a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ddiwedd cyfnod 3 Mesur Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a diwedd y cyfarfod llawn am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes.

    Senedd
  2. Adeiladau Eglwysig

    Gwelliant 68 gan Bethan Jenkins unwaith eto, a gefnogir gan y Ceidwadwr Darren Millar yn nodi "Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu rhestr sydd ar gael yn gyhoeddus o adeiladau eglwysig yng Nghymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol yn eu barn hwy" yn cwympo.

    Dywed Ken Skates nad oes ei angen a'i fod yn cynnwys elfen o ddyblygu.

  3. Enwau lleoedd hanesyddol

    Gwelliant 62 gan yr aelod Plaid Cymru Bethan Jenkins - i hepgor 'enwau lleoedd hanesyddol’ a'i gyfnewid am ‘o’r enwau cyfredol a hanesyddol a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer lleoedd, tirnodau ac adeiladau’ - yn cwympo. 

    Dywed Ken Skates y byddai'n drwm ar adnoddau a gallai arwain at enwau cyfredol, sydd yn aml yn enwau busnes, yn disodli enwau hanesyddol.

    Bethan Jenkins
  4. Adfer costau

    Nifer o welliannau gan y Ceidwadwr Suzy Davies yn ymwneud ag adfer costau sydd yn gysylltiedig ag adeiladau rhestredig yn cael eu gwrthod.

    Roedd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates wedi dweud y byddant yn effeithio ar allu'r cynghorau i adfer costau a hefyd yn arwain at anghydfod cyfreithiol.

    Suzy Davies
  5. Gwelliant 8 yn cwympo

    Pleidleisiodd aelodau yn erbyn gwelliant 8 gan y Democrat Rhyddfrydol Peter Black. 

    Byddai wedi cynnwys rhan newydd yn cynnwys: "Rhaid i awdurdod lleol lunio, cynnal a chyhoeddi cofrestr (y “gofrestr leol”) o adeiladau o ddiddordeb lleol arbennig, ynghyd ag unrhyw addasiadau neu ddiwygiadau iddynt." 

    Un o resymau'r llywodraeth am beidio â chefnogi oedd y gost. 

    Peter Black
  6. Cynnal Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol

    Nod y mesur yw ei gwneud hi'n haws i berchnogion reoli eu hadeiladau rhestredig drwy gyflwyno cynlluniau rheolaeth a fydd yn cael gwared ar yr angen am fwy nag un cais cynllunio. 

    Bydd rhaid i gynghorau hefyd gynnal Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol i hysbysu penderfyniadau cynllunio agos, a hefyd sefydlu cofrestr o barciau a gerddi sy'n genedlaethol bwysig. 

  7. Anoddach i ddianc rhag erlyniad?

    Bwriad y gyfraith newydd i warchod henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru yw eu gwneud hi'n anoddach i rheiny sy'n achosi difrod i ddianc rhag erlyniad. 

    Daw hyn ar ôl 119 o achosion o ddifrod ar safleoedd rhwng 2006 a 2012 lle cafodd dim ond un person eu herlyn. 

    Bydd y mesur yn rhoi pwerau i weinidogion i orfodi'r rheiny sydd yn difrodi, i gyflawni'r atgyweirio. 

    Yn 2013 cafodd difrod sylweddol ei wneud i ddarn o Glawdd Offa ger Y Waun, Wrecsam.

    Difrod: Y ffos wedi diflannu
    Image caption: Difrod: Y ffos wedi diflannu
  8. Mesur yr Amgylchedd Hanesyddol

    Yr eitem olaf heddiw yw'r Ddadl Cyfnod 3 ar Fesur yr Amgylchedd Hanesyddol.

  9. Dim gwrthwynebiad i'r cynnig

    Pasiwyd y Mesur Amgylchedd yn ddi-wrthwynebiad.

  10. 'Llongyfarch Llywodraeth Cymru'

    Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas "Dwi'n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gynhyrchu ystod o ddeddfwriaeth sy'n cymharu ag unrhyw beth y mae unrhyw Senedd yn unrhyw le arall yn y byd wedi eu cynhyrchu".

  11. Yr ymateb i'r Mesur

    Er eu bod yn gefnogol i'r rhesymau y tu ôl i'r mesur, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol dyw e ddim yn ddigon uchelgeisiol.

    Yn ôl y Ceidwadwyr mae cyfle wedi ei golli.

    Honna Llyr Gruffydd o Blaid Cymru ei fod wedi llwyddo i gyflwyno achos dros ddeddfwriaeth gryfach i leihau allyriadau carbon yng Nghymru.

  12. Newidiadau i'r ffordd o reoli adnoddau naturiol

    Mae'r aelodau wedi cyrraedd dadl Cyfnod 4 ar Fesur yr Amgylchedd.

    Yn ogystal â chynnig newidiadau i'r ffordd y caiff adnoddau naturiol eu rheoli, mae'r mesur yn cyflwyno cyfreithiau mewn nifer o feysydd eraill, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, rheoli gwastraff, pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn a thrwyddedu morol.

    Amgylchedd Cymru
  13. Cymeradwyo Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg

    Mae'r aelodau wedi cymeradwyo'r rheoliadau. Doedd dim gwrthwynebiad. 

  14. Eithrio rhai celloedd mewn carchardai?

    Pwrpas Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2016 yw diwygio Rheoliadau 2007 i eithrio celloedd penodol mewn carchardai yng Nghymru o'r gwaharddiad ysmygu am gyfnod cyfyngedig, "fel y gall carchardai yng Nghymru gael eu cefnogi i fod yn weithredol ddi-fwg mewn modd saff a diogel yn ystod cyfnod yr eithriad."

  15. Cyfarfod Tasglu Dur Tata

    Yn ôl Edwina Hart fe gafodd ail gyfarfod Tasglu Dur Tata ei gynnal ddoe. 

    Fe wnaeth y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Arglwydd Bourne, gynrychioli llywodraeth Prydain yn y cyfarfod yng Nghaerdydd. 

    Dywed Ms Hart y bydd hi'n sefydlu grwp arbennig i edrych ar y cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad ac ystyried yr opsiynau ar gyfer datblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar yr ardal yn benodol.

    Edwina Hart
  16. Y diweddara ar gwmni Dur Tata

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gweinidog yr economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth ar gwmni Dur Tata

    Fis diwetha fe gyhoeddodd y cwmni y byddai 750 o swyddi'n cael eu colli yn y gwaith ym Mhort Talbot, a chyfanswm o 1,050 trwy Brydain.

    Tata, Port Talbot
  17. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Mae Jane Hutt yn amlinelli busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesa.

    Mae AC'au wedi gofyn am ddatganiadau ar ddyfodol nifer o faterion - gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, y Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr, a gwasanaethau i bobl sy'n cael triniaeth am ganser.

  18. 'Dyna sosialiaeth' medd y prif weinidog

    "Dyna sosialiaeth, chi'n iawn" ymateb y prif weinidog i gwestiwn ar y rhaglen Dechrau'n Deg - sy'n rhan o raglen llywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd sydd a phlant dan 4 oed ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

  19. 'Achub' 1,700 o swyddi

    Yn ol y prif weinidog byddai 1,700 o swyddi wedi cael eu colli petai Maes Awyr Caerdydd wedi cau.

  20. Y cyswllt awyr rhwng Caerdydd a Môn - 'anrhefnus ar y gorau'

    Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies, mae'r gwasanaeth awyren rhwng Caerdydd ac Ynys Môn wedi bod yn "anhrefnus ar y gorau." 

    Wrth ymateb dywed Carwyn Jones nad oedd toriad yn y teithiau awyr dwywaith y dydd fis diwethaf, cyn i gwmni newydd Citywing gymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaeth. 

    Mae'r gwasanaeth hedfan tocyn dychwel ddwy waith y dydd yn cael £1.2m o gymorth blynyddol.
    Image caption: Mae'r gwasanaeth hedfan tocyn dychwel ddwy waith y dydd yn cael £1.2m o gymorth blynyddol.