Fe fyddwn ni'n ôl ddydd Mawrth nesa am 1.30pm ar gyfer y Cyfarfod Llawn.
BBCCopyright: BBC
Penodi Comisiwn y Cynulliad
Ac yn ola yn y Siambr heddiw cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad.
Mae'r aelodau wedi cymeradwyo cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn penodi Joyce Watson, Llafur, Dai Lloyd o Blaid Cymru, Suzy Davies o'r Ceidwadwyr a Caroline Jones, UKIP yn aelodau o Gomisiwn y Cynulliad.
Goleuo adeiladau eiconig yn goch
I ddathlu achlysur Euro 2016 mae Ysgrifennydd yr Economi wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn gweld môr o goch wrth i adeiladau eiconig Cymru, gan gynnwys ei chestyll, gael eu goleuo yn lliwiau cit cartref tîm pêl-droed Cymru.
Bydd yr adeiladau’n cael eu goleuo am y tro cyntaf ar 10 Mehefin, sef y noson cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia, a byddan nhw'n parhau i gael eu goleuo drwy gydol cyfnod gemau’r grwpiau a chyhyd ag y bydd Cymru yn chwarae yn y bencampwriaeth.
Dim teithio i Lens heb docynnau
Mae Ken Skates wedi ailadrodd cyngor yr heddlu na ddylai cefnogwyr Cymru deithio i Lens heb docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr yng Nghystadleuaeth Euro 2016 ar Fehefin 16.
Mae rhai'n rhagweld y gallai dros 100,000 o ddilynwyr pêl-droed gyrraedd y ddinas sydd a phoblogaeth o llai na 40,000 o bobl.
Euphoria Euro 2016
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer dechrau ymgyrch y tîm pêl-droed yng Nghystadleuaeth Euro 2016 ddydd Sadwrn mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates, yn rhoi datganiad ar Bencampwriaeth Pêl-droed Ewrop.
Fe fydd Cymru yn wynebu Slofacia yn Grŵp B yn Stade de Bordeaux am 5pm ein hamser ni.
Cymru'n dathlu ennill lle ym Mhencampwriaeth Euro 2016Image caption: Cymru'n dathlu ennill lle ym Mhencampwriaeth Euro 2016
Newid sylweddol
Yn ôl y Prif Weinidog mae wedi clywed bod sefyllfa ariannol y gwaith ym Mhort Talbot bellach wedi newid yn sylweddol, ar ôl colli miliwn o bunnau'r dydd dri mis yn ôl. Gweddnewidiad sylweddol meddai.
GeCopyright: Ge
Amddiffyn y cynllun pensiwn
Mae Mr Jones yn dweud nad yw pensiynau wedi'u datganoli, ond mae'n dweud ei fod yn grediniol bod yn rhaid amddiffyn y cynllun pensiwn a'r Ymddiriedolwyr.
Yn ol Carwyn Jones mae'n rhaid i Tata a Llywodraeth Prydain weithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniad teg a chywir i aelodau'r cynllun.
Ar Fai 26 fe wnaeth Llywodraeth Prydain ddechrau ymgynghoriad ar yr opsiynau ar gyfer darparu sicrwydd ar gyfer Cyllun Pensiwn Dur Prydain.
'Bargen drws cefn twyllodrus'
Mae Adam Price, Plaid Cymru yn mynegi pryder ynglŷn a'r hyn mae'n ddweud yw ffafriaeth ymddangosiadol Downing Street am fargen drws cefn twyllodrus gyda Tata yn hytrach na phroses werthu deg a thryloyw. Mae'n awgrymu ei bod hi'n bosib mai'r awydd am newyddion fyddai'n wleidyddol gyfleus cyn Mehefin 23 sydd werth wraidd hyn.
Mae Mr Jones yn dweud bod yn rhaid cael dyfodol tymor hir i'r diwydiant dur yng Nghymru.
BBCCopyright: BBC
Datganiad gan y Prif Weinidog ar Gwmni Dur Tata
Mae datganiad nesa'r Prif Weinidog ar Gwmni Dur Tata.
Fis diwetha fe deithiodd i Mumbai ar gyfer cyfres o gyfarfodydd i drafod dyfodol gweithfeydd cynhyrchu dur Tata yng Nghymru, gan ddweud bod y trafodaethau yn adeiladol ac arwyddocaol.
ReutersCopyright: Reuters
Mae Gwaith Dur Port Talbot yn cyflogi dros 4,000 o weithwyrImage caption: Mae Gwaith Dur Port Talbot yn cyflogi dros 4,000 o weithwyr
'Ddim i'w argymell yn arbennig'
Mae'r cyn Ddirprwy Lywydd David Melding yn dweud mai hon fyddai pedwaredd Deddf Cymru o fewn 20 mlynedd. Mae'n ychwanegu nad yw newidiadau cyson o'r fath mewn cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol i'w argymell mewn gwirionedd.
BBCCopyright: BBC
'Rhai anghytundebau sylfaenol'
Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei bod hi'n anochel y bydd "rhai anghytundebau sylfaenol" o hyd, er enghraifft datganoli plismona. Bydd Llywodraeth Cymru meddai, yn dal i bwyso ar y mater hwn ac yn annog dadl yn San Steffan.
Mae'n ychwanegu bod llawer o waith i'w wneud o fewn amserlen dynn a'i fod yn gobeithio y bydd modd i'r pleidiau gyd-weithio er mwyn sicrhau'r gorau i Gymru.
'Cynyddu cyfrifoldebau'r Cynulliad yn ddramatig'
Mae Andrew RT Davies yn dweud y bydd y mesur yn "cynyddu'n ddramatig gyfrifoldebau'r Cynulliad."
Mae'n dweud "mae'n rhaid i ni fachu ar y cyfle i sicrhau bod y mesur yn mynd yn ei flaen ar amser."
BBCCopyright: BBC
'Aelod tlawd o fewn yr undeb'
Mae Leanne Wood yn dweud y bydd y mesur newydd yn cadarnhau statws Cymru fel yr aelod tlawd o fewn yr undeb.
'Croeso gofalus'
Yn ôl Mr Jones mae hanes y mesur wedi bod yn un arteithiol.
Mae'n dweud, er bod y mesur bellach ymhell o fod "yn berffaith, mae'n well na'r drafft blaenorol" ac felly mae'n rhoi "croeso gofalus" iddo.
Datganiad ar Fesur Cymru
Bydd yr aelodau nawr yn gwrando ar Ddatganiad y Prif Weinidog ar Fesur Cymru.
Fe gafodd fersiwn o'r ddeddf arfaethedig ar ei newydd wedd ei chyhoeddi ddoe, Mae'n addo pwerau newydd i'r Cynulliad dros ffracio, prosiectau ynni mawr, y system etholiadol, gan gynnwys yr opsiynau i gynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad a newid enw'r Cynulliad i fod yn Senedd go iawn.
Mae hefyd yn diddymu'r angen i Lywodraeth Cymru alw refferendwm cyn cael rheolaeth o rai pwerau treth incwm.
Mae'r mesur bellach wedi cael ei gyflwyno i Senedd San Steffan ac mae disgwyl iddo gwblhau ei daith trwy Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arlgwyddi ymhen y deuddeg mis nesa.
BBCCopyright: BBC
Materion gafodd eu codi
Ymhlith y materion sydd wedi'u codi gan aelodau'r Cynulliad mae'r anghydfod yn yr Amgueddfa Genedlaethol ynglŷn a rhoi'r gorau i roi tâl penwythnos i weithwyr, a Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Amgueddfa Genedlaethol wedi gwneud cynnig sy'n "sylweddol yn well" i staff, meddai Jane Hutt.
Cadarnhaodd bod y cynnig wedi ei wneud i undeb y PCS ar y penwythnos. Dywedodd bod yr amgueddfa a'r PCS yn cyfarfod y prynhawn yma i drafod y cynnig.
BBCCopyright: BBC
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Yr eitem nesa yn y Siambr fydd y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes, sy'n amlinelli busnes y Cynulliad am y tair wythnos nesaf.
BBCCopyright: BBC
'Am hynod ddiddorol'
Wrth ymateb i sylwadau Neil Hamilton ar lwybr gwahanol i gynllun yr M4, mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, gafodd ei beirniadu gan Lafur ar ôl i UKIP gefnogi ei chais hi i fod yn Brif Weinidog yn y Senedd fis diwetha, yn dweud hyn wrth Carwyn Jones.
"Mae'n edrych yn debyg falle y gallech chi daro bargen gyda UKIP ar ddyfodol y llwybr du. Am hynod ddiddorol."
BBCCopyright: BBC
Galwad i ymestyn dyddiad cau cofrestri
Mae'r Prif Weinidog yn cytuno gydag arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y dylai pobl allu parhau i gofrestri i bleidleisio yn dilyn nam technegol ar wefan cyn y dyddiad cau i gofrestri ar gyfer Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
BBCCopyright: BBC
Yr M4 a tollau Pont Hafren
Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad Neil Hamilton yn galw am weithredu ar draffordd yr M4 a thollau Pont Hafren.
Mae Mr Jones yn gwadu ei fod wedi rhoi o'r neilltu gynlluniau i ddelio â'r mater
Dywedodd Mr Hamilton y gallai ei blaid newid i gefnogi llwybr du yr M4 gan fod hyn yn "well na dim llwybr".
Meddai Mr Hamilton, "Fe ddaethom i'r lle yma i fod yn adeiladol yn ein safle ac rydym eisiau chwarae'r rôl y mae Plaid Cymru nawr yn honni eu bod yn chwarae, o ran datblygiad polisi'r llywodraeth.
"Rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du, bod fy mhlaid yn barod i drafod gyda'r llywodraeth.
"Fel y gwnes i ddweud yn gynharach, rydym yn credu fod y llwybr du yn well na dim llwybr o gwbl ac, os ydyn hwn yn angenrheidiol er mwyn dadflocio'r rhwystr, rydym yn barod i chwarae ein rhan."
Atebodd Carwyn Jones ei fod yn "gwrando ar beth ddywedodd arweinydd UKIP. Mae'n bwysig fod y broses nawr yn symud ymlaen".
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl Fawr
A dyna Senedd Fyw am heddiw.