a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl Fawr

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl am 1.30pm ddydd Mercher 8 Mehefin ar gyfer y cyfarfod llawn nesaf.

    Y Senedd
  2. Penodi aelodau'r Pwyllgor Busnes

    Does dim gwrthwynebiad i'r cynnig i benodi y Llywydd Elin Jones, Jane Hutt (Llafur), Simon Thomas (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr) a Mark Reckless (UKIP) i fod yn aelodau Pwyllgor Busnes y Cynulliad.

  3. Oes lle i UKIP a'r Ceidwadwyr mewn trafodaethau?

    A allai UKIP a'r Ceidwadwyr gael eu cynnwys mewn trafodaethau y tu ôl i'r llenni medd Neil Hamilton.

    Mae hefyd yn awgrymu bod Kirsty Williams, i bob pwrpas bellach yn aelod Cynulliad Llafur.

    Mae'r Prif Weinidog yn rhoi sicrwydd ei bod hi'n parhau yn aelod Cynulliad i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Mae'r cyn Ddirprwy Lywydd David Melding yn dweud bod penodiad Kirsty Williams yn gam da i wleidyddiaeth Cymru.

  4. Llywodraeth wedi ei chlymu gan bwyllgorau Llafur-Plaid?

    Mae Andrew RT Davies yn awgrymu y bydd y llywodraeth wedi'i chlymu gan bwyllgorau ymgynghorol Llafur-Plaid Cymru. 

  5. 'Dim cwestiwn bod yr iaith Gymraeg wedi ei hisraddio'

    Mae Leanne Wood yn gofyn am sicrwydd nad yw'r iaith Gymraeg wedi cael ei "hisraddio" gan mai'r Prif Weinidog oedd yn gyfrifol am yr iaith yn y llywodraeth ddiwetha, ond mae'r cyfrifoldeb am yr iaith bellach y tu allan i'r Cabinet, yn nwylo gweinidog, Alun Davies. 

    " Does dim cwestiwn bod yr iaith yn cael ei hisraddio" yw ateb Mr Jones. 

  6. Llywodraeth 'agored, cynhwysol a thryloyw'

    Mae'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar ei benodiadau i'w Gabinet ac yn dweud y bydd ei lywodraeth yn un "agored, cynhwysol a thryloyw". 

    Mae'n ychwanegu bod "cyfnod o bum mlynedd allweddol o'u blaen."   

  7. Ymateb Kirsty

    Mae Kirsty Williams yn ateb drwy ddweud bod y penderfyniad yn fater i'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru (HEFCW).

    Mae'n ychwanegu ei bod hi'n gweithio gyda swyddogion er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r cronfeydd ariannol a'r cyllid sydd ar gael.

    Kirsty Williams
  8. Cwestiwn brys

    Nawr cwestiwn brys gan Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro).

    A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys ynghylch y newyddion bod y cymorth a roddir ar gyfer astudiaeth ôl-radd rhan-amser yng Nghymru wedi dod i ben? 

  9. Dim gohirio etholiadau Llywodraeth leol

    Ar fater uno cynghorau mae Mr Davies yn gofyn a fydd yna etholiadau llywodraeth leol fis Mai nesa neu a fyddan nhw'n cael eu gohirio. 

    Fe fyddan nhw'n cael eu cynnal yw ateb Carwyn Jones. 

    Ddydd Sul fe wnaeth Mr Jones ddweud wrth BBC Cymru ei fod eisiau siarad gyda'r gwrthbleidiau ynghylch dyfodol llywodraeth leol gan nad oes cefnogaeth lwyr i'r cynlluniau i dorri nifer y cynghorau o 22 i rhwng wyth neu naw.

    Un cynnig - gostwng nifer y cynghorau o 22 i wyth neu naw
    Image caption: Un cynnig - gostwng nifer y cynghorau o 22 i wyth neu naw
  10. Cynllun newid llwybr yr M4 - oes dyddiad?

    Mae Andrew RT Davies yn gofyn i Mr Jones a yw e'n hyderus y bydd ffordd liniaru yr M4 yn dechrau cael ei hadeiladu yng Ngwanwyn 2018.

    Mae Mr Jones yn dweud na all e ragweld beth fydd canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus i newid llwybr yr M4.

    Andrew RT Davies
  11. Aelodau'r Cabinet wedi'u clymu i dderbyn cyfrifoldeb

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn a yw holl aelodau'r Cabinet wedi'u clymu i dderbyn cyfrifoldeb.

    Ydyn, medd Carwyn Jones.

    Mae'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol sydd ar ôl yn y Cynulliad, Kirsty Williams, wedi cael sedd yn y Cabinet fel Ysgrifennydd Addysg.

  12. Ffordd well o ddelio gyda'r galw am gyffuriau?

    Mae'r Prif Weinidog yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes ffordd well o ddelio gyda'r galw am gyffuriau ar gyfer canser. Mae hyn yn rhan o'r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

    Mae Leanne Wood yn dweud y dylid canmol Carwyn Jones, oherwydd yn ystod ymgyrch etholiadol Llafur, roedd e wedi dadlau yn erbyn dod â diwedd i'r "loteri côd post." 

    Canser
  13. Teyrnged i ymgyrchydd o blaid cyffuriau canser

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn rhoi teyrnged i'r ymgyrchydd o blaid cyffuriau ar gyfer canser Annie Mulholland sydd wedi marw.   

    Mae'n gofyn am gadarnhad y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu panel annibynnol i edrych ar y system bresennol.

    Annie Mulholland
  14. Yr M4

    Mae'r cyn weinidog Llafur John Griffiths yn awgrymu y dylai arian gafodd ei glustnodi ar gyfer traffordd yr M4 fod ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar beth bynnag mae nhw'n ddymuno.

    Mae'r Prif Weinidog yn ateb drwy ddweud y gall yr arian ond gael ei wario ar yr M4 fel y mae pethau ar hyn o bryd.  

    Yr M4
  15. 'Galw am ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys'

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn ynghylch ffordd osgoi i Ddinas Powys. Mae'n dweud, oherwydd datblygiadau, bod yna alw am ffordd osgoi fwy nag erioed. 

  16. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

    Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Aelod Cynulliad newydd Plaid Cymru dros etholaeth Arfon, Sian Gwenllian. 

    A'r cwestiwn: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o ddoctoriaid? 

    Dyma'r Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd.

    Sian Gwenllian
  17. Neil Hamilton yn derbyn dyfarniad y Llywydd

    Mae Mr Hamilton yn derbyn dyfarniad y Llywydd. Mae'n dweud nad oes ganddo fwriad i achosi loes i unrhyw un.

    Mae'n awgrymu y gallai fod wedi siarad am y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn " mynd i'r gwely gyda Llafur." 

    Neil Hamilton
  18. Iaith o'r fath yn annerbyniol

    Mae Elin Jones yn dweud bod iaith rywiaethol Mr Hamilton wedi syrthio islaw rheolau sefydlog y Cynulliad a bod iaith o'r fath yn annerbyniol.

  19. Datganiad gan y Llywydd

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud ei bod hi wedi derbyn nifer o gwynion ar ol i arweinydd UKIP yn y Cynulliad Neil Hamilton yr wythnos ddiwethaf ddisgrifio dau aelod benywaidd Kirsty Williams, ac arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fel "gordderchwragedd gwleidyddol" - political concubines yn Saesneg - yn "hareem" Carwyn Jones. 

    Fe wnaeth araith gyntaf arweinydd UKIP yn y Senedd godi gwrychyn nifer o aelodau'r Cynulliad. Roedd Ms Williams a Ms Wood wedi cefnogi ymgais Carwyn Jones i gael ei ail-benodi fel prif weinidog.

  20. Materion o bwys i’r Pumed Cynulliad

    Dyma'r materion o bwys i’r Pumed Cynulliad, yn ôl Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad.