a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Anna Glyn

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd Ddydd Mawrth 1 Rhagfyr.

    Senedd
  2. Gwaith yr Ysbryd Glân

    Mae Pentecostiaeth yn ffurf o Gristnogaeth sy'n pwysleisio gwaith yr Ysbryd Glân a'r profiad uniongyrchol o bresenoldeb Duw gan y crediniwr.

  3. Pentecostiaeth yng Nghymru

    Y pwnc a ddewiswyd gan Darren Millar (AC Gorllewin Clwyd) ar gyfer y Ddadl Fer yw "Pentecostiaeth yng Nghymru: Pam ddylai Cymru wneud mwy i ddathlu ei threftadaeth gyfoethog Pentecostaidd".

  4. Uwch gynhadledd Paris

    Y gweinidog Carl Sargeant yn dweud bod angen "cytundeb cyfreithiol uchelgeisiol" yn uwch gynhadledd Paris.

    Carl Sargeant
  5. Ymrwymiad i economi carbon isel?

    Alun Davies AC yn dweud ei fod yn "syfrdanol" ac "anghyfrifol" i unrhyw un i amau bod "newid yn yr hinsawdd yn digwydd". 

    Mae'n dweud bod angen gweledigaeth fyd-eang ac ymrwymiad i economi carbon isel yn yr uwchgynhadledd ym  Mharis. 

    Gan gyfeirio at y mesur amgylcheddol mae'n dweud: "Nid yw'n ddigon i ddweud yn syml ein bod wedi pasio y darn hwnnw o ddeddfwriaeth ... ac felly gallwn gerdded i ffwrdd o'i ofynion."

  6. "Angen newid gêr

    Llyr Gruffydd yn dweud bod angen cyflymu'r broses o leihau allyriadau nwyon.

  7. Nwyon tŷ gwydr

    Janet Howarth AC yn dweud na fydd y Ceidwadwyr yn cefnogi'r cynnig gan nad ydynt yn credu bod y targed nwyon tŷ gwydr yn ymarferol.

  8. Gostyngiad o 100 y cant mewn nwyon tŷ gwydr erbyn 2050?

    William Powell yn dweud y bu cynnydd mawr o ran lleihau tlodi byd-eang ond bod newid yn yr hinsawdd yn bygwth dadwneud yr holl waith hwn. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed ym Mesur yr Amgylchedd (Cymru) ar gyfer gostyngiad o 100 y cant mewn nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.

  9. Newid hinsawdd

    Newid hinsawdd yw pwnc Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

    Mae'r pwnc yn amserol gan y bydd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2015 yn dechrau ar Dachwedd 30 ym Mharis. 

    Paris
  10. Wylfa Newydd

    Y gweinidog economi yn dweud bod y llywodraeth yn "gyfrifol am dyfu'r economi ym mhob rhan o Gymru." 

    Mae hi'n sôn am y parthau menter a buddsoddiadau mewn prosiectau ffyrdd a rheilffyrdd fel enghreifftiau o'r hyn y mae'r llywodraeth yn ei wneud yn y gogledd. 

     "Wylfa Newydd fydd y prosiect buddsoddi unigol mwyaf yng Nghymru dros y deng mlynedd nesaf" ychwanega.

    Wylfa Newydd
  11. 'Graddfa'r buddsoddiad'

    Mark Isherwood AC: "Mae pobl yng ngogledd Cymru yn edrych i lawr a gweld graddfa'r buddsoddiad yn ffordd A465 pen y cymoedd, llinell Glyn Ebwy, cynigion ar gyfer metro de Cymru, ffordd liniaru'r M4, a dod i'r casgliad bod gwahanol rheolau yn cael eu cymhwyso i wahanol rannau o Gymru. "

  12. "Dylai pob gweinidog fod yn weinidog ar gyfer Cymru gyfan"

    Aled Roberts AC yn dweud y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r holl welliannau, ond un - sef y Ceidwadwyr yn galw am weinidog gyfer gogledd Cymru.

    Mae'n dweud y "dylai pob gweinidog fod yn weinidog ar gyfer Cymru gyfan".

  13. 'Ni ddylem aros am friwsion'

    Rhun ap Iorwerth AC yn dweud bod angen "cryfhau perfformiad economi gogledd cymru" ac "ni ddylem aros am friwsion" o 'bwerdy gogleddol Lloegr'.

    Mae'n dweud y gall y gogledd wneud cyfraniad enfawr i'r genedl, "os caiff ei drin fel endid economaidd yn ei rinwedd ei hun".

    Rhun ap Iorwerth
  14. Economi gogledd Cymru

      Economi gogledd Cymru yw pwnc dadl Plaid Cymru.

  15. 'Meddwl agored' am y cynllun dychwelyd blaendal.

    Carl Sargeant, y Gweinidog yn ymateb drwy ddweud na ddylai'r Ceidwadwyr fod yn beio cynghorau am droseddau amgylcheddol, ond yn hytrach yr unigolion sy'n cyflawni'r troseddau. 

    Mr Sargeant yn dweud ei fod yn cadw "meddwl agored" am y cynllun dychwelyd blaendal.

  16. Cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed

    "Yn rhy aml gwelwn mai'r ardaloedd sydd â'r anawsterau mwyaf o ran yr amgylchedd lleol hefyd yw'r cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed," meddai Alun Davies AC.

    Alun Davies
  17. 'Angen mwy o ymchwil'

    Yr AC Llafur Julie Morgan yn dweud ei bod wedi ei "denu" gan y syniad o gynllun dychwelyd blaendal ond yn ychwanegu bod y syniad "yn fwy cymhleth nag yr ydym yn meddwl" ac mae angen mwy o ymchwil.

  18. Canolfannau ailgylchu

    William Powell hefyd yn annog y gweinidog i ystyried cynllun dychwelyd blaendal.

    Dywed y gall awdurdodau lleol waethygu'r sefyllfa o ran troseddau amgylcheddol drwy godi tâl ar gyfer casglu gwastraff swmpus a chau canolfannau ailgylchu.  

  19. Cynllun dychwelyd blaendal?

    Janet Howarth yn gofyn i'r llywodraeth i gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diod. 

    Gallai defnyddwyr o dan gynllun fel hwn gael arian fel cymhelliant i ddychwelyd poteli a chaniau gwag y gellir eu hailgylchu. 

    "Mae Llywodraeth Cymru i fod yn uchelgeisiol ac yn barod i archwilio cynlluniau arloesol fel y rhain", meddai.

    Poteli
  20. 'Anghysondebau ymhlith cynghorau'

    Janet Howarth AC yn dweud bod anghysondebau ymhlith cynghorau gyda rhai "yn mynd i'r afael â'r mater hwn yn dda" tra nad yw eraill yn "blaenoriaethu'r mater". 

    Mae hi'n gofyn i Lywodraeth Cymru i wario rhywfaint o'i arian hysbysebu ar y mater hwn.

    Cŵn yn baeddu
  21. Troseddau amgylcheddol

      Dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar droseddau amgylcheddol sydd ar y gweill.

  22. Adborth o Loegr

    Wrth ymateb, y dirprwy weinidog yn dweud nad yw Defra wedi tynnu sylw at unrhyw broblemau a bod adborth o Loegr wedi bod yn gadarnhaol. 

    Mae hi'n dweud y bydd parhau i adolygu hyn ac os oes unrhyw faterion yn codi bydd yn ymchwilio.

    Rebecca Evans
  23. Mynediad i'r map

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol William Powell yn dweud y bydd y blaid yn cefnogi cynnig Plaid Cymru. 

    Mae'n dweud mai dim ond ffermwyr ddylai cael mynediad i'r map.

  24. Pryderon diogelwch

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn cytuno â'r pryderon diogelwch a amlinellwyd gan Llyr Gruffydd. 

    Mae'n gofyn y dirprwy weinidog pa gamau y bydd y llywodraeth yn eu cymryd os bydd unrhyw faterion yn codi ar ôl i'r wybodaeth gael ei chyhoeddi.

  25. Diciâu

    Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn cyflwyno ei gynnig i ddileu Gorchymyn Dileu TB (Cymru)(Diwygio) 2015. 

    Mae'n ceisio sicrhau bod data ar ffermydd a heintiwyd â’r diciâu yn cael eu rhannu mewn modd "sensitif a diogel", gan rybuddio am bryderon ynghylch cynlluniau’r llywodraeth "i agor y ffordd i’r byd a’r betws gael gwybodaeth am ffermydd a heintiwyd â’r diciâu mewn gwartheg".

    Cododd bryderon am ddiogelwch ffermwyr yr effeithiwyd arnynt. 

  26. Deddf Hawliau Dynol

    Mick Antoniw yn gofyn pa drafodaethau a fu gydag aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol ynghylch cynigion i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol. 

    Dywed y Cwnsler Cyffredinol fod y ddadl i ryw raddau "yn cael ei chynnal ar seiliau ffug" gyda llawer o bobl yn meddwl bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn Strasbourg tra bod y mwyafrif helaeth o benderfyniadau hawliau dynol mewn gwirionedd "yn cael eu gwneud gan farnwyr ym Mhrydain yn seiliedig ar werthoedd Prydain."

  27. Effaith taliadau llys newydd

    Cwestiwn gan Simon Thomas i'r Cwnsler Cyffredinol ynglŷn ag effaith taliadau llys newydd ar fynediad i gyfiawnder.

    Mae'n ymateb bod y llywodraeth wedi mynegi pryderon ynghylch y mater hwn "dro ar ôl tro" i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

    Cyfiawnder
  28. Effeithiolrwydd yr ardaloedd menter

    Mohammad Asghar AC yn gofyn i'r gweinidog beth mae hi'n ei wneud i adolygu effeithiolrwydd yr ardaloedd menter. Mae e'n dweud bod anghydbwysedd ledled Cymru gyda rhai parthau yn creu mwy o swyddi nag eraill.

    Ymatebodd y gweinidog nad gwleidyddiaeth plaid oedd wedi llywio ei phenderfyniad ymhle i leoli ardaloedd menter, a'u bod yn gynlluniau tymor hir, nid rhai i sicrhau "penawdau da" yn y byr dymor.

  29. Cyllideb

    Eluned Parrott AC yn gofyn i'r gweinidog ynghylch ei chyllideb. 

    Heddiw mae George Osbourne wedi bod yn amlinellu i Dŷ'r Cyffredin ei Adolygiad o Wariant

    Dywed y gweinidog nad oedd wedi ystyried eto unrhyw newidiadau i'w chyllideb gan ychwanegu, "Fi sy'n gwneud y penderfyniadau, nid fy swyddogion." 

    Eluned Parrott yn ymateb na fyddai unrhyw un yn amau hynny.

    Edwina Hart
  30. Cylchdaith Cymru a thrydaneiddio rheilffyrdd

    William Graham AC yn gofyn i'r gweinidog am ddiweddariad ar brosiect Cylchdaith Cymru  a thrydaneiddio rheilffyrdd.

    Edwina Hart yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd yn gallu rhoi diweddariad ar ôl y Nadolig am Gylchdaith Cymru ac yn cydnabod "ein bod oll yn bryderus" am ddyfodol y cynllun i drydaneiddio rheilffyrdd. 

    Yr wythnos diwethaf, rhybuddiodd ASau bod y cynnydd o tua £1.2bn yn y gost o drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain a Chaerdydd yn "syfrdanol ac annerbyniol".

    Trên
  31. Cwpan Rygbi'r Byd

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn i'r gweinidog am y gwersi a ddysgwyd o Gwpan Rygbi'r Byd pan gafwyd problemau teithio i lawer o gefnogwyr.

    Dywed y gweinidog bod ei swyddogion mewn deialog gyda'r gwahanol wasanaethau cludiant i weld "pa wersi cadarnhaol y gellir eu dysgu." 

    Ychwanega fod cynllunio wedi cael ei wneud "ond gyda'r holl gynllunio yn y byd nid yw bob amser yn arwain at y canlyniad gorau."

    Cefnogwyr yn ciwio y tu allan i orsat trenau Caerdydd yn ystod y gystadleuaeth.
    Image caption: Cefnogwyr yn ciwio y tu allan i orsat trenau Caerdydd yn ystod y gystadleuaeth.
  32. Prynhawn da

    Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart yw'r eitem gyntaf y prynhawn 'ma.

  33. Da bo am y tro

    Dyna ddiwedd y cyfarfod.

    Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau, fel arfer, am 1.30pm.

  34. Cyfnod 'anodd iawn, iawn'

    Dywedodd Michael Owen ei fod yn gyfnod "anodd iawn, iawn" yn 2013 pan ddywedodd yr adroddiad y dylid dileu Cyllid Cymru. 

    Mae morâl ymhlith y staff yn "llawer gwell erbyn hyn" meddai.

  35. Banc Datblygu Cymru

    Mewn ymateb i Julie Morgan, Mr Bullock yn dweud y dylai Banc Datblygu Cymru fod "yn gynaliadwy yn ariannol", yn enwedig gan fod cronfeydd strwythurol yr UE yn debygol o fod yn eu rowndiau terfynol. 

    Mae'n dweud y dylai'r Banc, felly, ganolbwyntio ar sicrhau lefel cymedrol ond rheolaidd o arian dros ben, er mwyn osgoi bod yn faich parhaol ar drethdalwyr Cymru.

    Arian
  36. 'Elfen o ddryswch'

    Gareth Bullock, wrth ymateb i Nick Ramsay, yn cydnabod bod elfen o ddryswch ymhlith cwsmeriaid posibl am bwrpas Cyllid Cymru, ac yn dweud bod "mwy i'w wneud" er mwyn sicrhau nad yw'r un peth yn wir am y Banc Datblygu newydd..

  37. 70 o fusnesau

    Yn ôl Cyllid Cymru, yn 6 mis cyntaf y flwyddyn ariannol 2015-16 fe wnaeth 70 o fusnesau meicro, bach a chanolig eu maint elwa o fuddsoddiadau gwerth cyfanswm o £17.8 miliwn.

  38. Tystion

    (chwith i'r dde) Robert Hunter, Cyfarwyddwr Strategaeth, Cyllid Cymru; Gareth Bullock, Cadeirydd, Cyllid Cymru; Michael Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, Cyllid Cymru.
    Image caption: (chwith i'r dde) Robert Hunter, Cyfarwyddwr Strategaeth, Cyllid Cymru; Gareth Bullock, Cadeirydd, Cyllid Cymru; Michael Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, Cyllid Cymru.
  39. Cefndir

    Nid oedd Cyllid Cymru, banc buddsoddi a sefydlwyd gan weinidogion yn 2001 i roi hwb i gwmnïau bach yng Nghymru, yn "addas i'w ddiben" a dylid ei ddileu, yn ôl adroddiad ym mis Tachwedd 2013.

    Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans bryd hynny bod Cyllid Cymru wedi canolbwyntio mwy ar greu elw na datblygu economi Cymru.

    Ac wrth ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyllid yn Chwefror 2014, dywedodd yr Athro Jones-Evans nad oedd goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o Gyllid Cymru wedi bod yn ddigonol.

    Rhwng 2008 a 2012, meddai, roedd yn ymddangos "fod gan Gyllid Cymru drwydded i fynd i ffwrdd a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau".

  40. Bore da

    Bydd uwch swyddogion Cyllid Cymru yn dechrau rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid am 9.30.

    Senedd