a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. 9am: Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
  2. Y Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, gyda chwestiynau i'r prif weinidog.
  3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
  4. Y diweddaraf am y Rhaglen Buddsoddi i Arbed.
  5. Trafod rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir.
  6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn.
  7. Dadl ar Fesur Iechyd Meddwl.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Nos da

A dyna ni am heddiw.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Menter a Busnes.

Y Senedd
BBC

Rhestrau aros gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

Yn ôl Elin Jones mae rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn "annerbyniol o hir". Yn ôl Aled Roberts mae'r targedau amseroedd aros yn golygu nad yw'r amser aros hir mae rhai yn gorfod eu wynebu ar gyfer therapi seicolegol yn aml yn amlwg.

80,000 o bobl

Yn ôl  Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl, mae “creu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol wedi golygu bod dros 80,000 o bobl wedi cael asesiad cyfannol o'u hanghenion iechyd meddwl a thros 42,000 o bobl wedi cael ymyrraeth therapiwtig ers mis Ebrill 2013”.

Un o'r mesurau pwysicaf?

Pan gafodd y Mesur ei gymeradwyo gan y Cynulliad ar 2 Tachwedd 2010, dywedodd y Llywydd ar y pryd, Dafydd Elis-Thomas, mai dyna un o'r mesurau pwysicaf hyd hynny. 

Mesur Iechyd Meddwl

Yn rhyfeddol o gynnar, mae'r aelodau wedi cyrraedd yr eitem olaf, sef Dadl ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 - Dyletswydd i Adolygu - Adroddiad Terfynol.

Dosbarthiadau llai ar gyfer babanod

Aled Roberts o'r farn "fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn".  

Aled Roberts
BBC

Bwlch cyrhaeddiad

Mae'r Ceidwadwr Angela Burns wedi galw ar i fwy i gael ei wneud i leihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad, rhwng disgyblion ysgolion uwchradd sydd yn derbyn prydau bwyd am ddim, a'u cyfoedion. 

Angela Burns
BBC

Tâl gwell i rai athrawon?

Yn ôl Simon Thomas o Blaid Cymru, fe fyddai talu "premiwm i athrawon sydd a chymwysterau uchel, ag sydd yn parhau â'i datblygiad proffesiynnol, yn gwneud gwelliant o ran codi safonau addysgu."

Simon Thomas
BBC

Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn

Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn.  

Mae safon y dysgu yn ysgolion Cymru yn dal i amrywio, yn ôl Estyn.

Roedd yr adroddiad yn edrych ar y flwyddyn academaidd 2014-15 a buon nhw'n arolygu 227 (17%) o ysgolion cynradd a 37 (18%) o ysgolion uwchradd.

Ond nododd yr adroddiad hefyd fod yna enghreifftiau o welliannau mewn rhai meysydd.

Er hynny, dywedodd Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands, fod yna wahaniaeth rhwng y darparwyr addysg gorau a'r rhai gwanaf.

Ond mae'n dweud nad y ffactorau economaidd yw'r ffactor bwysicaf wrth edrych ar y sefyllfa, gan fod rhai o'r ysgolion a chanolfannau dysgu gorau mewn ardaloedd difreintiedig.

addysg
BBC

Llond Ceg

Mae gan yr eitem nesaf deitl cymhleth - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir.

Llond ceg o deitl, ond fe wnaeth y Llywydd lwyddo i'w ynganu heb faglu.

Buddsoddi i Arbed

Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn cyhoeddi cymorth ar gyfer nifer o brosiectau o dan yr 11fed cylch ceisiadau y gronfa Buddsoddi i Arbed

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gronfa yn “cefnogi cyflwyno ffyrdd newydd neu ffyrdd wedi'u profi o weithio fel bod gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac effeithiol”.

Mae angen ad-dalu’r holl fuddsoddiadau a wneir o’r gronfa, ond ni chodir llog ac mae’r cyfnod ad-dalu yn hyblyg. 

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Ymhlith y pynciau gafodd eu codi mewn ymateb i Gyhoeddiad Busnes Jame Hutt, oedd dyfodol amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy, gwasanaethau ar gyfer pobl gyda anhwylderau bwyta, cyhuddiadau o oedi o ran y Cynllun Taliadau Sylfaenol ar gyfer ffermwyr a pha mor aml mae casgliadau biniau yn cael eu cynnal. 

Amgueddfa Lloyd George
Google
Amgueddfa Lloyd George

'Gwahoddiad i neidio oddiar ddiwedd clogwyn'

Wrth ymateb i gyhoeddiad gan Andrew RT Davies ei fod yn bwriadu pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, dyweddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae ffermio yng Nghymru yn derbyn dros £200m y flwyddyn o grantiau. O ble ddaw'r arian yna yn y dyfodol? Ni all yr arian ddod gan Lywodraeth Cymru, mae'n ormod i ni allu ei fforddio.

"Mae ffermwyr Cymru yn gwybod lle mae nhw ar hyn o bryd, a fyddan nhw ddim yn cael eu perswadio i neidio oddi ar ddiwedd clogwyn tra'n gobeithio fod rhwyd ar yr ochr arall, fel mae arweinydd yr wrthblaid yn galw arnyn nhw i wneud."

Andre RT Davies
BBC

'Rhoi taw ar honiadau'

Yn ôl y prif weinidog mae adroddiad diweddar gan Sefydliad yr OECD ar adolygiad o ansawdd gofal iechyd ym Mhrydain yn rhoi taw ar honiadau bod un gwasanaeth iechyd mewn rhan o'r Deyrnas Unedig yn well na'r lleill. 

Daeth adroddiad yr OECD i'r casgliad bod yna ymrwymiad clir a chyson i ansawdd y gofal yn y pedair system iechyd ym Mhrydain.

Ysbyty
Thinkstock

'Digon cadarn i atal pobl rhag tipio gwastraff'

Mater i awdurdodau lleol yw hi pa mor aml mae nhw'n casglu biniau, medd y prif weinidog, ond mae angen i'r system fod yn ddigon cadarn fel nad yw pobl yn gadael gwastraff yn anghyfreithlon.   

Roedd Carwyn Jones yn ymateb i gwestiwn gan AC Gorllewin Clwyd,

Darren Millar. 

Tipio gwastraff
BBC

Tryloywder llywodraeth

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cyfeirio at dryloywder llywodraeth. Mae'n gofyn a fydd na gofrestr yn cael ei sefydlu yn ymwneud a chyfarfodydd rhwng gweinidogion a grwpiau anlywodraethol.  

Mae hefyd yn galw am gael gwared o'r system o arweinwyr pleidiau yn dewis cadeiryddion pwyllgorau. 

Yn ol y prif weinidog y grwp Llafur yn ei gyfanrwydd sy'n dewis cadeiryddion pwyllgorau. Ond dywed bod ei hawgrym ar y cadeiryddion yn " syniad diddorol .. sy'n werth ei ystyried."

Kirsty Williams
BBC

Ddim yn ymwybodol bod cleifion yn diodde

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn gofyn am sefyllfa recriwtio meddygon teulu yn y Gogledd, ac yn awgrymu bod y prif weinidog yn anghywir wrth ddweud nad oes yna argyfwng.

Yn ol y prif weinidog dyw e ddim yn ymwybodol bod cleifion yn dioddef oherwydd y sefyllfa, ond mae'n derbyn eu bod hi'n her i recriwtio meddygon teulu.

Leanne Wood
BBC
Leanne Wood

'Lefel di-gynsail o ofynion ar Adrannau Achosion Brys'

Mae yna "lefel di-gynsail o ofynion ar Adrannau Brys" ond dyw byrddau iechyd ddim wedi gofyn am ragor o adnoddau. Dyna ymateb y prif weinidog i gwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies wrth iddo ofyn beth mae'r llywodraeth wedi ei wneud i asesu'r sefyllfa. 

Carwyn Jones
BBC
Carwyn Jones

Croeso nôl

Bydd Cwestiynau i'r Prif Weiniog yn dechrau am 1.30pm.

Hwyl

Mae'r pwyllgor bellach yn cyfarfod yn breifat.

Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

Camau disgyblu yn dilyn achos RIFW?

Mae Darren Millar yn gofyn a gafodd unrhyw gamau disgyblu eu cymryd mewn cysylltiad â Chronfa Fuddsoddi Cymru mewn Adfywio - RIFIW.    

"Dyn ni ddim yn siarad am achosion unigol" oedd ateb David Richards.

Daeth adroddiad y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus i'r casgliad bod na wendidiau yn y modd y gwnaeth y llywodraeth oruchwylio RIFIW.

Fe wnaeth y prif weinidog ymddiheuro wrth aelodau cynulliad ar ol i'r adroddiad ddweud bod y trethdalwyr wedi colli degau o filiynau o bunnau wrth i dir a oedd yn eiddo i'r cyhoedd gael ei werthu.

Mwy am y stori yma.

RIFIW
BBC

Atebolrwydd gweinidogion a gweision sifil dan sylw

Mae yna drafodaeth am waith y pwyllgor yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.

Mae atebolrwydd gweinidogion a gweision sifil dan sylw wrth i nifer o aelodau gyfeirio at achos gwesty River Lodge. 

Cafodd dros £1 miliwn o arian cyhoeddus ei wastraffu pan brynodd y y llywodraeth y gwesty yn Llangollen i'w droi i fod yn ganolfan crefft ymladd gymunedol, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru.  

Dywedodd y Swyddfa nad oedd gwesty River Lodge yn werth yr £1.6 miliwn a dalodd y llywodraeth amdano, a beirniadwyd rôl a chwaraeodd gwas sifil yn y prosiect.  

'Unrhyw dwyll sylweddol yn achos o bryder'

Dywed Syr Derek nad yw am fentro rhoi ffigwr am y colledion posib. Mae'r llywodraeth meddai yn rhoi rhwng £500m a £600m y flwyddyn mewn grantiau i'r sector breifat.

Mae llai na 1% o'r arian hwnnw yn cael ei ddileu meddai, oherwydd twyll neu resymau eraill.

Yn ôl Mr Millar "mae arian o fewn y sector gyhoeddus yn dynn ar y funud. Byddai unrhyw dwyll sylweddol yn achos o bryder i'r trethdalwyr". 

Y peryg yn dipyn llai

Yn ôl Syr Derek Jones mae'r llywodraeth yn derbyn tua 19,000 o geisiadau unigol am grantiau yn flynyddol.

Dywedodd mai'r cam cynta mewn ymchwiliad yw rhoi gwybod i'r heddlu.

Gofynnodd cadeirydd y Pwyllgor Darren Millar am sicrwydd na fyddai yna achos arall fel un y cyn-elusen lleiafrifoedd ethnig Awema. 

Dywedodd Syr Derek y byddai'n fyrbwyll i warantu na fyddai yna "achos anodd" arall, ond roedd y peryg o hynny, meddai yn llawer llai. 

Darren Millar
BBC
Darren Millar

Achosion o dwyll honedig

Yn ôl Syr Derek Jones, prif was sifil Cymru, mae yna ymchwiliad i dri achos o dwyll honedig dros y 12 mis diwetha, yn ymwneud â "grantiau sylweddol".  

Ond dywed y dylai'r cyhoedd fod yn sicr bod llywodraeth Cymru yn wyliadwrus ac "na ddylen nhw bryderu".

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru a Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru
BBC
David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu, Llywodraeth Cymru a Syr Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru

Bore da

Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn dechrau am 9.

Mae prif was sifil Cymru, Syr Derek Jones, o flaen y pwyllgor y bore ‘ma. Rheoli Grantiau yng Nghymru yw’r pwnc cyntaf dan sylw.

Yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2015 ar Reoli Grantiau dywed Syr Derek Jones, “mae pethau’n mynd o’i le o bryd i’w gilydd ac rydym yn parhau i wynebu achosion lle na chaiff yr arian cyhoeddus a gaiff ei ddyrannu i dderbynwyr ei ddefnyddio’n briodol”.

Tybed a fydd cwestiynau ar hyn?

Y Senedd
BBC