Yn ôl Golwg360 mae perchnogion y papur, Grŵp Trinity Mirror, yn dwedu y bydd chwe swydd newydd yn cael eu creu o ganlyniad i ailstrwythuro.
Beth nesaf i Giggs?
Chwaraeon BBC Cymru
Mae disgwyl y bydd Manchester United yn cyhoeddi'n fuan mai Jose Mouhrino fydd rheolwr newydd y clwb. Fe fydd cryn ddyfalu nawr am sefyllfa Ryan Giggs, oedd yn cynorthwyo Louis Van Gaal cyn i'r clwb ddiswyddo Van Gaal yn gynharach yr wythnos hon.
Cafodd Philippa Gillespie, 59 oed, ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ar 8 Ionawr 2014 wedi iddi ddioddef symptomau oedd yn gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint.
Fe roddwyd y cyffur Augmentin iddi, er bod ei nodiadau meddygol yn dangos fod ganddi alergedd i benisilin.
Cyhoeddodd y crwner Mark Layton ddyfarniad naratif yn y cwest i'w marwolaeth ddydd Iau.
BBCCopyright: BBC
Noson sych ar y cyfan
Tywydd, BBC Cymru
Gwennan Evans sydd â'r rhagolygon ar gyfer heno:
"Bydd hi’n noson sych gyda chyfnodau braf a bydd hi’n para’n sych gyda chyfnodau clir dros nos nes i rai cawodydd ledu o’r de wrth iddi wawrio. Y tymheredd isaf yn 6°C."
Mae BBC Cymru wedi rhyddhau datganiad yn dilyn derbyn nifer o gwynion am raglen 'Week In Week Out' yr wythnos hon, oedd yn edrych ar y Mesurau Iaith newydd.
Dywed llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym wedi derbyn nifer o gwynion am ymchwiliad 'Week In Week Out' a ddarlledwyd ddydd Mawrth, Mai 24, a byddwn yn delio â hwy yn unol â threfn gwynion y BBC.
"Mae gan y tîm enw da am gynhyrchu adroddiadau o’r radd flaenaf ond rydym yn cydnabod na wnaeth yr ymchwiliad hwn archwilio’r gwahanol safbwyntiau yn ddigonol yn eu hymdriniaeth o’r Mesurau Iaith newydd.”
Pryder wedi lladrad o filfeddygfa
BBC Cymru Fyw
Mae staff milfeddygfa ym Mlaenau Gwent yn dweud eu bod yn poeni y gallai rhywun farw wedi i £10,000 o gyffuriau i anifeiliaid gael eu dwyn. Cafodd y cyffuriau Ketamine, Dolethal a rhai eraill peryglus eu dwyn i Filfeddygfa Budget Vets yn Abertyleri.
Dywedodd rheolwraig y filfeddygfa Josie McGarry fod rhan o stoc y Ketamine i fod i gael ei waredu gan nad oedd yn addas i'w ddefnyddio ar anifeiliaid.
Mae Peter Black eisiau i'r cyngor gydweithio gyda Stadiwm Liberty i sefydlu'r ardal gefnogwyr yno, yn debyg i'r hyn ddigwyddodd yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Ceisio cymodi mewn anghydfod
BBC Cymru Fyw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau rhwng undeb y PCS ag Amgueddfa Cymru yn dilyn cyfnod o ymgyrchu diwydiannol gan aelodau'r undeb.
Mae BBC Cymru'n deall fod aelod o gabinet y llywodraeth, Ken Skates, wedi cyfarfod y ddwy ochr mewn ymgais i gyrraedd cytundeb.
Bu aelodau'r undeb yn gweithredu o achos anghydfod am gael gwared ar daliadau penwythnos. Mae gan Amgueddfa Cymru saith safle ar hyd a lled y wlad.
BBCCopyright: BBC
Achub plentyn o dwll
BBC Cymru Fyw
Mae diffoddwyr tân wedi achub plentyn o ddraen neu geuffos mewn ysgol ger Casnewydd yn gynharach heddiw.
Cafodd swyddogion eu galw i Ysgol Basaleg ganol bore, ac fe gafodd y plentyn ei ryddhau'n ddiogel.
Steddfod Yr Urdd a'r Gymraeg
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Faint o effaith mae digwyddiad fel Eisteddfod yr Urdd yn cael ar yr ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn rhan o fywyd pobl o ddydd i ddydd?
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi trydar bod golwr Preston North End, Chris Maxwell wedi bod yn ymarfer gyda'r garfan ym Mhortiwgal heddiw.
Roedd pryder am ffitrwydd golwr arall, Danny Ward wedi iddo fethu ag ymarfer ddoe, ond mae'r gymdeithas yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud hynny heddiw.
@FAWalesCopyright: @FAWales
Dieuog o achosi dynladdiad
BBC Cymru Fyw
Yn Llys y Goron Abertawe mae Daniel Shepherd wedi ei gael yn ddieuog o achosi dynladdiad Jonathon Thomas.
Bu farw Mr Thomas at 1 Tachwedd y llynedd yn dilyn ffrae tu allan i dafarn yn y ddinas. Roedd Mr Sheperd wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Cymru v Cymru
Wales Online
Fe fydd gan garfan Chris Coleman un gêm ychwanegol i'w chwarae heblaw am yr un gyfeillgar yn erbyn Sweden cyn Euro 2016 meddai gwefan WalesOnline.
Bwriad Coleman ydi gweld y chwaraewyr - sydd yn hyfforddi ym Mhortiwgal yr wythnos hon - yn chwarae yn erbyn ei gilydd ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddi yn Vale do Lobo.
Ingram a Cosker yn ôl i Forgannwg
Mwy o fanylion y criced ar Twitter gan BBC Camp Lawn
Mae'r bowliwr yn chwarae i'r Gujarat Lions yn Uwchgynghrair India, gyda gêm derfynol yr IPL yn India ar 29 Mai.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
'Dyfais heb ffrwydro' yng Nghaerdydd
Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod wedi cau ardal 200 metr o amgylch ardal o Heol Tide Fields ger Rover Way yng Nghaerdydd wedi i "ddyfais heb ffrwydro" gael ei ddarganfod.
Mae'n debyg fod carcharor treisgar wedi ei symud i'r carchar rai dyddiau'n gynt yn dilyn digwyddiad tebyg mewn carchar arall meddai'r South Wales Evening Post.
Mae castell Something Creatives yn mesur 12.8 metr o uchder - sydd tua'r un uchder a Chastell Caerdydd - ac mae hyd at 100 o bobl yn gallu ei ddefnyddio ar yr un pryd.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd
BBC Cymru Fyw
A dyna ni - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd yfory am 08:00. Hwyl am y tro.
Swyddi papur newydd yn y fantol
Golwg 360
Mae Golwg360 yn adrodd bod wyth o swyddi gweithwyr papur y Daily Post yn y fantol.
Yn ôl Golwg360 mae perchnogion y papur, Grŵp Trinity Mirror, yn dwedu y bydd chwe swydd newydd yn cael eu creu o ganlyniad i ailstrwythuro.
Beth nesaf i Giggs?
Chwaraeon BBC Cymru
Mae disgwyl y bydd Manchester United yn cyhoeddi'n fuan mai Jose Mouhrino fydd rheolwr newydd y clwb. Fe fydd cryn ddyfalu nawr am sefyllfa Ryan Giggs, oedd yn cynorthwyo Louis Van Gaal cyn i'r clwb ddiswyddo Van Gaal yn gynharach yr wythnos hon.
Marw wedi adwaith i benisilin
BBC Wales News
Bu farw claf wedi iddi ddioddef adwaith alergedd i benisilin oedd wedi ei roi iddi gan staff ysbyty.
Cafodd Philippa Gillespie, 59 oed, ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, ar 8 Ionawr 2014 wedi iddi ddioddef symptomau oedd yn gysylltiedig â chanser yr ysgyfaint.
Fe roddwyd y cyffur Augmentin iddi, er bod ei nodiadau meddygol yn dangos fod ganddi alergedd i benisilin.
Cyhoeddodd y crwner Mark Layton ddyfarniad naratif yn y cwest i'w marwolaeth ddydd Iau.
Noson sych ar y cyfan
Tywydd, BBC Cymru
Gwennan Evans sydd â'r rhagolygon ar gyfer heno:
"Bydd hi’n noson sych gyda chyfnodau braf a bydd hi’n para’n sych gyda chyfnodau clir dros nos nes i rai cawodydd ledu o’r de wrth iddi wawrio. Y tymheredd isaf yn 6°C."
Am y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.
'Week In Week Out' - Ymateb BBC Cymru
BBC Cymru Wales
Mae BBC Cymru wedi rhyddhau datganiad yn dilyn derbyn nifer o gwynion am raglen 'Week In Week Out' yr wythnos hon, oedd yn edrych ar y Mesurau Iaith newydd.
Dywed llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym wedi derbyn nifer o gwynion am ymchwiliad 'Week In Week Out' a ddarlledwyd ddydd Mawrth, Mai 24, a byddwn yn delio â hwy yn unol â threfn gwynion y BBC.
"Mae gan y tîm enw da am gynhyrchu adroddiadau o’r radd flaenaf ond rydym yn cydnabod na wnaeth yr ymchwiliad hwn archwilio’r gwahanol safbwyntiau yn ddigonol yn eu hymdriniaeth o’r Mesurau Iaith newydd.”
Pryder wedi lladrad o filfeddygfa
BBC Cymru Fyw
Mae staff milfeddygfa ym Mlaenau Gwent yn dweud eu bod yn poeni y gallai rhywun farw wedi i £10,000 o gyffuriau i anifeiliaid gael eu dwyn. Cafodd y cyffuriau Ketamine, Dolethal a rhai eraill peryglus eu dwyn i Filfeddygfa Budget Vets yn Abertyleri.
Dywedodd rheolwraig y filfeddygfa Josie McGarry fod rhan o stoc y Ketamine i fod i gael ei waredu gan nad oedd yn addas i'w ddefnyddio ar anifeiliaid.
Ardal gefnogwyr Euro 2016 yn Abertawe?
South Wales Evening Post
Mae cynghorwr yn Abertawe wedi ysgrifennu at arweinydd y cyngor i'w hannog i sefydlu ardal gefnogwyr yn y ddinas ar gyfer pencampwriaeth Euro 2016 fis nesaf.
Mae Peter Black eisiau i'r cyngor gydweithio gyda Stadiwm Liberty i sefydlu'r ardal gefnogwyr yno, yn debyg i'r hyn ddigwyddodd yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Ceisio cymodi mewn anghydfod
BBC Cymru Fyw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau rhwng undeb y PCS ag Amgueddfa Cymru yn dilyn cyfnod o ymgyrchu diwydiannol gan aelodau'r undeb.
Mae BBC Cymru'n deall fod aelod o gabinet y llywodraeth, Ken Skates, wedi cyfarfod y ddwy ochr mewn ymgais i gyrraedd cytundeb.
Bu aelodau'r undeb yn gweithredu o achos anghydfod am gael gwared ar daliadau penwythnos. Mae gan Amgueddfa Cymru saith safle ar hyd a lled y wlad.
Achub plentyn o dwll
BBC Cymru Fyw
Mae diffoddwyr tân wedi achub plentyn o ddraen neu geuffos mewn ysgol ger Casnewydd yn gynharach heddiw.
Cafodd swyddogion eu galw i Ysgol Basaleg ganol bore, ac fe gafodd y plentyn ei ryddhau'n ddiogel.
Steddfod Yr Urdd a'r Gymraeg
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Faint o effaith mae digwyddiad fel Eisteddfod yr Urdd yn cael ar yr ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn rhan o fywyd pobl o ddydd i ddydd?
Beth yw'r effeithiau positif yn y tymor hir?
Golwr newydd i Gymru?
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi trydar bod golwr Preston North End, Chris Maxwell wedi bod yn ymarfer gyda'r garfan ym Mhortiwgal heddiw.
Roedd pryder am ffitrwydd golwr arall, Danny Ward wedi iddo fethu ag ymarfer ddoe, ond mae'r gymdeithas yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud hynny heddiw.
Dieuog o achosi dynladdiad
BBC Cymru Fyw
Yn Llys y Goron Abertawe mae Daniel Shepherd wedi ei gael yn ddieuog o achosi dynladdiad Jonathon Thomas.
Bu farw Mr Thomas at 1 Tachwedd y llynedd yn dilyn ffrae tu allan i dafarn yn y ddinas. Roedd Mr Sheperd wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Cymru v Cymru
Wales Online
Fe fydd gan garfan Chris Coleman un gêm ychwanegol i'w chwarae heblaw am yr un gyfeillgar yn erbyn Sweden cyn Euro 2016 meddai gwefan WalesOnline.
Bwriad Coleman ydi gweld y chwaraewyr - sydd yn hyfforddi ym Mhortiwgal yr wythnos hon - yn chwarae yn erbyn ei gilydd ar ddiwedd y cyfnod o hyfforddi yn Vale do Lobo.
Ingram a Cosker yn ôl i Forgannwg
Mwy o fanylion y criced ar Twitter gan BBC Camp Lawn
Criced, BBC Cymru
Dim sôn am Steyn
BBC Sport Wales
Dyw'r bowliwr cyflym Dale Steyn o Dde Affrica ddim ar gael i Forgannwg yn eu gêm T20 yn erbyn Surrey heddiw.
Mae'r bowliwr yn chwarae i'r Gujarat Lions yn Uwchgynghrair India, gyda gêm derfynol yr IPL yn India ar 29 Mai.
'Dyfais heb ffrwydro' yng Nghaerdydd
Heddlu De Cymru
Mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod wedi cau ardal 200 metr o amgylch ardal o Heol Tide Fields ger Rover Way yng Nghaerdydd wedi i "ddyfais heb ffrwydro" gael ei ddarganfod.
Cythrwfl mewn carchar
South Wales Evening Post
Cafodd tri swyddog carchar eu cludo i'r ysbyty yn dilyn ffrwgwd yng Ngharchar Abertawe ddoe.
Mae'n debyg fod carcharor treisgar wedi ei symud i'r carchar rai dyddiau'n gynt yn dilyn digwyddiad tebyg mewn carchar arall meddai'r South Wales Evening Post.
Castell gorau Cymru?
BBC Cymru Fyw
Mae cwmni o dde Cymru'n wedi adeiladu'r hyn maen nhw'n honni ydi castell bownsio mwya'r byd!
Mae castell Something Creatives yn mesur 12.8 metr o uchder - sydd tua'r un uchder a Chastell Caerdydd - ac mae hyd at 100 o bobl yn gallu ei ddefnyddio ar yr un pryd.
Cantorion Cymru'n cystadlu
Cyfle i gynrychioli Cymru yn BBC Canwr y Byd
BBC Radio Cymru