Cofiwch y gallwch ddilyn holl ddatblygiadau Etholiad 2016 ar Cymru Fyw wedi i'r blychau pleidleisio gau am 22:00. Bydd ein tudalen fyw arbennig yn crynhoi'r darlun gan ein gohebwyr o'r canolfannau cyfrif, sylwadau arbenigwyr a phleidleiswyr. Byddwn ni'n rhoi ambell her i fardd a chartwnydd hefyd i godi gwên yn ystod y nos.
Dilyn stori Etholiad 2016 ar BBC Cymru Fyw.
BBCCopyright: BBC
ANTHEM EURO 2016 RADIO CYMRU
BBC Radio Cymru
Ar wefan Radio Cymru mae fideo o Candelas yn perfformio anthem y sianel ar gyfer Euro 2016 - Rhedeg i Paris gan yr Anhrefn. Cafodd y gân a'r fideo ei gomisiynu gan Radio Cymru fel eu cân i gefnogi tîm Cymru yn ystod yr ymgyrch. Daw'r gân wreiddiol o'r albwm Dial Y Ddraig gan yr Anhrefn o 1990, ac mae Rhys Mwyn yn ymddangos yn fideo'r fersiwn newydd.
BBCCopyright: BBC
UCHAFBWYNTIAU CWPAN CYMRU
Mae rhaglen @sgorio wedi trydar y bydd uchafbwyntiau gêm Y Seintiau Newydd v Airbus i'w gweld am 17.00 ar S4C.
Mae'r ardaloedd yng Ngronant, ger Prestatyn, ymlith yr ychydig rai ble mae'r adar yn cael eu bridio yng Nghymru.
Y llynedd roedd cudyllod coch wedi lladd 33 o gywion ac wyth gwennol.
BBCCopyright: BBC
PNAWN CYMYLOG
Tywydd, BBC Cymru
Mi fydd hi'n brynhawn cymylog ar y cyfan, gydag ysbeidiau heulog. Gellir disgwyl rhai cawodydd tua'r dwyrain, ond dylai'r rhain glirio. Y tymheredd ucha'n 13C.
Am fanylion llawn y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
CYFFRO ETHOLIAD 2016
Etholiad 2016
Cofiwch y gallwch ddilyn holl ddatblygiadau Etholiad 2016 ar Cymru Fyw wedi i'r blychau pleidleisio gau am 22:00. Bydd ein tudalen fyw arbennig yn crynhoi'r darlun gan ein gohebwyr o'r canolfannau cyfrif, sylwadau arbenigwyr a phleidleiswyr. Byddwn ni'n rhoi ambell her i fardd a chartwnydd hefyd i godi gwên yn ystod y nos.
Dilyn stori Etholiad 2016 ar BBC Cymru Fyw.
ANTHEM EURO 2016 RADIO CYMRU
BBC Radio Cymru
Ar wefan Radio Cymru mae fideo o Candelas yn perfformio anthem y sianel ar gyfer Euro 2016 - Rhedeg i Paris gan yr Anhrefn. Cafodd y gân a'r fideo ei gomisiynu gan Radio Cymru fel eu cân i gefnogi tîm Cymru yn ystod yr ymgyrch. Daw'r gân wreiddiol o'r albwm Dial Y Ddraig gan yr Anhrefn o 1990, ac mae Rhys Mwyn yn ymddangos yn fideo'r fersiwn newydd.
UCHAFBWYNTIAU CWPAN CYMRU
Mae rhaglen @sgorio wedi trydar y bydd uchafbwyntiau gêm Y Seintiau Newydd v Airbus i'w gweld am 17.00 ar S4C.
CEISIO GWARCHOD CYWION PRIN
Mae cadwriaethwyr yn gobeithio y bydd prosiect newydd yn Sir Ddinbych yn helpu i atal cywion math prin o wennol y môr rhag cael eu bwyta gan adar ysglyfaethus.