Bydd y bleidlais derfynol ar Fesur Iechyd y Cyhoedd yr wythnos nesaf.
Os bydd y mesur yn cael ei basio, gallai'r gwaharddiad ar e-sigaréts mewn rhai mannau cyhoeddus ddod i rym erbyn gwanwyn 2017 ar y cynharaf.
Bydd Senedd Fyw nôl yfory ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes.
BBCCopyright: BBC
Triniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff
Gan gyfeirio at yr adran ar "driniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff", dywed Darren Millar "Dydw i erioed wedi defnyddio Google gymaint mewn cyfarfod i ymchwilio i dermau neu wedi gweld cynifer o luniau erchyll".
BBCCopyright: BBC
Ymestyn cyrhaeddiad y gwaharddiad
Mae ACau wedi pleidleisio i ymestyn cyrhaeddiad y gwaharddiad i gwmpasu nifer o leoliadau eraill, gan gynnwys siopau, llyfrgelloedd cyhoeddus, a lleoliadau adloniant megis sŵau a sinemâu.
Mae tafarnau nad ydynt yn gweini bwyd yn cael eu heithrio'n benodol, fel y mae sefydliadau rhyw, casinos, siopau betio, canolfannau hapchwarae oedolion, mangreoedd gyda thrwydded bingo, manwerthwyr arbenigol o e-sigaréts, ac ystafelloedd ymgynghori fferylliaeth.
Gwelliannau'r llywodraeth
Mae gwelliannau'r llywodraeth ar gyfer "mangreoedd ac ardaloedd di -ddyfais mewnanadlu nicotin ychwanegol", gan gynnwys meysydd a chanolfannau chwaraeon, a meysydd chwarae cyhoeddus, yn cael eu pasio.
Cymeradwyo gwelliant gan Darren Millar
Mae'r aelodau yn cymeradwyo gwelliant gan Darren Millar heb wrthwynebiad:
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad o weithrediad darpariaethau’r Bennod hon i’r graddau y maent yn gymwys i’r defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin, gyda golwg ar geisio asesu eu heffaith ar iechyd pobl Cymru ac yn benodol eu heffaith ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin gan blant ac ar ysmygu gan blant.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad erbyn diwedd y cyfnod o bedair blynedd fan bellaf.
Gwelliant Kirsty Williams
Mae'r gwelliant gafodd ei gynnig gan Kirsty Williams, fyddai wedi taflu holl gynlluniau y Llywodraeth ar e-sigarennau, wedi cael ei guro, o 35 pleidlais i 25.
Mae'n debygol y bydd y cyfyngiadau yn dod i rym, ac mae'r drafodaeth ar y cynigion eraill yn dal i gael eu trafod.
'Blacmelio'
Dywedodd Jocelyn Davies o Blaid Cymru, "Dwi'n credu ein bod ni wedi cael ein blacmelio i gefnogi'r Llywodraeth ar e-sigarennau, drwy ddefnyddio pethau positif eraill o fewn y mesur na fyddai unrhyw un yn y siambr yn mynd yn eu herbyn."
BBCCopyright: BBC
Seidr dan byst clwb rygbi
Dywedodd Kirsty Williams "dyw'r gweinidog heb allu fy mherswadio...fod pobl yn defnyddio teclynnau mewnanadlu nicotin fel dechreubwynt i ddefnyddio tobacco."
Ychwanegodd, "fe fydd pobl ifanc yn arbrofi...roeddwn i yn arfer yfed potel o seidr dan byst clwb rygbi Bynea."
Cyfnod 3 Mesur Iechyd y Cyhoedd
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ei fod yn camu'n ôl rhag gweithredu cynllun i wahardd y defnydd o e-sigarets mewn pob man cyhoeddus caeedig yng Nghymru.
Yn hytrach na gwneud hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygiadau i'r Mesur Iechyd Cyhoeddus fydd yn golygu gwahardd ar e-sigarets mewn mannau cyhoeddus penodol - fel ysgolion, bwytai a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Mark Drakeford ym mis Rhagfyr er ei fod o blaid gwahardd e-sigarets mewn pob man cyhoeddus, roedd yn deall fod ganddo gyfrifoldeb fel aelod o'r llywodraeth heb fwyafrif i "greu cytundeb".
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Cymeradwyo'r Gyllideb Derfynol
Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn dweud eu bod hi'n dymuno gallu dweud fod yr 'amser caled drosodd', ond mae hi'n ofni bydd rhagor o doriadau o fewn cyllideb San Steffan yr wythnos nesaf.
Dywedodd y Ceidwadwr Nick Ramsay fod y newidiadau i'r gyllideb derfynol yn 'rhy ychydig yn rhy hwyr'.
Mae Alun Ffred Jones o Blaid Cymru yn croesawu'r ffaith fod nifer o doriadau oedd i fod i ddigwydd i addysg uwch, yn cael eu dileu.
Cafodd y gyllideb gefnogaeth 28 aelod, gyda 5 aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn atal eu pleidlais, a 22 (y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru) yn erbyn.
Dadl ar Ail Gyllideb Atodol 2015-16
Ar 9 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi penderfynu peidio bwrw mlaen â rhai o'r toriadau oedd wedi eu cynllunio ar gyfer addysg uwch a chynghorau.
Roedd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn wynebu £42m yn llai, oedd yn rhyw draean o'i gyllideb.
Mewn dadl ar gyllideb ddrafft 2016-17, dywedodd y gweinidog cyllid, Jane Hutt, wrth Aelodau Cynulliad na fydd £31m o'r toriadau hynny'n digwydd bellach.
Bydd Powys, Ceredigion a Sir Fynwy yn rhannu £2.5m yn ychwanegol ar ôl cael toriadau o dros 3% yn wreiddiol.
BBCCopyright: BBC
Cymeradwyo'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi
Mae'r aelodau yn cymeradwyo'r Mesur Casglu a Rheoli Trethi.
Mae’r mesur yn sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), a’i brif waith fydd casglu a rheoli trethi datganoledig.
Cafodd y cynllun i ddangos sut y bydd Cymru'n casglu a rheoli ei threthi ei hun am y tro cyntaf ers 800 mlynedd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt ar 23 Medi 2014.
Mae pwerau dros drethi busnes, treth stamp a threthi tirlenwi yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.
Dyma fydd y trethi cyntaf i gael eu pennu a'u codi yng Nghymru ers y 13eg ganrif.
'Digwyddiad nid proses'
Meddai Prif Weinidog Cymru, "fy ngobaith yw y bydd cyflwyno'r setliad mewn un ddogfen yn galluogi pobl yng Nghymru i gael dealltwriaeth lawer cliriach o ddatganoli a sut mae'n gweithio.
"A byddai galw'r lle hwn yn Senedd yn gymorth i ddealltwriaeth".
Ychwanegodd, "Rydym wedi treulio gormod o amser yn siarad am gwestiynau cyfansoddiadol. Gadewch i ni yn awr wneud datganoli Cymreig yn ddigwyddiad, nid yn broses".
Fersiwn wahanol o fesur drafft Cymru
Mae Carwyn Jones wedi gwneud datganiad i esbonio pam iddo gyhoeddi fersiwn wahanol o fesur drafft Cymru gyda'r nod o ddarparu ateb cyfansoddiadol "sefydlog, hir ei barhad".
Dywedodd y Prif Weinidog y byddai cynigion Llywodraeth Cymru yn "osgoi blynyddoedd o ymrafael cyfansoddiadol" yn y dyfodol.
Yn ôl y gweinidog cyllid Jane Hutt, mae llywodraeth Cymru mewn cyswllt gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil a LinksAir, oherwydd bod cwsmeriaid dalodd am docynnau i hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd gyda LinksAir yn dal i ddisgwyl am eu harian yn ôl, er i'r cwmni roi'r gorau i gynnal y gwasanaeth ddiwedd Ionawr.
BBCCopyright: BBC
Aston Martin
Mae'r swm gafodd ei wario i ddenu Aston Martin i dde Cymru yn gyfrinachol, oherwydd natur fasnachol y cytundeb, yn ôl y Prif Weinidog.
BBCCopyright: BBC
Torri addewid etholiad?
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn dweud ei bod hi'n poeni am ymateb 'diystyriol' y Prif Weinidog i adroddiad yr ombwdsmon.
Yn ôl Ms Wood, does dim un feddygfa yn cynnig apwyntiadau ar ôl 6:30pm yn ardaloedd y pedwar bwrdd iechyd, gan dorri addewid etholiad.
Atebodd Mr Jones drwy ddweud fod mwy o feddygfeydd yn agored dros y penwythnos a hefyd fin nos ers 2011.
BBCCopyright: BBC
'Ddim yn dystiolaeth o fethiant systemig'
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn dweud fod angen ei gwneud hi'n glir i ddarpar-ddoctoriaid bod cefnogaeth ddigonol, a hyfforddiant, ac yn y blaen, yn bodoli yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Yn ôl y Prif Weinidog, doedd yr achosion yn adroddiad yr ombudsman "ddim yn dystiolaeth o fethiant systemig".
BBCCopyright: BBC
Galw am ymchwiliad manwl
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, yn galw am ymchwiliad manwl i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, un tebyg i ymchwiliad Keogh yn Lloegr.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru mae hynny yn awgrym dadleuol gan Mr Davies, o gofio'r streic doctoriaid iau yn Lloegr.
BBCCopyright: BBC
'Rhestrau aros yn lleihau'
Llyr Gruffydd yn holi am y gwariant ar staff asiantaeth y GIG.
Mae'r prif weinidog yn dweud bod rhestrau aros yn lleihau.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Nos da

Daw hyn wedi i'r Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb ddweud y bydd "newidiadau sylweddol" i fesur drafft Cymru yn dilyn beirniadaeth o'i gynnwys.
Hedfan rhwng Ynys Môn a Chaerdydd