a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yn y bore ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    Arwydd y Cynulliad
  2. Y Bleidlais

    Mae'r Gyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 wedi ei phasio. Doedd neb yn gwrthwynebu.

  3. Argymhellion y Pwyllgor Cyllid

    Ym mis Gorffennaf eleni e wnaeth y Pwyllgor Cyllid bedwar argymhelliad ar gyfer y Gyllideb Atodol: 

    Y dylai Llywodraeth Cymru barhau i fanteisio ar gyfleoedd i leihau'r gost o gynnal etholiadau i drethdalwyr. 

    Y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi mwy o dystiolaeth sy'n nodi'r rhesymeg y tu ôl i ddyraniadau'r gyllideb yn y dyfodol, fel y cynllun rhyddhad ardrethi busnes, gan gynnwys manylion am yr effaith economaidd a ragwelir. Bydd hyn yn helpu Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru i graffu ar raglenni o ran eu llwyddiant a'u gwerth am arian. Cyflwyno'r gyllideb ac arian canlyniadol Barnett.

    Y dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno gwybodaeth i sicrhau ei bod yn bosibl olrhain dyraniadau i adrannau a phrosiectau mawr yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Dylai hyn gynnwys galluogi cymariaethau i gael eu gwneud pan fydd portffolios Ysgrifenyddion Cabinet yn newid. 

    Y dylai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am drafodaethau â Thrysorlys y DU ynghylch unrhyw benderfyniadau a allai arwain at newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru yn y misoedd nesaf.  

  4. Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

    I orffen y sesiwn yn y Siambr cynnig gan Jane Hutt bod y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17.

    Arian
  5. Dogfen ymgynghori yn yr Eisteddfod Genedlaethol

    Mae Alun Davies yn dweud mai un o’r pethau cyntaf y mae'n bwriadu gwneud eleni fel Gweinidog yw cynnal "ymgynghoriad ar ein gweledigaeth hirdymor ni fel Llywodraeth ynghylch y Gymraeg.

    "Daw Strategaeth 5-mlynedd presennol Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg i ben ddiwedd mis Mawrth nesaf, felly rwy’n edrych ymlaen at gynnal trafodaeth eang dros y misoedd nesaf. 

    "Fy mwriad yw cyhoeddi dogfen ymgynghori yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst."

  6. 'Miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050'

    Mae Alun Davies yn ailddatgan yr ymrwymiad i sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050.

    Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 562,000 o siaradwyr Cymaeg.

    Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am fesurau fyddai'n arwain at filiwn o bobl yn siarad Cymraeg.

    Mae Mr Davies yn dweud,

    "Mae’n gyfrifoldeb arno ni fel Llywodraeth i osod cyfeiriad ond mae hefyd yn hanfodol i ni gyd fel cenedl gyfan berchnogi’r her. Nid dim ond cyrraedd nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ond hefyd sicrhau bod yr iaith yn cael ei chlywed bob dydd."

    Alun Davies
  7. Datganiad ar yr Iaith Gymraeg

    Nesa datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies ar y Gymraeg.

    Y Gymraeg
  8. Gwaith adeiladu yn 2019

    Mae Mr Skates yn rhagweld y bydd cytundebau cyflenwadau isadeiledd yn cael eu cymeradwyo ar gyfer Metro De Cymru yng Ngwanwyn 2018, gyda'r gwaith adeiladu yn dechrau yn 2019.

  9. Metro De Cymru a Metro'r Gogledd

    Mae Ken Skates yn dweud bod cynlluniau ar gyfer Metro De Cymru yn cynnwys arian cyfatebol o Gronfa Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Fe fydd hi'n anodd meddai i ddarparu cynllun ar yr un raddfa heb sicrhad gan Lywodraeth Prydain y bydd arian ar gael.

    Mae'n ychwanegu bod gwaith wedi dechrau eisioes ar nifer o astudiaethau fydd o gymorth i amlinellu achos busnes ar gyfer Metro'r Gogledd.

  10. Datganiad ar foderneiddio trafnidiaeth

    Trafnidiaeth sy'n cael sylw nawr wrth i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates wneud datganiad ar foderneiddio trafnidiaeth: y wybodaeth ddiweddaraf am Fasnachfraint Cymru a'r Gororau a'r Rhaglenni Metro. 

    Mae'r metro i fod i ddarparu gwell trenau, bysus cyflymach a rheilffyrdd ysgafn yng Nghaerdydd a'r Cymoedd.

    Cyhoeddwyd y llynedd y byddai £600m yn cael ei wario ar gymal cyfredol y metro.

    Roedd hyn yn cynnwys £125m gan Lywodraeth y DU a £150m o nawdd datblygu rhanbarthol Ewropeaidd.

    Map Metro
  11. 'Edrych am welliant ym mhob agwedd o'r system addysgiadol'

    Mae Kirsty Williams yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn "dechrau ar agenda diwygio anferth - y diwygiad addysgiadol mwya rydyn ni wedi ei weld yng Nghymru ers y 1940au."

    Mae'n dweud ei bod eisiau i athrawon ac arweinwyr ysgolion i allu hawlio'r parch ucha unwaith eto. " Rydw i'n edrych ar welliant ym mhob agwedd o'r system addysgiadol."

    Mae'n cyhoeddi ei bwriad i sefydlu Academi Arweinyddiaeth i Gymru.

    Arholiadau
  12. 'Hunanwella'r System Addysg'

    Tro Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yw hi nawr. Pwnc y datganiad: Hunanwella'r System Addysg. 

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol, gafodd ei phenodi gan Carwyn Jones i Gabinet Llafur, yn dweud y byddai torri maint dosbarthiadau babanod i ddim mwy na 25 disgybl, yn gwella safonau.

    Kirsty Williams
  13. 'Clwydi biwrocrataidd'

    Mae aelod Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn croesawu adolygiad o'r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol, gan alw'r system gyfredol yn "loteri côd post sy'n golygu bod cannoedd o gleifion difrifol wael yn gorfod croesi clwydi biwrocrataidd er mwyn cael y driniaeth sydd eu hangen arnyn nhw." 

    Rhun ap Iorwerth
  14. £80m ar gael yn ystod tymor y llywodraeth yma

    Mae Vaughan Gething yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer cronfa triniaethau newydd gwerth £80m ac adolygiad o'r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR).

    Bydd y gronfa triniaethau newydd hon yn "cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r meddyginiaethau mwyaf arloesol a chostus", sy'n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), i wasanaeth iechyd Cymru.

    Bydd y gronfa, meddai, yn gam ymlaen o ran sicrhau bod triniaethau ar gyfer clefydau sy'n cyfyngu neu'n peryglu bywydau pobl, ac sy'n cael eu cymeradwyo gan NICE neu AWMSG, ar gael yn ddi-oed ac yn gyson ledled Cymru. 

    Tabledi
  15. Cronfa Triniaethau Newydd

    Datganiad nawr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: Cronfa Triniaethau Newydd.

    Roedd y gronfa triniaethau newydd ar gyfer salwch difrifol sy'n beryg i fywyd unigolyn yn o brif addewidion polisi Llafur Cymru ar gyfer yr etholiad ar Fai 5.  

    Vaughan Gething
  16. 'Cymdeithas wedi methu Dylan'

    Mae Carl Sargeant yn dweud ei bod hi'n eglur o'r Adroddiad "bod cymdeithas wedi methu Dylan."

  17. 'Dim ymateb yn fyrbwyll'

    Mae Mr Sargeant yn dweud bod hwn "yn achos hynod gymhleth a byddech chi ddim yn disgwyl i mi, na fy nghyd-aelodau yn y Cabinet, i ymateb yn fyrbwyll."

    "Er hynny, er nad yw hi'n arferol i ymateb i Adolygiadau Ymarfer Plant, rydw i a fy nghyd-aelodau yn y Cabinet yn teimlo bod y materion unigryw sy'n codi yn yr achos yma yn cyfiawnhau ein bod ni'n ysgrifennu at yr holl fyrddau diogelu plant yng Nghymru a'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ar unwaith i dynnu sylw at y materion sydd wedi codi a chasgliadau'r adroddiad."

    Carl Sargeant
  18. Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Dylan Seabridge

    Am yr oriau nesaf fe fydd yr aelodau yn clywed datganiadau gan ysgrifenyddion y llywodraeth. 

    Mae'r datganiad cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant ar yr Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Dylan Seabridge. Bu farw'r bachgen wyth oed o sgyrfi yn 2011 ar ôl mynd yn sal yn ffermdy anghysbell y teulu yn Sir Benfro. 

    Ddydd Gwener fe gafodd adroddiad ei gyhoeddi i'w farwolaeth. Roedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cofrestr o bob plentyn sydd yn cael addysg gartref. Mae'r Adolygiad Ymarfer Plant yn dweud nad oedd Dylan Seabridge wedi cael unrhyw gysylltiad gydag asiantaethau fel meddygon, nyrsys ac athrawon o'r cyfnod pan oedd yn 13 mis oed. 

    Roedd Glynn a Julie Seabridge wedi dweud nad oedden nhw'n credu bod gan ei mab sgyrfi
  19. Defnyddio Brexit fel esgus?

    Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn cyhuddo Mr Jones o ddefnyddio Brexit fel esgus.

    Mae'n dweud y dylai Mr Jones fwrw ymlaen gyda Rhaglen ei Lywodraeth yn hytrach na defnyddio'r bleidlais Brexit fel esgus am ddiffyg syniadau.

    Arwydd Brexit a'r UE