a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Anna Glyn

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl Fawr

    Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn ol bore fory ar gyfer sesiwn o'r Pwyllgor Cyllid. 

    Senedd
  2. "Dim ond y man cychwyn yw adeiladu tai newydd"

    AC Plaid Cymru Jocelyn Davies yn dweud bod yna "nifer o ffactorau sydd yn effeithio ar ba mor fforddiadwy yw tai" ac mai "dim ond y man cychwyn yw adeiladu tai newydd." 

    Jocelyn Davies
  3. Dyblu nifer y tai fforddiadwy?

    Peter Black yn galw am ddyblu'r targed i adeiladu tai fforddiadwy yn nhymor nesaf y Cynulliad. 

  4. Y targed ddim yn "gysylltiedig" a'r angen

    Yr AC Ceidwadol Mark Isherwood yn dweud bod targed y llywodraeth ar gyfer tai fforddiadwy "ddim yn gysylltiedig o gwbl gyda'r nifer sydd angen tai." 

    Mark Isherwood
  5. 91% o'r targed wedi ei gyrraedd

    Y gweinidog Lesley Griffiths yn dweud bod 91% o darged Llywodraeth Cymru i ddarparu 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi ei gyrraedd. 

  6. Targedau tai fforddiadwy

     Targedau tai fforddiadwy yw'r pwnc sydd yn cael ei drafod yn y ddadl olaf heddiw. 

    Tai
  7. Cymeradwyo'r rheoliadau

     Aelodau yn cymeradwyo'r Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol

  8. Cam olaf y Mesur Gofal Cymdeithasol

    Dadl rwan ynglyn â chyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). 

    Mae'r mesur yn cynnig newidiadau fel:

    diwygio’r drefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth; 

    darparu fframwaith rheoleiddio 

    ad-drefnu Cyngor Gofal Cymru a’i ailenwi’n Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ehangu ei gwmpas gwaith. 

  9. System bleidleisio teg?

     Peter Black AC yn galw am system bleidleisio teg a "datganoli pwerau i gymunedau lleol." 

  10. Ffiniau gwahanol ar gyfer gwasanaethau

    Simon Thomas AC yn dweud bod Llafur ddim wedi cynllunio yn strategol ar gyfer nifer o wasanaethau gwahanol. 

    Mae'n son am y consortia addysg, byrddau iechyd a chyrff erill gan ddweud eu bod yn gweinyddu o fewn ffiniau gwahanol. 

    Simon Thomas
  11. "Mwy o addewidion gwag"?

    Gan gyfeirio at honniad Llywodraeth Cymru y byddai uno cynghorau yn arbed hyd at £650m dros gyfnod o ddeg mlynedd, yr AC Janet Finch-Saunders yn dweud: 

    "Mwy o addewidion gwag gan weinidog Llafur sydd, mae'n ymddangos, wedi dweud y ffigwr heb ystyried y peth." 

    Janet Finch-Saunders
  12. Uno cynghorau

    Datganiad nawr  gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) drafft. 

    Dyma fydd sylfaen yr ymgynghoriad ond fydd y ddeddf ddrafft ddim yn dod yn gyfraith tan wedi'r etholiad ym Mai nesaf.  

    O dan y mesur bydd y 22 o gynghorau presennol yn cael eu huno i ffurfio wyth neu naw cyngor.  

    Model posib ar gyfer y cynghorau
  13. "Y byd yn gwylio Cymru"?

    "Mae'r byd yn gwylio Cymru" meddai Mr Sargeant gan gyfeirio at ei hagenda datblygu cynaliadwy

    Does dim cyfeirio at flaenoriaethau yn y ddogfen, meddai'r AC Janet Howarth.   

  14. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

     Datganiad rwan gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant ynglyn â Nodau'r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)  

    Carl Sargeant
  15. "Ddim yn gyfrifol am yr argyfwng banciau"

    "Llafur ddim yn gyfrifol am yr argyfwng byd eang gyda'r banciau" yr AC Mike Hedges yn mynnu.  

  16. "Ar daith yn hirach na'r Rolling Stones"

    "Mae'n ymddangos eich bod chi wedi bod ar daith am gyfnod hirach na'r Rolling Stones," Nick Ramsay yn dweud wrth Jane Hutt. 

    Rolling Stones
  17. Jane Hutt ar daith

     Jane Hutt yn gwneud datganiad- Adroddiad ar Daith Cyllideb 2015 – cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru yn ystod yr haf. Wnaethoch chi ei gweld hi yn ystod y daith? 

    Jane Hutt
  18. Busnes y Cynulliad

    Y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes gan Jane Hutt,sy'n rhestru  busnes y Cynulliad hyd at dair wythnos o flaen llaw.

    ACau yn gofyn am ddatganiadau a dadleuon ar faterion fel y Cyfnod Sylfaen a sylw negyddol tuag at y diwydiant cig coch. 

  19. Problemau recriwtio?

    Doctoriaid ddim eisiau bod yn rhan o'r "anrhefn" sydd yn bodoli yn Lloegr o achos diffyg gwariant meddai'r prif weinidog. Mae'n ymateb i gwestiwn gan Darren Millar ynglyn â phroblemau recriwtio yng Nghymru. 

    Ysbyty
  20. Gwerthu cyfrannau y maes awyr

     Wrth ymateb i gwestiwn ynglyn â gwerthiant posib maes awyr Caerdydd i'r sector breifat, y prif weinidog yn dweud y bydd y llywodraeth yn gwerthu cyfrannau "mewn amser" ond yn parhau i gynnal diddordeb yn yr elfen rheoli.  

    Maes awyr Caerdydd
  21. Addysg uwch: "man gwan"?

    Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud mai addysg uwch yw "man gwan" y prif weinidog.

    Mr Jones yn ymateb trwy ddweud bod ffigyrau'r Ceidwadwyr yn nodi 12% o doriad yn ei gwariant ar addysg. 

    Mr Davies yn dweud y bydd Cymru yn elwa o gynnydd yn y gwariant ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ond y prif weinidog yn amau hyn. 

    Andrew RT Davies
  22. Cyflogau yn gwaethygu?

    Cyflogau yn gwaethygu meddai Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams. 

    Cynnyrch domestig gros ar gynnydd meddai'r prif weinidog wrth ymateb.  

  23. Camdriniaeth rhywiol: crafu'r wyneb?

    Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn am achosion o gamdriniaeth rhywiol sydd ddim yn cael eu cofnodi. Crafu'r wyneb mae'r achosion ni'n gwybod amdanyn nhw meddai. 

    Prif weinidog yn dweud bod 'na ddim rheswm i feddwl bod y sefyllfa yn waeth yng Nghymru. Mae'n dweud mai'r Comisiynydd Plant fydd yn penderfynu os oes angen astudiaeth newydd yng Nghymru. 

    Leanne Wood
  24. Seilwaith band llydan 'ddim yn ddigon da'

    Altaf Hussain yn dweud bod seilwaith band llydan yng Nghymru ddim yn ddigon da ar gyfer y 20fed canrif, heb son am rwan. 

    Band llydan
  25. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

    Dyma'r cwestiynau sydd wedi eu cyflwyno i'r prif weinidog

  26. Da bo am y tro

    Dyna ddiwedd y pwyllgor. Bydd y cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm.

  27. Mesurau arbennig

    Darren Millar yn gofyn a ddylai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael ei rhoi o dan fesurau arbennig yn gynt ac a fyddent wedyn wedi dod allan o'r mesurau hynny erbyn hyn. 

    Dr Andrew Goodall yn dweud ei fod yn cymryd amser i sefydliadau i "gael fynd i'r afael â'r materion hyn" a bod y camau priodol wedi'u cymryd.

  28. Cwynion

    Janet Davies - Cynghorydd Arbenigol, Ansawdd a Diogelwch, Llywodraeth Cymru - yn dweud bod nifer y cwynion yn mynd i lawr a bod mwy o ffocws ar brofiad y claf. 

  29. Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

    Janet Davies yn dweud bod deialog cyson rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a llywodraeth Cymru. 

    Ond atebodd Jenny Rathbone AC bod swyddogion AGIC wedi dweud wrth y pwyllgor nad oeddent wedi cael gwybod am bryderon ynghylch y gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn ardal Betsi.

    Jenny Rathbone
    Image caption: Jenny Rathbone
  30. Cynllun gwella

    Mae penodiadau wedi dechrau cael eu gwneud i'r tîm gwella ym mwrdd Betsi Cadwaladr. 

    Mae Aled Roberts AC yn gofyn a fydd y cynllun gwella yn cael ei gyhoeddi. 

    Dr Andrew Goodall yn dweud bod y cynllun yn cael ei ddatblygu ac mai un o'r pethau y bydd yn ei ystyried yw sefyllfa y bwrdd iechyd ar ôl dod allan o fesurau arbennig.

    Dr Andrew Goodall
    Image caption: Dr Andrew Goodall
  31. 'Amgylchiadau unigol'

    Darren Millar yn gofyn i Dr Goodall am ei farn am benderfyniad Bwrdd Betsi Cadwaladr i dalu'r cyn brif weithredwr, Trevor Purt, tra ei fod yn gweithio yn Lloegr.

    Dywed bod angen bob amser i "edrych ar amgylchiadau unigol. Ond bydd yn rhaid, beth bynnag yw'r sylwebaeth, i gyrff i edrych ar eu cyfrifoldebau cyfreithiol".

  32. Arfer gorau

    Mike Hedges yn gofyn i Dr Andrew Goodall a ddylid cael rheolwyr safle mewn ysbytai ledled Cymru, rhywbeth sy'n digwydd mewn un bwrdd iechyd. 

    Dr Andrew Goodall yn dweud y dylai hyn gael ei weld fel arfer gorau.

    Mike Hedges
  33. 'Adeiladu'r berthynas gyda'r gymuned'

    Meddai Dr Andrew Goodall, "mae maint yn cynnig her o safbwynt sicrhau cyfleoedd i adeiladu'r berthynas gyda'r gymuned.

    "Gyda'r mesurau arbennig, un o'n pryderon ar gyfer gogledd Cymru oedd gallu sefydliad o'r fath raddfa i ymgysylltu â'r gymuned leol." 

    Fodd bynnag, mae'n ychwanegu bod "ymddiriedaeth yn cael ei hadeiladu dros gyfnod o amser."

  34. Strwythur

    Darren Millar, cadeirydd y pwyllgor, yn gofyn i Dr Andrew Goodall a fydd yr ansicrwydd ynghylch strwythur Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y dyfodol yn atal ymgeiswyr rhag gwneud cais am rôl y prif weithredwr.

    Awgrymodd y Prif Weinidog Carwyn Jones yr wythnos diwethaf y gallai'r bwrdd  gael ei rannu os bydd Llafur yn adennill grym yn etholiad 2016 y Cynulliad. 

    Dywedodd Dr Goodall fod pobl yn yr ardal yn aml yn "dyfalu" am y mater hwn, ond y peth pwysicaf yw dod o hyd i ymgeisydd ar gyfer y rôl.

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  35. 'Cynnydd'

    Dr Andrew Goodall yn dweud bod cynnydd wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf ym maes llywodraethu byrddau iechyd.

  36. Tystion

    Tystion
    Image caption: (o'r chwith i'r dde) Martin Sollis – Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru Joanna Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru Janet Davies - Cynghorydd Arbenigol – Ansawdd a Diogelwch, Llywodraeth Cymru
  37. Bore da

    Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9am, gyda thrafodaeth am lywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru.

    O ran diddordeb, mae'n 15 mlynedd ers i’r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, gyhoeddi ym mis Tachwedd 2001 ei fwriad i alw'r cabinet 'Llywodraeth y Cynulliad'.

    Roedd "y pensaer datganoli", sef y cyn Ysgrifennydd Gwladol Ron Davies, yn feirniadol o'r dewis ar sail ei fod yn "dwli cyfansoddiadol" a fyddai'n drysu'r cyhoedd.

    Yn ystod y cyhoeddiad, roedd datganiadau i'r wasg dal yn defnyddio'r ddau deitl.

    Achlysur cofiadwy arall o fisoedd Tachwedd oedd “Mick a'i fys” yn 2006. 

    Wrth bleidleisio ar gynigion y dydd, cododd Mick Bates AC ei fys canol a chwerthin.

    Yn gynharach, roedd y Llywydd, Dafydd Elis-Thomas, wedi ceryddu'r cynulliad, er gwadu gwnaeth yr AC dros Sir Drefaldwyn bod ei arwydd wedi'i anelu ato fe.

    "Dangos i Rhodri Glyn Thomas pa fys i ddefnyddio ar y system pleidleisio fodern y Cynulliad yr oeddwn i", eglurodd.

    Senedd