Mae dyfodol ysgol gynradd Gymraeg yn Sir y Fflint yn edrych yn fwy diogel wedi i unig ysgol uwchradd y sir gytuno i ffederaleiddio gyda hi.
Roedd na bryder y byddai Ysgol Gynradd Mornant yn Picton yn gorfod cau dan gynlluniau ail-drefnu'r cyngor sir, a hynny o achos niferoedd isel o ddisgyblion oedd yn mynychu'r ysgol.
Ond yn dilyn trafodaethau mae Ysgol Uwchradd Maes Garmon wedi cytuno i ffederaleiddio gydag Ysgol Monrnant, a bydd pennaeth Ysgol Maes Garmon yn cymryd rheolaeth o'r ysgol gynradd ym mis Medi.
Banc i gau wedi 50 o flynyddoedd
South Wales Guardian
Bydd banc yn cau ei ddrysau am y tro olaf ym mis Gorffennaf ar ôl gwasanaethu cymuned Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin am hanner canrif, yn ôl y South Wales Guardian.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Diogelu dyfodol ysgol Gymraeg
BBC Cymru Fyw
Mae dyfodol ysgol gynradd Gymraeg yn Sir y Fflint yn edrych yn fwy diogel wedi i unig ysgol uwchradd y sir gytuno i ffederaleiddio gyda hi.
Roedd na bryder y byddai Ysgol Gynradd Mornant yn Picton yn gorfod cau dan gynlluniau ail-drefnu'r cyngor sir, a hynny o achos niferoedd isel o ddisgyblion oedd yn mynychu'r ysgol.
Ond yn dilyn trafodaethau mae Ysgol Uwchradd Maes Garmon wedi cytuno i ffederaleiddio gydag Ysgol Monrnant, a bydd pennaeth Ysgol Maes Garmon yn cymryd rheolaeth o'r ysgol gynradd ym mis Medi.
Banc i gau wedi 50 o flynyddoedd
South Wales Guardian
Bydd banc yn cau ei ddrysau am y tro olaf ym mis Gorffennaf ar ôl gwasanaethu cymuned Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin am hanner canrif, yn ôl y South Wales Guardian.
Fe fydd banc Lloyds yn cau ar 26 Gorffennaf.
Lwc gyda'r bwcis
South Wales Evening Post
Mae un cefnogwr lwcus yn Abertawe yn dathlu wedi iddo fo neu hi ennill dros £170,000 ar ôl gosod bet o £1 gyda'r bwcis.
Roedd y cefnogwr - sydd am aros yn ddi-enw - wedi dyfalu canlyniad 15 o gemau pêl-droed yn gywir.