a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Anna Glyn

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ddiwedd cam 3 o'r ddadl ynglyn a'r Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

    Senedd

    Bydd Senedd Fyw yn ol am 9 bore fory.

  2. Cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol

    Yr AC Ceidwadol Dr Altaf Hussain yn penderfynu peidio â chyflwyno gwelliant ynglŷn â chofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

    Mae'n gwneud hynny ar ôl i'r gweinidog iechyd ddweud y bydd yna amserlen hirach i gofrestru er mwyn rhoi amser i'r sector "baratoi".

    Bydd rhaglen datblygu tair blynedd ar gyfer gweithwyr gofal yn dechrau ym mis Ebrill 2016 a bydd yn rhaid i'r holl weithwyr fod wedi eu cofrestru erbyn Ebrill 2020.

  3. Dim gwahardd cytundebau dim oriau

    Plaid Cymru yn siomedig bod ei gwelliant i wahardd cytundebau dim oriau yn y sector gofal wedi ei wrthod.

    Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn esbonio y byddai gwaharddiad llwyr yn rhywbeth fyddai ddim yn cael ei gefnogi gan "gyflogwyr cyfrifol".

    Mae'n ychwanegu hefyd "mai nid dyma ddiwedd y ddadl."

    Gofal

    Mae'n dweud os y bydd gwaith ymchwil pellach yn dangos y bydd cytundebau dim oriau yn effeithio ar ansawdd y gofal yna y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y sefyllfa.

  4. "Chi'n athro. Un lefel O sydd gen i"

    Addysg

    "Chi'n athro. Un lefel O sydd gen i," meddai'r AC Lindsay Whittle pan mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford yn gwrthod un o'i welliannau.

    Y gwelliant gwrthodedig oedd "bod yn rhaid i'r darparwr gwasanaethau fod â pholisïau a gweithdrefnau ar waith sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth honno roi sylw i ddewis iaith y person y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig iddo", gan fod y gweinidog yn mynnu bod y mesur eisoes yn mynd i'r afael â hyn.

  5. Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol

    Y ddadl olaf heddiw yw'r Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

    Mae'r mesur yn cynnwys ailgyfansoddi Cyngor Gofal Cymru a rhoi enw newydd iddo ac ehangu ei gylch gwaith, diwygio prosesau rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol a diwygio'r gyfundrefn arolygu ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.

  6. Cymeradwyo'r Ddeddf Rhentu Cartrefi

    Mae Aelodau wedi cymeradwyo y Ddeddf Rhentu Cartrefi

  7. Cam 4 y Ddeddf Rhentu Cartrefi

    Aelodau nawr yn trafod cam 4 sef cam olaf y Ddeddf Rhentu Cartrefi.

    Cafodd y ddeddf ei chyflwyno ym mis Chwefror gan y gweinidog Lesley Griffiths.

    Tai

    Bydd y ddeddf yn sicrhau eglurder a chysondeb o ran hawliau a chyfrifoldebau pobl sy'n rhentu eu cartrefi a'i landlordiaid yn ol Llywodraeth Cymru.

  8. Gwella CAMHS "ar frys"

    Mae'r AC Aled Roberts yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen i wella CAMHS sef gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc "ar frys".

  9. Galw i drosglwyddo cyfrifoldeb i'r Cynulliad

    Angela Burns

    Mae'r AC Ceidwadol Angela Burns yn galw ar Lywodraeth Cymru i drosglwyddo'r cyfrifoldeb ar gyfer penodi a chyllido swydd y Comisiynydd Plant i'r Cynulliad Cenedlaethol.

  10. Cymeradwyo rheoliadau

    Mae aelodau yn cymeradwyo rheoliadau i newid yr amserlen ar gyfer craffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Archwilydd cyffredinol Cymru fydd yn gwneud y gwaith yma.

    Mae'r ACau hefyd wedi cymeradwyo y dyddiad cau y bydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn medru cyflwyno yr hyn mae'n amcangyfrif fydd ei chostau ar gyfer 2016-17.

    Sophie Howe gafodd ei phenodi i wneud y swydd yn gynharach y mis hwn.

    Sophie Howe
  11. Datganiad busnes

    Datganiad busnes sydd yn nodi busnes y Cynulliad wythnosau o flaen llaw.

    Mae yna geisiadau am ddatganiadau a dadleuon ynglyn a brecwast ysgol, banciau yn cau a gwenwyno gan garbon monocsid ymlith pynciau eraill.

  12. Osgoi diswyddiadau gorfodol?

    Mae'r dirprwy weinidog Ken Skates yn galw ar y prif weinidog David Cameron i wneud "popeth o fewn ei allu i osgoi diswyddiadau gorfodol."

  13. Cwestiwn brys

    Mae'r AC Rhun ap Iorwerth wedi gofyn pa drafodaethau sydd wedi bod ynglŷn â dyfodol swyddfeydd treth yng Nghymru.

    Wythnos diwethaf mi ddaeth y cyhoeddiad y bydd holl swyddfeydd treth yng Nghymru yn cau ac y dylai gweithwyr gael eu trosglwyddo i ganolfanau newydd yng Nghaerdydd a Lerwpl.

    Mae Gwasanaeth Cyllid a Thollau yn cau mwy na 100 o swyddfeydd ac mi fydd 13 o o ganolfannau rhanbarthol newydd yn cael eu sefydlu.

    Swyddfa dreth
  14. Dim llai o graffu ar gynghorau

    Mae'r prif weindiog wedi ateb cwestiwn gan Bethan Jenkins ynglyn â'r newyddion fod grŵp papur newydd sydd yn cyhoeddi'r Western Mail wedi prynu'r South Wales Evening Post.

    Mae'n dweud na ddylai hyn arwain at lai o graffu ar gynghorau lleol.

  15. Dysgu yn well mewn dosbarth mwy?

    Addysg yw'r pwnc sydd yn cael ei godi gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams. Mae'n gofyn, gyda thafod yn ei boch, os yw plant yn dysgu yn well mewn dosbarthiadau mwy o faint.

    Mae'n dibynnu ar sawl ffactor meddai'r prif weinidog.

    Kirsty Williams

    Dwy flynedd yn ol mi oedd 218 o ddosbarthiadau yng Nghymru gyda mwy na 30 o ddisgyblion ynddyn nhw meddai Kirsty Williams. 246 ydy'r ffigwr rwan.

    Mae'r prif weinidog yn dweud ei fod wedi diogelu gwariant ar addysg ac y dylai Kirsty Williams ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na ffigurau.

  16. Teimladau o atgasedd?

    Wrth drafod ffoaduriaid mae Leanne Wood yn dweud y gallai teimladau o atgasedd dyfu yn gryfach oni bai bod yna ffocws ar "integreiddio" a "chydlyniad".

    Mae'r prif weinidog yn dweud y dylai ffoaduriaid gael eu cartrefu cyn gynted ag sy'n bosib fel bod modd cwrdd a'u anghenion.

  17. "Uno cymunedau Cymru"

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn beth sydd yn cael ei wneud i "helpu i uno cymunedau Cymru" wedi Paris ac er mwyn gwneud yn siŵr nad oes 'na unrhyw "adlach" yn erbyn Mwslemiaid.

    Leanne Wood

    Mae'r prif weinidog yn dweud ei fod wedi gofyn am wybodaeth ynglyn ag unrhyw fygythiadau i'r cymunedau Mwslemaidd. Mae'n fodlon eu bod yn cael eu hamddiffyn.

  18. Rhannu bwrdd iechyd Betsi?

    Mae Mr Davies hefyd yn gofyn y cwestiwn a fydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei rannu.

    Mae'r prif weinidog yn dweud nad oes unrhyw fwriad am newid cyn yr etholiad ond bod yna broblemau.

    Mae'n ychwanegu mai mater i'r bwrdd iechyd ydy'r ffaith fod Trevor Purt yn gweithio yn Lloegr ond nad oes yna becyn ymadael wedi ei roi.

  19. Graeanu ffyrdd

    Cwestiynau i'r Prif Weinidog nawr a chwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies ynglyn â gwasanaethau GIG ac yn benodol graeanu ffyrdd o gwmpas ysbytai yn ystod tywydd oer.

    Andrew RT Davies

    Bydd cynlluniau ar gyfer y gaeaf ar wefannau y byrddau iechyd erbyn diwedd y mis meddai Mr Jones.

  20. Protestiadau?

    Mae'r Prif Weinidog hefyd yn rhybuddio efallai y bydd yna brotestiadau gan rhai o'r asgell dde tu allan i fosgau yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis.

  21. Cyfarfod yr heddlu

    Mae nifer o faterion heddlua sydd wedi codi yn sgil yr ymosodiadau ym Mharis yn rhai y mae Llywodraeth San Steffan yn ymwneud gyda nhw. Ond mae'r Gweinidog Leighton Andrews wedi cyfarfod gyda'r heddlu heddiw.

  22. Sefyll ochr wrth ochr

    Mae Cymru yn sefyll ochr wrth ochr gyda phobl Ffrainc meddai'r prif weinidog yn Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg.

    Prif Weinidog

    Mae pobl Paris wedi talu yn ddrud am eu bod yn dewis byw yn rhydd, ac mae rhyddid yn achos mae'n rhaid i ni amddiffyn, meddai.

  23. Datganiad am ymosodiadau Paris

    Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau gyda datganiad gan y prif weinidog ynglyn ag ymosodiadau Paris.

    Fflagiau
  24. Sesiwn breifat

    Dyna ddiwedd y cyfarfod bore 'ma.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30.

  25. Cwynion

    "Rydyn ni dal yn cymryd gormod o amser i ddelio gyda chwynion" meddai Simon Dean.

  26. Ymgynghorydd yng Nghaerhirfryn

    Yn ôl y wefan Linked-in mae Trevor Purt nawr yn ymgynghorydd i ymddiriedolaeth GIG ar gyfer ysbytai yn Nwyrain Caerhirfryn.

  27. Camgymeriad yn y dystiolaeth ysgrifenedig

    Aled Roberts

    Mae'r AC Aled Roberts yn cyfeirio at dystiolaeth ysgrifenedig y bwrdd sydd yn nodi y bydd angen i'r bwrdd wneud arbedion o £56.6m yn 2015/16 er mwyn gwneud yn sicr ei fod yn adennill costau.

    Mae Dr Peter Higson yn cyfaddef mai camgymeriad ydy'r ffigwr hwn ac mai £26.6m yw'r swm.

  28. Ddim yn hunanfodlon

    Mae'r bwrdd yn gobeithio y bydd prif weithredwr newydd yn dechrau ar y gwaith yn gynnar flwyddyn nesaf.

    Wrth ateb cwestiynau ynglŷn â'r hyn mae'r bwrdd yn ei wneud i wella'r sefyllfa, mae Simon Dean yn dweud wrth ACau nad ydy'r sefydliad yn hunanfodlon.

  29. Diffyg ariannol

    "Yn amlwg dyw hi ddim yn dderbyniol i fod yn darogan diffyg o £30m ar ddiwedd y flwyddyn" mae Simon Dean yn cydnabod.

    Arian

    Mae gan y bwrdd gynllun arbed arian o 3.6%, sydd yn "lefel dda i gyflawni," meddai.

  30. "Optimistiaeth"

    Mae Peter Higson yn dweud bod yna "deimlad o optimistiaeth ymlith y staff nawr o ran symud ymlaen...Rydyn ni yn delio gyda gwendidau reit sylfaenol."

  31. Abl i wneud y gwaith?

    "Mae llawer yn synnu pam bod mwy o bobl ddim wedi gorfod gadael o achos y methiannau sydd wedi dod i'r amlwg...Does bosib bod yna rhai pobl oedd yn ymwneud gyda'r bwrdd llywodraethu oedd ddim yn abl i wneud y gwaith," meddai Darren Millar.

    Darren M

    Mae Mr Dean yn ymateb trwy ddweud, "Rydw i ar hyn o bryd yn arfarnu perfformiad ac yn adolygu hyn gyda'r holl gyfarwyddwyr."

  32. Trevor Purt

    Mae cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar yn gofyn ynglyn ag amodau ymadael Trevor Purt.

    Mae Dr Higson yn dweud bod yr Athro Purt wedi "rhoi'r gorau i'w rôl fel Prif Weithredwr ond rydyn ni wedi cytuno ar secondiad i Mr Purt i sefydliad iechyd yn Lloegr am gyfnod o 12 mis fydd yn dod i ben mis Hydref flwyddyn nesaf."

    Mae'n cadarnhau bod Mr Purt yn parhau i gael ei gyflogi gan y bwrdd iechyd ar yr un cyflog ag yr oedd yn cael fel Prif Weithredwr. Mae'n dweud o dan yr amgylchiadau sy'n bodoli mai dyma'r gwerth gorau am arian i'r trethdalwr.

    Trevor Purt gerbron y pwyllgor yn gynharach eleni
    Image caption: Trevor Purt gerbron y pwyllgor yn gynharach eleni
  33. Y rhai sy'n rhoi tystiolaeth

    Pwyllgor

    Dr Peter Higson - Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Simon Dean - Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

  34. Betsi Cadwaladr

    Fis diwethaf cyhoeddwyd y bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd arall.

    Mae'r bwrdd iechyd wedi bod o dan y math uchaf o oruchwyliaeth y llywodraeth ers pum mis bellach.

    Daeth adroddiad o hyd i "gamdriniaeth sefydliadol" ar ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

    Betsi Cadwaladr
  35. Bore da

    Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9. Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru yw'r pwnc sydd yn cael ei drafod bore 'ma.

    Senedd