Bydd Senedd Fyw nôl ddydd Mawrth 23 Chwefror, ar ôl toriad hanner tymor.
BBCCopyright: BBC
'Enaid cymunedau gwledig'
Ac yn olaf, dadl fer gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.
Y pwnc: Pwysigrwydd ysgolion gwledig: Y modd y mae ysgolion yn enaid cymunedau gwledig.
BBCCopyright: BBC
O blaid y mesur
Mae'r ACau yn cymeradwyo y Mesur Lefelau Staff Nyrsio.
Pwrpas y mesur
Fe wnaeth Kirsty Williams ennill yr hawl i gyflwyno'i chynnig gerbron y Senedd y llynedd.
Fe ddaeth adroddiad Francis i ddiffygion yn Ysbyty Stafford yng nghanolbarth Lloegr i'r casgliad bod prinder staff nyrsio yn ffactor bwysig yn y gofal gwael yn yr ysbyty.
Y diben a nodir ar gyfer y Mesur yw ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau iechyd wneud darpariaeth ar gyfer lefelau diogel o staff nyrsio, a sicrhau bod nyrsys yn cael eu lleoli mewn niferoedd digonol i wneud y canlynol:
galluogi gofal nyrsio diogel i gael ei ddarparu i gleifion bob amser;
gwella amodau gwaith staff nyrsio a staff eraill;
cryfhau atebolrwydd ynglŷn a diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio a rheoli'r gweithlu.
Mesur Lefelau Staff Nyrsio
Amser nawr ar gyfer Dadl Cyfnod 4 y Mesur Lefelau Staff Nyrsio.
Fe fydd yr aelodau yn pleidleisio ar y mesur o fewn tua 15 munud.
BBCCopyright: BBC
'Profiad o ansawdd uchel'
Eluned Parrott o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod angen i bob digwyddiad o bwys gael ei rheoli yn effeithiol a chynllunio trafnidiaeth yn ofalus i sicrhau profiad o ansawdd uchel i ymwelwyr ac i leihau aflonyddwch i drigolion a busnesau lleol.
BBCCopyright: BBC
Parthau cefnogwyr?
Ar ran Plaid Cymru, mae Bethan Jenkins yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru
2. Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n croesawu'r Gemau hynny yn 2026 neu 2030.
3. Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i Gymru, ar gyfer dynion a menywod.
4. Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i ffarwelio â thîm pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr UEFA.
5. Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru fel bod y rhai na allant fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi eu tîm gartref.
BBCCopyright: BBC
Gwerth digwyddiadau mawr
Y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru yw pwnc ail ddadl Plaid Cymru.
Cynigion
Mae Plaid Cymru yn cynnig bod y Cynulliad yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli manyleb a phroses gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, ac yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai gwasanaethau o'r fasnachfraint honno cyn ei datganoli.
Mae'r blaid hefyd yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau masnachfraint Cymru a'r Gororau yn sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau.
BBCCopyright: BBC
Masnachfraint
Masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yw pwnc dadl Plaid Cymru.
Tasglu ar ddarpariaeth athrawon cyflenwi
Dywed Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, "Mae athrawon cyflenwi yn ffurfio rhan sylweddol a phwysig o'r gweithlu athrawon yng Nghymru. Mae'n bwysig bod gennym y strwythurau priodol ar waith i'w cefnogi yn eu rôl."
Cyhoeddodd ei fod yn sefydlu tasglu i edrych ar ddarpariaeth athrawon cyflenwi yn y dyfodol.
Disgyblion afreolus
Yr AC Llafur David Rees yn sôn am brofiad rhai athrawon cyflenwi.
"Rydym wedi gweld nifer o athrawon cyflenwi yn wynebu dosbarthiadau heriol heb ddealltwriaeth o gyd-destun y gwersi.
"Clywaf gan athrawon cyflenwi y gall disgyblion yn aml fod yn afreolus."
BBCCopyright: BBC
Dysgu llai gydag athro cyflenwi
Meddai'r Ceidwadwr Angela Burns AC, "dywedodd 80% o'r disgyblion a ymatebodd i arolwg y pwyllgor eu bod wedi dysgu llai gydag athro cyflenwi nag gyda'u hathro arferol a bod eu hymddygiad yn waeth."
BBCCopyright: BBC
Prif faterion
Roedd y prif faterion a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cynnwys:
defnyddio athrawon cyflenwi o ganlyniad i salwch athrawon a materion cysylltiedig o ran rheoli absenoldeb athrawon parhaol;
cymorth i Athrawon Newydd Gymhwyso sy'n gweithio fel staff cyflenwi; yr effaith bosibl ar ddeilliannau disgyblion o ganlyniad i ddefnyddio athrawon cyflenwi;
prinder athrawon cyflenwi cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael hyfforddiant digonol.
Sut mae'r system yn gweithio?
Fe lenwodd tua 1,500 o bobl arolwg ar gyfer yr adroddiad i greu darlun o sut mae'r system yn gweithio.
Y casgliad oedd bod 30% o ddisgyblion yn cael eu dysgu gan athro cyflenwi gwahanol bob tro.
Dywedodd 80% bod disgyblion yn dysgu llai gyda'r absenoldeb yn arwain at ymddygiad plant yn gwaethygu.
Mae'r pwyllgor wedi dweud bod diffyg data dibynadwy ar gyfer y rhesymau am absenoldebau salwch athrawon.
Roedd hyn yn dilyn adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn ynglŷn ag absenoldeb athrawon, oedd yn amcangyfrif bod ychydig yn llai na 10 y cant o bob gwers yn cael eu cyflwyno gan staff heblaw athro arfer y dosbarth.
Athrawon cyflenwi: 'Angen gwella' trefn ddarparu
Mae Aelodau'r Cynulliad nawr yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith athrawon cyflenwi.
Dyw'r system bresennol ddim yn gweithio'n ddigon da ac fe ddylai gael ei hadolygu, meddai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
Un asiantaeth sy' â chytundeb i Gymru gyfan ar hyn o bryd.
Ond mae adroddiad y pwyllgor wedi rhybuddio y dylai'r llywodraeth ystyried modelau eraill ar gyfer llenwi'r bylchau yn sgil absenoldeb athrawon.
BBCCopyright: BBC
'Bancio yn fater i lywodraeth y DU'
Gweinidog yr Economi Edwina Hart yn dweud ei bod yn deall y pryderon a godwyd yn y Siambr, ond bod "bancio yn fater i lywodraeth y DU."
BBCCopyright: BBC
Cymunedau gwledig
Darren Millar AC yn dweud bod cymunedau gwledig yn cael eu heffeithio llawer mwy na llawer o gymunedau trefol gan gau canghennau banc.
Dywed "pan mae cangen yn cau mewn cymuned ble mai dyna'r gangen olaf yn y gymuned honno, mae gan bobl lawer ymhellach i deithio er mwyn cael mynediad at wasanaethau bancio."
Y cynnig
Mae nhw'n cynnig bod y Cynulliad:
1. Yn gresynu at nifer y canghennau banc sydd wedi'u cau yng Nghymru ac, yn arbennig, pa mor aml y mae canghennau yn cael eu cau hyd yn oed os mai'r gangen banc yw'r banc olaf yn yr ardal.
2. Yn galw ar fanciau i ystyried effaith cau canghennau banc ar gymunedau trefol a gwledig ac unigolion, yn enwedig pobl hŷn a busnesau bach, cyn i benderfyniadau terfynol ar gau gael eu gwneud.
3. Yn galw ar fanciau i gynnal ymgynghoriad ystyrlon, gan gynnwys sefydliadau cymunedol lleol, sefydliadau pensiynwyr a grwpiau busnes cyn dod i benderfyniadau terfynol ar gau canghennau, yn enwedig pan y gangen banc dan sylw yw'r unig un sydd ar ôl yn yr ardal.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau eu bod yn ystyried effaith cau canghennau banc wrth lunio eu polisïau perthnasol ar wasanaethau ariannol, datblygu economaidd a rheoleiddio ariannol.
Cau canghennau banc
Nesaf mae dadl gynta'r prynhawn - dadl gan aelodau unigol. Julie Morgan o'r Blaid Lafur, Elin Jones Plaid Cymru, Darren Millar o'r Blaid Geidwadol ac Aled Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Nos da
Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.

Mae'r ddadl am gau canghennau banc yng Nghymru.