A dyna ni - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd.
Fe fydd ein llif byw arferol yn dychwelyd am 08:00 yfory, ond cofiwch am ein llif byw arbennig sydd ar fin cychwyn yn dilyn yr holl gyffro yn y gêm fawr rhwng Cymru a Rwsia heno - gyda sylwebaeth ychwanegol gan Wali Tomos, Mr Picton, George Huws a Tecwyn Pari.
C'mon Cymru!!
Ymgynghoriad barnwrol: Dadl Cyngor Sir Ddinbych
BBC Cymru Fyw
Mae adolygiad barnwrol i benderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i gau dwy ysgol gynradd yn y sir wedi clywed tystiolaeth gan fargyfreithiwr y cyngor.
Dywedodd Rhodri Williams QC, fod yr ymgynghoriad blaenorol wedi canolbwyntio ar gam cyntaf uno dwy ysgol gynradd, ac fe fyddai ymgynghoriad pellach yn dilyn yn y dyfodol ar y camau pellach.
Y llynedd fe bleidleisiodd y cyngor i gau Ysgol Pentrecelyn (Categori 1 - cyfrwng Cymraeg) ag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd (Categori 2 - dwy ffrwd) ym mis Awst 2016.
Yn gynharach heddiw roedd bargyfreithiwr ar ran rhieni sydd am gadw bod ymgynghoriad y cyngor yn "llawn anghysonderau".
A hithau’n Wythnos Ffoaduriaid, mae Oxfam Cymru yn dweud eu bod eisiau sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth ailgartrefu ffoaduriaid.
Mwynhau awyrgylch Toulouse
BBC Cymru Fyw
Mae Aled Williams wedi anfon neges at Cymru Fyw o Toulouse:
"Awyrgylch wych yn ganol Toulouse cyn y gêm. Cefnogwyr Cymru yn mwynhau yr heulwen a'r awyrgylch. Edrych ymlaen i'r gêm! Dim son am unrhyw drafferth gan hwliganiaid i Rwsia."
BBCCopyright: BBC
Cefnogwyr Cymru a Rwsia'n mwynhau yn ToulouseImage caption: Cefnogwyr Cymru a Rwsia'n mwynhau yn Toulouse
Cafodd y ffordd rhwng Craig Cefn Parc a Rhydaman ei chau wedi i goed a mieri ddisgyn o nant serth ac mae peirianwyr sifil yn asesu'r difrod meddai'r South Wales Evening Post.
Annog cefnogwyr i fod yn ofalus
BBC Cymru Fyw
Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi galw ar gefnogwyr Cymru i beidio â theithio i Tolouse heb docyn ar gyfer y gêm fawr heno yn erbyn Rwsia.
Ychwanegodd fod ymddygiad cefnogwyr Cymru wedi bod yn wych drwy gydol y gystadleuaeth, ond bod angen iddyn nhw fod yn wyliadwrus o unrhyw drafferthion yn y ddinas.
Y plant yn paratoi....
Twitter
Llun gan Carl Roberts, gohebydd BBC Cymru yn Tolouse, o rai o gefnogwyr ifanc Cymru'n edrych ymlaen at y gêm fawr heno:
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae dau cyn-aelod o staff dysgu'r awdurdod wedi pledio'n euog i droseddau yn ymwneud â meddiant a chreu delweddau anweddus o blant.
"Nid yw'r troseddau yn ymwneud â'u gwaith i'r awdurdod. Pan ddaethpwyd a'r honiadau i sylw'r Cyngor, dilynwyd holl weithdrefnau amddiffyn plant, a chafodd yr aelodau staff eu hatal o'u swyddi."
BBCCopyright: BBC
Dyfan Wheldon-Williams a Robyn Wheldon-Williams mewn gwrandawiad cynharachImage caption: Dyfan Wheldon-Williams a Robyn Wheldon-Williams mewn gwrandawiad cynharach
Ymgynghori ar gau ysgol yn 'anghyson'
BBC Cymru Fyw
Mae adolygiad barnwrol i benderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i gau dwy ysgol gynradd yn y sir wedi clywed bod ymgynghoriad y cyngor yn "llawn anghysonderau".
Y llynedd fe bleidleisiodd y cyngor i gau Ysgol Pentrecelyn (Categori 1 - cyfrwng Cymraeg) ag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd (Categori 2 - dwy ffrwd) ym mis Awst 2016.
Byddai sefydlu ysgol newydd yn golygu addysgu'r plant yn Gymraeg neu'n Saesneg yn dibynnu ar ddewis y rhieni. Ond yn yr adolygiad barnwrol sydd yn cael ei gynnal gan yr Uchel Lys yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dadleuodd y bargyfreithiwr ar ran rhieni sy'n gobeithio cadw Ysgol Pentrecelyn ar agor nad oedd y cyngor sir wedi ymgynghori'n gywir ar yr effaith o uno'r ddwy ysgol.
Mae disgwyl i fargyfreithiwr ar ran y cyngor sir roi tystiolaeth yn ddiweddarach heddiw.
Bydd Llandudno'n wynebu IFK Göteborg o Sweden, gwrthwynebwyr o'r un wlad AIK Fotboll fydd gwrthwynebwyr Y Bala, tra fydd Gap Cei Conna'n cwrdd â Stabaek o Norwy.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Mae'r llif byw wedi dod i ben
BBC Cymru Fyw
A dyna ni - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd.
Fe fydd ein llif byw arferol yn dychwelyd am 08:00 yfory, ond cofiwch am ein llif byw arbennig sydd ar fin cychwyn yn dilyn yr holl gyffro yn y gêm fawr rhwng Cymru a Rwsia heno - gyda sylwebaeth ychwanegol gan Wali Tomos, Mr Picton, George Huws a Tecwyn Pari.
C'mon Cymru!!
Ymgynghoriad barnwrol: Dadl Cyngor Sir Ddinbych
BBC Cymru Fyw
Mae adolygiad barnwrol i benderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i gau dwy ysgol gynradd yn y sir wedi clywed tystiolaeth gan fargyfreithiwr y cyngor.
Dywedodd Rhodri Williams QC, fod yr ymgynghoriad blaenorol wedi canolbwyntio ar gam cyntaf uno dwy ysgol gynradd, ac fe fyddai ymgynghoriad pellach yn dilyn yn y dyfodol ar y camau pellach.
Y llynedd fe bleidleisiodd y cyngor i gau Ysgol Pentrecelyn (Categori 1 - cyfrwng Cymraeg) ag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd (Categori 2 - dwy ffrwd) ym mis Awst 2016.
Yn gynharach heddiw roedd bargyfreithiwr ar ran rhieni sydd am gadw bod ymgynghoriad y cyngor yn "llawn anghysonderau".
Y gêm yn fyw ar Radio Cymru heno
BBC Radio Cymru
Rygbi dan 20: Cweir i Gymru
BBC Sport Wales
Fe roddodd Seland Newydd gweir i Gymru o 12-71 yn eu gêm dan 20 yn gynharach heddiw. Sgoriodd Seland Newydd 11 cais i gyd, gyda'r cynta'n dod wedi cwta 40 eiliad yn unig ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
Noson sych a chlos
Tywydd, BBC Cymru
Mi fydd hi'n parhau'n sych ond yn gymylog dros nos, ac mi fydd hi’n teimlo’n glos. Fydd y tymheredd ddim yn syrthio'n is na 11C.
Am fanylion llawn y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC.
Galw ar Gymru i groesawu ffoaduriaid
Golwg 360
Mae elusen Oxfam Cymru wedi galw ar bobol Cymru i groesawu ffoaduriaid drwy ysgrifennu llythyr o groeso atyn nhw, medd Golwg 360.
A hithau’n Wythnos Ffoaduriaid, mae Oxfam Cymru yn dweud eu bod eisiau sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth ailgartrefu ffoaduriaid.
Mwynhau awyrgylch Toulouse
BBC Cymru Fyw
Mae Aled Williams wedi anfon neges at Cymru Fyw o Toulouse:
"Awyrgylch wych yn ganol Toulouse cyn y gêm. Cefnogwyr Cymru yn mwynhau yr heulwen a'r awyrgylch. Edrych ymlaen i'r gêm! Dim son am unrhyw drafferth gan hwliganiaid i Rwsia."
Tirlithriad yn cau ffordd
South Wales Evening Post
Mae tirlithriad wedi cau ffordd yng Nghwm Tawe yn gynharach heddiw.
Cafodd y ffordd rhwng Craig Cefn Parc a Rhydaman ei chau wedi i goed a mieri ddisgyn o nant serth ac mae peirianwyr sifil yn asesu'r difrod meddai'r South Wales Evening Post.
Annog cefnogwyr i fod yn ofalus
BBC Cymru Fyw
Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi galw ar gefnogwyr Cymru i beidio â theithio i Tolouse heb docyn ar gyfer y gêm fawr heno yn erbyn Rwsia.
Ychwanegodd fod ymddygiad cefnogwyr Cymru wedi bod yn wych drwy gydol y gystadleuaeth, ond bod angen iddyn nhw fod yn wyliadwrus o unrhyw drafferthion yn y ddinas.
Y plant yn paratoi....
Twitter
Llun gan Carl Roberts, gohebydd BBC Cymru yn Tolouse, o rai o gefnogwyr ifanc Cymru'n edrych ymlaen at y gêm fawr heno:
Darlledu dadl refferendwm BBC Cymru
Refferendwm UE
Bydd rhaglen drafod Dadl Refferendwm Ewrop BBC Cymru'n cael ei darlledu nos Fercher am 20:00 ar BBC 1 Wales.
Cafodd y rhaglen ei gohirio'r wythnos diwethaf yn dilyn llofruddiaeth Jo Cox A.S.
Euro 2016: Be' mae llwyddiant yn ei olygu?
BBC Sport Wales
Mae BBC Wales News yn ystyried beth mae llwyddiant Cymru yn Euro 2016 yn ei olygu i'r tîm, y cefnogwyr a'r genedl.
Mae'r rheolwr Chris Coleman eisoes wedi dweud fod gan y garfan "y potensial i fydn 'mlaen a 'mlaen" a bod "ganddyn nhw bopeth i edrych mlaen ato".
Achos llys dau athro: Cyngor yn ymateb
Cyngor Gwynedd
Wedi i ddau frawd oedd yn athrawon yng Ngwynedd bledio'n euog i gyhuddiadau o fod â lluniau anweddus o blant yn eu meddiant, mae Cyngor Gwynedd wedi rhyddhau datganiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae dau cyn-aelod o staff dysgu'r awdurdod wedi pledio'n euog i droseddau yn ymwneud â meddiant a chreu delweddau anweddus o blant.
"Nid yw'r troseddau yn ymwneud â'u gwaith i'r awdurdod. Pan ddaethpwyd a'r honiadau i sylw'r Cyngor, dilynwyd holl weithdrefnau amddiffyn plant, a chafodd yr aelodau staff eu hatal o'u swyddi."
Ymgynghori ar gau ysgol yn 'anghyson'
BBC Cymru Fyw
Mae adolygiad barnwrol i benderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i gau dwy ysgol gynradd yn y sir wedi clywed bod ymgynghoriad y cyngor yn "llawn anghysonderau".
Y llynedd fe bleidleisiodd y cyngor i gau Ysgol Pentrecelyn (Categori 1 - cyfrwng Cymraeg) ag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd (Categori 2 - dwy ffrwd) ym mis Awst 2016.
Byddai sefydlu ysgol newydd yn golygu addysgu'r plant yn Gymraeg neu'n Saesneg yn dibynnu ar ddewis y rhieni. Ond yn yr adolygiad barnwrol sydd yn cael ei gynnal gan yr Uchel Lys yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dadleuodd y bargyfreithiwr ar ran rhieni sy'n gobeithio cadw Ysgol Pentrecelyn ar agor nad oedd y cyngor sir wedi ymgynghori'n gywir ar yr effaith o uno'r ddwy ysgol.
Mae disgwyl i fargyfreithiwr ar ran y cyngor sir roi tystiolaeth yn ddiweddarach heddiw.
Ateb y Galw
BBC Cymru Fyw
Yr awdur a'r darlledwr Mike Parker sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon.
Dewi yng nghanol y dorf
Twitter
Mae Dewi Llwyd ymhlith cefnogwyr Cymru yn Toulouse, sy'n edrych ymlaen at y gêm!
Llofruddiaeth Llanedern: Dyn o flaen llys
Wales Online
Mae dyn wedi bod o flaen Llys y Goron Caerdydd wedi'i gyhuddo o lofruddio Lynford Brewster yn Llanedern, Caerdydd, yr wythnos ddiwetha', medd Wales Online.
Bydd Dwayne Edgar, 29, yn sefyll ei brawf fis Tachwedd.
Cyfle i wrando eto ar berlau Nic Parry
Facebook
Os na gawsoch chi gyfle i wylio'n fyw, mae cyfle i weld sesiwn holi'r sylwebydd pêl-droed Nic Parry ar dudalen Facebook Cymru Fyw. Ymhlith y pynciau trafod, bu Nic yn dewis ei XI Cymru gorau erioed - ydych chi'n cytuno â fo?
Cychwyn cynnar i rai
Euro 2016
Dim ond coch sydd i'w weld yn rhannau o ddinas Toulouse, yn ôl Elin Angharad o BBC Radio Cymru, anfonodd y llun yma at Cymru Fyw.
Cynghrair Europa: Gwrthwynebwyr timau Cymru
BBC Sport
Mae'r enwau i gyd wedi'u tynnu allan o'r het erbyn hyn ar gyfer rownd ragbrofol gynta' Cynghrair Europa.