a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna'r cyfan am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw nôl ddydd Mawrth 9 Chwefror.

    Senedd
  2. 'Rôl allweddol'

    Dywed Llyr Gruffydd bod gan Gymru nifer o amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol, ond does yr un yn y gogledd-ddwyrain.

    Meddai, "Byddai creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol, tebyg i'r rheini ym Manceinion a Glasgow, yn pwysleisio y rôl allweddol y mae'r gogledd-ddwyrain a Wrecsam yn arbennig, wedi'u cael ar ddatblygiad y gêm ac yn arbennig yng Nghymru." 

    Sefydlwyd Clwb Pêl Droed Wrecsam yn 1864 felly dyma'r hynaf yng Nghymru a'r trydydd hynaf yn y byd.

    Y Cae Ras yw'r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd sydd ddal mewn defnydd.

    Llyr Gruffydd
  3. Amgueddfa Bel-droed Genedlaethol i Gymru?

    Dyna ddiwedd Cyfnod 3 y mesur. 

    Mae'r aelodau yn cyrraedd y Ddadl Fer.

    Y pwnc a ddewiswyd gan Llyr Gruffydd yw: "Cartref pêl-droed: y ddadl o blaid sefydlu amgueddfa genedlaethol bêl-droed yn Wrecsam". 

  4. Medru herio lefelau isel o staff nyrsio

    Mae'r mesur yn rhoi dyletswydd ar Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i lunio adroddiad yn nodi sut maen nhw wedi cydymffurfio â'r gofynion o ran staff nyrsio, darparu sail statudol i gleifion a staff allu herio lefelau isel o staff nyrsio.

  5. Canllawiau i gynorthwyo sefydliadau

    Mae'r mesur yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau i gynorthwyo sefydliadau Gwasanaeth Iechyd Cymru i gyfrifo'r lefelau staff nyrsio priodol.

    Yn ôl y llywodraeth, mae angen sicrhau fod ffactorau fel swyddogaethau goruchwylio'r staff, cymwysterau, sgiliau a phrofiad nyrsys, a staff eraill sy'n darparu gofal, ac amgylchedd y ward, yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn briodol.

  6. Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru

    Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru yn gofyn i Aelodau'r Cynulliad bleidleisio o blaid y mesur

    Mae'r Coleg yn dweud bod tystiolaeth yn dangos pan fydd lefelau nyrsio yn syrthio i nifer anniogel, mae cleifion yn aros yn yr ysbyty yn hwy ac mae lefelau heintiau a chymhlethdodau eraill yn codi.

  7. Yn erbyn cynnwys y gair 'diogel'

    Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn dweud bod yr holl welliannau yn y grŵp cyntaf "yn cael eu hanelu yn y bôn i roi'r term 'yn ddiogel' yn ôl i mewn i'r mesur." 

    Ond dywed mai'r cyngor a gafodd gan arbenigwyr wrth ddrafftio'r gyfraith oedd y byddai rhoi'r term 'yn ddiogel' yn nhestun y mesur yn llawn trafferthion ac y dylid ei wrthwynebu. 

    Pleidleisiodd 22 o aelodau dros gynnwys 'diogel', pleidleisiodd 23 yn erbyn, felly ni basiwyd gwelliant Darren Millar. 

    Mark Drakeford
  8. 'Cryfhau'r trefniadau presennol'

    Yn ôl llywodraeth Cymru, bydd y mesur yn cryfhau'r trefniadau presennol drwy:

    • roi dyletswydd cyffredinol ar Fyrddau Iechyd Lleol a'r Ymddiriedolaethau Iechyd i roi sylw i'r pwysigrwydd o sicrhau lefel briodol o staff nyrsio lle bynnag y darperir gofal nyrsio gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru;
    • ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd Lleol a'r Ymddiriedolaethau Iechyd, yn achos wardiau ysbytai acíwt i oedolion, (lle maent yn darparu gwasanethau nyrsio), i ddynodi personau i gyfrifo lefelau staffio diogel sy'n briodol yn lleol, a rhoi dyletswydd ar y sefydliadau hyn i gynnal y lefelau staffio hynny.
  9. Gofal nyrsio 'diogel ac effeithiol o safon'

    Nod y Mesur yw sicrhau bod lefelau digonol o staff nyrsio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru er mwyn darparu gofal nyrsio diogel ac effeithiol o safon i gleifion ar bob adeg.

    Nyrsys
  10. Lefelau Staff Nyrsio

    Dadl Cyfnod 3 ar y Mesur Lefelau Staff Nyrsio sydd ar yr agenda nesaf.   

  11. Problemau yn ardal Pont Hafren

    Dywed Edwina Hart, gweinidog yr economi, gwyddoniaeth a thrafnidiaeth, ei bod yn "cydnabod bod angen gwelliannau sylweddol i'r orsaf rheilffordd er mwyn sicrhau ei bod yn addas i'r diben."

    Dywed hefyd y bydd yn ysgrifennu i'r adran drafnidiaeth am broblemau yn ardal Pont Hafren yn ystod digwyddiadau mawr.

    Edwina Hart
  12. 'Embaras'

    Rhun ap Iorwerth yn dweud mai Stadiwm Principality yw'r stadiwm rygbi gorau yn y byd. 

    Ond dywed mai testun embaras yw gweld na all y seilwaith yn y brifddinas ymdopi â'r her o ddigwyddiad mor fawr.

  13. 'Gweddnewid yr orsaf'

    Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, William Graham, roedd seilwaith gorsaf Caerdydd Canolog wedi "heneiddio" a bod angen "buddsoddiad sylweddol".

    Ym mis Rhagfyr, dywedodd Great Western Railway y byddan nhw a Network Rail yn anelu at welliannau.

    Roedd trefnwyr y gemau wedi dweud wrth y pwyllgor ym mis Tachwedd bod oedi o hyd at bedair awr yn "annerbyniol".

    Fe wnaeth Great Western Railway ymddiheuro am gam-gyfri nifer y teithwyr ar gyfer y gêm gyntaf yng Nghaerdydd - Iwerddon v Canada ar 19 Medi - a dweud bod y sefyllfa yn "gywilydd".

    Ym mis Mehefin, fe wnaeth Network Rail gyhoeddi cynlluniau i weddnewid yr orsaf, ond ni fydd y gwaith yn dechrau tan 2019.

    Ciw y tu allan i'r orsaf
  14. Cwpan Rygbi'r Byd

    Mae'r ACau nawr yn trafod yr oedi a brofodd filoedd o gefnogwyr rygbi yn ystod pencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd.

    Mae'r ddadl yn sgil adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes, sydd wedi galw am uwchraddio gorsaf Caerdydd Canolog ar frys.

    Roedd rhaid i bobl aros hyd at bedair awr ar gyfer trenau ar ôl y ddwy gêm gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Medi.

    Bu miloedd o bobl yn aros yn hir am drenau yng ngorsaf Caerdydd Canolog
    Image caption: Bu miloedd o bobl yn aros yn hir am drenau yng ngorsaf Caerdydd Canolog
  15. Cymunedau yn Gyntaf

    Yr AC Llafur Jenny Rathbone yn gofyn a yw'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cyrraedd y bobl sydd ei hangen fwyaf, ac nid dim ond y rhai sy'n ymddangos yn y sesiynau. 

    Dywed y gweinidog bod gwaith gweithwyr allgymorth gydag unigolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf dros y blynyddoedd, gan adeiladu ymddiriedaeth, yn golygu eu bod yn estyn allan at bobl sydd â'r angen mwyaf am gymorth.

  16. Cwestiynau Llafar

    Dyma'r Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd.

  17. 'Croesawu ceiswyr lloches'

    Dywed y gweinidog, "nid yw polisi lloches a gwasgaru ceiswyr lloches wedi cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ceiswyr lloches o fewn y pedair ardal wasgaru yng Nghymru."

  18. Ceiswyr lloches

    Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths sydd ar y gweill.

    Mae Janet Haworth yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i sefydlu ceiswyr lloches yng Nghymru.  

  19. Llifogydd

    Y Ceidwadwr Janet Howarth yn cyfeirio at gynlluniau yn yr Alban a Lloegr i ymdrin â llifogydd ac yn gofyn pryd y bydd adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd diweddar yng Nghymru yn cael ei gwblhau a'i gyhoeddi. 

    Dywed y gweinidog fod Cymru ar y blaen i'r Alban a Lloegr a bod cynlluniau rheoli llifogydd mewn grym ar draws Cymru.

    Yr A55 yn Llandygai, Gwynedd ym mis Ionawr
    Image caption: Yr A55 yn Llandygai, Gwynedd ym mis Ionawr
  20. Cyfraddau ailgylchu: dal i fod fel Real Madrid?

    Mae Christine Chapman (Llafur, Cwm Cynon) yn gofyn am ddatganiad am gyfraddau ailgylchu yng Nghymru.   

    Dydyn ni ddim wedi clywed Mr Sargeant yn disgrifio Cymru fel "Real Madrid Ewrop o ran ailgylchu" ers meitin.

    Darllenwch fwy am ffigyrau ailgylchu Cymru yma.    

    ailgylchu