw eu tafarndai ar agor."

    Peter Black
  5. Parcio am ddim

    Dylid gweithio gyda chynghorau i sicrhau cynlluniau parcio am ddim i helpu i adfywio'r stryd fawr ledled Cymru, yn ôl y Ceidwadwr William Graham.

  6. Pwysigrwydd y stryd fawr

    Eluned Parrott sy'n arwain dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar bwysigrwydd y stryd fawr ledled Cymru.

    Yn ôl y blaid mae gan stryd fawr fywiog ac amrywiol rôl allweddol i'w chwarae yng Nghymru o ran adeiladu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

    Eluned Parrott
  7. Bai ar Lywodraeth y DU?

    Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant yn rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU am dlodi tanwydd yng Nghymru.

    "Mae diwygiadau Llywodraeth y DU wedi lleihau incwm rhai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas".

    Tlodi tanwydd
  8. Ble'r aeth pawb?

    Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn mynegi siom mai dim ond 18 o ACau sydd yn y siambr ar gyfer y ddadl hon.

      "Mae'n ddrwg gen i mai dim ond 18 ohonom sydd yma, oherwydd mae hon yn ddadl bwysig iawn. Mae tlodi tanwydd yn effeithio ar gynifer o bobl."

    Siambr
  9. Cymru Effeithlon

    William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar lywodraeth Cymru i ymestyn cynllun Cymru Effeithlon i gynnig cynllun cynhwysfawr, megis Resource Efficient Scotland, i wella effeithlonrwydd adnoddau a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd.

    William Powell
  10. Cynllun gweithredu

    Ar ran y Ceidwadwyr, Mark Isherwood AC yn dweud y dylai mynd i'r afael â thlodi tanwydd fod yn ganolog i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru".

    Mark Isherwood
  11. Tlodi tanwydd

    Llyr Gruffydd sy'n arwain Dadl Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

    Llyr Gruffydd
  12. Cynnig y Ceidwadwyr

    Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James yn dweud y bydd y llywodraeth yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr.

  13. 'Methu â chefnogi pobl hŷn'

    Llefarydd y Ceidwadwyr ar gydraddoldeb, Mohammed Asghar yn dweud bod llywodraeth Cymru yn "methu â chefnogi pobl hŷn i gynyddu eu sgiliau ac i gael mynediad at hyfforddiant".

    Meddai: "Erbyn hyn mae 90,000 yn llai o oedolion mewn addysg rhan-amser nag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl."

    Mohammed Asghar
  14. Prentisiaid benywaidd

    AC Llafur Keith Davies yn codi pryderon am fod cyn lleied o brentisiaid benywaidd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

    Yn ôl Mr Davies, yn 2011/12 dim ond 3.2% o brentisiaethau peirianneg oedd wedi eu llenwi gan fenywod. Fodd bynnag, roedd menywod yn cynrychioli 92% o'r prentisiaethau gofal plant.

    Keith Davies
  15. Cymwysterau

    Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts AC yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar fframwaith cymwysterau ar gyfer pobl rhwng 14 a 18 oed a fyddai'n darparu mwy o ddewis ar gyfer llwybrau academaidd a galwedigaethol.

    Aled Roberts
  16. Byd gwaith

    Y Ceidwadwr William Graham sy'n arwain Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fyd gwaith, gan gynnwys cyfleoedd prentisiaeth amrywiol a chynlluniau lleoliad gwaith.

    Mae'r blaid o'r farn y dylai'r cynlluniau fod ar gael i bobl ar draws ein cymdeithas i "gynorthwyo ailhyfforddi a chaniatáu ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy a blaengar".

    William Graham
  17. Contractau cyflenwi

    AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts yn codi pryderon bod 40% o athrawon sydd newydd gymhwyso yng Nghymru ar gontractau cyflenwi yn hytrach na chontractau parhaol "gydag ychydig neu ddim ddatblygiad proffesiynol parhaus".

    Julie James, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, yn dweud bod y llywodraeth yn "gweithio'n galed iawn ar strategaeth i fynd i'r afael â hyn".

    Julie James
    Image caption: Julie James
  18. Addysg a Sgiliau

    Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James yn dirprwyo dros y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis heddiw.

    Ymhlith y testunau a drafodir mae dyfodol addysg grefyddol, hyfforddiant cychwynnol athrawon, a'r gefnogaeth ariannol ar gyfer adeiladau ysgol newydd yng Nghymru.

  19. Denu meddygon iau

    Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn galw ar y gweinidog i wneud mwy i ddenu meddygon iau i Gymru.

    Mae hi'n dweud: "Pam na all llywodraeth Cymru gymryd camau rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth myfyrwyr meddygol ar draws y ffin a'r rhai sydd wedi eu hyfforddi yng Nghymru nad yw'r newidiadau hyn yn digwydd yng Nghymru?"

  20. Meddygon iau

    Mark Drakeford yn dweud bod cyhoeddiad Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Jeremy Hunt ynglŷn â'r newidiadau i gontractau meddygon iau yn Lloegr "yn enghraifft wych o sut i beidio â gwneud y pethau hyn".

    Y bwriad yn Lloegr yw bod cyflog sylfaenol meddygon iau yn codi 11%, ond elfennau eraill, yn cynnwys yr hyn a gyfrifir fel oriau anghymdeithasol, yn cael eu ffrwyno.

    Meddai Mr Drakeford: "mae'r cyhoeddiad munud olaf ddoe i geisio cyflwyno rhywfaint o arian - sydd ddim yn bodoli - o flaen meddygon iau i geisio dylanwadu arnynt yn eu pleidlais ar weithredu diwydiannol yn dangos pa mor wael y mae pethau wedi mynd yn yr Adran Iechyd yn Lloegr."

    Meddygon iau yn protestio yng nghanol Llundain yn gynharach eleni
    Image caption: Meddygon iau yn protestio yng nghanol Llundain yn gynharach eleni
  21. Gwelyau

    Wrth ymateb i feirniadaeth gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar am y "diffyg gwelyau" sydd ar gael i gleifion y GIG yng Nghymru, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf, mae Mark Drakeford yn dweud bod gan y GIG yng Nghymru fesurau ar waith i gynyddu nifer y gwelyau yn ystod misoedd y gaeaf os oes angen.

    Fodd bynnag, mae'n ychwanegu: "Gall llawer o bethau gael eu gwneud yn y gymuned i barhau i ofalu am bobl yn llwyddiannus".

  22. Cyffuriau newydd

    Llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, yn galw ar y gweinidog am ddatganiad ynghylch mynediad cleifion i gyffuriau newydd a'r diffyg cysondeb ar draws Cymru.

    Y Gweinidog yn cadarnhau, yn dilyn adolygiad annibynnol, y bydd system newydd lle bydd "mwy o gysondeb yn cael ei warantu".

    Elin Jones
    Image caption: Elin Jones
  23. Ymateb y Dirprwy Weinidog dros Iechyd

    Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, Vaughan Gething yn pwysleisio na ddylai'r penderfyniad i roi bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig fod "ar gyfleustra gwleidydd".

  24. Mesurau arbennig

    Darren Miller yn gofyn pam na chafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei osod o dan fesurau arbennig yn gynharach.

    Cafwyd cyhoeddiad yn ddiweddar y byddai'r bwrdd iechyd yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd arall.

    Mae'r bwrdd wedi bod o dan y math uchaf o oruchwyliaeth y llywodraeth ers pum mis bellach.

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  25. Cyfarfod Llawn

    Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw'r eitem gyntaf.

    Dyma'r Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd. Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

  26. Da bo am y tro

    Dyna ddiwedd y pwyllgor.

    Byddwn nôl ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

  27. Ffi'r drwydded

    Mae ffi'r drwydded bresennol o £ 145.50 y flwyddyn yn rhy isel yn ôl Paul Siegert. Mae'n awgrymu bod llywodraeth y DU yn ei chodi i £160 "er mwyn galluogi'r BBC i ffynnu".

    teledu
  28. 'Cyfrifoldeb'

    "Mae'r cyfrifoldeb i amddiffyn darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar bob un ohonom, a nawr yw'r amser i wneud hynny," meddai David Donovan.

  29. Rhybudd

    Paul Siegert o'r NUJ yn rhybuddio os yw cyllid y BBC yn cael ei thorri, y gallai olygu diwedd S4C yn ogystal â'r gwasanaeth Cymraeg ar y radio ac ar-lein.

  30. Cyllid

    David Donovan o BECTU yn codi pryderon bod y cyllid a gynigir ar hyn o bryd i'r BBC yn "annigonol" ac yn dweud ei bod yn anodd gweld sut y bydd anghenion Cymru yn cael eu diwallu o dan yr adolygiad siarter.

  31. Egwyl fer

    Ar ôl egwyl fer, bydd y pwyllgor yn clywed gan BECTU, Equity ac Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ).

  32. Adolygiad?

    Fis diwethaf, fe wnaeth prif weinidog Cymru alw am adolygiad brys o "ddyletswyddau" y BBC yng Nghymru.

    Fe wnaeth Carwyn Jones honni nad oedd asesiad wedi bod i'r ffordd yr oedd darlledwyr cyhoeddus wedi ymateb i newidiadau yn y DU ers datganoli.

    Ychwanegodd y dylai'r adolygiad gynnwys gwaith S4C.

  33. Annibyniaeth

    Prif Weithredwr S4C Ian Jones yn dweud bod gan S4C "berthynas dda ar bob lefel" gyda'r BBC, ond yn pwysleisio mai'r rheswm am hynny yw annibyniaeth. Mae'n ychwanegu bod S4C yn awyddus iawn i weld yr annibyniaeth yn parhau beth bynnag yw'r strwythur llywodraethu yn y dyfodol.

  34. Gwylio'r sianel

    Roedd gostyngiad o 6% yn nifer y bobl oedd yn gwylio S4C yng Nghymru bob wythnos yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl adroddiad blynyddol y sianel.

    Roedd 360,000 o bobl yn gwylio'r sianel am o leiaf 3 munud yr wythnos yn ystod 2014/15, o'i gymharu â 383,000 y flwyddyn flaenorol.

    S4C
  35. Gwylio ar-lein

    Wrth ymateb i awgrymiadau bod S4C yn tanberfformio, mae Ian Jones yn pwysleisio bod y sianel yn perfformio'n dda, ond mae rhan o'r gynulleidfa yn mudo i wylio ar-lein.

  36. Pobol y Cwm

    Mike Hedges AC yn diolch i S4C am ddod â Pobol y Cwm yn ôl i 5 noson yr wythnos.

    Pobol y Cwm
  37. Yr Egin yng Nghaerfyrddin

    Ian Jones yn "hyderus" y bydd S4C yn bwrw yma â chynlluniau i symud i Gaerfyrddin, er gwaethaf yr hinsawdd ariannol.

    Yr Egin
  38. Adolygiad o S4C?

    Ian Jones yn dweud y byddai S4C yn "fwy na pharod" i gydweithredu pe byddai adolygiad o S4C.

    Mae AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb wedi galw yn ddiweddar i S4C gael ei hystyried ar wahân i adolygiad Siarter y BBC.

  39. 'Angen ystyriaeth annibynnol'

    Huw Jones yn pwysleisio: "Mae angen ystyriaeth annibynnol i anghenion gwasanaethau ac anghenion ariannol S4C."

  40. Bore da

    Mae S4C yn rhoi tystiolaeth y bore 'ma i'r pwyllgor sy'n cynnal ymchwiliad i arolwg siarter y BBC.

    Huw Jones, Cadeirydd S4C ac Ian Jones, Prif Weithredwr S4C sydd gerbron y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

    Senedd