Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai Ifor Edward Davies oedd y dyn fuodd farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhentrefoelas ddydd Mercher 15 Mehefin.
Roedd Mr Davies yn 59 oed ac yn dod o ardal Pentrefoelas.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A5 ger Pentrefoelas ac mae'r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth.
Cawodydd yn gostegu
Tywydd, BBC Cymru
Er bod cawodydd trwm yn para mewn rhannau o'r canolbarth a'r de ddwyrain p'nawn 'ma mae disgwyl i'r cawodydd ostegu yn ystod min nos ac fe ddylai fod yn noson sych i'r rhan fwyaf ohonom ni.
Mae cynhyrchydd theatr wnaeth dwyllo i gael gwerth miloedd o bunnau o grantiau wedi cael ei garcharu am 18 mis.
Roedd Michael Salmon yn gynhyrchydd sioe yng Nghanolfan y Mileniwm ac mi ddefnyddiodd hyn i'w fantais i gael grantiau ar gyfer ei ddefnydd personol trwy dwyll.
BBCCopyright: BBC
'Naws newydd, brwnt' yn bodoli
BBC Cymru Fyw
Mae Llywydd y Cynulliad Elin Jones wedi dweud ei bod hi wedi dod ar draws "naws newydd, brwnt" wrth ymgyrchu yn yr etholiad Cynulliad diweddar.
Ar ei gwefan facebook mae'r Aelod Cynulliad yn dweud bod "sylwadau hiliol, rhagfarnllyd, brwnt yn cael eu gweiddi ar stepiau drws" a bod pobl yn fwy agored i ddweud hyn yn gyhoeddus erbyn hyn.
BBCCopyright: BBC
Cynghorydd yn ildio'r awennau
Plaid Cymru
Mae'r Cynghorydd Eurig Wyn wedi penderfynu ildio'r awenau fel cynrychiolydd Plaid Cymru Waunfawr ar Gyngor Gwynedd am resymau personol.
Enillodd Mr Wyn sedd Waunfawr yn Etholiad Cyngor Gwynedd yn 2012.
Bu'n gynrychiolodd Cymru fel Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1999 a 2004 ac mae hefyd wedi bod yn Gynghorydd Cymuned Waunfawr ers nifer o flynyddoedd.
Plaid CymruCopyright: Plaid Cymru
Matt Dawson yn talu nôl i Savage
BBC Radio 5 Live
Mae cyn chwaraewr rygbi Lloegr Matt Dawson wedi achub ar y cyfle i ddial ar Robbie Savage am ei ffonio yn fyw ar y radio llynedd i frolio buddugoliaeth tîm rygbi Cymru dros Loegr yn Twickenham.
Fe ffoniodd Dawson Radio 5 Live er mwyn gwneud yn union yr un peth i Savage wedi i Gymru golli i Loegr ym mhencampwriaeth Euro 2016 ddoe.
Bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal ymysg aelodau undeb y PCS yn dilyn cynnig gwell, allai arwain at ddod a diwedd i`r anghydfod sydd wedi para dwy flynedd.
Ers 28 Ebrill mae gweithwyr wedi cynnal streic mewn protest yn erbyn cynlluniau i newid y taliadau ar gyfer gweithio penwythnosau.
BBCCopyright: BBC
Ysgol gynradd newydd ym Môn?
Cyngor Ynys Môn
Mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi hysbysiad ffurfiol o'i fwriad i adeiladu ysgol gynradd newydd ar gyfer ardal Bro Aberffraw ac yn awyddus i wneud gwaith adnewyddu yn Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Brynsiencyn.
Y cynnig cyntaf yw sefydlu ysgol gynradd newydd ym Mro Aberffraw. Byddai hyn yn golygu uno Ysgol Bodorgan, Ysgol Dwyran, Ysgol Niwbwrch ac Ysgol Llangaffo i ffurfio ysgol gynradd newydd dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Yr ail gynnig yw gweld gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar adeiladau Ysgol Brynsiencyn ac Ysgol Parc y Bont.
Helo?
Daily Post
Bydd y canwr Lionel Richie yn canu ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn nos Sul fel rhan o'i daith All The Hits.
Mae'r Daily Post yn rhoi mwy o wybodaeth am y cyngerdd a chyngor i'r rhai sydd â thocyn i weld y cyn aelod o'r Commodores a chlywed rhai o'i ganeuon aeth i frig y siartiau yn y 1980au fel 'Hello?' a 'Say You, Say Me'.
Wrth i garfan pêl-droed Cymru gael hoe i ddod at eu hunain dros y penwythnos mae'r sylw'n troi nôl at y bêl hirgron a Chymru'n wynebu Seland Newydd yn yr ail brawf.
Mae archaeolegwyr yn cloddio ger yr hen feddrod o'r Oes Efydd ac mae modd i bobl fynd yno i ddysgu mwy am y gwaith a'r safle rhwng 10:00 a 16:00 ddydd Sadwrn.
Mae'r ffotograffydd, John Rutledge, yn fwy adnabyddus fel Eggsy o'r Goldie Lookin Chain a chyd gyflwynydd The Unexplainers ar BBC Radio Wales ... Oes angen dweud mwy?
Senedd San Steffan i ailymgynnull
BBC Cymru Fyw
Mae arweinydd y blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi cyhoeddi fod y prif weinidog David Cameron wedi derbyn ei gais i alw aelodau seneddol yn ôl i'r Senedd yn San Steffan, yn dilyn marwolaeth Jo Cox A.S. ddoe.
Bydd y Senedd yn ailymgynnull ddydd Llun.
BBCCopyright: BBC
Marwolaeth Jo Cox: Carwyn Jones yn ymateb
BBC Cymru Fyw
Mae Carwyn Jones wedi bod yn rhoi ei ymateb yn dilyn marwolaeth Jo Cox A.S. mewn ymosodiad ddoe.
Dywedodd Mr Jones mewn cynhadledd i'r wasg yn Glasgow: "Mae gwleidyddion yn gwneud aberthau er mwyn gwneud eu gwaith, ond does neb yn disgwyl hyn.
"Ag i fam ifanc i gael ei chymryd i ffwrdd o'i theulu yn y modd yma, mae'n hollol drasig.
"Roedd hi'n rhywun oedd a'i gwreiddau'n ddwfn yn ei chymuned, rhywun oedd wedi ei hymrwymo i degwch, rhywun oedd yn mwynhau poblogrwydd ar draws y sbectrwm gwleidyddol, sydd ddim yn hawdd mewn gwleidyddiaeth."
Ychwanegodd Mr Jones:
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r rhesymau am y llofruddiaeth yma ac mae'n hynod o bwysig, fel rhywun oedd yn arfer bod yn gyfreithiwr troseddol, nad yw ffeithiau'r ymchwiliad i lofruddiaeth yn cael eu dadlau ar Twitter, sydd yn anffodus wedi dod yn rhan o'n diwylliant modern."
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl!
BBC Cymru Fyw
Dyna ni am wythnos arall.
Ond mi fydd y newyddion diweddaraf ar ein gwefan.
Nos da
Damwain Pentrefoelas: heddlu yn cadarnhau'r enw
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai Ifor Edward Davies oedd y dyn fuodd farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhentrefoelas ddydd Mercher 15 Mehefin.
Roedd Mr Davies yn 59 oed ac yn dod o ardal Pentrefoelas.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar yr A5 ger Pentrefoelas ac mae'r heddlu yn dal i apelio am wybodaeth.
Cawodydd yn gostegu
Tywydd, BBC Cymru
Er bod cawodydd trwm yn para mewn rhannau o'r canolbarth a'r de ddwyrain p'nawn 'ma mae disgwyl i'r cawodydd ostegu yn ystod min nos ac fe ddylai fod yn noson sych i'r rhan fwyaf ohonom ni.
Am ragolygon pellach ewch i'r wefan dywydd.
Cynhyrchydd theatr: 18 mis o garchar
BBC Cymru Fyw
Mae cynhyrchydd theatr wnaeth dwyllo i gael gwerth miloedd o bunnau o grantiau wedi cael ei garcharu am 18 mis.
Roedd Michael Salmon yn gynhyrchydd sioe yng Nghanolfan y Mileniwm ac mi ddefnyddiodd hyn i'w fantais i gael grantiau ar gyfer ei ddefnydd personol trwy dwyll.
'Naws newydd, brwnt' yn bodoli
BBC Cymru Fyw
Mae Llywydd y Cynulliad Elin Jones wedi dweud ei bod hi wedi dod ar draws "naws newydd, brwnt" wrth ymgyrchu yn yr etholiad Cynulliad diweddar.
Ar ei gwefan facebook mae'r Aelod Cynulliad yn dweud bod "sylwadau hiliol, rhagfarnllyd, brwnt yn cael eu gweiddi ar stepiau drws" a bod pobl yn fwy agored i ddweud hyn yn gyhoeddus erbyn hyn.
Cynghorydd yn ildio'r awennau
Plaid Cymru
Mae'r Cynghorydd Eurig Wyn wedi penderfynu ildio'r awenau fel cynrychiolydd Plaid Cymru Waunfawr ar Gyngor Gwynedd am resymau personol.
Enillodd Mr Wyn sedd Waunfawr yn Etholiad Cyngor Gwynedd yn 2012.
Bu'n gynrychiolodd Cymru fel Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1999 a 2004 ac mae hefyd wedi bod yn Gynghorydd Cymuned Waunfawr ers nifer o flynyddoedd.
Matt Dawson yn talu nôl i Savage
BBC Radio 5 Live
Mae cyn chwaraewr rygbi Lloegr Matt Dawson wedi achub ar y cyfle i ddial ar Robbie Savage am ei ffonio yn fyw ar y radio llynedd i frolio buddugoliaeth tîm rygbi Cymru dros Loegr yn Twickenham.
Fe ffoniodd Dawson Radio 5 Live er mwyn gwneud yn union yr un peth i Savage wedi i Gymru golli i Loegr ym mhencampwriaeth Euro 2016 ddoe.
Amgueddfeydd Cymru: Pleidlais arall
BBC Cymru Fyw
Mae staff amgueddfeydd Cymru yn mynd i bleidleisio eto yn dilyn cynnig newydd.
Bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal ymysg aelodau undeb y PCS yn dilyn cynnig gwell, allai arwain at ddod a diwedd i`r anghydfod sydd wedi para dwy flynedd.
Ers 28 Ebrill mae gweithwyr wedi cynnal streic mewn protest yn erbyn cynlluniau i newid y taliadau ar gyfer gweithio penwythnosau.
Ysgol gynradd newydd ym Môn?
Cyngor Ynys Môn
Mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi hysbysiad ffurfiol o'i fwriad i adeiladu ysgol gynradd newydd ar gyfer ardal Bro Aberffraw ac yn awyddus i wneud gwaith adnewyddu yn Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Brynsiencyn.
Y cynnig cyntaf yw sefydlu ysgol gynradd newydd ym Mro Aberffraw. Byddai hyn yn golygu uno Ysgol Bodorgan, Ysgol Dwyran, Ysgol Niwbwrch ac Ysgol Llangaffo i ffurfio ysgol gynradd newydd dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Yr ail gynnig yw gweld gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar adeiladau Ysgol Brynsiencyn ac Ysgol Parc y Bont.
Helo?
Daily Post
Bydd y canwr Lionel Richie yn canu ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn nos Sul fel rhan o'i daith All The Hits.
Mae'r Daily Post yn rhoi mwy o wybodaeth am y cyngerdd a chyngor i'r rhai sydd â thocyn i weld y cyn aelod o'r Commodores a chlywed rhai o'i ganeuon aeth i frig y siartiau yn y 1980au fel 'Hello?' a 'Say You, Say Me'.
Damwain ffordd: dyn wedi marw
ITV
Mae dyn 45 oed o Ben y Bont wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf.
Digwyddodd y ddamwain ar yr A4233 ym Mhorth.
Mae dyn 40 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru yn beryglus.
ASau: Cyngor i adolygu mesurau diogelwch
Golwg 360
Mae Aelodau Seneddol wedi cael cyngor i adolygu eu mesurau diogelwch yn dilyn llofruddiaeth yr AS, Jo Cox.
Mae'r AS Hywel Williams wedi dweud ei fod yn ystyried cael larwm personol.
Ond mae hefyd yn dweud y dylai etholwyr deimlo eu bod nhw yn gallu dod i'w weld.
Pwy yw'r miliwnydd yn ein plith?
BBC Cymru Fyw
Dywed y Loteri Cenedlaethol fod rhywun yn ardal Merthyr Tudful neu'r Rhondda wedi ennill £1m ond heb hawlio'r arian eto.
Fe brynodd rywun docyn Lotto Milionaire ar Fai 28 eleni ac mae ganddyn nhw hyd at 24 Tachwedd 2016 i hawlio eu harian felly edrychwch yn eich pocedi!
Glaw mawr yn Abertawe
South Wales Evening Post
Mae'r South Wales Evening Post yn dangos un o strydoedd Abertawe wedi "troi'n afon" wedi glaw trwm p'nawn 'ma.
Yn ôl yr adroddiad fe ddechreuodd dywallt y glaw yno tua 13:00. Mae rhybudd melyn o law trwm mewn grym yn ne Chymru a rhannau o'r canolbarth tan tua 22:00 heno.
Cymru v Seland Newydd: Pryderon Neil Jenkins
BBC Sport Wales
Wrth i garfan pêl-droed Cymru gael hoe i ddod at eu hunain dros y penwythnos mae'r sylw'n troi nôl at y bêl hirgron a Chymru'n wynebu Seland Newydd yn yr ail brawf.
Rhaid i Gymru "gadw i fyny" efo'r Crysau Duon am yr 80 munud llawn meddai hyfforddwr cicio Cymru, Neil Jenkins ar wefan BBC Sport
Mae'r gic gyntaf am 8:35 a sylwebaeth lawn yn fyw ar Camp Lawn ar Radio Cymru o 8:20.
Dysgu am ddirgelion Bryn Celli Ddu
The Guardian
Mae gwefan y Guardian yn cynnwys diwrnod agored ym Mryn Celli Ddu ym Môn fel un o'r 10 digwyddiad gorau drwy Brydain i ddathlu Heuldro'r Haf sy'n digwydd ddydd Llun.
Mae archaeolegwyr yn cloddio ger yr hen feddrod o'r Oes Efydd ac mae modd i bobl fynd yno i ddysgu mwy am y gwaith a'r safle rhwng 10:00 a 16:00 ddydd Sadwrn.
Mae mwy am y gwaith celf hynafol sydd wedi ei ddarganfod yno ar wefan y Daily Post.
Da di Dinard!
Twitter
Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn hapus gyda'r olygfa yn Dinard, Llydaw heddiw:
Stori Dylwyth Teg
The Daily Mail
Mae gwefan y Mail wedi cyhoeddi stori am luniau mae ffotograffydd o Gymru wedi eu tynnu allai 'brofi' fod tylwyth teg yn bodoli.