a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    A dyna gwblhau Cyfnod 3 o'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

    Y Senedd
  2. Newidiadau allweddol

    Mae'r ddogfen hon yn cyfleu rhai o'r newidiadau allweddol i'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi yn ystod Cyfnod 2.

  3. Dim newid i'r enw Awdurdod Cyllid Cymru

    Mae Nick Ramsay yn cyfaddef iddo ei gor-wneud hi wrth gyflwyno dros 500 o welliannau ynghylch enw'r corff newydd sef, Awdurdod Cyllid Cymru.

    Methodd ymgais Mr Ramsay i'w ail-enwi'n Refeniw Cymru. Yn ôl y gweinidog Jane Hutt, byddai newid yr enw "yn ddryslyd ac yn anghynhyrchiol".

  4. Cyfnod 3 y Mesur Casglu a Rheoli Trethi

    Diben y mesur yw cyflwyno'r fframwaith cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol.

    Yn benodol, mae'r mesur yn darparu ar gyfer sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), a'i brif waith fydd casglu a rheoli trethi datganoledig.

  5. Dim gwrthwynebiad

    Mae'r cynnig ar fersiwn drafft o'r Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 wedi'i gymeradwyo.

  6. Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru

    Mae’r aelodau yn symud ymlaen i drafod a phleidleisio ar fersiwn drafft o'r Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016.

    Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru gyda'r nod o “helpu'r diwydiant amaeth i weithredu'n broffesiynol”.

  7. Datganoli cyflog a thelerau athrawon

    Mae'r prif weinidog yn dweud ei fod wastad o'r farn y dylai cyflog a thelerau athrawon gael eu datganoli.

    Mae hynny'n rhywbeth y mae Stephen Crabb yn ei ystyried ar hyn o bryd.

  8. 'Y broses yn ddiffygiol'

    Dywed y prif weinidog "Mae ganddom gyfle nawr - os yw'r ewyllys yn wirioneddol yno - i drwsio'r difrod a wnaed gan y broses ddiffygiol i gyflwyno deddfwriaeth sy'n wirioneddol gwerth chweil".

    Yn ôl Mr Jones nid yw wedi cynnal urhyw drafodaethau gyda Stephen Crabb ers i ysgrifennydd Cymru gyhoeddi ddoe ei gynlluniau newydd ar gyfer mwy o ddatganoli.

    Mae Mr Crabb wedi dweud y byddai'r rhestr o bwerau sy'n cael eu cadw'n ôl gan San Steffan yn cael eu lleihau, gan hefyd addo y byddai'n ystyried ffyrdd gwell o adlewyrchu Cymru o fewn y system gyfreithiol.

    Cafodd ei gynigion gwreiddiol eu beirniadu'n chwyrn am fod yn rhy gymleth ac awgrymiadau bod y rhestr o bwerau a gedwir yn ôl, yn rhy hir.

    Stephen Crabb
  9. Datganiad gan y Prif Weinidog ar Fesur Drafft Cymru

    Mae'r aelodau wedi symud ymlaen i ddatganiad y prif weinidog ar Fesur Drafft Cymru.

  10. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Ar ol Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Jane Hutt yn amlinelli busnes y Cynulliad yn y dyfodol, mae'r aelodau yn codi nifer o faterion yn cynnwys Diwrnod Llyfr y Byd, y broses o benodi cadeirydd newydd ar gyfer Cyngor y Celfyddydau a neges Gwyl Ddewi y gofodwr Tim Peake.  

  11. Taclo amseroedd aros am driniaethau canser

    Beth sy'n ei wneud i daclo amserau aros am driniaethau canser yng Nghanol De Cymru - dyna gwestiwn  Andrew RT Davies. 

    Yn ol y prif weinidog mae'r amseroedd aros yng Nghymru ar gyfer triniaethau o'r fath yn gyson yn well na'r sefyllfa yn Lloegr.

  12. 'Mae'n her i recriwtio meddygon teulu'

    Wrth ymateb i gwestiwn gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams, mae'r prif weinidog yn cyfaddef ei bod hi'n her i recriwtio meddygon teulu mewn rhannau o Gymru.

    Kirsty Williams
  13. Diwedd 'enwau llefydd gwych'

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn cwestiwn am ad-drefnu llywodraeth leol a diwedd "enwau llefydd gwych" y siroedd presennol.

    Dywed y prif weinidog mai ei fwriad yw bwrw mlaen a'r cynlluniau ad-drefnu a mae'n awgrymu bod Mr Davies eisioes yn awgrymu na fydd e'n ennill yr etholiad. 

    Andrew RT Davies
  14. Beth ydych chi wedi ennill i Gymru gan San Steffan?

    Yn ôl arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood mae'r etholiad yn gyfle i ofyn am fandad ar ddyfodol datganoli.

    Mae Mr Jones yn dweud ei fod e a hi ar yr un ochr pan yn sôn am Fesur Cymru.

    Beth ydych chi wedi ennill i Gymru gan San Steffan, gofyna Ms Wood.

    Mae'r prif weinidog yn cyfeirio at refferendwm 2011.

    Leanne Wood
  15. 'Buddsoddiad arwyddocaol'

    Mae'r prif weinidog yn dadlau bod y Gronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd wedi denu buddsoddiad arwyddocaol.

    Deellir bod y fenter wedi creu dros 150 o swyddi sgiliau uchel yng Nghymru.

    Carwyn Jones
  16. Beirniadaeth o gronfa wyddoniaeth £50m

    Mae'r aelod Ceidwadol William Graham a'r Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts yn cyfeirio at feirniadaeth o'r modd y gwnaeth llywodraeth Cymru sefydlu a rheoli cronfa fuddsoddi biotech gwerth £50m.

    Fe gafodd Cronfa Gwyddorau Bywyd Cymru ei sefydlu yn 2012 er mwyn denu rhagor o gwmniau meddygol a fferyllol i symud i Gymru.

    Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru dylai gweinidogion fod wedi delio yn fwy cadarn gyda'r posibilrwydd o achosion o wrthdaro buddiannau.

  17. Croeso nôl

    Bydd cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dechrau fel arfer am 1.30pm.

  18. Hwyl

    Mae'r pwyllgor bellach yn cyfarfod yn breifat.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

  19. 'Gwella'n ara' ar eu cyfrifon

    Pan ofynwyd i'r archwilydd cyffredinol Huw Vaughan Thomas am y modd y mae llywodraeth Cymru yn cyflwyno eu cyfrifon dywed eu bod yn parhau i wella'n raddol wrth geisio cael eu cyfrifon yn fwy dealladwy. 

    Huw Vaughan Thomas