Fe gafodd Neil Hamilton gymeradwyaeth cyn i'r sesiwn orffen yn y Senedd.
'Coroni Brenin Carwyn'
Ychwanegodd Mr Hamilton, "Dydyn ni ddim yn bwriadu bod yn ddylanwad trafferthus."
"Fe wnaethon ni wrthwynebu coroni Brenin Carwyn oherwydd ein bod ni'n credu y dylai fod yna bleidlais."
BBCCopyright: BBC
'Pleidlais dros newid, nid y statws quo'
Dywedodd arweinydd UKIP yn y Cynulliad Neil Hamilton, "Yr hyn wnaeth Cymru bleidleisio drosto oedd newid, nid y statws quo. A dyna pham rydw i'n difaru y rhan mae Plaid Cymru wedi ei chwarae".
Mae'n cyfeirio at Leanne Wood fel "dêt chep iawn" ac yn cyhuddo Plaid Cymru o fod yn ragfarnllyd tuag at UKIP.
Roedd yn feirniadol o Leanne Wood a Kirsty Williams am daro bargeinion i alluogi Llafur i ffurfio Llywodraeth, gan eu disgrifio fel "concubines" yn "harîm Carwyn".
Mainc gefn Lafur 'ddigalon'
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn llongyfarch Carwyn Jones ond yn dweud nad yw wedi gweld mainc gefn Llafur mor "ddigalon" wrth i Leanne Wood siarad.
Mae Mr Davies yn dweud y bydd ei blaid yn dal y llywodraeth i gyfrif, ond hefyd yn ceisio bod yn "adeiladol" wrth drafod yn y siambr.
Diffyg staff ym maes iechyd, ad-drefnu llywodraeth leol a chynllun yr M4 yw'r materion y mae angen i'r llywodraeth newydd ddelio gyda nhw ar unwaith, yn ôl Mr Davies.
BBCCopyright: BBC
Arweinydd Plaid Cymru ddim yn ymddiheuro
Mae Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru yn dweud nad yw hi'n flin am yr hyn ddigwyddodd yr wythnos ddiwetha.
"Fe wna i hyn'na eto os fydd rhaid i mi i wneud i Lafur sylweddoli ei bod mewn llywodraeth leiafrifol."
Mae'n ymosod ar y feirniadaeth o Blaid Cymru a oedd yn rhoi'r argaff ei bod wedi dod i gytundeb gydag UKIP. " Ydych chi'n ddigon dewr i gyfaddef eich bod chi'n anghywir?" meddai.
"Yr wythnos ddiwethaf fe ddaeth y Cynulliad Cenedlaethol yn fyw mewn ffordd na welwyd mewn dau ddegawd" meddai Ms Wood.
Dywedodd mai Plaid Cymru fydd yr wrthblaid fwyaf effeithiol i'r Cynulliad ei weld erioed.
"Yr unig gerdyn y bydd Plaid Cymru yn ei chwarae fydd cerdyn Cymru" meddai, "er mwyn adeiladu cenedl lwyddiannus."
"Gwyliwch y gofod."
BBCCopyright: BBC
Y Cytundeb gyda Phlaid Cymru
Mae Mr Jones yn amlinelli y cytundeb gyda Phlaid Cymru - sy'n cynnwys cynlluniau ar gyfer gofal plant, prentisiaethau ac isadeiledd.
Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ei ymrwymo i ddod a diwedd i'r loteri cod post mewn cysylltiad â chyffuriau newydd a thriniaethau.
Sefydlu proses graffu newydd
Mae Mr Jones yn dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfau newydd yn y 100 diwrnod cyntaf, gan ganiatau i broses graffu newydd gael ei sefydlu.
Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn canolbwyntio ar ddiogelu'r diwydiant dur.
Anerchiad Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones yn annerch y Senedd gan ddweud bod pobl Cymru am y pumed tro wedi gofyn i'r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth, ond i barhau gyda phwyll.
Mr Jones yn dweud nad oes "unrhyw amheuaeth o'r cyfrifoldebau" sydd gan ei blaid ac ef ei hun wrth ddechrau'r tymor newydd yn y Cynulliad.
Ychwanegodd ei fod yn deall y cyfrifoldeb i "weithio gydag eraill pan mae hynny'n bosib er budd ein pobl".
BBCCopyright: BBC
Her UKIP yn methu
Mae Mark Reckless UKIP yn dweud nad oes amod ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl. Mae'r Llywydd Elin Jones yn anghytuno.
Mae gwrthwynebiad UKIP yn cael ei wrthod gan y Llywydd Elin Jones.
BBCCopyright: BBC
Carwyn Jones yw enwebiad y Cynulliad
Mae Elin Jones yn dweud yn unol â Gorchymun 8.3 yr unig ymgeisydd, Carwyn Jones yw enwebiad y Cynulliad ar gyfer swydd y Prif Weiniog.
Dim enwebiad gan Blaid Cymru
Mae Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi nad yw Plaid Cymru yn enwebu Leanne Wood heddiw ar gyfer swydd y Prif Weinidog.
BBCCopyright: BBC
Gweithio ar y cyd
Fe fydd tri phwyllgor newydd yn cael eu ffurfio i'r ddwy blaid, Llafur a Phlaid Cymru, drafod gweithio ar y cyd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, deddfwriaeth a'r cyfansoddiad. Ac fe fydd gwaith ar y cyd hefyd er mwyn creu Banc Buddsoddi i Gymru, comisiwn cenedlaethol ar isadeiledd, cynllun i gynyddu nifer y meddygon teulu a hefyd creu cronfa triniaethau newydd yn y Gwasanaeth Iechyd.
Mae bwriad i gyflwyno newidiadau hefyd ym maes gofal plant a phrentisiaethau.
Ond does dim cytundeb ar y cynllun i godi traffordd newydd i'r de o Gasnewydd. Mae'r blaid Lafur o blaid, gyda Phlaid Cymru yn chwyrn yn erbyn.
BBCCopyright: BBC
Carwyn Jones a Leanne WoodImage caption: Carwyn Jones a Leanne Wood
Y 100 diwrnod cyntaf
Os fydd Carwyn Jones yn cael ei enwebu fel y disgwyl, fe fydd yn dweud wrth aelodau'r Cynulliad am flaenoriaethau ei lywodraeth am y 100 diwrnod cyntaf.
Mae'n werth nodi, yng ngwleidyddiaeth America, Franklin D Roosevelt ddyfeisiodd y syniad o'r 100 diwrnod cyntaf o weithredu y byddai modd i bobl asesu ei arweinyddiaeth.
Yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf yn 1933 fe wnaeth e basio 16 o ddeddfau pwysig, cychwyn rhaglenni gwaith cyhoeddus a rhoi cymorth uniongyrchol i'r diwaith - sydd erbyn hyn yn dros chwarter cyfanswm y gweithlu diwydiannol yn yr Unol Daleithiau.
Ond mae'r cysyniad o 100 diwrnod yn deillio o gyfnod Napoleon ac fe gafodd ei ddefnyddio i ddisgrifio'r cyfnod rhwng ei ddychweliad buddugoliaethus i Ffrainc ar ôl bod yn alltud a hefyd ei fethiant yn y pendraw yn Waterloo.
Roosevelt yn llofnodi'r Mesur Bancio Brys gydag Ysgrifennydd y Trysorlys William Goodwin ym Mawrth 1933.Image caption: Roosevelt yn llofnodi'r Mesur Bancio Brys gydag Ysgrifennydd y Trysorlys William Goodwin ym Mawrth 1933.
Prynhawn da
Croeso i Senedd Fyw. Am 1.30pm fe fyddwn ni'n darlledu ail Gyfarfod Llawn y Pumed Cynulliad pan fydd yr aelodau'n cwrdd i enwebu Prif Weinidog.
Mae disgwyl i Carwyn Jones gael ei gadarnhau'n Brif Weinidog yn y Senedd ar ôl i'r Blaid Lafur daro bargen gyda Phlaid Cymru yn dilyn anghytundeb llwyr ym Mae Caerdydd yr wythnos ddiwethaf.
Mae'r cytundeb yn golygu y dylai Llafur allu ffurfio llywodraeth leiafrifol yng Nghymru.
Dyma'r ail ymgais i gadarnhau enwebiad Mr Jones ers yr etholiad, wedi i Lafur ennill 29 o'r 60 sedd yn y Senedd. Gorffen yn gyfartal wnaeth y bleidlais gyntaf i gadarnhau Mr Jones wythnos ddiwethaf, gyda'r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams yn cefnogi'r arweinydd Llafur, a'r pleidiau eraill i gyd yn cefnogi arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Ond wedi trafod rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, mae'r ddwy ochr wedi dod i gytundeb, er bod y naill a'r llall yn mynnu nad clymblaid na chwaith trefniant ffurfiol yw hwn.
BBCCopyright: BBC
Gorffen yn gyfartal wnaeth y bleidlais gyntaf i gadarnhau Mr Jones wythnos ddiwethafImage caption: Gorffen yn gyfartal wnaeth y bleidlais gyntaf i gadarnhau Mr Jones wythnos ddiwethaf
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl am y tro
A dyna ni gan Senedd Fyw heddiw. Fe fyddwn yn dychwelyd ar gyfer y cyfarfod llawn nesa ddydd Mawrth nesa am 1.30pm.
Trefn neu hisht?
Blaenoriaethau 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth newydd
Vaughan Roderick yn fyw o'r Senedd
Bydd Cymru Fyw yn cael ei holi ar dudalen Facebook Cymru Fyw o`r Senedd y prynhawn 'ma am 3 gyda Carl Roberts yn gofyn y cwestiynau.
Oes ganddoch chi gwestiwn i Vaughan? Cysylltwch ar cymrufyw@bbc.co.uk neu drwy Facebook.
'Clebran tu fas y siambr'
Daniel Davies yn trydar
Cymeradwyaeth