a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni....

    BBC Cymru Fyw

    Cofiwch am ein llif byw arbennig ni heno fydd yn dechrau am 22:00 wrth i'r pleidleisiau yn y refferendwm gael eu cyfrif.

    Hwyl am y tro. 

  2. Adolygiad: Diwrnod Hyfryd Sali Mali

    Mae Lowri Haf Cooke yn adolygu fersiwn Cwmni Arad Goch o sioe lwyfan Sali Mali yn ei blog diweddaraf.

    Mwynhau'r sioe wnaeth Lowri a phlentyn ei ffrind, a hynny er gwaethaf absenoldeb Jac y Jwc! 

    Mae'r sioe ar daith tan Orffennaf 8.

    Sali Mali
  3. Croeso gan y Comisiynydd

    Golwg 360

    Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu’r cadarnhad y bydd pwyllgor newydd yn cael ei sefydlu yn y Cynulliad i graffu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg, meddai Golwg360.

    Cyhoeddwyd yn y Senedd ddoe y bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cael ei sefydlu.

    Dywedodd Meri Huws bod sefydlu’r pwyllgor yn ateb un o’i phrif bryderon fel Comisiynydd, nad oedd digon o graffu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg.

  4. Pob lwc Cymru!

    Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dymuno pob lwc i Gymru ddydd Sadwrn wrth i dîm Chris Coleman herio Gogledd Iwerddon ym Mharis yn rownd yr 16 olaf yn Euro 2016.

    View more on youtube
  5. Refferendwm: Y diweddara' ar Cymru Fyw

    Refferendwm UE

    Bydd llif byw arbennig Cymru Fyw yn dechrau am 22:00 heno wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfrif.

    Gallwch hefyd ddilyn y datblygiadau ar raglen dros nos y BBC ar S4C a Radio Cymru.

  6. Noson sych?

    Tywydd, BBC Cymru

    Mae Rhian Haf yn obeithiol am y tywydd heno: "Dal yn sych, ac yn drymaidd eto, ond yn cymylu dros nos, pan fydd na gawodydd ysgafn yn cyrraedd y gogledd-orllewin. 

    "Er fod disgwyl tipyn o dywydd sych bore Gwener, fydd na gawodydd eitha trwm yn datblygu yn ystod y dydd."

    Am eich tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  7. Ysbrydolaeth 'Y Llyfrgell'

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae Fflur Dafydd yn esbonio lle'r oedd hi pan gafodd hi'r syniad ar gyfer ei nofel Y Llyfrgell.

    Mae'r llyfr wedi'i addasu'n ffilm fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Caeredin fis nesaf.

    llyfrgell
  8. Euro 2016: Cymru'n anelu curo

    BBC Sport Wales

    Mae Cymru'n anelu tuag at ennill pencampwriaeth Euro 2016, meddai Gareth Bale.

    Er colli 2-1 i Loegr, tîm Chris Coleman wnaeth orffen ar frig y grŵp wedi buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Rwsia. 

    Ond mynnodd Bale bod Cymru'n canolbwyntio ar y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon ddydd Sadwrn ym Mharis ar hyn o bryd.

    bale
  9. Pentref llechi ar werth

    Daily Post

    Mae cymuned lechi gyfan ar werth yn Aberllefenni ger Machynlleth, medd y Daily Post.

    Felly os oes gennych chi £1.5 miliwn i'w sbario...

  10. Coch dros Gymru

    Mae O.M Edwards a'i fab, Syr Ifan ab Owen Edwards, yn gwisgo'r crysau coch i ddatgan eu cefnogaeth i dîm Chris Coleman...

    View more on twitter
  11. Euro 2016: Colli pasport

    Daily Post

    Mae'n bosib i gefnogwr brwd Cymru fethu cyrraedd Paris ddydd Sadwrn ar ôl colli ei fag, oedd yn cynnwys ei basbort a'i dalebau ar gyfer y gêm, meddai'r Daily Post. 

    Fe all Tim Williams o'r Bala fethu'r ornest yn erbyn Gogledd Iwerddon wedi colli'r bag du Patagonia ar daith drên o Birmingham i'r Waun.

    Roedd ef a'i deulu ar eu ffordd yn ôl o Ffrainc ar ôl gwylio tîm Chris Coleman yng ngemau'r grŵp.   

  12. Dedfrydu Sean Buckley i oes o garchar

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn wnaeth lofruddio bachgen 17 mis oed ac achosi creulondeb i blentyn wedi ei ddedfrydu i oes o garchar.

    Bu farw Finley Thomas ar ôl cael ei ddarganfod ag anafiadau difrifol iawn yn ei gartre' yn Nhonypandy yn 2014.

    Roedd Sean Buckley, 28, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

    Dywedodd y barnwyr y bydd Buckley dan glo am o leia' 17 mlynedd cyn y bydd yr awdurdodau yn ystyried ei ryddhau.

    finley thomas
  13. Rhoi Castell Y Fflint ar y map

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn adrodd y bydd gwaith celf "o safon rhyngwladol" yn cael cartre' o fewn muriau Castell Y Fflint.

    Fe fydd y darn o gelf cyhoeddus yn "rhan hanfodol" o'r ymgyrch i sefydlu 2017 fel "Blwyddyn y Chwedlau" yng Nghymru, medd y wefan.

    Castell Y Fflint
  14. Refferendwm: Y diweddara' ar wasanaethau'r BBC

    Refferendwm UE

    Yn ogystal â chael y cyfan ar ein llif byw arbennig ni sy'n dechrau am 22:00 heno, gallwch hefyd ddilyn y datblygiadau ar raglen dros nos y BBC ar S4C a Radio Cymru.

    View more on twitter
  15. O Felarws i Efrog Newydd...ac i Ffrainc

    BBC Wales News

    Mae un cefnogwr Cymru wedi gwario £2,000 yn teithio 3,500 milltir i wylio'r tîm yn Euro 2016 - er nad ydy o'n Gymro!

    Mae BBC Wales News yn adrodd hanes Alex Zyl, 35, o Felarws ond sy'n byw yn Efrog Newydd erbyn hyn.

    Mi ddechreuodd gefnogi Cymru ar ôl gwneud ffrindiau hefo Cymry yn y brifddinas Minsk 16 mlynedd yn ôl.

    Dywedodd bod cefnogwyr Cymru "wastad yn gyfeillgar a wastad yn hwyl".

    Alex Zyl
  16. Bale: Braf gorffen uwchben y Saeson

    BBC Camp Lawn

    Bale yn atgyfnerthu teimladau sawl un mae'n debyg...

    View more on twitter
  17. Damwain A4232: Ffordd dal ynghau

    Teithio BBC Cymru

    Caerdydd: Mae'r A4232 yn dal wedi cau tua'r dwyrain (o'r M4 i Bae Caerdydd) ar ôl i gar droi drosodd rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd.

  18. Bale yn obeithiol am Ogledd Iwerddon

    BBC Camp Lawn

    Mae Gareth Bale wrthi'n siarad hefo'r wasg yn Dinard ac mae Camp Lawn yn dilyn y gynhadledd ar eu cyfrif Twitter.

    View more on twitter
  19. Blwch o'r gorffennol

    Twitter

    Dyma sut oedd pobl yn arfer pleidleisio yn yr oes â fu.

    View more on twitter
  20. Pnawn braf

    Tywydd, BBC Cymru

    Rhian Haf sydd â'r diweddaraf am dywydd y prynhawn:

    "Fydd hi'n dal yn sych ac yn braf weddill y dydd," meddai, "tipyn o heulwen, yn enwedig yn y gogledd a'r gorllewin, a fydd hi'n eitha' cynnes efo gwynt ysgafn.

    "Y tymheredd ar ei ucha' ymhellach i'r dwyrain, tua 21C yng Nghaerdydd a Phenarlâg, ac yn debyg o godi radd neu ddwy arall yn ystod y pnawn."

    Am y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.