Dywed BBC Cymru y bydd yna ddarllediadau byw ddydd Gwener o'r dathliadau i groesawu tîm pêl droed Cymru yn ôl o Euro 2016.
Dywedodd llefarydd: "Bydd darllediadau helaeth o'r tîm yn cyrraedd yn ôl i Gymru, yn ogystal â digwyddiad Croeso'r Cefnogwyr, ar gael ar deledu, radio ac ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg."
Bydd yr holl gyffro ar gael ar BBC One Wales a bydd ffrwd fyw ar wefan BBC Cymru Fyw a gwefan BBC Wales News.
Bydd darllediadau radio o'r holl ddigwyddiadau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, a darlledu byw hefyd yn Gymraeg ar S4C.
Mae'r gêm gyntaf yma'n teimlo mor bell yn ôl rŵan - 2-1 yn erbyn SlofaciaImage caption: Mae'r gêm gyntaf yma'n teimlo mor bell yn ôl rŵan - 2-1 yn erbyn Slofacia
Is-ganghellor newydd i brifysgol
BBC Cymru Fyw
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi penodi Is-Ganghellor newydd.
Fe fydd yr Athro Cara Carmichael Aitchison, Is-Ganghellor presennol Prifysgol St Mark & St John, Plymouth, yn olynu'r athro Antony Chapman.
Bydd yn dechrau ei swydd newydd ar 1 Hydref.
May i wynebu Leadsom
BBC Cymru Fyw
Yr Ysgrifennydd Cartef Theresa May neu Andrea Leadsom, y Gweinidog Ynni, fydd prif weinidog nesaf Prydain.
Daw hyn ar ôl i aelodau seneddol Ceidwadol bleidleisio ddydd Iau i ddewis y ddau ymgeisydd fydd â'r hawl i gystadlu yn y bleidlais fydd yn cael ei chynnal ymhlith holl aelodau'r blaid i ddewis arweinydd newydd erbyn 9 Medi.
Daeth Michael Gove, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, yn drydydd.
Canlyniad y bleidlais oedd Theresa May (199), Andrea Leadsom (84) a Michael Gove (46).
AFP/Getty/EPACopyright: AFP/Getty/EPA
Eisteddfod sy'n fôr o liw
BBC Cymru Fyw
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi ei chynnal wythnos yma.
Bydd 148 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n derbyn cyfran o £608,427 gan y Gronfa Loteri Fawr.
Yn eu plith mae Aberconwy Mind yng Nghonwy a fydd yn defnyddio £4,828 i gynnal cyfres o gyrsiau a gweithdai i helpu pobl ifanc sy'n profi anawsterau gyda phryder.
Roedd gan y chwaraewr 23 oed ddwy flynedd ar ôl ar ei hen gytundeb ond mae bellach wedi cytuno i aros gyda'r clwb tan Mehefin 2019.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Daeth Modou Barrow (chwith) i Abertawe o glwb Ostersunds yn Sweden yn 2014Image caption: Daeth Modou Barrow (chwith) i Abertawe o glwb Ostersunds yn Sweden yn 2014
Carchar am ymosod gyda chyllell
BBC Cymru Fyw
Mae dyn o Ruthun wedi ei garcharu am bum mlynedd ar ôl ymosod ar ddyn arall a'i fygwth yn ei wddw gyda chyllell.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Lance Thomas 21 wedi bod yn yfed cyn iddo ymosod ar ei ffrind Chad Clemson a ddioddefodd anafiadau i'w wyneb, gwddw a'i gefn.
Mametz: cofio'r Cymry
Llun o'r gwasanaeth coffa i gofio'r cannoedd o filwyr o Gymru a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Mawr.
Wrth gyflwyno eu neges heddwch o'r llwyfan ddydd Mercher, atgoffodd Berwyn Jones o Theatr yr Ifanc Rhos y gynulleidfa o eiriau Ms Cox: "Mae gennym lawer mwy yn gyffredin rhyngom na'r pethau sy'n ein gwahanu".
bbcCopyright: bbc
Mae pawb yn Gymry nawr!
BBC Cymru Fyw
Mae hi wedi bod yn dair wythnos ryfeddol yn hanes pêl-droed Cymru.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Gwener.
Heddlu yn ymchwilio wedi ymosodiad
Heddlu Dyfed Powys
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio ar ôl i dri dyn geisio ymosod a dwyn oddi wrth ddyn arall yn Aberystwyth nos Fercher.
Roedd y dyn 53 oed yn ceisio cymryd arian o dwll yn y wal yn Cambrian Place pan ddigwyddodd yr ymosodiad tua 23:30.
Tua'r un adeg fe wnaeth y tri dyn ymosod ar ddyn 29 oed, hefyd yn Cambrian Place.
Y coed sy'n cofio
BBC Cymru Fyw
Mae'n bosib nad oes neb yn adnabod coedwig Mametz, lle lladdwyd 4,000 o filwyr Cymru yn y Rhyfel Mawr, gystal â'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes.
Mae o wedi ymweld â'r safle sawl gwaith mewn ymgais i gofnodi awyrgylch a theimlad y goedwig gyda'i gamera.
Mae'n trafod yr awyrgylch yn Mametz. ar wefan Cymru Fyw.
Gwenwch!
BBC Cymru Fyw
Efallai gall cartŵn Huw Aaron roi rheswm ichi wenu ar ôl neithiwr.
Galw am ganolfan hyfforddi yn y gogledd
BBC Cymru Fyw
Yn ôl cyn ymosodwr Cymru, Dean Saunders, mae angen gwario'r arian y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei ennill yn Euro 2016 ar adeiladu canolfan hyfforddi o safon yn y gogledd.
Bydd y Gymdeithas yn derbyn dros £14m gan UEFA am gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth.
Noson gymylog
Tywydd, BBC Cymru
Bydd heno’n noson gymylog gyda pheth glaw yn y de ond dylai fod yn gliriach yn y gogledd.
Erbyn yr oriau mân, bydd y glaw’n lledu tua’r gogledd gan adael bore llwyd a llaith i bawb.
Bydd hi’n noson glos.
Y tymheredd ar ei isaf yn 14°C.
Ewch i'r wefan dywydd am fwy o wybodaeth.
Darllediadau byw o ddathliadau Cymru
Dywed BBC Cymru y bydd yna ddarllediadau byw ddydd Gwener o'r dathliadau i groesawu tîm pêl droed Cymru yn ôl o Euro 2016.
Dywedodd llefarydd: "Bydd darllediadau helaeth o'r tîm yn cyrraedd yn ôl i Gymru, yn ogystal â digwyddiad Croeso'r Cefnogwyr, ar gael ar deledu, radio ac ar-lein yn Gymraeg ac yn Saesneg."
Bydd yr holl gyffro ar gael ar BBC One Wales a bydd ffrwd fyw ar wefan BBC Cymru Fyw a gwefan BBC Wales News.
Bydd darllediadau radio o'r holl ddigwyddiadau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, a darlledu byw hefyd yn Gymraeg ar S4C.
Chwe gêm, chwe llun
Newsround
Mae BBC Newsround yn dweud stori Cymru yn Euro 2016 mewn chwe llun.
Is-ganghellor newydd i brifysgol
BBC Cymru Fyw
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi penodi Is-Ganghellor newydd.
Fe fydd yr Athro Cara Carmichael Aitchison, Is-Ganghellor presennol Prifysgol St Mark & St John, Plymouth, yn olynu'r athro Antony Chapman.
Bydd yn dechrau ei swydd newydd ar 1 Hydref.
May i wynebu Leadsom
BBC Cymru Fyw
Yr Ysgrifennydd Cartef Theresa May neu Andrea Leadsom, y Gweinidog Ynni, fydd prif weinidog nesaf Prydain.
Daw hyn ar ôl i aelodau seneddol Ceidwadol bleidleisio ddydd Iau i ddewis y ddau ymgeisydd fydd â'r hawl i gystadlu yn y bleidlais fydd yn cael ei chynnal ymhlith holl aelodau'r blaid i ddewis arweinydd newydd erbyn 9 Medi.
Daeth Michael Gove, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, yn drydydd.
Canlyniad y bleidlais oedd Theresa May (199), Andrea Leadsom (84) a Michael Gove (46).
Eisteddfod sy'n fôr o liw
BBC Cymru Fyw
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi ei chynnal wythnos yma.
Ac mae'r ŵyl wedi bod yn fôr o liw fel gwelwch chi o luniau Dewi Glyn Jones.
Arian i brosiectau cymunedol
BBC Cymru Fyw
Bydd 148 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n derbyn cyfran o £608,427 gan y Gronfa Loteri Fawr.
Yn eu plith mae Aberconwy Mind yng Nghonwy a fydd yn defnyddio £4,828 i gynnal cyfres o gyrsiau a gweithdai i helpu pobl ifanc sy'n profi anawsterau gyda phryder.
Cytundeb newydd i Barrow yn Abertawe
BBC Sport
Mae'r asgellwr o Gambia, Modou Barrow, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd newydd gydag Abertawe meddai BBC Sport.
Roedd gan y chwaraewr 23 oed ddwy flynedd ar ôl ar ei hen gytundeb ond mae bellach wedi cytuno i aros gyda'r clwb tan Mehefin 2019.
Carchar am ymosod gyda chyllell
BBC Cymru Fyw
Mae dyn o Ruthun wedi ei garcharu am bum mlynedd ar ôl ymosod ar ddyn arall a'i fygwth yn ei wddw gyda chyllell.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Lance Thomas 21 wedi bod yn yfed cyn iddo ymosod ar ei ffrind Chad Clemson a ddioddefodd anafiadau i'w wyneb, gwddw a'i gefn.
Mametz: cofio'r Cymry
Llun o'r gwasanaeth coffa i gofio'r cannoedd o filwyr o Gymru a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Mawr.
Geiriau Jo Cox mewn neges heddwch
Daily Post
Dywed y Daily Post fod geiriau'r Aelod Seneddol Jo Cox a lofruddiwyd y mis diwethaf wedi ei ddyfynnu mewn neges heddwch gan bobl ifanc o Rosllannerchrugog yn Eisteddfod Llangollen.
Wrth gyflwyno eu neges heddwch o'r llwyfan ddydd Mercher, atgoffodd Berwyn Jones o Theatr yr Ifanc Rhos y gynulleidfa o eiriau Ms Cox: "Mae gennym lawer mwy yn gyffredin rhyngom na'r pethau sy'n ein gwahanu".
Mae pawb yn Gymry nawr!
BBC Cymru Fyw
Mae hi wedi bod yn dair wythnos ryfeddol yn hanes pêl-droed Cymru.
Ian Edwards, cyn-ohebydd Chwaraeon ITN a chyn-gyfarwyddwr marchnata Teledu Wimbledon, sy'n dyfalu beth fydd goblygiadau'r llwyddiant i ddyfodol pêl droed yng Nghymru.
Cogydd Michelin mewn gwesty ger y Bala
Daily Post
Mae gwesty crand yn Llandderfel ger y Bala ar fin ailagor ar ei newydd wedd meddai'r Daily Post.
Mae'r cogydd Michael Caines, sydd â dwy seren Michelin, yn gysylltiedig â'r busnes newydd yn Palé Hall Hotel.
Elis yn emosiynol
Euro 2016
Mae Elis James eisiau dechrau o'r dechrau eto ar ôl Euro 2016.
Ad-drefnu addysg: Edrych o'r newydd
BBC Cymru Fyw
Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi pleidleisio o blaid gwelliant i'r cynnig ynglŷn ag ad-drefnu addysg uwchradd yn y sir.
Mae hyn yn golygu y byddan nhw yn edrych ar y sefyllfa o'r newydd.
Ond mae'r cyngor wedi penderfynu yn barod na fydd yna chweched dosbarth yn Ysgol Abergwaun ac Ysgol Tyddewi yn y dyfodol.