a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl Fawr

    A dyna Senedd Fyw am heddiw. 

    Fe fyddwn ni yn ôl bore fory am 11am ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

    Y Senedd
  2. Yr enw presennol ddim yn gweithio

    Mae'r prif weinidog yn dweud nad yw'r enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru erioed wedi gweithio mewn gwirionedd.

    Mae'n gwrthwynebu sylwadau aelod UKIP Gareth Bennett sy'n honni mai dim ond pobl sy'n byw mewn rhyw "swigen ddiwylliannol a gwleidyddol" fyddai'n deall y term "Senedd" ac yn arbennig gyfeiriad Gareth Bennett at "drefedigaeth Gymraeg ei hiaith Pontcanna."

    Mae Mr Jones yn dweud bod hyn yn gwneud i bethau swnio fel petai nad yw pobl yng Nghymru "sy'n siarad iaith benodol yn perthyn i'n prifddinas" a bod y sylw yn hollol anghywir. 

  3. 'Senedd wedi ennill cefnogaeth a dealltwriaeth'

    Mae Bethan Jenkins yn nodi bod yr enw Cymraeg 'Senedd' wedi ennill cefnogaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd yn gyffredinol. A bod yr aelodau yn cytuno y dylai'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried defnyddio, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yr enw 'Senedd'.

    Bethan Jenkins
  4. 'Senedd go iawn'

    Mae yna alwadau wedi eu gwneud ers blynyddoedd i ail-enwi'r Cynulliad yn Senedd Cymru, gydag Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud yn 2012 bod y Cynulliad yn Senedd, heblaw ag mewn enw.

     Ym mis Mai fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, sôn bod Mesur Cymru yn cynnig cyfleuon i gyflwyno senedd go iawn i Gymru, gyda mwy o bwerau a llywodraeth fyddai'n gyfrifol am godi a gwario arian.  

  5. Ail-enwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru?

    A'r pwnc ar gyfer dadl ola'r dydd yn y Siambr yw ail-enwi'r Cynulliad.

    Roedd aelodau'r Cynulliad i fod i gynnal pleidlais ddydd Mawrth diwethaf ar gynllun i ail-enwi'r Cynulliad yn Senedd Cymru, ond fe gafodd cynnig gan y Llywodraeth ei ail-gyflwyno ar gyfer heddiw, gyda'r term Senedd Cymru yn cael ei ollwng a gofynwyd i'r Llywydd Elin Jones edrych ar ail-enwi'r corff.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi gweithio gyda Ms Jones i gytuno ar gynnig. 

    Roedd Prif Chwip Llafur yn y Cynulliad, Jane Hutt, wedi'n wreiddiol gyflwyno cynnig i aelodau'r Cynulliad yn dweud bod y Cynulliad yn cytuno " y dylai ei enw gael ei newid i "Senedd Cymru" ar y cyfle cyntaf posib."

  6. 137 o ymatebion

    Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething yn dweud bod graddfeydd diagnosis wedi gwella. Mae'n tynnu sylw at rôl undebau llafur, ac yn ychwanegu y bydd y 137 o ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael effaith ar bolisi.

    Vaughan Gething
  7. Taclo'r stigma sy'n wynebu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl

    Mae Caroline Jones UKIP yn sôn am yr angen i daclo'r stigma a'r gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n dweud mai dim ond 11% o arian y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sy'n cael ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl.

    Caroline Jones
  8. Angen amrywiaeth eang o opsiynau o ran triniaeth

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cyfeirio at adroddiad gan Elusen Gofal gafodd ei gyhoeddi ddoe ac yn dweud bod angen i bobl allu cael amrywiaeth eang o opsiynau o ran triniaeth.

  9. Cynnig gwelliant

    Mae'r Ceidwadwyr yn cyflwyno gwelliant:

    Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na chlustnodi. 

  10. Strategaeth 10 mlynedd

    Cyhoeddwyd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,1 strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, ym mis Hydref 2012 ar ôl ymgysylltu'n eang ac ymgynghori'n ffurfiol ag asiantaethau sy'n bartneriaid allweddol, rhanddeiliaid, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. 

    Mae'r strategaeth yn ymwneud â phob rhan o'r Llywodraeth, ac mae'n ymdrin â phobl o bobl oed. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'n cynnwys ystod o gamau gweithredu, o'r rheini a gynlluniwyd i wella lles meddyliol holl drigolion Cymru i'r rheini sydd eu hangen i gynorthwyo'r rhai sy'n byw â salwch meddwl difrifol a pharhaol.

  11. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl

    Am yr awr nesa bydd yr aelodau yn canolbwyntio ar faterion iechyd meddwl gyda'r ddadl ar Gynllun Cyflawni "Law yn Llaw at Iechyd Meddwl". 

    Mae yna gynnig bod y Cynulliad: Yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.

    Iechyd Meddwl
  12. Dwyn ynghyd ein prif raglenni cyflogaeth

    Mae'r gweinidog yn dweud mai "ein nod yw dwyn ynghyd y gweithgareddau sy'n dod o dan ein prif raglenni cyflogaeth, sef Twf Swyddi Cymru, ReAct,  Hyfforddeiaethau, a'n Rhaglen newydd ar Sgiliau Cyflogadwyedd a chreu un rhaglen gymorth cyflogadwyedd. Bydd hynny'n cwrdd yn well ag anghenion y bobl hynny y mae angen cymorth arnynt i gael gwaith, i gadw'u swyddi ac i wneud cynnydd ddod yn eu blaen yn y gweithle." 

  13. Y Strategaeth Gyflogadwyedd

    Ac mae'r datganiad olaf gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James ar y Strategaeth Gyflogadwyedd.

    Julie James
  14. Y potensial o gostau annisgwyl mawr

    Mae Lesley Griffiths yn rhybuddio ynglŷn â'r potensial o gostau annisgwyl mawr ar gyfer delio gydag argyfwng clefyd yn rhoi pwysau annisgwyl ar raglenni digyswllt a gwasanaethau s'n cael eu daroparu gan Lywodraeth Cymru.

  15. Gallai clefyd anifeiliaid egsotig godi'i ben unrhywbryd

    Mae dau ddatganiad ar ôl y prynhawn yma, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ar y bygythiadau o ran clefydau anifeiliaid egsotig, y Tafod Glas a chynllunio wrth gefn.

    Mae'r Cynllun Wrth Gefn yn rhybuddio y gallai clefyd anifeiliaid egsotig godi'i ben unrhywbryd ac yn dweud ei bod hi'n allweddol bod pobl sy'n cadw anifeiliaid a'r proffesiwn milfeddygaeth yn bod yn wyliadwrus ac yn rhoi gwybod yn syth am unrhyw amheuon am glefyd anifeiliaid. 

    Fe fydd Llywodraeth Cymru, meddai, yn parhau i chwarae ei rôl ac arwain ar y cynllunio angenrheidol i ddelio gydag argyfwng ac i gael gwared â chlefyd. 

    Lesley Griffiths
  16. Ymgynghori gyda chymunedau

    Dywedodd y Ceidwadwr Mohammad Asghar y dylai cadeirydd y tasglu fod yn annibynnol o'r llywodraeth ac y dylid ymgynghori'n llawn gyda chymunedau am ei waith. 

    Atebodd y gweinidog y bydd ymgynghori gyda chymunedau.

    Mohammad Asghar
  17. 'Dylai cyflawniadau'r tasglu gael eu mesur gan grŵp annibynnol'

    Bethan Jenkins o Blaid Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad ond yn dweud y dylai cyflawniadau'r tasglu gael eu mesur gan grŵp annibynnol ac nid gan Lywodraeth Cymru.

  18. 'Helpu ardaloedd mwyaf difreintiedig y cymoedd'

    Dywed Mr Davies y bydd y grŵp "yn gweithio ar draws y Llywodraeth i fodloni anghenion y cymoedd yn y dyfodol o ran addysg, iechyd a datblygu economaidd."

    Bydd unigolion o'r sectorau preifat a chyhoeddus ymhlith aelodau'r grŵp "a fydd yn helpu ardaloedd mwyaf difreintiedig y cymoedd. Y nod fydd sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle i gyflawni ei botensial."

    Alun Davies
  19. Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd

    Tro Alun Davies Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yw hi nesa i annerch y Senedd.

    Mae'n cyhoeddi eu bod yn sefydlu Tasglu Gweinidogol ar y Cymoedd i fynd i'r afael â'r heriau economaidd. 

    Union ddwy flynedd yn ôl i'r wythnos hon fe gafodd Mr Davies ei ddiswyddo fel gweinidog amgylchedd am roi pwysau ar weision sifil i roi gwybodaeth breifat am aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau. Roedd eisioes wedi ei feirniadu am y modd y deliodd â chynlluniau ar gyfer trac rasio yn ei etholaeth ym Mlaenau Gwent.

  20. Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

    Mae elfen o Dreth Tirlenwi bresennol y DU yn cael ei defnyddio i gefnogi Cronfa Cymunedau. 

    Mae Mr Drakeford yn datgan ei fwriad i sefydlu Cynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi "i barhau y gwaith gwerthfawr hwn yng Nghymru".