a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ni am heddiw!

    Welwn ni chi ddydd Mawrth nesaf, yn y cyfamser, am fwy o newyddion gwleidyddol cliciwch yma.

    Senedd
  2. Cefnogi mewn egwyddor

    Wrth ymateb dywed y Gweinidog Cymunedau Lesley Griffiths fod y llywodraeth yn cefnogi'r egwyddor o Gymru fel 'Cenedl o Loches.'

  3. 'Cenedl o Loches'

    Mae Mr Powell yn galw ar lywodraeth Cymru i ddatgan Cymru yn "Genedl o Loches, i anfon neges i'r byd bod croeso i ffoaduriaid yma."    

  4. Eitem olaf

    Pasiwyd pob cynnig heb wrthwynebiad.

    Ymlaen at yr eitem olaf sef y ddadl fer ar y rôl y gall Cymru ei chwarae yn yr argyfwng ffoaduriaid, wedi'i harwain gan William Powell.

  5. Cymru a Lloegr

    "Cymru a Lloegr yw'r unig awdurdodaeth unrhyw le yn y byd lle mae dau gorff sy'n deddfu, yn gwneud hynny yn yr un meysydd" meddai'r prif weinidog.

  6. 'Gwaethaf posibl'

    Y cyn weinidog Alun Davies yn dweud mai dyma'r "model pwerau neilltuedig gwaethaf posibl." 

    Ychwanega, "daeth neb o gwbl i'r pwyllgor gan ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig neu lafar yn dweud eu bod yn cefnogi strwythur a phensaernïaeth" y mesur.

  7. Apelio ar ysgrifennydd Cymru i wneud newidiadau

    BBC Cymru Fyw

    Mae aelodau cynulliad wedi apelio at feddwl agored ysgrifennydd Cymru ynghylch ei gynlluniau i ddatganoli mwy o rym i Fae Caerdydd.

    Bwriad Stephen Crabb ydi newid y system dros bwy sy'n gyfrifol am ba bwerau rhwng San Steffan a'r Cynulliad.

    Mae cynigion y Ceidwadwr yn rhan o fesur drafft Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau i roi pwerau dros egni, trafnidiaeth ac etholiadau i'r Cynulliad.

    I ddarllen gweddill yr erthygl cliciwch yma.

  8. Cynnig rhif 5

    Mae'r aelodau wedi cyrraedd cynnig 5 o 6 y ddadl.

    I weld rhestr, cliciwch yma.

  9. Melding yn cochi

    David Melding yn dweud ei fod yn "cochi wrth feddwl am rai o'r pethau a ddywedais cyn 1999", gan gyfeirio at gyfnod pan oedd yn "rhan o grŵp a wnaeth popeth posib i atal sefydlu y Cynulliad."

    David Melding
  10. 'Yn erbyn canlyniad datganoli 2011'

    Y Prif Weinidog yn dweud, "Y broblem gyda'r mesur, a fydd yn eithriadol o anodd eu goresgyn oni bai bod newid sylfaenol iddo, yw yn ei hanfod mae'n ceisio cadw awdurdodaeth sengl Cymru a Lloegr.

    "Canlyniad ymarferol hynny yw'r obsesiwn hwn bod yn rhaid cael cyn lleied â phosib o wahaniaeth yn y gyfraith rhwng Cymru a Lloegr.

    "Mae hynny'n sylfaenol yn erbyn canlyniad y refferendwm ar ddatganoli yn 2011."   

    Carwyn Jones
  11. 'Pwysigrwydd dweyieithrwydd'

    Does dim copi Cymraeg o'r mesur yn bodoli.

    Dywed aelod Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas "dydy San Steffan ddim yn deall pwysigrwydd gweithio'n ddwyieithog."

    Dafydd Elis-Thomas
  12. 'Ddim yn cwrdd â dyhead ysgrifennydd Cymru'

    Dywed y Prif Weinidog Carwyn Jones nad ydy'r mesur yn "cwrdd â dyhead ysgrifennydd Cymru i greu setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru".

  13. 'Ddim mewn cyflwr addas'

    David Melding, cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn dweud "nad yw'r mesur drafft mewn cyflwr addas i gyrraedd consensws".

    Dywed  "os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r amserlen bresennol ar gyfer Bil Cymru drafft, y dylai ymrwymo i gydgrynhoi cyfraith gyfansoddiadol Cymru yn ddwyieithog yn ystod y Senedd bresennol".  

  14. "Setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach'

    Mae Mesur drafft Cymru yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Prydain yn gwireddu'r ymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yng nghyhoeddiad Gŵyl Ddewi i greu "setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru."

    Mae'r mesurau'n cynnwys:

    • Model cadw pwerau, fel bod pobl Cymru'n gwybod yn union pa bwerau sydd gan y Cynulliad
    • Pwerau newydd pwysig i Gymru ar ynni, trafnidiaeth, llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad
    • Pwerau cryfach i'r Cynulliad ar ei faterion ei hun, gan gynnwys y gallu i newid ei enw.
  15. Mesur Cymru Drafft

    Mae'r aelodau wedi neilltuo hyd at dair awr i drafod Mesur Cymru Drafft.  

  16. Ymgynghori

    Mae'r ymgynghori ar Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft a’r Memorandwm Esboniadol yn dod i ben ar 15 Chwefror. 

  17. 'Dim dryswch'

    Mr Andrews yn gwrthod awgrym Peter Black bod "dryswch" am ddiwygio llywodraeth leol.

    Leighton Andrews
  18. Toriadau i gyllidebau

    Dywedodd Mr Andrews bod y toriadau i gyllideb awdurdodau lleol Cymru o 1.4% o gymharu â 2015 wedi cael ei "derbyn yn dda yn gyffredinol". 

    Mae cynghorau lleol yn cael 58% o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru, gyda 17% o ardrethi busnes a'r 25% sy'n weddill o dreth gyngor a thaliadau am wasanaethau.

    cynghorau