a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn dychwelyd bore yfory am 9am ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol.

    Y Senedd
  2. Cyllideb Ddrafft 2016-17

    Er i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru bleidleisio yn erbyn y gyllideb, fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ymatal, sy'n golygu bod y cynnig wedi'i basio.

  3. Cymeradwyo Mesur Amgylchedd Hanesyddol

    Mae aelodau'r Cynulliad wedi cefnogi mesur newydd i amddiffyn safleoedd hanesyddol a threftadaeth. Nod y Mesur Amgylchedd Hanesyddol yw cyflwyno camau newydd i warchod amgylchedd hanesyddol Cymru, yn cynnwys enwau lleoliadau hanesyddol.  

    Cafodd Plas Glynllifon, ger Caernarfon, ei roi ar werth dan yr enw Plas Wynnborn.
    Image caption: Cafodd Plas Glynllifon, ger Caernarfon, ei roi ar werth dan yr enw Plas Wynnborn.
  4. Newid meddwl ar ariannu tri chyngor

    Roedd ymateb y gwrthbleidiau yn chwyrn pan gafodd cynlluniau eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr i dorri cyllidebau cynghorau 2% ar gyfartaledd gan fod cynghorau gwledig yn wynebu'r toriadau mwya. 

    Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio clod am sicrhau rhywfaint o ad-daliad i'r tri chyngor fyddai wedi bod fwya ar eu colled.

    Mae'r llywodraeth yn addo:

    £1.93m ychwanegol i Gyngor Powys

    £439,000 ychwanegol i Geredigion

    £109,000 ychwanegol i Sir Fynwy.

    Cynghorau
  5. Ariannu Addysg Uwch - llai o doriadau

    Mae Llywodraeth Cymru wedi meddwl eto am eu cynlluniau i dorri ar gyllid i Addysg Uwch. 

    Roedd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn wynebu toriadau o £42m, rhyw draean o'u cyllideb. Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi dweud wrth aelodau'r Cynulliad y bydd hi bellach yn canslo torri £31m o'r gyllideb. 

    Fe fydd yn rhaid i HEFCW ddod o hyd i werth £11m o arbedion.

  6. Cyhoeddiadau Jane Hutt

    Mae Jane Hutt yn cyhoeddi £2.5m ar gyfer cynghorau Powys, Ceredigion a Sir Fynwy a £10m yn rhagor ar gyfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

  7. Cyllideb Ddrafft 2016-17

    Eitem ola'r dydd - Dadl ar y Gyllideb Ddrafft 2016-17  

    Jane Hutt
  8. Gorchymyn Deddf Tai/Troseddau Difrifol

    Mae'r aelodau wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft o'r Gorchymun Deddf Tai 1985/Troseddau Difrifol 2016.

    Mae'r gorchymyn hwn yn ychwanegu troseddau caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu mewn pobl a gyflwynwyd gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Modern 2015 i’r rhestr o droseddau difrifol yn Atodlen 2A y Ddeddf Tai 1985.

  9. Cymeradwyo rheoliadau ar y Gymraeg

    Mae aelodau'r Cynulliad wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft  o Reoliadau Safonau'r Gymraeg.

  10. Rheoliadau Safonau'r Gymraeg - y drafodaeth

    Fe fyddai'r Rheoliadau yn gwneud y safonau'n benodol gymwys i’r 32 sefydliad ar dudalen 2 y ddogfen hon:

    Nod y safonau :

    Gwella'r gwasanaethau Cymraeg y gall siaradwyr Cymraeg eu disgwyl gan sefydliadau

    : annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg yn fwy

    : ei gwneud yn glir i sefydliadau'r hyn y mae angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg

    : sicrhau cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff sydd yn yr un sectorau a'r un ardaloedd daearyddol.

  11. Trafodaeth ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg

    Ar ôl i Gomisynydd y Gymraeg gyhoeddi ym mis Medi pa wasanaethau y bydd disgwyl i gynghorau gynnig yn yr iaith, mae gwaith ymchwil gan Newyddion9 y BBC wedi awgrymu y bydd o leia' 15 awdurdod lleol yn gwrthwynebu'r safonau.

  12. Mesur Undebau Llafur - 'mater i Weinidogion Cymru'

    Dywed Carwyn Jones iddo dderbyn llythr gan Brif Weinidog Prydain David Cameron ym mis Hydref yn dweud mai mater i Weinidogion Cymru oedd y Mesur Undebau Llafur. Nawr mae Mr Jones yn gofyn a oedd Mr Cameron wedi gweld y cyngor cyfreithiol sydd bellach wedi dod i sylw'r cyhoedd. Os oedd e, mae Carwyn Jones yn awgrymu bod y llythr yn gamarweiniol.  

  13. Llythr gyda'r gair "sensitif" yn ymddangos

    Mae Mick Antoniw yn gofyn pa drafodaethau y mae’r prif weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU am y Mesur Undebau Llafur, yn sgil y llythyr gan Weinidog Gwladol y DU dros sgiliau ynghylch symud y mesur ymlaen yng Nghymru?

    Fe ddaeth llythr gan y Gweinidog Sgiliau Nick Boles i sylw'r Wasg yr wythnos hon dan y teitl "sensitif".

    Mae Llafur wedi dadlau na ddylai'r Mesur Undebau Llafur fod yn berthnasol i wasanaethau sydd wedi eu datganoli - fel iechyd ac addysg.

    Mwy am y stori yma.

  14. Peidiwch "mwmblan"

    Y Llywydd y Fonesig Rosemary Butler yn dweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies i beidio "mwmblan" yn ystod cwestiynau ar Ewrop. 

    Llywydd y Cynulliad
  15. £1.3bn wrth gefn

    Wrth ymateb i gwestiwn gan Leanne Wood, dywed y prif weinidog nad yw hi'n afresymol i'r sector addysg uwch i ymdopi gyda " thoriad bach yn eu cyllideb" pan fo ganddyn nhw £1.3bn wrth gefn.    

    Myfyrwyr
  16. Cyfyngu ar doriadau i gynghorau gwledig?

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn cwestiwn am y setliad llywodraeth leol, ac yn benodol a fydd na newidiadau er mwyn lleihau y toriadau i gynghorau gwledig.

    Dywed y prif weinidog ei fod yn hyderus y bydd y setliad llywodraeth leol yn "deg" er gwaetha "toriadau'r Toriaid" yn San Steffan.

    Andrew RT Davies
  17. Cael gwared o'r stigma am brydiau ysgol am ddim

    Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cyfeirio at yr arian ychwanegol i ddisgyblion tlawd a oedd yn rhan o gytundeb cyllideb rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, ac yn gofyn beth arall sy'n cael ei wneud yn y maes hwn. 

    Mae Carwyn Jones yn dweud bod pethau'n cael eu gwneud i gael gwared o'r stigma ynglyn â phrydiau ysgol am ddim.

    Kirsty Williams
  18. 2,000 yn fwy o feddygon teulu ers 2004

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn a wnaeth y prif weinidog beidio canolbwyntio ar faes iechyd a recriwtio meddygon?

    "Mae ganddon ni 2,000 yn fwy o feddygon teulu ers 2004" meddai'r prif weinidog.

    Leanne Wood
  19. 'Pwysigrwydd amddiffyn' gweithwyr dydd Sul

    Mae Jenny Rathbone yn gofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch i gadw dydd Sul yn arbennig?

    Yn ol y Prif Weinidog mae'n aros am fanylion gan Lywodraeth Prydain ond dywed ei bod hi'n "bwysig i amddiffyn" pobl sy'n gweithio ar y Sul. 

    Carwyn Jones
  20. Croeso nôl

    Fe fydd Cwestiynau'r Prif Weinidog yn dechrau fel arfer am 1.30