a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    Diolch i chi am ddilyn llif Cymru Fyw unwaith eto. Hwyl am y tro, nôl am 08:00 fore Mercher.

  2. Cymru ar ei hennill

    BBC Sport Wales

    Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Ashley Williams, wedi disgrifio sut oedd o'n arfer cefnogi Lloegr yn blentyn. 

    Hyfforddwr ieuenctid Cymru, Bryan Flynn, welodd Williams yn chwarae gyntaf yn Stockport a dechreuodd y gwaith ditectif i ddarganfod gwreiddiau Cymreig y gŵr o Wolverhampton. 

    John Toshack wnaeth Williams yn gapten Cymru
    Image caption: John Toshack wnaeth Williams yn gapten Cymru
  3. Mam o flaen llys wedi marwolaeth ei mab

    BBC Cymru Fyw

    Mae mam a'i chariad o Gaerdydd wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth ei mab pump oed yn dilyn gwrthdrawiad.

    Bu farw Joseph Smith ar ôl gwrthdrawiad ar Rhodfa'r Gorllewin fis Medi'r llynedd. 

    Mae Dean Collis, 22, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, tra bod Laura Bright, 23, wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth plentyn yn ei gofal. 

    Wnaeth yr un o'r ddau gyflwyno ple ffurfiol ac mae disgwyl i'r achos ddechrau fis Rhagfyr.

  4. Criced: Cwpan Undydd

    Criced, BBC Cymru

    Criced ac yn y Cwpan Undydd yn Stadiwm Swalec mae Middlesex wedi sgorio 290 am 7 ar ôl 50 pelawd yn erbyn Morgannwg. Sgoriodd cyn-fatiwr Morgannwg Brendon McCullum 110 a Dawid Malan 70 i'r ymwelwyr.

  5. Y Flying Scotsman ar ei ffordd i Gymru

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn sôn am ymweliad y Flying Scotsman â Chymru 'fory, wrth iddi deithio o Gaer i Gaergybi.

    Mae'n debyg nad oes modd nodi union fanylion y daith, oherwydd ofnau y gallai pobl fynd ar y cledrau i geisio cael gwell golwg ar drên stêm enwocaf y byd.

    Flying Scotsman
  6. Dim seibiant yn y tywydd

    Tywydd, BBC Cymru

    Y tywydd gyda Rhian Haf: "Mae 'na rybudd heno am gawodydd trymion mewn sawl man yn y gogledd a'r canolbarth efo cenllysg a tharanau ac o bosib fydd yna lifogydd."

    Am y sefyllfa ddiweddaraf yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  7. Plas Glynllifon i gadw ei enw

    Daily Post

    Dywed y Daily Post y bydd Plas Glynllifon yng Ngwynedd yn cael ei drawsnewid i westy moethus yn ôl cynlluniau sydd newydd eu datgelu. 

    Cafodd y Plasty 102 ystafell ei brynu yn gynharach eleni. Fe fydd yr enw yn cael ei gadw, hyn yn dilyn ffrae y llynedd oherwydd cynlluniau darpar berchennog i newid yr enw i Wynnborn.  

    Plas Glynllifon
  8. Diarddel gweithiwr cymdeithasol

    BBC Cymru Fyw

    Mae gweithiwr cymdeithasol wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr gweithwyr cymdeithasol, ar ôl gadael gwybodaeth gyfrinachol am blant bregus a'u teuluoedd, yng nghartref un o ddefnyddwyr y gwasanaeth. 

    Roedd Malcolm Whittaker yn cael ei gyflogi gan gyngor Bro Morgannwg ar y pryd.

    Penderfynodd gwrandawiad ei fod yn euog o gam-weinyddu.

  9. Diogelu'r Preselau

    BBC Cymru Fyw

    Roedd cynlluniau gan y Swyddfa Ryfel i droi holl ardal Mynyddoedd y Preseli yn ganolfan hyfforddi milwrol wedi'r Ail Ryfel Byd.  Felly sut wnaeth y gymuned leol atal hynny?

    Mae'r stori lawn yn adran Gylchgrawn Cymru Fyw.

    arw6ydd milwrol
  10. Cawodydd trwm yn achosi rhai problemau

    Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

    Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i nifer o achosion o lifogydd yn Wrecsam a Sir Fflint yn dilyn cawodydd trwm.

    Mae nifer o ffyrdd wedi eu cau a son fod cartrefi hefyd wedi eu heffeithio yng Ngwersyllt a Bagillt. 

  11. Morgannwg: Cwpan Undydd

    Criced, BBC Cymru

    Ar ôl i gricedwyr Morgannwg alw'n gywir a phenderfynu maesu yn Stadiwm Swalec mae'r ymwelwyr Middlesex 167 heb golled ar ôl 25 pelawd yn eu gêm yn y Cwpan Undydd.

  12. Teulu milwr yn ceisio cael ail gwest

    Golwg 360

    Mae'r Twrnai Cyffredinol wedi rhoi hawl i deulu milwr a fu farw ym Marics Deepcut 21 o flynyddoedd yn ôl i wneud apêl i'r Uchel Lys am ail gwest i amgylchiadau ei farwolaeth, medd Golwg 360.

     Bu farw'r Preifat Sean Benton yn 1995, fo oedd y cyntaf o bedwar milwr ifanc i farw yn Deepcut rhwng 1995 a 2002.

    Ddechrau'r mis penderfynodd ail-gwest i farwolaeth y Preifat Cheryl James o Langollen na chafodd y milwr 18 oed ei lladd yn anghyfreithlon

    Barics Deepcut
  13. Pryder am ddyfodol Clwb y Bont

    BBC Cymru Fyw

    Mae Clwb y Bont ym Mhontypridd wedi rhybuddio fod y ganolfan mewn peryg o gau

    Dywed y Clwb, sy'n gyrchfan i Gymry Cymraeg y dre', eu bod yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.

    Fe fydd pwyllgor y Clwb yn cwrdd ymhen 10 diwrnod i drafod gwahanol opsiynau.

  14. Bale: 'Gallwn ni guro Lloegr'

    Euro 2016

    Mae Gareth Bale hefyd wedi bod yn siarad hefo'r wasg allan yn Ffrainc gan amddiffyn ei sylwadau'r wythnos ddiwetha' fod gan Gymru "fwy o angerdd a balchder" na Lloegr.

    "Gall pobl ddweud be' maen nhw eisiau, dwi'n credu i rywun ddweud 'mod i'n amharchus o Loegr, mae ganddyn nhw hawl i'w barn, dim ots gen i.

    "Dwi ddim yn dweud nad oes gan Loegr angerdd na balchder, ond wrth sôn am rygbi neu bêl-droed rydyn ni fel petai ni'n cyrraedd y lefel nesa' yng Nghymru.

    "Da  ni'n gwybod fod Lloegr yn wlad fwy, gyda mwy o chwaraewyr i ddewis o'u plith ond 'da ni wedi cau'r bwlch yn aruthrol.  Os weithiwn ni fel tîm a chwarae'n dda dwi'n credu y gallwn ni ennill."

    Gareth Bale
  15. Ramsey yn canmol y cefnogwyr

    Euro 2016

    Mewn cynhadledd i'r wasg yn Ffrainc, mae chwaraewr canol cae Cymru Aaron Ramsey wedi canmol y cefnogwyr.

    "Roedden nhw'n wych, roedd 'na lawer iawn wedi gwneud y siwrne ac fe wnaeth yr heddlu gefnogi eu hymddygiad."

    Wrth ymateb i'r helynt rhwng cefnogwyr Rwsia a Lloegr, dywedodd "gallai ond siarad ar ran cefnogwyr Cymru a pha mor wych maen nhw wedi bod - roedd y ddau grŵp o gefnogwyr yn Bordeaux yn cymysgu'n dda a gobeithio y gallan nhw barhau i wneud ein gwlad yn falch."

    O ran y gêm yn Lens dywedodd fod "Cymru mewn lle da ar frig y grŵp a bod y pwysau i gyd ar Loegr."

    Cefnogwyr
  16. Rhybudd yn sgil tywydd stormus

    Y Swyddfa Dywydd

    Mae'r awdurdodau'n rhybuddio am amodau rhewllyd yn ardal Conwy yn sgil cawodydd stormus a glaw trwm.

    Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub y canolbarth, fe gawson nhw eu galw i dŷ yn Y Drenewydd amser cinio oherwydd llifogydd.

    Mae'r tywydd stormus dros Bowys, Gwynedd a Chonwy yn raddol symud tua'r gogledd ddwyrain.

  17. Trafferthion ar y ffyrdd

    Teithio BBC Cymru

    Conwy: Mae'r A470 ynghau ar ôl damwain rhwng beic modur a char ger Abaty Maenan, rhwng Llanrwst a Thal y Cafn - yr heddlu'n dweud fod hi'n llithrig yno ar ôl cawodydd o genllysg. 

    Ynys Môn: Mae 'na un lôn ynghau ar yr A55 ar ôl damwain rhwng Gaerwen a Llangefni.

  18. Cartref newydd i'r Ambiwlans Awyr

    BBC Cymru Fyw

    Mae cangen yr Ambiwlans Awyr yn ne Cymru wedi symud i bencadlys newydd yn Nafen, Llanelli. 

    Cyn hyn roedd gwasanaeth y de'n cael ei weinyddu o ddau adeilad oedd yn cael eu rhentu yn Abertawe. 

    Ambiwlans
  19. Mwy o blismyn Prydain i fynd i Ffrainc

    ITV

    Mae ITV yn cyfeirio at gadarnhad Llywodraeth Prydain y bydd mwy o heddlu'n cael eu hanfon i Ffrainc cyn i Gymru chwarae Lloegr yn Lens ddydd Iau.

    Trais yn Marseille
    Image caption: Roedd 'na wrthdaro rhwng heddlu a chefnogwyr yn Marseille dros y penwythnos