Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mawrth.
Noson sych a chynnes
Tywydd, BBC Cymru
Bydd heno’n noson sych a chynnes gyda rhai cyfnodau braf, ond bydd 'na gaowydd o gwmpas hefyd - rhai o’r rhain yn drwm iawn ac yn daranllyd.
Y tymheredd isaf dros nos yn 14°C.
Perchnogion newydd CPD Dinas Bangor
Chwaraeon BBC Cymru
Mae CPD Dinas Bangor newydd gyhoeddi bod consortiwm o ddynion busnes o Sir Caer wedi prynu'r clwb.
Mewn datganiad ar eu gwefan, fe fydd y swyddogion presennol yn camu o'r neilltu, ac Ivor Jenkins fydd cadeirydd newydd y clwb.
bangor cityCopyright: bangor city
Y diweddara ar y ffyrdd
Teithio BBC Cymru
Yn Aberystwyth, mae ciwiau ar yr A487 tua’r gogledd yn y gwaith ffordd rhwng Llanfarian a Rhydyfelin, ac mae damwain wedi digwydd ar yr A525 ym Miwmares.
58 ers '58 - Yr Alban yn '85
BBC Cymru Fyw
Ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958, mae'r tîm cenedlaethol wedi dod yn agos at wneud eu marc ar y byd pêl-droed rhyngwladol sawl tro.
Mewn cyfres o erthyglau, bydd Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r adegau cyffrous orffennodd mewn siom wrth i Gymru foddi wrth ymyl y lan.
Mewn neges ar Twitter, dywedodd Bethan Jenkins: “Fel gweriniaethwr ymroddedig, fydda’ i ddim eto’n mynychu agoriad brenhinol o’r #senedd. Byddaf yn parhau gyda’r gwaith o wasanaethu’r bobol yn fy rhanbarth.”
Fe fydd y Frenhines, Dug Caeredin, Y Tywysog Siarl a Duges Cernyw yn teithio i Fae Caerdydd yfory er mwyn agor tymor newydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Adolygiad o'r gig i gloi'r Steddfod
Eisteddfod yr Urdd
Yn draddodiadol, ar derfyn wythnos Prifwyl yr Urdd, bydd cystadleuwyr a thrigolion y maes yn ymlwybro o'r pafiliwn trwy'r stondinau caeëdig, a mynd adref i wylio uchafbwyntiau'r dydd, neu fynd allan i'r dref agosaf, gan ddweud hwyl fawr i'r Eisteddfod tan y flwyddyn nesaf.
Malakai Fekitoa, sy'n debygol o gael ei ddewis i gynrhychioli'r Crysau Duon dydd SadwrnImage caption: Malakai Fekitoa, sy'n debygol o gael ei ddewis i gynrhychioli'r Crysau Duon dydd Sadwrn
Ar un adeg roedd y fflamau wedi cyrraedd tua 100 llath o res o fythynnod ac roedd 'na bryder y gallai rhai pobl leol orfod gadael eu cartrefi.
bbcCopyright: bbc
Y Rhagolygon
Tywydd, BBC Cymru
Bydd hi’n brynhawn braf a chynnes arall gydag awel ysgafn. Bydd hi’n sych i’r rhan fwyaf ond mae na gawodydd o gwmpas gyda chawodydd trymion, chesair a tharanau i rai.
Mae rhybudd melyn am hyn yn y gogledd orllewin a Bae Ceredigion tan 21:00. Y tymheredd uchaf yn 25°C.
Dywed yr adolygiad fod y grŵp o bentref Bethel ger Caernarfon wedi cyrraedd y disgwyliadau uchel a bod eu halbwm - Tir A Golau - yn llwyddo i "gyfleu tirwedd gogledd Cymru drwy'r newidiadau cerddorol a gwead yn y cyfanwaith."
bbcCopyright: bbc
Cwmni bysiau yn nwylo'r gweinyddwyr
BBC Cymru Fyw
Mae cwmni bysiau Silcox o Sir Benfro wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Roedd y cwmni 134 oed yn rhedeg fflyd o 65 bws ond mae wedi rhoi'r gorau i fasnachu ar ôl cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ddydd Llun.
Slade yn rheolwr ar Charlton
Mae Sky News wedi trydar i ddweud fod cyn-reolwr Caerdydd, Russel Slade wedi ei benodi yn rheolwr ar Charlton Athletic.
Mae cynghorwyr yn dweud bod y sgwâr, a gafodd ei ddatblygu yn y 1990au, "wedi gweld dyddiau gwell" ac maen nhw eisiau ei adfywio a'i wneud yn fwy "lliwgar".
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
A dyna ni...
BBC Cymru Fyw
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mawrth.
Noson sych a chynnes
Tywydd, BBC Cymru
Bydd heno’n noson sych a chynnes gyda rhai cyfnodau braf, ond bydd 'na gaowydd o gwmpas hefyd - rhai o’r rhain yn drwm iawn ac yn daranllyd.
Y tymheredd isaf dros nos yn 14°C.
Perchnogion newydd CPD Dinas Bangor
Chwaraeon BBC Cymru
Mae CPD Dinas Bangor newydd gyhoeddi bod consortiwm o ddynion busnes o Sir Caer wedi prynu'r clwb.
Mewn datganiad ar eu gwefan, fe fydd y swyddogion presennol yn camu o'r neilltu, ac Ivor Jenkins fydd cadeirydd newydd y clwb.
Y diweddara ar y ffyrdd
Teithio BBC Cymru
Yn Aberystwyth, mae ciwiau ar yr A487 tua’r gogledd yn y gwaith ffordd rhwng Llanfarian a Rhydyfelin, ac mae damwain wedi digwydd ar yr A525 ym Miwmares.
58 ers '58 - Yr Alban yn '85
BBC Cymru Fyw
Ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958, mae'r tîm cenedlaethol wedi dod yn agos at wneud eu marc ar y byd pêl-droed rhyngwladol sawl tro.
Mewn cyfres o erthyglau, bydd Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r adegau cyffrous orffennodd mewn siom wrth i Gymru foddi wrth ymyl y lan.
Pwy sy'n cofio'r gêm honno yn erbyn yr Alban ym Mharc Ninian ym mis Medi 1985? Gêm sy'n aros yn y cof am farwolaeth sydyn Jock Stein, a'r siom o fethu cyrraedd y nod unwaith eto.
Agoriad y Senedd – AC Plaid Cymru ddim am fynychu
Golwg 360
Mae golwg360 yn adrodd fod Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fydd yn mynychu agoriad swyddogol y Pumed Cynulliad yfory.
Mewn neges ar Twitter, dywedodd Bethan Jenkins: “Fel gweriniaethwr ymroddedig, fydda’ i ddim eto’n mynychu agoriad brenhinol o’r #senedd. Byddaf yn parhau gyda’r gwaith o wasanaethu’r bobol yn fy rhanbarth.”
Fe fydd y Frenhines, Dug Caeredin, Y Tywysog Siarl a Duges Cernyw yn teithio i Fae Caerdydd yfory er mwyn agor tymor newydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Adolygiad o'r gig i gloi'r Steddfod
Eisteddfod yr Urdd
Yn draddodiadol, ar derfyn wythnos Prifwyl yr Urdd, bydd cystadleuwyr a thrigolion y maes yn ymlwybro o'r pafiliwn trwy'r stondinau caeëdig, a mynd adref i wylio uchafbwyntiau'r dydd, neu fynd allan i'r dref agosaf, gan ddweud hwyl fawr i'r Eisteddfod tan y flwyddyn nesaf.
Ifan Prys o grŵp y Cledrau sy'n adolygu'r gig wnaeth gloi Eisteddfod yr Urdd eleni.
Manylion digwyddiad TED Bangor wedi eu cyhoeddi
Daily Post
Yn y Daily Post mae manylion digwyddiad 'Ted Talk' Cymraeg fydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Pontio, Bangor. Ymysg y siaradwyr mae rhedwr cyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, llawfeddyg niwrolegol a rhedwr marathons ultra.
Cymru yn ymarfer
Undeb Rygbi Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi fideo o'r garfan yn ymarfer cyn gêm brawf yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn.
Y gêm dydd Sadwrn fydd y gyntaf o dair yn nhaith y tîm cenedlaethol i hemisffer y de'r haf hwn.
Pwy fydd yn nhîm y Crysau Duon?
Wales Online
Mae gwefan WalesOnline yn trafod chwaraewyr Seland Newydd fydd yn debygol o wynebu Cymru yn Eden Park ddydd Sadwrn. Mae Seland Newydd wedi colli ambell seren ers Cwpan y Byd, gyda Dan Carter a Richie McCaw ymysg y chwaraewyr i ymddeol o rygbi rhyngwladol.
Arddangosfa o wisgoed cyfresi teledu
Llanelli Star
Mae'r Llanelli Star yn adrodd y bydd Canolfan Tŷ Llanelli yn cynnal arddangosfa o wisgoedd cyfresi Dad's Army a Mr Selfridge dros yr haf.
Fe ddaw'r arddangosfa wedi llwyddiant arddangosfa o wisgoedd y gyfres boblogaidd Downton Abbey, a gafodd ei gynnal yn y ganolfan flwyddyn ddiwethaf.
Sgôr diweddaraf: Morgannwg v Caerloyw
Criced, BBC Cymru
Y diweddara' o'r criced ydi bod Morgannwg 74/1 (18 pelawd) yn erbyn Sir Caerloyw, gyda David Lloyd allan am 28.
Comisiynydd heddlu yn chwilio am ddirprwy
South Wales Argus
Mae'r Argus yn adrodd fod Comisiynydd Heddlu a THrosedd Heddlu Gwent yn chwilio am ddirprwy newydd.
Fe gafodd Jeffrey Cuthbert o'r blaid Lafur ei ethol i'r swydd yn dilyn etholiad ym mis Mai.
Ymchwilio wedi tân mynydd ger Dwygyfylchi
BBC Cymru Fyw
Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos tân mawr ar ochr mynydd uwchben Dwygyfylchi, ger Penmaenmawr, dros y penwythnos.
Ar un adeg roedd y fflamau wedi cyrraedd tua 100 llath o res o fythynnod ac roedd 'na bryder y gallai rhai pobl leol orfod gadael eu cartrefi.
Y Rhagolygon
Tywydd, BBC Cymru
Bydd hi’n brynhawn braf a chynnes arall gydag awel ysgafn. Bydd hi’n sych i’r rhan fwyaf ond mae na gawodydd o gwmpas gyda chawodydd trymion, chesair a tharanau i rai.
Mae rhybudd melyn am hyn yn y gogledd orllewin a Bae Ceredigion tan 21:00. Y tymheredd uchaf yn 25°C.
Beth yw gêm genedlaethol Cymru?
BBC Radio 4
Ar Radio 4 dros y penwythnos darlledwyd rhaglen y comediwr Elis James, a oedd yn trafod beth yw ein gêm genedlaethol yng Nghymru? Yn y cyntaf o ddwy raglen ar y pwnc, mae Elis yn siarad â Martin Johnes, Sarah Dunant, Laura McAllister, Dai Smith a Simon Kuper.
Canmol band gwerin
Facebook
Mae Folk Radio UK wedi cyhoeddi adolygiad o albwm diweddara'r triawd gwerinol Plu.
Dywed yr adolygiad fod y grŵp o bentref Bethel ger Caernarfon wedi cyrraedd y disgwyliadau uchel a bod eu halbwm - Tir A Golau - yn llwyddo i "gyfleu tirwedd gogledd Cymru drwy'r newidiadau cerddorol a gwead yn y cyfanwaith."
Cwmni bysiau yn nwylo'r gweinyddwyr
BBC Cymru Fyw
Mae cwmni bysiau Silcox o Sir Benfro wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Roedd y cwmni 134 oed yn rhedeg fflyd o 65 bws ond mae wedi rhoi'r gorau i fasnachu ar ôl cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ddydd Llun.
Slade yn rheolwr ar Charlton
Mae Sky News wedi trydar i ddweud fod cyn-reolwr Caerdydd, Russel Slade wedi ei benodi yn rheolwr ar Charlton Athletic.
Cynllun 'parc dinesig' i Abertawe
BBC Cymru Fyw
Gallai Sgwâr y Castell yn Abertawe gael ei drawsnewid yn barc dinesig.
Mae cynghorwyr yn dweud bod y sgwâr, a gafodd ei ddatblygu yn y 1990au, "wedi gweld dyddiau gwell" ac maen nhw eisiau ei adfywio a'i wneud yn fwy "lliwgar".