Ymunwch â ni am 9am bore fory ar gyfer y Pwyllgor Cyllid.
Nos da.
BBCCopyright: BBC
'Nodweddion gwarchodedig'
Mae'r dyletswyddau yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a ddaethant i rym ym mis Ebrill 2011, yn golygu ni ddylai pobl fod dan anfantais oherwydd unrhyw un o'r canlynol (a elwir yn 'nodweddion gwarchodedig'):
Mae'r aelodau yn symud ymlaen at eitem olaf y diwrnod sef dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014 - 2015.
'Pwysau unigryw ar ardaloedd gwledig'
Yr aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud nad ydy cyllideb ddrafft llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r "pwysau unigryw ar ardaloedd gwledig."
Mae'r gwrthbleidiau yn gwrthwynebu cynigion sy'n gweld cynghorau gwledig yn derbyn toriad mwy i'w grantiau o ran canran.
Powys sy'n wynebu'r toriad mwyaf sef 4.1 % gyda Cheredigion, Sir Fynwy a Sir Benfro yn agos iawn tu ôl. Atebodd Mr Andrews fod "cyngor fel Powys yn cael mwy o arian y pen, na Chaerdydd ac Abertawe."
BBCCopyright: BBC
Rhwng Dewi, fi a'r wal
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Un o'r tasgiau anoddaf ar noson etholiad yw cadw wyneb syth yn y munudau cyn i'r rhaglen ganlyniadau fynd ar yr awyr. Rhyw chwarter awr cyn i'r gorsafoedd pleidleisio gau mae Dewi Llwyd a minnau yn derbyn canlyniadau'r 'exit poll' gyda rhybudd pendant i beidio rhoi unrhyw fath o awgrym o'r cynnwys cyn i'r cloc daro deg.
Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews, ar y wybodaeth ddiweddaraf am yr agenda Diwygio Gwasanaethau Datganoledig.
'Treth ar gyflogwyr'
Mae'r dirprwy weinidog yn dweud fod yr Ardoll Prentisiaeth a amlinellir yn Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn Nhachwedd 2015 "yn ddim mwy na threth ar gyflogwyr ledled y DU."
BBCCopyright: BBC
Dewis gwahanol i brifysgol
Julie James yn dweud ei bod wedi gofyn i'w swyddogion i gymryd camau i ddatblygu ystod o brentisiaethau technegol lefel uwch newydd.
Dywed wrth ACau: "Rydym yn gwybod bod Prentisiaethau Uwch yn cael eu hystyried fel dewis arall i brifysgol ac ar hyn o bryd, maent yn cynrychioli dim ond 10 % o'r holl brentisiaethau sydd wedi eu dechrau yng Nghymru."
PACopyright: PA
Prentisiaethau
Yn ôl adroddiad yPwyllgor Busnes a Menter yn 2012, roedd angen newid y canfyddiad o brentisiaethau.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod cynlluniau prentisiaethau yn chwarae rhan bwysig o ran recriwtio, hyfforddi a datblygu yng Nghymru.
Ond mae hefyd yn nodi bod pobl sy'n ymwneud â phrentisiaethau â phryderon ynglŷn â rôl ystrydebau rhyw a stigma yn y maes.
Eitem nesaf
Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James, ar brentisiaethau.
Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething ar y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys.
Cafodd ei lansio yn swyddogol ym mis Mehefin 2015.
Ers hynny mae ymgynghorwyr yn ymuno ag ymarferwyr gofal ar alwadau Ambiwlans Awyr Cymru.
Simon VicaryCopyright: Simon Vicary
'Ffrae dros gyfrifoldeb'
Golwg 360
Mae’r ffrae am bwy ddylai gymryd cyfrifoldeb dros yr argyfwng yn y diwydiant dur yng Nghymru yn poethi wrth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi’r bai ar y naill a’r llall am beidio â gwneud digon.
Ar ôl i gwmni dur Tata gyhoeddi ddoe bod mwy na 1,000 o weithwyr yn colli eu swyddi, y rhan fwyaf ohonyn nhw ym Mhort Talbot, fe ddywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Anna Soubry, yn glir mai cyfrifoldeb y Llywodraeth ym Mae Caerdydd oedd helpu’r rhai a gafodd eu heffeithio.
Ms Hart yn dweud y bydd hi'n arwain tasglu i gefnogi'r gweithwyr yr effeithir arnynt, gyda'r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yfory.
Dywedodd y byddai'r ergyd hefyd yn cael ei deimlo gan fasnachwyr llai sy'n cyflenwi'r gwaith dur a'i weithwyr (megis siopau brechdanau) , ac felly bydd y tasglu hefyd yn ystyried pa gefnogaeth y gallai eu cynnig iddyn nhw.
BBCCopyright: BBC
Gwaith dur Tata
Mae'r aelodau wedi symud ymlaena at ddatganiad gan Weinidog yr Economi Edwina Hart ar Tata Steel yn dilyn y cyhoeddiad bod 1,050 o swyddi yn cael eu torri ym Mhrydain, y mwyafrif o'r rhain ym Mhort Talbot.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Unedau brys 'ar y dibyn'
Mae Andrew RT Davies yn holi cwestiwn brys wedi i Bennaeth Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yng Nghymru rhybuddio fod unedau brys yng Nghymru "ar y dibyn" gyda phrinder staffio, ac amseroedd aros yn rhy hir.
Dywedodd Dr Robin Roop fod rhai cleifion yn aros mor hir â 24 awr yn yr unedau achosion brys.
Ychwanegodd nad oes gan unrhyw uned frys yng Nghymru ddigon o ymgynghorwyr er mwyn cwrdd â lefelau staffio sydd wedi'u dynodi gan y Coleg.
Dywed y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y disgwylir i fyrddau iechyd sicrhau bod ganddynt y cymysgedd iawn o staff i sicrhau bod gwasanaethau'n ddiogel ac yn gynaliadwy.
BBCCopyright: BBC
Trefn?
Ar ôl ymdrechion i alw trefn dro ar ôl tro, mae'r Llywydd yn llwyddo i gael sylw'r prif weinidog.
Roedd yn rhaid iddi ddweud "prif weinidog" 11 gwaith a "trefn" pedair gwaith cyn i bethau tawelu.
BBCCopyright: BBC
Problemau unedau achosion brys
Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn cyhuddo llywodraeth Cymru o awgrymu y dylai cleifion "goddef" problemau'r unedau achosion frys.
Mae Carwyn Jones yn cyfaddef fod pwysau ar y gwasanaeth ond yn dweud bod y darlun recriwtio yn "bositif".
BBCCopyright: BBC
'Ddim yn ymwybodol o'r raddfa'
Dywed arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams fod problemau yn y diwydiant dur wedi bod yn hysbys ers misoedd ac felly mae'n yn cwestiynu pam nad oedd y syniad o ardal fenter wedi cael ei gynnig yn gynharach.
"Nid oeddem yn ymwybodol o raddfa'r cyhoeddiad ... tan ddiwedd yr wythnos diwethaf" atebodd Carwyn Jones.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Nos da
Dyna ni am heddiw.
Ymunwch â ni am 9am bore fory ar gyfer y Pwyllgor Cyllid.
Nos da.
'Nodweddion gwarchodedig'
Mae'r dyletswyddau yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a ddaethant i rym ym mis Ebrill 2011, yn golygu ni ddylai pobl fod dan anfantais oherwydd unrhyw un o'r canlynol (a elwir yn 'nodweddion gwarchodedig'):
Copi o'r adroddiad
Gallwch weld copi o'r Adroddiad Blynyddol yma.
Eitem olaf
Mae'r aelodau yn symud ymlaen at eitem olaf y diwrnod sef dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014 - 2015.
'Pwysau unigryw ar ardaloedd gwledig'
Yr aelod Ceidwadol Janet Finch-Saunders yn dweud nad ydy cyllideb ddrafft llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r "pwysau unigryw ar ardaloedd gwledig."
Mae'r gwrthbleidiau yn gwrthwynebu cynigion sy'n gweld cynghorau gwledig yn derbyn toriad mwy i'w grantiau o ran canran.
Powys sy'n wynebu'r toriad mwyaf sef 4.1 % gyda Cheredigion, Sir Fynwy a Sir Benfro yn agos iawn tu ôl. Atebodd Mr Andrews fod "cyngor fel Powys yn cael mwy o arian y pen, na Chaerdydd ac Abertawe."
Rhwng Dewi, fi a'r wal
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Un o'r tasgiau anoddaf ar noson etholiad yw cadw wyneb syth yn y munudau cyn i'r rhaglen ganlyniadau fynd ar yr awyr. Rhyw chwarter awr cyn i'r gorsafoedd pleidleisio gau mae Dewi Llwyd a minnau yn derbyn canlyniadau'r 'exit poll' gyda rhybudd pendant i beidio rhoi unrhyw fath o awgrym o'r cynnwys cyn i'r cloc daro deg.
I ddarllen gweddill yr erthygl cliciwch yma.
Datganiad Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddatganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews, ar y wybodaeth ddiweddaraf am yr agenda Diwygio Gwasanaethau Datganoledig.
'Treth ar gyflogwyr'
Mae'r dirprwy weinidog yn dweud fod yr Ardoll Prentisiaeth a amlinellir yn Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn Nhachwedd 2015 "yn ddim mwy na threth ar gyflogwyr ledled y DU."
Dewis gwahanol i brifysgol
Julie James yn dweud ei bod wedi gofyn i'w swyddogion i gymryd camau i ddatblygu ystod o brentisiaethau technegol lefel uwch newydd.
Dywed wrth ACau: "Rydym yn gwybod bod Prentisiaethau Uwch yn cael eu hystyried fel dewis arall i brifysgol ac ar hyn o bryd, maent yn cynrychioli dim ond 10 % o'r holl brentisiaethau sydd wedi eu dechrau yng Nghymru."
Prentisiaethau
Yn ôl adroddiad yPwyllgor Busnes a Menter yn 2012, roedd angen newid y canfyddiad o brentisiaethau.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod cynlluniau prentisiaethau yn chwarae rhan bwysig o ran recriwtio, hyfforddi a datblygu yng Nghymru.
Ond mae hefyd yn nodi bod pobl sy'n ymwneud â phrentisiaethau â phryderon ynglŷn â rôl ystrydebau rhyw a stigma yn y maes.
Eitem nesaf
Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Julie James, ar brentisiaethau.
Aled ap Dafydd yn bwrw golwg
Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys
Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething ar y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys.
Cafodd ei lansio yn swyddogol ym mis Mehefin 2015.
Ers hynny mae ymgynghorwyr yn ymuno ag ymarferwyr gofal ar alwadau Ambiwlans Awyr Cymru.
'Ffrae dros gyfrifoldeb'
Golwg 360
Mae’r ffrae am bwy ddylai gymryd cyfrifoldeb dros yr argyfwng yn y diwydiant dur yng Nghymru yn poethi wrth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi’r bai ar y naill a’r llall am beidio â gwneud digon.
Ar ôl i gwmni dur Tata gyhoeddi ddoe bod mwy na 1,000 o weithwyr yn colli eu swyddi, y rhan fwyaf ohonyn nhw ym Mhort Talbot, fe ddywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, Anna Soubry, yn glir mai cyfrifoldeb y Llywodraeth ym Mae Caerdydd oedd helpu’r rhai a gafodd eu heffeithio.
I ddarllen gweddill yr erthygl cliciwch yma.
Tasglu i gefnogi gweithwyr