a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni am heddiw

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y llif byw yn ôl am 08:00 bore fory.  

  2. Safle newydd i deithwyr

    BBC Wales News

    Mae pwyllgor gwaith cyngor Môn wedi cymeradwyo cynllun i greu safle newydd parhaol i deithwyr a sipsiwn ar dir ym Mhenhesgyn, ger Penmynydd.

    Bwriad yr awdurdod yw adleoli pedwar teithiwr, sydd ar hyn o bryd yn byw mewn gwersyll mewn encilfa ar yr A5025 rhwng Porthaethwy a Phentraeth, i'r gwersyll swyddogol.

  3. Denu 20,753 i'r Eisteddfod

    BBC Cymru Fyw

    Fe aeth 20,573 o bobol i Eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint heddiw.

    Dyna'r ffigwr uchaf ar ddydd Mawrth ers Eisteddfod Eryri yn 2012.

  4. Cwmnïoedd mwyaf creadigol Cymru

    Wales Online

    Mae WalesOnline yn rhestru'r 35 cwmni mwyaf creadigol yng Nghymru.

    Yn eu mysg, cwmni sydd yn adeiladu setiau i raglenni teledu, cwmnïau hyrwyddo, a chwmnïau cynllunio...gan gynnwys y cwmni gynlluniodd y bêl rygbi'n byrstio drwy wal Castell Caerdydd ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.

    y bêl drwy'r wal
  5. Newid ar y gweill

    Tywydd, BBC Cymru

    Mae Robin Owain Jones â newyddion drwg i ni am dywydd heno:

    "Noson gymylog, â rhywfaint o law yn lledu o’r dwyrain, ond mi fydd hi’n noson fwyn serch hynny, a’r tymheredd rhwng 11C a 13C."

    Am y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  6. Coleman yn 'gwybod ei dîm'

    Golwg 360

    Mae Golwg360 yn adrodd bod rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi dweud ei fod yn gwybod pwy fydd yn ei dîm i herio Slofacia yn eu gêm gyntaf yn Euro 2016.

    Ar ôl cyhoeddi’r garfan o 23 i deithio i Ffrainc, awgrymodd Coleman mai’r 11 sy’n herio Sweden mewn gêm gyfeillgar yn Stockholm ar 5 Mehefin fydd yn wynebu Slofacia chwe diwrnod yn ddiweddarach.

  7. Bachgen, 12, ar goll

    ITV Cymru

    Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth er mwyn ffeindio bachgen 12 oed o'r Bari sydd ar goll, meddai ITV Cymru.

    Cafodd Marcus Evans, sydd tua pum troedfedd a gwallt brown, ei weld ddiwethaf tua 23:30 nos Sadwrn. 

    Mae swyddogion yn dweud bod ganddo gysylltiadau â Phenarth. 

  8. Cyhoeddi enw dyn

    BBC Wales News

    Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn digwyddiad ar fferm ger Mynwy.

    Redd David Llewellyn yn 65 oed ac yn dod o Dredegar ym Mlaenau Gwent.

    Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Manson Lane tua 12:30 ar 25 Mai.   

  9. Diwrnod cyntaf Ifor ap Glyn

    BBC Wales News

    Mae Bardd Cenedlaethol newydd Cymru wedi cychwyn ar ei waith yn swyddogol yn dilyn digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli.

    Mae Ifor ap Glyn, sy'n byw yng Nghaernarfon, yn olynu Gillian Clarke sydd wedi bod yn ei swydd ers 2008.

    Er bod y rôl yn ddi-dâl, mae disgwyl iddo gynrychioli llenyddiaeth Cymru yn y ddwy iaith mewn digwyddiadau ac ar lwyfannau ar draws Cymru a thu hwnt.   

  10. Achub dau caiaciwr

    BBC Cymru Fyw

    Mae dau caiaciwr wedi cael eu hachub ar ôl mynd i drafferthion ar arfordir Penfro'r prynhawn yma. 

    Cafodd gwylwyr y glannau Aberdaugleddau eu galw i'r ardal ger Trewent Point toc wedi 14:00.Roedd cwch un o'r caiacwyr wedi disgyn drosodd a bu yn y dŵr. 

  11. Y diweddaraf o'r Maes

    BBC Radio Cymru

    Mae criw Radio Cymru'n brysur ar Faes yr Eisteddfod yn y Fflint yn darlledu'r canlyniadau diweddaraf ac yn holi'r cystadleuwyr. Nia Lloyd Jones sy'n holi rhai o ddisgyblion Ysgol y Garnedd, Bangor, yn y llun yma.

    View more on twitter
  12. Enillydd Medal y Dysgwyr

    Eisteddfod yr Urdd

    Megan Elias o Hen Golwyn ydi enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

  13. 'Gwylltio'r cefnogwyr'

    The Daily Mail

    Mae Marks and Spencer wedi gwylltio cefnogwyr pêl-droed Cymru drwy arddangos posteri Euro2016 yn eu siopau yng Nghaerdydd, gan roi'r argraff eu bod yn cefnogi Lloegr, yn ôl gwefan y MailOnline. 

    Roedd JD Sports wedi gwneud rhywbeth tebyg hefyd yn ddiweddar gyda'u hysbysebion am grysau Lloegr.

    M&S sy'n darparu siwtiau i garfan Lloegr, ac roedd y cwmni nhw wedi dangos lluniau o chwaraewyr y wlad honno yn eu siopa yng Nghaerdydd. 

    Mae'r cwmni wedi ymddiheuro am achosi unrhyw anfodlonrwydd ymysg cefnogwyr Cymru.

  14. Newyddion teithio

    Teithio BBC Cymru

    Ceredigion: Yr A487 wedi ei rhwystro’n rhannol a’r traffig yn ciwio gan fod ‘na gar a charafan wedi torri rhwng Llanrhystud a Llanfarian.

    Ar yr A470, mae’r traffig yn ciwio i’r ddau gyfeiriad ger yr A494, y troiad am y Bala, oherwydd gwaith ffordd.

  15. Ledley'n mynd i Ffrainc

    BBC Cymru Fyw

    Mae Joe Ledley wedi ei gynnwys yn y garfan o 23 chwaraewr fydd yn cynrychioli Cymru yn Euro 2016.

    Fe wnaeth Ledley dorri asgwrn yn ei goes wrth chwarae i Crystal Palace ddechrau mis Mai ac roedd amheuon mawr am ei ffitrwydd.

    Emyr Huws, Paul Dummett, Adam Matthews a Wes Burns yw'r chwaraewyr sydd wedi cael eu rhyddhau ar ôl bod yn rhan o'r garfan ymarfer gwreiddiol.

    Ledley
  16. Euro 2016 - Cyhoeddi carfan Cymru

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Mae enwau'r 23 chwaraewr fydd yng ngharfan Cymru ar gyfer Euro 2016 wedi eu cyhoeddi. Y chwaraewyr fydd yn mynd i Ffrainc yw:

    Hennessey, Ward, Fôn Williams; Davies, Chester, Collins, Gunter, Richards, Taylor, A Williams; Allen, Edwards, King, Ledley, Ramsey, Vaughan, J Williams, G Williams; Bale, Church, Cotterill, Robson-Kanu, Vokes.

  17. Oriel luniau dydd Mawrth

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae oriel luniau o olygfeydd dydd Mawrth o Faes Eisteddfod yr Urdd newydd ymddangos yn adran gylchgrawn Cymru Fyw.

    Ed Holden
  18. A dyma garfan Slofacia....

    Euro 2016

    Wedi i Loegr gyhoeddi eu carfan ar gyfer Euro 2016, mae gwlad arall yn yr un grŵp a Chymru - Slofacia - newydd gyhoeddi eu carfan o 23 chwaraewr hefyd.

    Digon o gryfder yng nghanol cae, ond beth am yr ymosodwyr?

    View more on twitter
  19. Euro 2016: Cyhoeddi carfan Lloegr

    BBC Sport

    Mae Dan Roan, golygydd chwaraeon BBC Sport, wedi trydar rhestr carfan Lloegr fydd yn mynd i Euro 2016 yn Ffrainc. Mae Lloegr yn yr un grŵp a Chymru, ac fe fydd carfan Cymru'n cael ei chyhoeddi am 14:30 heddiw.

    View more on twitter