a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Canlyniad: Iwerddon 16-16 Cymru
  2. Iwerddon: Cais gan Murray, Sexton yn cicio gweddill y pwyntiau
  3. Cymru: Cais gan Faletau, 11 pwynt o droed Priestland

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn

    Canlyniad anarferol yn yr Aviva felly, a bydd carfan Warren Gatland yn awyddus i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban y penwythnos nesa'.

    Diolch am ymuno gyda ni ar y llif heddiw, ac fe fyddwn ni 'nôl ar gyfer y gêm gyntaf yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.

    Iwerddon v Cymru
  2. 'Dyna chi gem!'

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Dyna chi gem! Gallai Faletau fod wedi ennill Seren y Gêm, ond Jamie Roberts oedd fy newis i.

    "Cymru oedd y tîm gore. Ond gêm arbennig a Chymru fydd y tîm hapusa' oddi cartref."

    Roberts
  3. Y chwiban olaf

    Y chwiban olaf yn mynd, ac mae hi wedi gorffen yn gyfartal - 16-16.

  4. 2 funud yn weddill

    2 funud i fynd. Wneith hi ddim gorffen yn gyfartal...wneith hi?

  5. Ymdrech am gôl adlam

    Priestland yn mynd am gôl adlam o 40 metr...ond yn methu i'r chwith o'r pyst.

    Priestland
  6. Cic gosb i Iwerddon

    Y Gwyddelod yn ymateb yn syth, gyda Sexton yn unioni'r sgôr - 16-16 gydag ychydig dros bum munud yn weddill.

  7. Cic gosb i Gymru

    Pwysau Cymru'n dangos wrth iddyn nhw ennill cic gosb.

    Priestland yn gywir gyda'r gic, a Chymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

    Lloyd Williams wedi dod i'r cae yn lle Gareth Davies hefyd.

    Priestland
  8. 10 munud yn weddill

    10 munud yn weddill ac mae hi'n dal yn gyfatal yn yr Aviva.

    O bosib 10 munud pwysicaf y bencampwriaeth o'n blaenau, a Chymru sy'n pwyso!

  9. Cymru anlwcus

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Camgymeriad gan Scott Baldwin yn anffodus. Ond mae'n dda gweld Cymru yn ceisio chwarae gêm agored."

  10. Bradley Davies ymlaen i Gymru

    Bradley Davies yn dod i'r cae i gymryd lle Luke Charteris yn yr ail-reng.

    Ken Owens yn dod ymlaen yn lle Scott Baldwin hefyd.

  11. 'Jamie yn rhagorol'

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Mae Jamie Roberts yn cael gêm ardderchog, yn enwedig yn amddiffynol!"

    Roberts
  12. Eilydd i Gymru

    Tomas Francis ymlaen yn lle Samson Lee yn y rheng flaen.

  13. Jenkins ymlaen i Gymru

    Gethin Jenkins ar y cae yn lle Rob Evans i ennill ei 120fed cap.

  14. 'Dechrau da i'r ail hanner'

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Dechreuad ardderchog i'r ail hanner! Cic cosb wych! o 13-0 i 13-13. Dyma chi gêm!"

    Liam Williams
  15. Cic gosb i Gymru

    Rory Best yn cael ei gosbi yn y ryc, a Priestland yn fwy na hapus i'w gwneud hi'n gyfartal.

  16. Yr ail hanner yn dechrau

    Y gêm yn ailddechrau, gyda Priestland yn cicio tuag at flaenwyr Iwerddon.

  17. Bale yn canmol cais Faletau

    Blaenwr Real Madrid a Chymru yn canmol cais Taulupe Faletau, ac yn annog y chwaraewyr i ddal ati yn yr ail hanner

    View more on twitter