Guto Harri yn dweud bod 'na gyfrifoldeb mawr ar arweinwyr ymgyrch Gadael i wneud eu 'gweledigaeth' i weithio:
Video content
Video caption: Guto HarriGuto Harri
Llywodraeth Iwerddon: Cyfarfod brys
Refferendwm UE
Mae Llywodraeth Iwerddon wedi galw cyfarod brys o'r cabinet ddydd Gwener yn dilyn canlyniad y refferendwm yma yn y DU.
Ymateb Glyn Davies A.S.
Refferendwm UE
Ymateb yr Aelod Seneddol Ceidwadol Glyn Davies i'r canlyniad:
Video content
Video caption: Glyn DaviesGlyn Davies
Arglwydd Hain: 'Canlyniad trychinebus'
Refferendwm UE
Mae'r Arglwydd Hain, arweinydd ymgyrch Llafur Cymru dros Aros, wedi dweud wrth BBC Radio Wales fod y canlyniad heddiw yn un "trychinebus i Gymru fydd yn dod a chanlyniadau difrifol i bobl."
Ychwanegodd mai'r bobl oedd wedi pleidleisio dros adael oedd y rhai oedd yn elwa fwyaf o arian Ewrop, ac nad oedd sicrwydd y byddai cynllun yr M4 ger Casnewydd na Metro De Cymru yn gweld golau dydd bellach.
Cymru: 'Dim grym i fargeinio'
Refferendwm UE
Does dim grym gan Gymru i geisio cael bargen dda am fod y wlad wedi pleidleisio i adael yr UE, meddai'r Athro Richard Wyn Jones:
Video content
Video caption: Richard Wyn JonesRichard Wyn Jones
Lle nesaf o fan hyn?
Elliw Gwawr
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
Mae Prydain wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond beth fydd yn digwydd nesaf? Fyddwn ni ddim yn gadael yn syth, mae yna flynyddoedd o drafod o'n blaenau.
Y cwestiwn nawr yw pwy fydd yn ein harwain ni trwy'r trafodaethau dwys sydd i ddod? Ai David Cameron, - sydd wedi dadlau mor chwyrn yn erbyn gadael - yw’r person cywir, neu a oes angen wyneb newydd wrth y llyw?
Cyn hyn mae David Cameron wedi mynnu y bydd yn aros doed a ddelo, ond mae methiant ar y raddfa yma yn ei gwneud hi'n anodd iawn iddo barhau.
Ond eto gyda'r bunt yn disgyn mor sylweddol â chymaint o ansicrwydd o'n blaenau, mae'r marchnadoedd yn chwilio am sefydlogrwydd.
Dyna pam y bydd David Cameron o fewn yr oriau nesaf yn camu allan o rif 10 Downing Street i wneud datganiad, yn ei gwneud hi'n glir, beth yw'r camau nesaf iddo fo a'r wlad.
Cameron yn 'or-hyderus'
Refferendwm UE
Mae David Cameron wedi bod yn "or-hyderus" dros y misoedd diwethaf meddai Vaughan Roderick:
Video content
Video caption: Vaughan RoderickVaughan Roderick
Geiriau Saunders Lewis yn wir?
Refferendwm UE
Y Bargyfreithiwr Gwion Lewis: "Fedrai'm peidio meddwl am eiriau Saunders Lewis y bore ma, oherwydd mi nath Saunders Lewis sawl tro ddatgan bod o'n bryderus bod 'na rhywbeth Anewropeaidd ynglŷn â'r meddylfryd Cymreig. Dw i'n credu bod ni wedi gweld hynny."
Y Post Cyntaf ym Mrwsel
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Mae'r Post Cyntaf yn darlledu'n fyw o Frwsel y bore ma, gyda Carl Roberts a Dylan Jones wrth y llyw. Mae Kate Crocket a Gwenllian Grigg yn cyflwyno o Gaerdydd - ag Alun Thomas yn San Steffan.
BBCCopyright: BBC
'Gwrthod gwrando' ar yr arbenigwyr
Refferendwm UE
Y bargyfreithiwr Gwion Lewis yn dweud bod pobl wedi penderfynu peidio gwrando ar yr arbenigwyr yn ystod yr ymgyrch:
Video content
Video caption: Gwion LewisGwion Lewis
Sefydlogrwydd cyn hir?
Refferendwm UE
Y Ceidwadwr Harri Lloyd Davies yn credu y bydd y marchnadoedd arian yn sefydlogi mewn ychydig ddyddiau:
Video content
Video caption: Harri Lloyd DaviesHarri Lloyd Davies
Cerdd ar ôl canlyniad
Refferendwm UE
Ar fore hanesyddol i wleidyddiaeth Prydain, Siôn Aled sydd yn cynnig cerdd i Cymru Fyw i nodi'r achlysur:
I Ewrop, dyma wawrio - i wewyr
dyhead yn gwywo:
rôl hynny, pa fory fo?
Does neb â'r ateb eto.
'Moment hanesyddol'
Refferendwm UE
Yr hanesydd Hywel Williams yn dweud bod heddiw yn 'foment hanesyddol':
Video content
Video caption: Hywel WilliamsHywel Williams
Yr ymgyrch Gadael yn fuddugol
Refferendwm UE
Mae'r ymgyrch dros adael wedi cyrraedd y trothwy oedd angen ei groesi o ran niferoedd pleidleisiau er mwyn sicrhau buddugoliaeth.
O ganlyniad mae'r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio o fwyafrif o blaid gadael yr UE.
BBCCopyright: BBC
Nifer o gwestiynau i'w hateb....
Refferendwm UE
Yr uwch ddarlithydd Anwen Elias yn dweud bod llawer o gwestiynau heb eu hateb yn dilyn y canlyniad:
Video content
Video caption: Anwen EliasAnwen Elias
Llafur 'heb weiddi digon' medd A.S.
Refferendwm UE
Yr AS Llafur Nia Griffith yn cyfaddef efallai fod ei phlaid heb weiddi digon yn ystod yr ymgyrch:
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Mae llif byw'r refferendwm wedi dod i ben
Refferendwm UE
A dyna ni - mae llif byw'r refferendwm wedi dod i ben ar fore hanesyddol i wleidyddiaeth ym Mhrydain.
Cofiwch bydd ein llif byw arferol yn dechrau ymhen llai nag awr am 08:00. Tan hynny, diolch i chi am ddilyn y llif dros nos.
Dim 'plan B'
Refferendwm UE
A.S. Ceidwadol David Davies yn deud bod hi wedi bod yn 'gamgymeriad' cynnig refferendwm heb gael 'plan B':
Video content
Dylanwad pobl hŷn...
Twitter
Cyfrifoldeb ar arweinwyr Gadael
Refferendwm UE
Guto Harri yn dweud bod 'na gyfrifoldeb mawr ar arweinwyr ymgyrch Gadael i wneud eu 'gweledigaeth' i weithio:
Video content
Llywodraeth Iwerddon: Cyfarfod brys
Refferendwm UE
Mae Llywodraeth Iwerddon wedi galw cyfarod brys o'r cabinet ddydd Gwener yn dilyn canlyniad y refferendwm yma yn y DU.
Ymateb Glyn Davies A.S.
Refferendwm UE
Ymateb yr Aelod Seneddol Ceidwadol Glyn Davies i'r canlyniad:
Video content
Arglwydd Hain: 'Canlyniad trychinebus'
Refferendwm UE
Mae'r Arglwydd Hain, arweinydd ymgyrch Llafur Cymru dros Aros, wedi dweud wrth BBC Radio Wales fod y canlyniad heddiw yn un "trychinebus i Gymru fydd yn dod a chanlyniadau difrifol i bobl."
Ychwanegodd mai'r bobl oedd wedi pleidleisio dros adael oedd y rhai oedd yn elwa fwyaf o arian Ewrop, ac nad oedd sicrwydd y byddai cynllun yr M4 ger Casnewydd na Metro De Cymru yn gweld golau dydd bellach.
Cymru: 'Dim grym i fargeinio'
Refferendwm UE
Does dim grym gan Gymru i geisio cael bargen dda am fod y wlad wedi pleidleisio i adael yr UE, meddai'r Athro Richard Wyn Jones:
Video content
Lle nesaf o fan hyn?
Elliw Gwawr
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
Mae Prydain wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond beth fydd yn digwydd nesaf? Fyddwn ni ddim yn gadael yn syth, mae yna flynyddoedd o drafod o'n blaenau.
Y cwestiwn nawr yw pwy fydd yn ein harwain ni trwy'r trafodaethau dwys sydd i ddod? Ai David Cameron, - sydd wedi dadlau mor chwyrn yn erbyn gadael - yw’r person cywir, neu a oes angen wyneb newydd wrth y llyw?
Cyn hyn mae David Cameron wedi mynnu y bydd yn aros doed a ddelo, ond mae methiant ar y raddfa yma yn ei gwneud hi'n anodd iawn iddo barhau.
Ond eto gyda'r bunt yn disgyn mor sylweddol â chymaint o ansicrwydd o'n blaenau, mae'r marchnadoedd yn chwilio am sefydlogrwydd.
Dyna pam y bydd David Cameron o fewn yr oriau nesaf yn camu allan o rif 10 Downing Street i wneud datganiad, yn ei gwneud hi'n glir, beth yw'r camau nesaf iddo fo a'r wlad.
Cameron yn 'or-hyderus'
Refferendwm UE
Mae David Cameron wedi bod yn "or-hyderus" dros y misoedd diwethaf meddai Vaughan Roderick:
Video content
Geiriau Saunders Lewis yn wir?
Refferendwm UE
Y Bargyfreithiwr Gwion Lewis: "Fedrai'm peidio meddwl am eiriau Saunders Lewis y bore ma, oherwydd mi nath Saunders Lewis sawl tro ddatgan bod o'n bryderus bod 'na rhywbeth Anewropeaidd ynglŷn â'r meddylfryd Cymreig. Dw i'n credu bod ni wedi gweld hynny."
Y Post Cyntaf ym Mrwsel
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Mae'r Post Cyntaf yn darlledu'n fyw o Frwsel y bore ma, gyda Carl Roberts a Dylan Jones wrth y llyw. Mae Kate Crocket a Gwenllian Grigg yn cyflwyno o Gaerdydd - ag Alun Thomas yn San Steffan.
'Gwrthod gwrando' ar yr arbenigwyr
Refferendwm UE
Y bargyfreithiwr Gwion Lewis yn dweud bod pobl wedi penderfynu peidio gwrando ar yr arbenigwyr yn ystod yr ymgyrch:
Video content
Sefydlogrwydd cyn hir?
Refferendwm UE
Y Ceidwadwr Harri Lloyd Davies yn credu y bydd y marchnadoedd arian yn sefydlogi mewn ychydig ddyddiau:
Video content
Cerdd ar ôl canlyniad
Refferendwm UE
Ar fore hanesyddol i wleidyddiaeth Prydain, Siôn Aled sydd yn cynnig cerdd i Cymru Fyw i nodi'r achlysur:
I Ewrop, dyma wawrio - i wewyr
dyhead yn gwywo:
rôl hynny, pa fory fo?
Does neb â'r ateb eto.
'Moment hanesyddol'
Refferendwm UE
Yr hanesydd Hywel Williams yn dweud bod heddiw yn 'foment hanesyddol':
Video content
Yr ymgyrch Gadael yn fuddugol
Refferendwm UE
Mae'r ymgyrch dros adael wedi cyrraedd y trothwy oedd angen ei groesi o ran niferoedd pleidleisiau er mwyn sicrhau buddugoliaeth.
O ganlyniad mae'r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio o fwyafrif o blaid gadael yr UE.
Nifer o gwestiynau i'w hateb....
Refferendwm UE
Yr uwch ddarlithydd Anwen Elias yn dweud bod llawer o gwestiynau heb eu hateb yn dilyn y canlyniad:
Video content
Llafur 'heb weiddi digon' medd A.S.
Refferendwm UE
Yr AS Llafur Nia Griffith yn cyfaddef efallai fod ei phlaid heb weiddi digon yn ystod yr ymgyrch:
Video content
Canlyniad Cymru: 'Methiant' Llafur a Phlaid Cymru
Twitter