a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni gan Senedd Fyw! Mi fyddwn i yn ol bore fory am naw o'r gloch gyda'r pwyllgor amgylchedd.

    Nos da. 

    Senedd
  2. Adroddiad 'cadarnhaol'

     AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts yn dweud bod adroddiad y Comisiynydd yn un adeiladol a chadarnhaol. 

  3. Galw am ddeddfwriaeth

     Darren Millar yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hyn i gyflwyno deddfwriaeth er mwyn amddiffyn ac hybu hawliau pobl hyn. 

    Darren
  4. Adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn

     Y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn arwain y ddadl ar Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2014-15.

  5. O Barbados i Arfon

     Alun Ffred Jones yn dweud bod Syr Philip Dilley wedi dychwelyd o Barbados yn gynt nac aeth unrhyw aelod o gabinet Llywodraeth Cymru i ymweld ag Arfon ac Ynys Mon yn dilyn y llifogydd. 

    Mi adawodd cadeirydd yr Asiantaeth Amgylchedd ei swydd ar ol mynd ar ei wyliau i Barbados yn ystod y llifogydd ym mis Rhagfyr. Mi oedd wedi cael ei feirniadu am wneud hyn. 

    Alun Ffred Jones
  6. Galw am grantiau

     Yr AC William Powell yn galw ar y gweinidog i rhoi grantiau i bobl sydd yn berchen tai a ffermwyr mewn ardaloedd lle mae yna beryg o lifogydd er mwyn iddyn nhw wneud gwelliannau i'w heiddo. 

  7. Arian ychwanegol ar gyfer llifogydd

     Y Gweinidog yn cyhoeddi £4.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cynllun atal llifogydd ym Mhorthcawl a Bro Morgannwg. 

  8. Rhagfyr: y mis gwlypaf ers cadw cofnod

    Mae record y swyddfa dywydd yn dangos bod Prydain wedi cael y mis gwlypaf ers dechrau cadw cofnod ym mis Rhagfyr. 

    Mi gafodd tua 150 o eiddo yng Nghymru ei heffeithio o achos y llifogydd ym mis Rhagfyr 2015 meddai'r gweinidog. 

  9. Cymru yn agored i fusnes

     Carl Sargeant: "Mae nhw (cwmniau adnewyddadwy) dal yn hapus i wneud busnes gyda ni yng Nghymru oherwydd agwedd llywodraeth Llafur Cymru achos ni yn agored i fusnes...Yn Lloegr mae nhw yn cau'r drysau i gwmniau adnewyddadwy."

  10. Datganiad llifogydd

     Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant yn gwneud datganiad am gynllun y llywodraeth ar gyfer llifogydd yng Nghymru. 

    Carl
  11. Busnes y cynulliad

     Gweinidog Busnes yn gwneud datganiad ar fusnes y cynulliad. 

  12. Dileu tlodi plant erbyn 2020

     Mae Mr Jones yn dweud bod gyda nhw "strategaeth tlodi plant" a'i bod nhw eisiau dileu tlodi plant erbyn 2020.

     "Mi fyddwn ni yn parhau i symud tuag at gyrraedd y nod yma."  

  13. Tlodi plant

    Mae'r AC Plaid Cymru Lindsay Whittle yn gofyn i'r prif weinidog pam ar ol 16 mlynedd yn llywodraethu bod Cymru dal gyda'r lefel uchaf o dlodi plant ym Mhrydain. 

  14. Llythrennedd a rhifeg

    Mae'r prif weinidog yn amau honiadau arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams bod gwthio llythrennedd a rhifeg mewn ysgolion yn cael dim effaith. 

  15. Anoddach darogan llifogydd

    Y llifogydd diweddar yng Nghymru yw'r pwnc dan sylw gan arweinydd y Ceidwadwyr Andrew R T Davies.

    Mae Mr Jones yn dweud bod hi yn dod yn "fwy anodd darogan lle y bydd llifogydd efallai yn digwydd." 

    Andrew R T Davies
  16. Dadl Ewrop

    Mae Leanne Wood yn holi am ddadl Ewrop neithiwr rhwng y Prif Weinidog Carwyn Jones ac arweinydd UKIP, Nigel Farage. 

    "Fydd eich perfformiad yn helpu neu llesteirio'r ymgyrch?" mae'n gofyn.

    Ateb Mr Jones yw "Nai adael eraill i ateb hynny".

  17. Cwestiynau arweinwyr

    Bydd y Llywydd, Rosemary Butler yn galw ar arweinydd y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r prif weinidog ar ol cwestiwn 2.  

  18. Croeso nôl

    Croeso nôl i Senedd Fyw ar y diwrnod cyntaf o'r tymor newydd wedi gwyliau'r nadolig.

    Bydd cwestiynau'r prif weinidog yn dechrau am 1.30pm. 

    Dyma rhestr o'r cwestiynau fydd yn cael ei gofyn.  

    Senedd