Bydd rhai o gyn-aelodau Anrhefn, band Y Ffug, Welsh Rebel Outpost a dau fand lleol, Madfall Reibus ac Ian Rush yn perfformio yn gig ‘Rhedeg i Baris’ Cymdeithas yr Iaith.
Wps!
BBC Cymru Fyw
Yn dilyn ymateb da i oriel Cymru Fyw o gamgymeriadau ieithyddol ar arwyddion ar hyd a lled Cymru, mae ganddom ni gasgliad newydd heddiw. Mi gysylltodd Sion Jones o Abergele gyda ni a chynnig ei gasgliad personol. Mwynhewch, os mai dyna'r gair cywir!
Sion JonesCopyright: Sion Jones
Gobeithio na fydd 'na dân!Image caption: Gobeithio na fydd 'na dân!
Crysau retro pêl-droed Cymru
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae gwisgo crysau pêl-droed retro yn rywbeth ffasiynol iawn y dyddiau yma ac mae'r digrifwr Elis James wedi bod yn ychwanegu at ei gasgliad ers blynyddoedd.
Elis yw seren 'Elis in Euroland', sef cyfres o fideos byrion sydd wedi'u comisiynu gan BBC Cymru ar gyfer Euro 2016.
Cafwyd hyd i gorff Dr Dewi Holt ar draeth Southerdown 12 niwrnod ar ôl iddo fynd ar goll o'i gartref yn Rhiwbeina, Caerdydd.
bbcCopyright: bbc
Euro 2016: Pyllau glo a 'Welsh rarebit'
BBC Wales News
Mae gwefan newyddion Saesneg BBC Cymru yn rhoi sylw i dref fach Lens yn Frainc lle bydd miloedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn heidio i'r gêm yn erbyn Lloegr ar Mehefin 16.
Mae 'na debygrwydd rhwng y dref fach a Chymru meddai'r erthygl ...
BBCCopyright: BBC
Mae'n debyg fod 'Welsh rarebit' yn boblogaidd yn LensImage caption: Mae'n debyg fod 'Welsh rarebit' yn boblogaidd yn Lens
‘Cyfle ffantastig’ – pennaeth rhaglenni newydd
Golwg 360
Mae pennaeth rhaglenni newydd S4C yn dweud wrth golwg360 bod yna “gyfle ffantastig” i roi Cymru ar y map ym myd darlledu.
A rhan o weledigaeth Amanda Rees, sydd newydd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys y sianel, yw addasu’r deunydd i siwtio ffyrdd newydd o wylio rhaglenni teledu, yn enwedig ymhlith pobol ifanc.
Y nod, meddai wrth golwg360, “yw dathlu popeth sy’n bositif am ein diwylliant ni” a “pharhau i greu arlwy sy’n gallu cystadlu ag arlwy sianeli eraill ar draws Prydain ac ar draws y byd”.
Sgrin Fawr ac 'Ewro-byrgyrs' yn yr Hen Lyfrgell
BBC Cymru Fyw
Dywed yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd y bydd yn dangos gemau Cymru gyda sylwebaeth Gymraeg ar sgrîn fawr yn ystod pencampwriaeth Euro 2016.
Fe fyddan nhw hefyd yn cynnig bwyd a diod fydd yn cynnwys cwrw crefft o Gymru a bwydlen arbennig yn ystod y gemau fydd yn cynnwys ‘Ewro-byrgyrs’.
Mae'r drydedd yn y gyfres o erthyglau BBC Cymru Fyw sy'n edrych ar siomedigaethau pêl-droed Cymru ers cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958 yn sgwrsio gydag Alan Curtis am ymgyrch 1982.
Mae Curtis yn cofio'r gêm dyngedfennol pan ddiffoddodd y goleuadau yn y Vetch yn ystod gêm rhwng Cymru a Gwlad yr Iâ.
BBCCopyright: BBC
Pwy gafodd y gig?
Eisteddfod yr Urdd
Mae band o bobl ifanc a gafodd ei roi at ei gilydd gan raglen deledu Pwy Geith y Gig? wedi perfformio ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Fe gafodd Anian ei greu ar ôl i gynhyrchwyr y rhaglen grwydro Cymru yn chwilio am yr aelodau gorau. Eu gwobr ydy cael eu mentora gan bedwar adnabyddus yn y sîn gerddoriaeth a pherfformio’n fyw mewn gig arbennig yn Eisteddfod yr Urdd.
Yn ôl yr undeb sy'n cynrychioli'r gweithwyr, bydd aelodau yn ffatri RF Brookes yn Nhŷ Du yn colli miloedd o bunnau'r flwyddyn mewn taliadau i weithio shifftiau.
Ond mae perchnogion y cwmni, 2 Sisters Food Group, yn dadlau ei fod yn "gamarweiniol" i gysylltu eu cynllun taliadau newydd a'r cyflog byw.
Enillydd y categori uwchradd ydy Llŷr Titus am ei nofel antur, Gwalia.
Mae'r gwobrau yn cael eu cyflwyno'n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Roedd yn brofiad emosiynol i'r gynulleidfa meddai Lowri Cooke a'r actor Llion Williams yn serenu yn ei berfformiad o glaf sy'n mynd yn ôl i ddyddiau a iaith ei blentyndod.
Re-liveCopyright: Re-live
Taith 40 milltir i gael cymorth swyddi i bobl Rhyl
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
A dyna ni...
BBC Cymru Fyw
Fe fyd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Gwener.
Sut brynhawn?
Tywydd, BBC Cymru
Fe fydd heno'n sych efo awyr glir dros nos, ond rhywfaint o gymylau yn cyrraedd ardaloedd dwyreiniol y wlad yn ystod yr oriau man.
Y tymheredd yn syrthio i rhwng 6 a 9C heno.
Ewch i'r wefan dywydd am ragolygon eich ardal.
Castell Cymreig i Jose Mourinho?
Daily Post
Yn ôl y Daily Post mae rheolwr newydd Manchester United, Jose Mourinho, yn meddwl am brynu castell yng Ngogledd Cymru.
Dywed y papur ei fod wedi bod i weld Castell Gyrn ger Rhuthun, sydd ar werth am £3.9m, ddwy waith.
Gig Rhedeg i Baris
Golwg 360
Mae Golwg360 yn sôn am gig nos yfory i gloi Eisteddfod yr Urdd y Fflint ac i ddathlu bod Cymru wedi cyrraedd pencampwriaeth Ewro 2016.
Bydd rhai o gyn-aelodau Anrhefn, band Y Ffug, Welsh Rebel Outpost a dau fand lleol, Madfall Reibus ac Ian Rush yn perfformio yn gig ‘Rhedeg i Baris’ Cymdeithas yr Iaith.
Wps!
BBC Cymru Fyw
Yn dilyn ymateb da i oriel Cymru Fyw o gamgymeriadau ieithyddol ar arwyddion ar hyd a lled Cymru, mae ganddom ni gasgliad newydd heddiw. Mi gysylltodd Sion Jones o Abergele gyda ni a chynnig ei gasgliad personol. Mwynhewch, os mai dyna'r gair cywir!
Crysau retro pêl-droed Cymru
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae gwisgo crysau pêl-droed retro yn rywbeth ffasiynol iawn y dyddiau yma ac mae'r digrifwr Elis James wedi bod yn ychwanegu at ei gasgliad ers blynyddoedd.
Elis yw seren 'Elis in Euroland', sef cyfres o fideos byrion sydd wedi'u comisiynu gan BBC Cymru ar gyfer Euro 2016.
Cyn teithio i Ffrainc, bu'r cefnogwr brwd yn egluro wrth Cymru Fyw pa gitiau pêl-droed yw ei ffefrynnau:
Rheithfarn agored ar wyddonydd
BBC Cymru Fyw
Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn agored ar farwolaeth gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd y cafwyd hyd i'w gorff ar draeth ym Mro Morgannwg.
Cafwyd hyd i gorff Dr Dewi Holt ar draeth Southerdown 12 niwrnod ar ôl iddo fynd ar goll o'i gartref yn Rhiwbeina, Caerdydd.
Euro 2016: Pyllau glo a 'Welsh rarebit'
BBC Wales News
Mae gwefan newyddion Saesneg BBC Cymru yn rhoi sylw i dref fach Lens yn Frainc lle bydd miloedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn heidio i'r gêm yn erbyn Lloegr ar Mehefin 16.
Mae 'na debygrwydd rhwng y dref fach a Chymru meddai'r erthygl ...
‘Cyfle ffantastig’ – pennaeth rhaglenni newydd
Golwg 360
Mae pennaeth rhaglenni newydd S4C yn dweud wrth golwg360 bod yna “gyfle ffantastig” i roi Cymru ar y map ym myd darlledu.
A rhan o weledigaeth Amanda Rees, sydd newydd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cynnwys y sianel, yw addasu’r deunydd i siwtio ffyrdd newydd o wylio rhaglenni teledu, yn enwedig ymhlith pobol ifanc.
Y nod, meddai wrth golwg360, “yw dathlu popeth sy’n bositif am ein diwylliant ni” a “pharhau i greu arlwy sy’n gallu cystadlu ag arlwy sianeli eraill ar draws Prydain ac ar draws y byd”.
Sgrin Fawr ac 'Ewro-byrgyrs' yn yr Hen Lyfrgell
BBC Cymru Fyw
Dywed yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd y bydd yn dangos gemau Cymru gyda sylwebaeth Gymraeg ar sgrîn fawr yn ystod pencampwriaeth Euro 2016.
Fe fyddan nhw hefyd yn cynnig bwyd a diod fydd yn cynnwys cwrw crefft o Gymru a bwydlen arbennig yn ystod y gemau fydd yn cynnwys ‘Ewro-byrgyrs’.
Lluniau dydd Iau
Eisteddfod yr Urdd
Gadewch i'r Dewin Myrddin eich tywys drwy ein horiel o luniau o faes braf Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Diffodd goleuadau'r Vetch 1982
BBC Cymru Fyw
Mae'r drydedd yn y gyfres o erthyglau BBC Cymru Fyw sy'n edrych ar siomedigaethau pêl-droed Cymru ers cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958 yn sgwrsio gydag Alan Curtis am ymgyrch 1982.
Mae Curtis yn cofio'r gêm dyngedfennol pan ddiffoddodd y goleuadau yn y Vetch yn ystod gêm rhwng Cymru a Gwlad yr Iâ.
Pwy gafodd y gig?
Eisteddfod yr Urdd
Mae band o bobl ifanc a gafodd ei roi at ei gilydd gan raglen deledu Pwy Geith y Gig? wedi perfformio ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.
Fe gafodd Anian ei greu ar ôl i gynhyrchwyr y rhaglen grwydro Cymru yn chwilio am yr aelodau gorau. Eu gwobr ydy cael eu mentora gan bedwar adnabyddus yn y sîn gerddoriaeth a pherfformio’n fyw mewn gig arbennig yn Eisteddfod yr Urdd.
Cofio Arwyr '76
BBC Radio Cymru
Mae Glyn Griffiths yn cofio arwyr pêl-droed angofiedig 1976, "un o'r timau gorau yn Ewrop", ar flog Ar y Marc.
Bydd Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr ’76 gyda John Hardy yn cael ei ddangos nos Iau nesaf, 9 Mehefin ar S4C.
Byw gyda dementia
BBC Cymru Fyw
Sut brofiad yw byw gyda Dementia? Bydd rhaglen Panorama heno yn clywed gan Chris Roberts o Ruddlan a gafodd ddiagnosis pan oedd yn 50 oed.
Mae cynhyrchydd y rhaglen Maria David wedi bod yn rhoi ei hargraffiadau o Chris a'r ffordd mae'r clefyd yn effeithio arno.
Pêl-droedwyr yr Urdd
Eisteddfod yr Urdd
Pwy a ŵyr nad yw Bale, Ramsey a Ledley y dyfodol wedi vod yn dangos eu doniau ar gae chwaraeon Eisteddfod yr Urdd heddiw?
Gweithwyr ffatri fwyd yn streicio dros newid cyflog
BBC Cymru Fyw
Mae gweithwyr mewn ffatri fwyd ger Casnewydd yn cynnal streic ddydd Iau, dros fwriad y cwmni i gyflwyno'r cyflog byw cenedlaethol.
Yn ôl yr undeb sy'n cynrychioli'r gweithwyr, bydd aelodau yn ffatri RF Brookes yn Nhŷ Du yn colli miloedd o bunnau'r flwyddyn mewn taliadau i weithio shifftiau.
Ond mae perchnogion y cwmni, 2 Sisters Food Group, yn dadlau ei fod yn "gamarweiniol" i gysylltu eu cynllun taliadau newydd a'r cyflog byw.
Gwobrau Tir na-Nog
BBC Cymru Fyw
Siân Lewis a Valériane Leblond yw enillwyr y categori cynradd yng ngwobrau Tir na-Nog am eu cyfrol Pedair Cainc y Mabinogi.
Enillydd y categori uwchradd ydy Llŷr Titus am ei nofel antur, Gwalia.
Mae'r gwobrau yn cael eu cyflwyno'n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i awduron y llyfrau gorau i blant a phobl ifanc sydd wedi eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Drama 'bwerus'
"Dwi’m yn cofio gweld drama mor bwerus ers tro," meddai Lowri Haf Cooke yn ei hadolygiad o'r ddrama Perthyn/Belonging sy'n trafod effaith Dementia.
Roedd yn brofiad emosiynol i'r gynulleidfa meddai Lowri Cooke a'r actor Llion Williams yn serenu yn ei berfformiad o glaf sy'n mynd yn ôl i ddyddiau a iaith ei blentyndod.
Taith 40 milltir i gael cymorth swyddi i bobl Rhyl
BBC Cymru Fyw
Bydd tua 100 o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau PeoplePlus Cymru yn y Rhyl yn gorfod teithio tua 40 milltir i fynychu apwyntiadau.
Mae'r asiantaeth, sydd yn darparu'r gwasanaeth ar ran Adran Gwaith a Phensiynau'r llywodraeth, yn cau eu swyddfa yn y dref ddydd Gwener.
Bydd yn rhaid i gwsmeriaid PeoplePlus deithio i'r Fflint er mwyn mynychu apwyntiadau.