Mae absenoldeb oherwydd salwch wedi bod yn broblem ers pryd yn y cyngor, wrth i ffigyrau 2014 ddatgelu bod gweithwyr yr awdurdod yn colli 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd.
Ddydd Mercher ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe ddechreuodd ymgyrch i geisio dod o hyd i'r negeseuon coll ynghyd a hanesion unigolion sydd â atgofion o greu, gweld neu glywed y neges ar hyd y blynyddoedd gan gofnodi eu hatgofion hwy ar systemau'r Llyfrgell ar y maes.
Yn ystod y dydd, fe gyflwynodd pobl ifanc Ysgol Maes Garmon, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2016 yr Urdd ar lwyfan y pafiliwn.
BBCCopyright: BBC
Cyfarwyddwr Cynnwys newydd i S4C
S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Amanda Rees fydd Cyfarwyddwr Cynnwys newydd y sianel.
Ms Rees yw Cyfarwyddwr Creadigol TiFiNi - cwmni a sefydlodd hi ei hun yn 2012.
Mae hi'n arbenigo mewn cyd-gynhyrchu cyfresi a ffilmiau unigol i ddarlledwyr byd-eang gan gynnwys S4C, Channel 4, BBC, ITV, National Geographic a Discovery.
Bydd Ms Rees yn dechrau yn ei rôl gyda S4C ar ôl yr haf.
Heledd Cynwal ar gameraImage caption: Heledd Cynwal ar gamera
'Y peth we 'ma'
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae proffwydo yn gêm beryglus ar y gorau ond mae'n siŵr mai 'chydig iawn o ddarllenwyr papur newydd Wales on Sunday 'nôl yn 1995 fyddai wedi darogan datblygiadau technolegol aruthrol y ddau ddegawd canlynol.
Bryd hynny rhywbeth i bryfed cop yn unig oedd 'y we' ac efallai byddai rhai wedi dychmygu mai rhyw declyn arbennig i bysgotwyr dosbarth canol oedd y 'rhyngrwyd'. Faint ohonoch chi ar y pryd fyddai wedi anghytuno gyda dadansoddiad y colofnydd ifanc Richard Williams o werth yr 'internet'?
Roedd y beirniaid, Manon Steffan Ros a Iola Ynyr yn teimlo fod Lois yn "feistr ar weithio ar ddelweddau theatrig yn gynnil gan osod sialens synhwyrol i gynulleidfa".
Mae hi'n amlwg yn dod o deulu talentog - ei chwaer, Mared ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth.
BBCCopyright: BBC
'Angen trawsnewid addysg Cymru'
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae 26,581 o blant yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i fedru'r Gymraeg bob blwyddyn oherwydd y system addysg.
Er mwyn tynnu sylw at y mater, fe ddangosodd ymgyrchwyr rifau o flaen stondin Llywodraeth Cymru i gynrychioli'r hyn maen nhw'n honni yw 78% o blant saith mlwydd oed nad ydynt yn cael cyfle i fod yn rhugl yn Gymraeg.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo'n llawn i ddatblygiad parhaus addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yng Nghymru".
BBCCopyright: BBC
Nofio 220 milltir yr Hafren
BBC Wales News
Mae nofiwr o Gaerdydd wedi dechrau ar ei ymgyrch i nofio afon hiraf Prydain.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn
BBC Cymru Fyw
Mae'r llif byw wedi dod i ben am y diwrnod. Fe fyddwn ni 'nôl am 08:00 bore 'fory, ond bydd y diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.
Protest y Frenhines
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae Cylchgrawn Cymru Fyw wedi cyhoeddi darn yn cofio'r diwrnod pan ddaeth myfyrwyr Aberystwyth i sylw'r byd.
Ar 31 Mai 1996, daeth y Frenhines i Geredigion i agor estyniad newydd i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd hi hefyd i fod i agor adran newydd Prifysgol Aberystwyth ond wnaeth hynny ddim digwydd oherwydd protestio.
Staff Cyngor Môn yn 'colli gormod'
Daily Post
Mae rheolwyr wedi dweud bod staff Cyngor Môn yn colli gormod o ddyddiau gwaith oherwydd salwch, ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod bron i 27,000 o ddyddiau wedi cael eu colli y llynedd.
Mae absenoldeb oherwydd salwch wedi bod yn broblem ers pryd yn y cyngor, wrth i ffigyrau 2014 ddatgelu bod gweithwyr yr awdurdod yn colli 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd.
Maglau perygl ar lwybrau seiclo
BBC Wales News
Mae seiclwyr a rhedwyr yn cael eu hannog i gymryd gofal wedi i nifer o faglau perygl gael eu darganfod ar lwybrau seiclo yng Ngheredigion.
Byrddau pren gyda hoelion yn dod ohonyn nhw yw'r dyfeisiau, a dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn ymchwilio i'r darganfyddiadau.
Dau yn cyfaddef lladd dynes
BBC Cymru Fyw
Mae dyn a dynes wedi cyfaddef lladd dynes gafodd ei darganfod yn farw yn ei fflat yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Kial Ahmed, 34 oed, bledio'n euog i lofruddio Nadia Jones, 38 oed, yn ystod lladrad yn Nhremorfa ar 11 Medi y llynedd.
Fe wnaeth Roxanne Deacon, 26 oed, wadu llofruddio ond plediodd yn euog i ddynladdiad ac i ladrad.
Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu yn hwyrach yn y mis.
Marwolaeth M4: Cyhuddo gyrrwr
Heddlu Gwent
Mae gyrrwr wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth dyn trwy yrru'n beryglus ar yr M4 ger Casnewydd.
Roedd Andre Murphy, 56 oed o Iwerddon, yn newid teiar ar ochr y ffordd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn 45 oed o Ferthyr Tudful wedi'i gyhuddo ac y bydd yn ymddangos yn y llys yn hwyrach yn y mis.
Carwyn Jones: 'Angen addewidion gan Tata'
BBC Cymru Fyw
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y byddai'n rhaid i gwmni dur Tata wneud addewidion tymor hir am eu presenoldeb yng Nghymru cyn gwyrdroi eu penderfyniad i werthu eu busnesau yma.
Bu dyfalu diweddar y gallai'r cwmni gadw rhai o'u gweithfeydd yng Nghymru gan fod eu colledion wedi lleihau yn ddiweddar.
Mae Llywodraeth Prydain hefyd wedi cynnig cyflwyno mesurau i helpu ariannu cronfa bensiwn y cwmni.
Mourinho i fyw yng Nghymru?
Manchester Evening News
Yn ôl Manchester Evening News, mae rheolwr newydd Manchester United, Jose Mourinho, yn llygadu tŷ crand yn Rhuthun sydd werth tua £4m.
Y gred yw bod Mourinho yn edrych ar Gastell Gyrn, adeilad gymharol fodern sy'n cynnwys draig y tu allan sy'n chwythu tân.
Canu dros Gymru
Mae Bois y Fro wedi cyhoeddi fersiwn "arbennig" o 'Can't Take My Eyes Off You' ar wefan YouTube cyn Euro 2016.
Be 'dych chi'n feddwl? Mae wedi hollti barn yn y 'stafell newyddion...
Negeseuon heddwch yr Urdd 'ar goll'
BBC Cymru Fyw
Wrth i'r Urdd a phrosiect Cymru Dros Heddwch ymchwilio i hanes Neges Heddwch ac Ewyllys Da y mudiad, mae hi wedi dod i'r amlwg fod rhai negeseuon ar goll o'r archif yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Ddydd Mercher ar faes Eisteddfod yr Urdd, fe ddechreuodd ymgyrch i geisio dod o hyd i'r negeseuon coll ynghyd a hanesion unigolion sydd â atgofion o greu, gweld neu glywed y neges ar hyd y blynyddoedd gan gofnodi eu hatgofion hwy ar systemau'r Llyfrgell ar y maes.
Yn ystod y dydd, fe gyflwynodd pobl ifanc Ysgol Maes Garmon, Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2016 yr Urdd ar lwyfan y pafiliwn.
Cyfarwyddwr Cynnwys newydd i S4C
S4C
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Amanda Rees fydd Cyfarwyddwr Cynnwys newydd y sianel.
Ms Rees yw Cyfarwyddwr Creadigol TiFiNi - cwmni a sefydlodd hi ei hun yn 2012.
Mae hi'n arbenigo mewn cyd-gynhyrchu cyfresi a ffilmiau unigol i ddarlledwyr byd-eang gan gynnwys S4C, Channel 4, BBC, ITV, National Geographic a Discovery.
Bydd Ms Rees yn dechrau yn ei rôl gyda S4C ar ôl yr haf.
Cymru v Lloegr: 'Arhoswch draw heb docyn'
BBC Wales News
Dylai cefnogwyr sydd heb docynnau i'r gêm gadw draw o Lens ar ddiwrnod Cymru v Lloegr yn Euro 2016, yn ôl pennaeth heddlu fydd yn Ffrainc.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Furnham y dylai cefnogwyr wylio'r gêm mewn dinasoedd eraill am nad oes gan Lens yr isadeiledd i ddelio gyda phawb.
Anafiadau difrifol i feiciwr modur
Heddlu Gogledd Cymru
Mae beiciwr modur yn ei 40au wedi dioddef anafiadau difrifol iawn yn dilyn gwrthdrawiad â lori yn Queensferry y bore 'ma.
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, ddigwyddodd ar y B5129 am 09:10.
Dywedodd y llu mai rhwng lori sgip a beic modur Yamaha oedd y gwrthdrawiad.
Ar y teledu
Eisteddfod yr Urdd
Mae'r camerâu teledu i'w gweld o bryd i'w gilydd ar faes y Steddfod. Heledd Cynwal sy'n cyflwyno'r tro hwn, ac mae'r haul i weld yn dod allan!
Fe gewch chi holl newyddion yr ŵyl ar Cymru Fyw hefyd.
'Y peth we 'ma'
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae proffwydo yn gêm beryglus ar y gorau ond mae'n siŵr mai 'chydig iawn o ddarllenwyr papur newydd Wales on Sunday 'nôl yn 1995 fyddai wedi darogan datblygiadau technolegol aruthrol y ddau ddegawd canlynol.
Bryd hynny rhywbeth i bryfed cop yn unig oedd 'y we' ac efallai byddai rhai wedi dychmygu mai rhyw declyn arbennig i bysgotwyr dosbarth canol oedd y 'rhyngrwyd'. Faint ohonoch chi ar y pryd fyddai wedi anghytuno gyda dadansoddiad y colofnydd ifanc Richard Williams o werth yr 'internet'?
21 mlynedd yn ddiweddarach mae Cymru Fyw wedi cael sgwrs â Richard i'w atgoffa am ei broffwydoliaeth ac i roi cyfle arall iddo i asesu twf y we.
Bale yn ymarfer
Mae gohebydd pêl-droed BBC Cymru, Rob Phillips, wedi trydar llun o Gareth Bale ac Aaron Ramsey - gyda'i wallt melyn llachar - yn ymarfer heddiw.
Am y stori yn llawn, ewch yma.
Y Fedal Ddrama i Lois Llywelyn Williams
Eisteddfod yr Urdd
Lois Llywelyn Williams, sydd yn 18 oed ac yn fyfyrwraig Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016.
Roedd y beirniaid, Manon Steffan Ros a Iola Ynyr yn teimlo fod Lois yn "feistr ar weithio ar ddelweddau theatrig yn gynnil gan osod sialens synhwyrol i gynulleidfa".
Mae hi'n amlwg yn dod o deulu talentog - ei chwaer, Mared ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth.
'Angen trawsnewid addysg Cymru'
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae 26,581 o blant yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i fedru'r Gymraeg bob blwyddyn oherwydd y system addysg.
Mae'r mudiad eisiau i'r llywodraeth weithredu ar argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies, sy'n cynnwys dileu'r cysyniad o Gymraeg ail iaith a chyflwyno peth addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl.
Er mwyn tynnu sylw at y mater, fe ddangosodd ymgyrchwyr rifau o flaen stondin Llywodraeth Cymru i gynrychioli'r hyn maen nhw'n honni yw 78% o blant saith mlwydd oed nad ydynt yn cael cyfle i fod yn rhugl yn Gymraeg.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo'n llawn i ddatblygiad parhaus addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yng Nghymru".
Nofio 220 milltir yr Hafren
BBC Wales News
Mae nofiwr o Gaerdydd wedi dechrau ar ei ymgyrch i nofio afon hiraf Prydain.
Mae Ross O'Sullivan, 25 oed, yn gobeithio cwblhau'r her 220 milltir ar Afon Hafren mewn 20 diwrnod, i guro record Kevin Brady, gymrodd fis i'w wneud y llynedd.
Ymchwiliad lladradau: Arestio dau ddyn
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod dau ddyn wedi eu harestio yng Nghaernarfon y bore 'ma fel rhan o ymchwiliad i gyfres o ladradau yn y dref.
Dywedodd yr heddlu y bydd y ddau ddyn, sydd yn eu 40au ac yn dod o'r ardal, yn cael eu holi'n ddiweddarach.
Cafodd dyn yn ei 30au ei arestio mewn cysylltiad â throseddau cyffuriau.