a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Janet Ebenezer

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Nos da

    Dyna ni am heddi. Bydd Senedd Fyw yn ol yfory ar gyfer sesiwn lawn olaf y tymor. 

    Y Senedd gyda'r nos
  2. Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016 yn cael eu gwrthod

    Mae'r aelodau wedi gwrthod Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 3) 2016. 

    Roedd 26 aelod o blaid, 26 yn erbyn gyda phleidlais fwrw y Dirprwy Lywydd yn erbyn. 

    Cafodd Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 4) 2016 a Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 5) eu cymeradwyo.

    Fe fyddai Rheoliadau rhif 3 wedi gwneud y safonau'n benodol gymwys i’r 27 sefydliad canlynol, gan alluogi Comisiynydd y Gymraeg i roi Hysbysiadau Cydymffurfio i'r sefydliadau hynny mewn perthynas â'r safonau a bennwyd: 

    • Coleg Ceredigion; 
    • Coleg Sir Gâr 
    • Coleg Caerdydd a'r Fro; 
    • Coleg Cambria; 
    • Coleg y Cymoedd; 
    • Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant; 
    • Coleg Gŵyr Abertawe; 
    • Coleg Gwent; 
    • Coleg Penybont; 
    • Coleg Sir Benfro; 
    • Grŵp Llandrillo-Menai; 
    • Grŵp NPTC; 
    • Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig; 
    • Prifysgol Abertawe; 
    • Prifysgol Aberystwyth; 
    • Prifysgol Bangor; 
    • Prifysgol Caerdydd;
    • Prifysgol Cymru; 
    • Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant; 
    • Prifysgol De Cymru; 
    • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Cyfyngedig; 
    • Prifysgol Glyndŵr; 
    • Prifysgol Metropolitan Caerdydd; 
    • Y Brifysgol Agored; 
    • WEA YMCA CC Cymru; 
    • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; a 
    • Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig.  
  3. Rheoliadau Safonau Iaith Gymraeg

    Prif Weinidog Carwyn Jones yn gofyn am gymeradwyaeth i nifer o Reoliadau Safonau Iaith Gymraeg, sy'n nodi: 

    • safonau cyflenwi gwasanaethau 
    • safonau llunio polisi 
    • safonau gweithredu; a 
    • safonau cadw cofnodion 

     Yn ôl AC y Ceidwadwyr Suzy Davies, Simon Thomas o Blaid Cymru a'r Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts, mae'r "oedi" wrth gyflwyno'r rheoliadau hyn wedi ei gwneud yn anodd i ACau graffu arnynt yn ddigonol.

    Dywedodd Suzy Davies, "Tra bu distawrwydd ar orchmynion rhif 4 a 5 oherwydd diffyg ymgynghori cyhoeddus, fe wnaeth cynrychiolwyr myfyrwyr oresgyn y diffyg gwahoddiad i ymgynghori a nodi yn rhagweithiol eu pryderon am orchymyn rhif 3 yn eu llythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn arbennig bod y safonau yn cynnig llai o gyfle i siaradwyr Cymraeg na chynlluniau iaith Gymraeg sydd eisoes yn bodoli".  

    Yn ôl Simon Thomas: "Mae’r ffaith bod tri set o safonau wedi eu rhoi o flaen y Cynulliad ar yr wythnos olaf, heb lawer o gyfle ar gyfer craffu arnynt, yn annerbyniol pan mae’r llywodraeth wedi cael pum mlynedd i wneud hyn".

  4. Prynu gorfodol

    Yn ôl Carl Sargeant mae Brandon Lewis AS, y Gweinidog Gwladol dros Dai a Chynllunio yn yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol, wedi dweud wrtho nad yw prynu gorfodol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

    "Yr wyf yn anghytuno ag ef ar y pwynt hwn - mae prynu gorfodol yn ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli", meddai Mr Sargeant.

    Felly nid yw'r gweinidog yn cefnogi ei gynnig ei hun bod:

    "bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru".

  5. Sesiwn Lawn 316

    Oes unrhyw un o ffyddloniaid Senedd Fyw wedi cyfri sawl sesiwn lawn sydd wedi'i chynnal yn ystod y pedwerydd Cynulliad

    Wel, sesiwn heddi yw rhif 316 a'r sesiwn lawn ola yfory yn rhif 317. 

    Dyma'r cwestiwn cyntaf ar 25/5/11: 

     Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'n bwriadu amddiffyn pobl Cymru rhag toriadau Llywodraeth y DU i wariant. OAQ(4)0012(FM)

  6. Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014

    Mae Kirsty Williams yn mynegi pryder am addasiadau i adran 53 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, yn benodol mewnosod: 

     "Rhaid i reoliadau a wneir o dan adrannau 50 a 51 bennu bod rhaid i daliadau uniongyrchol i dalu'r gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu gwasanaethau ôl-ofal o dan adran 177 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôlofal) gael eu gwneud ar raddfa y mae'r awdurdod lleol yn amcangyfrif ei bod yn gyfatebol i'r gost resymol o sicrhau'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny i ddiwallu'r anghenion hynny."

    Mae'n gofyn os yw'r llywodraeth yn gweud tro pedol ar ymrwymiadau ar daliadau uniongyrchol. 

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford bod yr addasiadau yn darparu "hawliau estynedig", gan gynnwys taliadau uniongyrchol.

  7. 'System ragorach o ddarparu addasiadau hanfodol i dai'

    Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths yn cyhoeddi buddsoddiad o £4 miliwn i wella cefnogaeth ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn sydd am fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. 

    O 1 Ebrill 2016, bydd y "system ragorach o ddarparu addasiadau hanfodol i dai", er enghraifft rampiau, rheiliau llaw, cawodydd y gellir cerdded i mewn iddynt, a lifftiau grisiau, yn cael ei chyflwyno ledled Cymru. 

    Lesley Griffiths
  8. Busnes y Cynulliad dros yr wythnosau nesaf

    Pwrpas y datganiad busnes yw amlinellu busnes y Cynulliad yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw. 

    Gyda diwrnod yn unig ar ôl o fusnes y Cynulliad, nid oedd gan Jane Hutt lawer i'w ddweud heddiw.

    Jane Hutt
  9. Addysg yn gwella

    Wrth ymated i gwestiwn Kirsty Williams ar safonau addysg, dywedodd bod addysg yn gwella, ond cyfaddefodd nad oedd safle Cymru ar brofion addysg rhyngwladol Pisa yn ddigon da.

    Kirsty Williams
  10. Saith mlynedd wrth y llyw

    Holodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood beth mae'r prif weinidog wedi dysgu mewn saith mlynedd wrth y llyw.

    Dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi dysgu bod pethau yn cymryd mwy o amser nag y disgwylir. 

     Gofynnodd Ms Wood i'r prif weinidog os oedd yn difaru nad oedd wedi rhoi gwell atebion yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog. 

     Fe wnaeth y prif weinidog wadu hynny.

    Leanne Wood
  11. Costau ffordd liniaru'r M4

    Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn codi pryderon ynglŷn â chostau ffordd liniaru'r M4 ac yn gofyn pam bod y prif weinidog yn ymddangos pe tai wedi cael ei gostau yn anghywir.

     Yn ôl prif weinidog mae'r 'gyffordd well' a phont beiciau yn golygu bod costau wedi cynyddu. Ond ychwanegodd y byddai'r costau wrth gefn yn cael eu 'gwasgu'.

    "Ni fydd y broblem yn diflannu" meddai Mr Jones ynglŷn â thagfeydd yr M4.

    Andrew RT Davies
  12. Cau ysgolion bach

    Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams yn holi am safonau addysg ym Mrycheiniog a Maesyfed, gan ganolbwyntio ar y nifer o ysgolion bach sydd wedi cau, neu sydd dan fygythiad.

    Datganodd William Powell fuddiant - ei fod yn gyn-brif fachgen yn un o'r ysgolion dan sylw.

  13. Prynhawn da

    Mae'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog olaf cyn yr etholiad ym mis mai, ar fin dechrau.

  14. Hwyl

    Mae'r pwyllgor nawr yn cwrdd yn breifat.

    Bydd Senedd Fyw nôl ar gyfer y cyfarfod llawn am 1.30pm.

    Gyda llaw, mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad wedi datblygu proffiliau rhyngweithiol sy’n dangos data ar lefel etholaethol a rhanbarthol cyn yr etholiad ym mis Mai.

    Data ar lefel etholaethol a rhanbarthol
  15. 'Diffyg disgyblaeth ymhlith gweision sifil'

    Dywed Mike Hedges bod angen i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru Syr Derek Jones "gyflwyno lefel uwch o ddisgyblaeth yn y sefydliad ... nid ydych yn gallu mynychu cyfarfod pwyllgor heb adrodd yn ôl.

    "Y diffyg disgyblaeth ymhlith gweision sifil Cymru sydd ar y lefel ganolig yw'r thema, dwi'n meddwl, sy'n rhedeg drwy bopeth.

    "Maent yn ymddwyn pe bai nhw'n gallu gwneud beth bynnag maent yn eu dymuno".

    Mike Hedges
  16. Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

    Mae’r pwyllgor yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’w adroddiad ar y Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

    Wrth ymateb i argymhellion 13 ac 14, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod proses gyfreithiol wedi ei chychwyn yn erbyn Rheolwyr Buddsoddi’r Gronfa, Lambert Smith Hampton, a’u bod wedi ysgrifennu i Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ynghylch ymddygiad Lambert Smith Hampton yn yr achos hwn.

    Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ymddiheuro i Aelodau'r Cynulliad am werthiant y tir cyhoeddus oedd yn destun ffrae yn y Senedd.

    Roedd ei ymddiheuriad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad am werthiant sawl llain o dir oedd yn eiddo cyhoeddus am symiau llawer llai na'u gwerth.

    Yn ôl y pwyllgor, roedd 'na "wallau sylfaenol" wrth reoli, goruchwylio a chynghori'r gronfa a bod hynny wedi costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr Cymru.

    Mae'r 15 safle a gafodd eu gwerthu mewn un fargen yn cynnwys tir fferm a lleoliadau diwydiannol
    Image caption: Mae'r 15 safle a gafodd eu gwerthu mewn un fargen yn cynnwys tir fferm a lleoliadau diwydiannol
  17. Bore da

    Yn yr wythnos olaf o drafodion yn y Senedd cyn yr etholiad, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cychwyn am 9am.

    Senedd