a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn

    A dyna ni - doedd hi ddim yn berfformiad da gan Gymru, ond fe lwyddwyd rhywsut i roi gêm agos i Loegr, gan bwyso am fuddugoliaeth yn y diwedd. Ond nawr bydd yn rhaid troi eu golygon at y gêm olaf yn erbyn Yr Eidal yng Nghaerdydd.

  2. Amser dweud hwyl fawr

    Ar ôl diwrnod siomedig, amser i'r Cymry ffarwelio a Twickenham. 

    Cefnogwyr
  3. Diffyg egni gan Gymru, medd Gatland

    Hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn dweud ar ôl y gêm pan fod y bel ganddynt roedd pobl yn gweld beth oedd Cymru yn gallu ei wneud. Oedd o'n son fod yna ddiffyg egni yn yr hanner cyntaf.  

  4. Diwedd i obeithion am y bencampwriaeth

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "Arbennig gan Gymru i ddod mor agos.

    "Ond y bencampwriaeth wedi diflannu er gwaetha’r modd.

     "Amser i wylio’r merched nawr! "

  5. Bai ar berfformiad hanner cyntaf

    Y bachwr Ken Owens yn dweud fod Cymru wedi colli'r gêm yn yr hanner cyntaf, eu "perfformiad yn siomedig, gan adael gormod i'w wneud."

  6. Y chwiban olaf

    Lloegr 25-21 Cymru

    Er gaethaf ymdrechion funud olaf Cymru, Lloegr yn cael meddiant o'r bel gan rwystro sgôr arall. Lloegr felly yn ennill y Goron Driphlyg.

    Owen Farrell yn dathlu
    Image caption: Owen Farrell yn dathlu
  7. Lloegr 25-21 Cymru

    Lle i gredu, lle i obeithio?

    Cais arall i Gymru . Y freuddwyd yn fyw am y tro diolch i Taulupe Faletau.

    Cais arall i Gymru
  8. Lloegr 25-14 Cymru

    Y gorau tan y diwedd. Symudiad gorau Cymru drwy'r gêm a George North yn croesi. 

  9. Lloegr 25-7 Cymru

    Ac un arall

    Pethau yn mynd o ddrwg i waeth wrth i Farrell ychwanegu tri phwynt arall

  10. Lloegr 22-7 Cymru

    Owen Farrell yn rhoi Lloegr tri sgor ar y blaen gyda chic cosb arall. 

  11. Eilyddio

    Alun Wyn Jones yn cael ei eilyddio. Dan Lydiate yw'r capten. 

    Biggar
  12. Gobaith i Gymru?

    Non Evans

    Cyn-gapten merched Cymru

    "O’r diwedd. Cais i Gymru. Oes digon o amser i daro nol?"

  13. Pryder am Warburton

    Ond newyddion ddim cystal i Gymru, y capten Sam Warburton sydd wedi ei anafu. Munud pryderus i Gymru. 

    Sam Warburton
  14. Lloegr 19-7 Cymru

    Cais i Gymru

    Dan Biggar yn manteisio, ac yn rhwystro cic, cais i Gymru. 

    Dan Biggar
  15. Lloegr 19-0

    Farrell yn llwyddiannus a Lloegr yn gwneud y pethau syml yn iawn

  16. Cig gosb i Loegr

    Cymru yn troseddu eto, wrth i Loegr fygwth dwyn y bêl

  17. Ail Hanner

    Dim newidiadau i Gymru ar ddechrau'r ail hanner