"Mae disgwyl ambell gawod drom mewn mannau dwyreiniol hefo mellt a tharanau yn hwyr y prynhawn 'ma, ond bydd unrhyw gawodydd yn clirio heno. Mae'n bosib y bydd rhywfaint o niwl yn datblygu ond noson gynnes arall."
Daw sylwadau Dr Rhys Jones ar ôl pryder gan fwrdd iechyd yn ddiweddar fod cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu brathu gan nadroedd.
Yn ôl Dr Jones o Brifysgol Caerdydd dyw'r wiber ddim yn naturiol am ymosod ar bobl, ond gall ddigwydd pe bai nhw'n teimlo dan fygythiad.
PACopyright: PA
Y diweddaraf o Dinard
BBC Camp Lawn
Sut olwg sydd ar y garfan? Ydi Joe Ledley yn ffit i ddechrau ynteu ar y fainc fydd yn dechrau ddydd Sadwrn?
Dylan Griffiths sy'n sgwrsio â chyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts am y diweddaraf am y tîm a'r gwersyll yn Dinard.
Video content
Video caption: Dylan Griffiths fu'n holi Iwan Roberts am y tîm a'r awyrgylch yn y gwersyllDylan Griffiths fu'n holi Iwan Roberts am y tîm a'r awyrgylch yn y gwersyll
Maen nhw wedi bod yn datgan eu hanfodlonrwydd ar wefannau cymdeithasol.
Yn ôl y cyngor dydyn nhw ddim yn gallu torri'r gwair mor aml ag oedden nhw oherwydd y toriadau ariannol maen nhw'n eu hwynebu.
'Cynnig gwell' i streicwyr amgueddfa
BBC Wales News
Mae'r Amgueddfa Genedlaethol wedi gwneud "cynnig llawer gwell" i staff sy'n cymryd rhan mewn streic oherwydd cynllun i newid system taliadau am weithio penwythnosau.
Daw'r adolygiad wrth i ymchwiliad arall fynd rhagddo yn dilyn cwynion am gynnwys perfformiad gan fyfyrwyr meddygol ym mis Chwefror.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod y cwynion yn ymwneud â'r ffaith fod paent neu golur wedi ei rhoi ar wyneb myfyriwr fel bod y wyneb yn ddu, a bod y sioe wedi dynwared aelod o staff.
Dywedodd arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton, mai eu bwriad ym Mae Caerdydd oedd bod yn "adeiladol".
Roedd maniffesto UKIP o blaid y llwybr glas, sy'n fyrrach ac yn rhatach.
Y llwybr du £1.1bn mae'r llywodraeth yn ei ffafrio, ond mae Plaid Cymru, yr Ysgrifennydd Addysg o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, a rhai ACau Llafur yn gwrthwynebu'r llwybr hwn.
BBCCopyright: BBC
Y nod yw adeiladu ffordd newydd er mwyn lliniaru traffig yn ardal twnelau BryngalsImage caption: Y nod yw adeiladu ffordd newydd er mwyn lliniaru traffig yn ardal twnelau Bryngals
Dirwy am anfon gwybodaeth gyfrinachol
BBC Wales News
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi derbyn dirwy o £150,000 gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi i heddwas anfon ebost i aelod o'r cyhoedd oedd yn cynnwys gwybodaeth fyddai wedi gallu arwain at adnabod nifer o droseddwyr rhyw.
Anfonodd yr heddwas y neges oedd yn trafod wyth troseddwr rhyw at aelod o'r cyhoedd, ac roedd y neges yn cynnwys enwau, rhifau ffôn a chyfeiriadau'r troseddwyr.
'Ansicrwydd' swyddi Cymraeg i Oedolion
Golwg 360
Yn ôl Golwg 360 mae 'na 'ansicrwydd' ynglŷn â dyfodol swyddi Cymraeg i Oedolion am fod y gwaith wedi ei rannu rhwng mwy o gyrff. Dyw rhai aelodau o staff ddim wedi cael gwybod os byddan nhw'n cael cytundeb newydd eto meddai'r undeb UNSAIN.
Disgyblion Dinard yn bloeddio
BBC Cymru Fyw
Mae gohebydd Cymru Fyw yn Dinard, Ffrainc wedi anfon fideo fer o ddisgyblion ysgol y dref yn bloeddio eu croeso i garfan Cymru heddiw wrth i'r chwaraewyr ymarfer yn gynharach.
Video content
Video caption: Croeso cynnes disgyblion Dinard i garfan CymruCroeso cynnes disgyblion Dinard i garfan Cymru
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn
BBC Cymru Fyw
Mae'r llif byw wedi dod i ben am y diwrnod. Fe fyddwn ni 'nôl am 08:00 bore 'fory, ond bydd y diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.
Hergest: Cynnydd mewn hunanladdiadau?
BBC Cymru Fyw
Mae crwner wedi cofnodi rheithfarn naratif mewn cwest yn Llangefni yn achos marwolaeth ffermwr 56 oed o Lanfechell ar Ynys Môn.
Roedd Elfed Hughes wedi lladd ei hun ar ei fferm Bwchanan, Mynydd Mechell, ym mis Medi y llynedd.
Roedd yn dioddef o salwch meddwl, ac roedd ei deulu wedi crefu ar y staff yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd i beidio gadael iddo ddod adref.
Ffaith ta chwedl?
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Bydd Caryl Parry Jones a'i gwesteion ar Radio Cymru 'fory yn trafod straeon sy'n cael eu rhannu'n eang fel ffeithiau, ond sydd â dim sail iddyn nhw.
Pa straeon yn hanes Cymru y gallwn ni ddweud yn ddiamheuaeth eu bod nhw wedi digwydd?
Dy'n ni wedi casglu enghreifftiau o hanesion sydd wedi eu rhannu dros y canrifoedd. Ond y'ch chi'n eu credu nhw?
'Ambell gawod drom'
Tywydd, BBC Cymru
Oes newyddion da gyda Rhian Haf i ni am heno?
"Mae disgwyl ambell gawod drom mewn mannau dwyreiniol hefo mellt a tharanau yn hwyr y prynhawn 'ma, ond bydd unrhyw gawodydd yn clirio heno. Mae'n bosib y bydd rhywfaint o niwl yn datblygu ond noson gynnes arall."
Am eich tywydd lleol chi, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.
Morgannwg yn gosod targed
Criced, BBC Cymru
Mae Morgannwg wedi gorffen eu batiad yn y gêm undydd yn erbyn Sussex yn Stadiwm Swalec.
Mae'r tîm o dde Cymru wedi gosod targed o 302 i'r ymwelwyr, sydd ar fin dechrau batio.
Cerdded am y tro cyntaf mewn pedair blynedd
BBC Cymru Fyw
Mae dyn gafodd ddamwain beic modur 10 mlynedd yn ôl yn dysgu i gerdded eto gyda chymorth siwt feionig arloesol.
Mae'r siwt yn gweithio drwy ymateb i symudiadau'r corff. Mari Grug sydd â'r hanes:
Video content
10 rheswm i barchu Cymru
New Zeland Herald
Mae'r New Zeland Herald yn rhestru 10 rheswm pan fyddai hi efallai'n dderbyniol i dîm rygbi Gymru guro'r Crysau Duon.
Un o'r rhesymau - y ffaith nad yw Cymru'n hoff iawn o Loegr!
Rybudd i fod yn wyliadwrus am nadroedd
BBC Cymru Fyw
Mae arbenigwr nadroedd wedi dweud wrth Cymru Fyw bod angen i bobl fod yn llawer mwy gwyliadwrus o'r hyn sydd o'u cwmpas wrth fentro i'r gwyllt.
Daw sylwadau Dr Rhys Jones ar ôl pryder gan fwrdd iechyd yn ddiweddar fod cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu brathu gan nadroedd.
Yn ôl Dr Jones o Brifysgol Caerdydd dyw'r wiber ddim yn naturiol am ymosod ar bobl, ond gall ddigwydd pe bai nhw'n teimlo dan fygythiad.
Y diweddaraf o Dinard
BBC Camp Lawn
Sut olwg sydd ar y garfan? Ydi Joe Ledley yn ffit i ddechrau ynteu ar y fainc fydd yn dechrau ddydd Sadwrn?
Dylan Griffiths sy'n sgwrsio â chyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts am y diweddaraf am y tîm a'r gwersyll yn Dinard.
Video content
Gwair yn tyfu'n hir yng Ngwynedd
Daily Post
Mae'r Daily Post yn dweud bod trigolion Gwynedd yn flin bod y cyngor ddim wedi bod yn torri gwair mewn parciau, llefydd cyhoeddus a mynwentydd.
Maen nhw wedi bod yn datgan eu hanfodlonrwydd ar wefannau cymdeithasol.
Yn ôl y cyngor dydyn nhw ddim yn gallu torri'r gwair mor aml ag oedden nhw oherwydd y toriadau ariannol maen nhw'n eu hwynebu.
'Cynnig gwell' i streicwyr amgueddfa
BBC Wales News
Mae'r Amgueddfa Genedlaethol wedi gwneud "cynnig llawer gwell" i staff sy'n cymryd rhan mewn streic oherwydd cynllun i newid system taliadau am weithio penwythnosau.
Dywedodd Jane Hutt wrth ACau bod yr amgueddfa ac undeb y PCS yn cyfarfod heddiw i drafod y cynnig.
Mae'r undeb wedi bod yn cynnal streiciau ar benwythnosau ar safleoedd yr amgueddfa ar draws Cymru.
Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad
Heddlu De Cymru
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe ddoe.
Bu farw Thomas James Lewis, 22 oed yn y gwrthdrawiad ar yr A483 ger mynediad Parc Penllergawr am 17:25
Roedd yn gyrru Dacia Sandero gwyn wnaeth daro i mewn i wal.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth, ac mae teulu'r dyn yn cael cefnogaeth gan swyddogion.
Y Cymry Cymraeg gorau 'rioed
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae pum Cymro Cymraeg yng ngharfan Cymru o 23 ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2016.
Tybed fu cynifer o Gymry Cymraeg yng ngharfan bêl-droed Cymru erioed o'r blaen?
Ar ôl i Chris Coleman ddewis Owain Fôn Williams, Ben Davies, Joe Allen, Aaron Ramsey a David Vaughan, mae Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Gareth Blainey wedi dewis y tîm gorau o siaradwyr Cymraeg y mae wedi'u gweld yn chwarae i Gymru.
Adolygiad yn ymwneud â chydraddoldeb hiliol
BBC Cymru Fyw
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal adolygiad annibynnol er mwyn ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb hiliol.
Daw'r adolygiad wrth i ymchwiliad arall fynd rhagddo yn dilyn cwynion am gynnwys perfformiad gan fyfyrwyr meddygol ym mis Chwefror.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod y cwynion yn ymwneud â'r ffaith fod paent neu golur wedi ei rhoi ar wyneb myfyriwr fel bod y wyneb yn ddu, a bod y sioe wedi dynwared aelod o staff.
Ymestyn dyddiad cau cofresru i bleidleisio
Gohebydd Seneddol BBC Cymru ar Twitter
Twitter
Y bws yn barod
BBC Cymru Fyw
Mae gohebydd Cymru Fyw yn Dinard wedi anfon llun o fws swyddogol Cymru yn Euro 2016.
Gobeithio na fydd gormod o ffraeo am bwy sy'n cael eistedd yn y sedd gefn...
UKIP i gefnogi llwybr 'du' yr M4
BBC Cymru Fyw
Mae UKIP yn barod i gefnogi'r llwybr du ar gyfer y ffordd osgoi'r M4, gan helpu Llywodraeth Cymru gael ei chynlluniau drwy'r Senedd.