a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r llif byw wedi dod i ben am y diwrnod. Fe fyddwn ni 'nôl am 08:00 bore 'fory, ond bydd y diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.

  2. 'Mwy o Wlad Belg na Chymry'

    BBC Wales News

    Bydd llawer mwy o gefnogwyr Gwlad Belg na rhai Cymru yn Lille - gyda'r rhan fwyaf o Ffrancwyr yn cefnogi'r gwrthwynebwyr.

    Bydd tîm Chris Coleman yn herio Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Euro 2016 yn Stade Pierre Mauroy am 20:00 (amser Prydain) nos Wener.

    Mae'r stadiwm lai na 10 milltir o Wlad Belg, gydag adroddiadau'n awgrymu y gallai mwy na 100,000 o'u cefnogwyr wneud y daith i Lille.

    Cefnogwyr
  3. Pili Palas

    Vaughan Roderick

    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Sut fydd arweinwyr y Ceidwadwyr a Llafur yn etholiad cyffredinol y llynedd - David Cameron ac Ed Miliband - yn cael eu cofio yn y llyfrau hanes?

    Dyna bwnc blog diweddaraf Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick.

    Cameron a Miliband
  4. Cawodydd yn clirio heno

    Tywydd, BBC Cymru

    Bydd y cawodydd yn cilio yn yr oriau nesa. Bydd heno'n sych a'r gwyntoedd yn gostegu.

    Rhagor o fanylion ar wefan dywydd y BBC.

  5. Doyle yn gadael yr Adar Gleision

    BBC Sport Wales

    Mae'r ymosodwr Eoin Doyle wedi gadael Caerdydd i ymuno gyda Preston North End yn barhaol ar ôl bod ar fenthyg yno.

    Fe wnaeth y Gwyddel 28 oed ymuno â'r Adar Gleision o Chesterfield ym mis Chwefror 2015 am £1m, ond chwaraeodd 18 gwaith yn unig i'r clwb.

    Eoin Doyle
  6. Ethol cadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae Cadeiryddion pwyllgorau'r Cynulliad wedi cael e'u hethol. Dyma'r tro cyntaf i Gadeiryddion pwyllgorau gael eu dewis yn y ffordd yma ar ôl i'r Cynulliad dderbyn cynigion y Pwyllgor Busnes i fabwysiadu system newydd.

    Bydd aelodau'r pwyllgorau yn cael ei benderfynnu yn y cyfarfod llawn ar 5 Gorffennaf.

    • Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Lynne Neagle (Llafur)
    • Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Mark Reckless (UKIP)
    • Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Bethan Jenkins (Plaid Cymru)
    • Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Russell George (Ceidwadwyr)
    • Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: John Griffiths (Llafur)
    • Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dai Lloyd (Plaid Cymru)
    • Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn: David Rees (Llafur)
    • Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Huw Irranca-Davies (Llafur)
    • Pwyllgor Deisebau: Mike Hedges (Llafur)
    • Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog: Ann Jones (Dirprwy Lywydd y Cynulliad)
    • Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Jayne Bryant (Llafur)
    • Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Nick Ramsay (Ceidwadwyr)
    • Pwyllgor Cyllid: Simon Thomas (Plaid Cymru)
  7. Plant ar goll: 'Pawb wedi'u darganfod'

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r timau achub mynydd wedi cadarnhau bod yr holl blant oedd ar goll ym Mannau Brycheiniog bellach wedi'u ddarganfod.

    Mae'r 26 o blant tua 15 oed o St Albans oll oddi ar y mynydd, neu ar eu ffordd i lawr, ac ychwanegwyd eu bod oll yn ddiogel.

    Hofrennydd
  8. Paned a llyfr

    Mae'r awdur a'r adolygydd Lowri Haf Cooke yn cyhoeddi llyfr newydd o'r enw Caffis Cymru.

    Mae Lowri wedi cael cymorth y ffotograffydd Emyr Young wrth baratoi'r gyfrol. Mae casgliad o'i luniau ar gyfer y llyfr i'w gweld ar flog Lowri, Merch y Ddinas.

    popty
  9. Cyfarfodydd busnes Cairns yn dechrau

    BBC Wales News

    Mae Ysgrifennydd Cymru wedi cynnal y cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd gydag arweinwyr busnes i dawelu eu meddyliau wedi i'r DU bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

    Dywedodd Alun Cairns ei fod yn falch iawn o weld gymaint o optimistiaeth yn y cyfarfod.

    Cairns
  10. Cwest Gwilym Lumley: Marwolaeth ddamweiniol

    BBC Cymru Fyw

    Mae cwest i farwolaeth claf 88 oed oedd â dementia fu farw ar ôl taro ei ben tra ar ward seiciatrig wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.

    Bu farw Gwilym Lumley, oedd yn cael ei adnabod fel Ivor, wedi'r digwyddiad yn Uned Heddfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn 2014.

    Dywedodd y Crwner John Gittins y byddai'n rhoi chwe mis i'r bwrdd iechyd i ddangos bod gwelliannau'n cael eu gwneud.

    Gwilym Lumley
  11. Plant ar goll: Y diweddaraf

    BBC Cymru Fyw

    Y newyddion diweddaraf am y plant sydd ar goll ym Mannau Brycheiniog yw bod tri o'r pedwar grwp o blant wedi cael eu darganfod ar y mynydd.

    Mae tiamu achub mynydd wedi dweud eu bod yn credu eu bod yn gwybod lleoliad y pedwerydd grwp hefyd, ond nad ydyn nhw'n sicr.

    Mae hi hefyd wedi dod i'r amlwg bod y plant yn dod o ardal St Albans, Hertfordshire.

  12. Plant ar goll: Rhai wedi'u darganfod

    BBC Cymru Fyw

    Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod hofrennydd gwylwyr y glannau wedi dod o hyd i rai o'r plant.

    Mae'r hofrennydd wedi glanio ar y mynydd ac mae'r criw gyda'r plant, ond does dim awgrym eto faint o'r plant sy'n parhau ar goll.

    Hofrennydd
  13. Cofio'r creision

    Amgueddfa Cymru

    Wyddoch chi mai yma yng Nghymru y cafodd y creision blas caws a nionyn eu cynhyrchu gyntaf? Ar eu blog mae Amgueddfa Cymru yn trafod rhai o luniau a dogfennau cwmni Smiths Crisps. Cafodd pecynnau cyntaf o'r creision eu cynhyrchu yn Fforest-fach yn 1948.     

    Smiths
    Image caption: Gweithwyr Smiths Crisps yn Fforestfach
  14. Peryglu awyrennau: Rheithgor yn ystyried

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r rheithgor yn ystyried eu dyfarniad yn achos dyn o Ynys Môn sydd wedi ei gyhuddo o beryglu awyrennau'r awyrlu drwy fflachio golau llachar atynt.

    Mae John Arthur Jones, o Fodffordd, yn gwadu 13 cyhuddiad o beryglu awyrennau yn RAF Mona rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014.  

  15. Tafwyl: O'r dafarn i'r castell

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae hi bellach yn un o'r gwyliau Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y de.

    Mae gŵyl Tafwyl, fydd yn cael ei chynnal dros y penwythnos hwn yng Nghaerdydd, yn dathlu ei dengmlwyddiant eleni. 

    Sian Lewis o Fenter Caerdydd sy'n edrych yn ôl ar ddatblygiad yr ŵyl dros y ddegawd ddiwethaf yn adran Gylchgrawn Cymru Fyw.

    Tafwyl
  16. Ysgol Cwmcarn i gau'n barhaol

    BBC Wales News

    Bydd ysgol gafodd ei chau ar ôl i asbestos gael ei ddarganfod ynddi yn cau ei drysau yn barhaol.

    Fe wnaeth adroddiad yn 2012 ddarganfod bod yr asbestos yn risg i iechyd yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn.

    Cafodd ei hailagor yn 2014 ond mae nifer y disgyblion wedi haneru, a dywedodd llywodraethwyr bod sefyllfa'r ysgol yn un "digynsail".

    Ysgol Uwchradd Cwmcarn
  17. Plant ar goll: Y diweddaraf

    BBC Cymru Fyw

    Mae mwy o wybodaeth wedi'n cyrraedd am yr 24 o blant sydd ar goll ym Mannau Brycheiniog.

    Dywedodd tîm achub mynydd y Bannau bod pedwar grŵp o chwech o blant ar goll yn y cymylau.

    Credir eu bod tua 15 oed, ar drip Dug Caeredin o Loegr. Ychwanegwyd nad oes oedolion gyda nhw, ond maen nhw mewn cysylltiad dros y ffôn.

  18. Grŵp anodd i'r Scarlets

    Rygbi, BBC Cymru

    Scarlets yw'r unig dîm o Gymru fydd yn chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf, ond maen nhw'n wynebu rhai o gewri rygbi Ewrop.

    Yn eu grŵp mae'r deiliaid, Saracens, y cyn-ddeiliaid, Toulon, a Sale. 

    Scott Williams