a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ddilyn llif byw arbennig Cymru Fyw, a diolch i sêr Brynchoch United am eu sylwadau craff drwy'r gêm. 

    Cofiwch, fe fyddwn ni gyd yn ôl ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr ddydd Iau. 

    Mwynhewch y dathlu heno...

  2. Aneurin yn llongyfarch

    Twitter

    Mae'r actor Aneurin Barnard yn un o lawer o enwogion sydd yn dathlu heno.

    View more on twitter
  3. Pawb yn hapus

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r dathlu wedi dechrau yn ardal y cefnogwyr yn Bordeaux!

    Hwre!
  4. Ton o gefnogwyr

    Twitter

  5. Miloedd yn gwylio

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n debyg bod rhyw 3,000 i 4,000 o bobl yn yr ardal gefnogwyr yng Nghaerdydd heddiw. Tybed faint o'r brifddinas oedd yn Ffrainc yn gwylio'r fuddugoliaeth?

  6. Am barti....

    Twitter

    Roedd hi'n barti i bawb neithiwr yn Bordeaux mae'n debyg. Falle y bydd na chwant dathlu ar un neu ddau yno heno hefyd...

    View more on twitter
  7. Hogia Blaenau wedi'i gneud hi!

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymru Fyw yn falch o weld fod Mike Pugh a'r criw o Flaenau Ffestiniog wedi ei gwneud hi i'r gêm heddiw - er gwaethaf eu problemau gyda'r campyr-fan ddoe.

    hogia
  8. Cam o'r tywyllwch....

    BBC Cymru Fyw

    Argraffiadau un cefnogwr o Gymru yn ardal y cefnogwyr yn Bordeaux wedi'r fuddugoliaeth:

    Video content

    Video caption: Ymateb un cefnogwr yn Bordeaux
  9. Dyfyniad y dydd?

    S4C

    Owain Tudur Jones yn sylwebu ar S4C: 'Tydan ni ddim yma i gymryd rhan, rydan ni yma i gymryd drosodd!' 

    ffans
  10. Cymru mewn 'sefyllfa wych'

    BBC Cymru Fyw

    Mae gohebydd BBC Sport Gary Lineker wedi dweud fod y canlyniad heddiw yn gosod Cymru mewn safle gwych i symud i'r 16 olaf - ac mae'n rhoi dipyn o bwysau ar Loegr wrth iddyn nhw wynebu Rwsia ym Marseilles mewn llai nag awr.

  11. Pum cynnig i Gymro!

    BBC Cymru Fyw

    Fe gafodd Gareth Bale bum cynnig o flaen gôl Slofacia heddiw - ond roedd chwaraewyr eraill - Ben Davies yn enwedig - yn serennu i Gymru.

    bale