Derbyniodd Melva Phillips, sy’n rhedeg fferm odro gyda’i gŵr Iwan yng Nglynarthen ger Llandysul, y wobr yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Cafodd y wobr flynyddol ei sefydlu yn 2011 i gydnabod cyfraniad y diweddar Brynle Williams, a oedd yn Aelod Cynulliad ac yn ffermwr, at amaethyddiaeth Cymru.
Yr hen a'r newydd
Sioe Frenhinol Cymru
Un o'r atyniadau mae'r dorf wedi mwynhau ar faes y Sioe heddiw yw'r Spitfire gafodd ei ddefnyddio yn y ffilm 'Battle of Britain' yn hedfan heibio'r maes yn uchel yn yr awyr las..
BBCCopyright: BBC
Cwmni'n ceisio adfer cyflenwad trydan
BBC Cymru Fyw
Mae Scottish Power wedi cadarnhau bod nifer o dai wedi colli eu cyflenwad trydan yn y gogledd orllewin y prynhawn 'ma.
Mae peirianwyr yn ceisio adfer y gwasanaethau i gartrefi yng Nghaernarfon ac ym Mangor ac yn gobeithio y bydd y broblem wedi ei datrys o fewn yr oriau nesa'.
Un o'r cystadleuethau mwyaf poblogaidd heddiw oedd yr un ar gyfer cart neu gerbyd masnachol oedd yn cael ei dynnu gan un ceffyl.
Roedd cyfuniad o'r tywydd braf a'r amrywiaeth o gystadleuwyr yn golygu fod e wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r dorf yn yr eisteddle.
BBCCopyright: BBC
A5 wedi cau oherwydd gwrthdrawiad
BBC Cymru Fyw
Mae'r A5 wedi cau i'r ddau gyfeiriad rhwng Llandygai a Bethesda yn dilyn gwrthdrawiad.
Roedd tri cherbyd yn rhan o'r digwyddiad ar yr B4366.
Penygroes: Rhyddhau dau ddyn
BBC Cymru Fyw
Mae dau ddyn gafodd eu harestio yn rhan o ymchwiliad i farwolaeth dynes ifanc yng Ngwynedd wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad, meddai heddlu'r gogledd.
Cafodd corff Emma Louise Williams, 22, ei ddarganfod ar Ffordd Llwyndu ym Mhenygroes fore Llun.
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion ac yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a glywodd rhywbeth anarferol yn yr ardal rhwng 02:00 a 05:00.
Yn y gorffennol, mae ceir wedi gorfod cael eu tynnu o'r meysydd parcio oherwydd bod gymaint o fwd ar y llawr.
Diolch byth fod hi'n sych eleni, oherwydd fydden ni ddim yn rhy hapus yn gofyn i rhain wneud!
BBCCopyright: BBC
Un afr sydd ddim yn cystadlu
Sioe Frenhinol Cymru
Mae Siencyn yr afr ar y maes gyda band y Gwarchodlu Cymreig yn cadw llygad ar y cystadlu mae'n siwr.
BBCCopyright: BBC
Diwrnod poetha'r flwyddyn yng Nghymru
Tywydd, BBC Cymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cadarnhau bod y tymheredd wedi cyrraedd 31.2C ym Mhorthmadog yn ystod y dydd, ac felly heddiw yw diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn yng Nghymru.
ThinkstockCopyright: Thinkstock
Cyngor i godi ffi am barcio
Cyngor Sir y Fflint
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i gyflwyno ffi parhaol yn eu meysydd parcio yng nghanol trefi'r sir.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr yr awdurdod o blaid y cynnig y bore yma ac maen nhw'n disgwyl codi £438,000 y flwyddyn o ganlyniad i'r newid.
Pwy yw Gene?
Sioe Frenhinol Cymru
Y gystadleuaeth ar lwyfan y Ffermwyr Ifanc yw gwisgo arweinydd eich clwb fel seren bop.
Nawr Gene Simmons o'r band Kiss yw'r person yma i fod, ond pwy yw e mewn gwirionedd?
Atebion ar gerdyn post...
BBCCopyright: BBC
Oriel y dydd o'r Sioe Fawr
BBC Cymru Fyw
Os nad ydych chi'n gallu mynd draw at faes y Sioe Fawr heddiw, ewch i weld ein oriel luniau am flas o ddigwyddiadau'r dydd.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Diolch am ddarllen y llif byw heddiw, byddwn ni yn ôl o 08:00 ddydd Mercher.
Digon da i'w bwyta
Sioe Frenhinol Cymru
'Dyw pob dim ddim o reidrwydd fel mae'n edrych yn y Sioe yn Llanelwedd.
Un cystadleuaeth boblogaidd iawn yn y babell flodau yw'r un 'Bake Off' lle'r nód yw gwneud i flodau edrych fel cacennau.
Dim clem da'r Cosaciaid?
Sioe Frenhinol Cymru
Gan ystyried bod nhw'n perfformio o flaen miloedd yn y Sioe, 'dyw llawer o Cosaciaid yr Wcrain ddim yn gwbod un pen o geffyl o'r llall!
Arweinyddiaeth Llafur: Eagle allan o'r ras
BBC Cymru Fyw
Mae Angela Eagle wedi tynnu yn ôl o'r ras i arwain y blaid Lafur.
Mae hynny'n golygu mai Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith, fydd yn herio Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth.
Bydd Ms Eagle nawr yn cefnogi Mr Smith.
Ffermwraig ifanc yn ennill gwobr
Golwg 360
Mae ffermwraig ifanc o Geredigion wedi ennill Gwobr Goffa Brynle Williams eleni, yn ol Golwg360.
Derbyniodd Melva Phillips, sy’n rhedeg fferm odro gyda’i gŵr Iwan yng Nglynarthen ger Llandysul, y wobr yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Cafodd y wobr flynyddol ei sefydlu yn 2011 i gydnabod cyfraniad y diweddar Brynle Williams, a oedd yn Aelod Cynulliad ac yn ffermwr, at amaethyddiaeth Cymru.
Yr hen a'r newydd
Sioe Frenhinol Cymru
Un o'r atyniadau mae'r dorf wedi mwynhau ar faes y Sioe heddiw yw'r Spitfire gafodd ei ddefnyddio yn y ffilm 'Battle of Britain' yn hedfan heibio'r maes yn uchel yn yr awyr las..
Cwmni'n ceisio adfer cyflenwad trydan
BBC Cymru Fyw
Mae Scottish Power wedi cadarnhau bod nifer o dai wedi colli eu cyflenwad trydan yn y gogledd orllewin y prynhawn 'ma.
Mae peirianwyr yn ceisio adfer y gwasanaethau i gartrefi yng Nghaernarfon ac ym Mangor ac yn gobeithio y bydd y broblem wedi ei datrys o fewn yr oriau nesa'.
Post Prynhawn o faes y Sioe
Rhybudd gan Kit Symons
BBC Sport Wales
Bydd mwy o bwysau ar Gymru yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 wedi i dîm Chris Coleman gyrraedd rownd gyn-derfynol Euro 2016.
Dyna'r rhybudd gan Kit Symons fydd yn dychwelwyd i'r tîm hyfforddi erbyn y gêm agoriadol yn erbyn Moldova ar 5 Medi.
Daw ei benodiad wedi i Paul Trollope adael i ganolbwyntio ar ei rôl gyda Chaerdydd.
Bant á'r cart
Sioe Frenhinol Cymru
Un o'r cystadleuethau mwyaf poblogaidd heddiw oedd yr un ar gyfer cart neu gerbyd masnachol oedd yn cael ei dynnu gan un ceffyl.
Roedd cyfuniad o'r tywydd braf a'r amrywiaeth o gystadleuwyr yn golygu fod e wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r dorf yn yr eisteddle.
A5 wedi cau oherwydd gwrthdrawiad
BBC Cymru Fyw
Mae'r A5 wedi cau i'r ddau gyfeiriad rhwng Llandygai a Bethesda yn dilyn gwrthdrawiad.
Roedd tri cherbyd yn rhan o'r digwyddiad ar yr B4366.
Penygroes: Rhyddhau dau ddyn
BBC Cymru Fyw
Mae dau ddyn gafodd eu harestio yn rhan o ymchwiliad i farwolaeth dynes ifanc yng Ngwynedd wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad, meddai heddlu'r gogledd.
Cafodd corff Emma Louise Williams, 22, ei ddarganfod ar Ffordd Llwyndu ym Mhenygroes fore Llun.
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion ac yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a glywodd rhywbeth anarferol yn yr ardal rhwng 02:00 a 05:00.
Sgorio'n fyw heno ar S4C
Sgorio, S4C
Lwcus fod dim mwd
Sioe Frenhinol Cymru
Yn y gorffennol, mae ceir wedi gorfod cael eu tynnu o'r meysydd parcio oherwydd bod gymaint o fwd ar y llawr.
Diolch byth fod hi'n sych eleni, oherwydd fydden ni ddim yn rhy hapus yn gofyn i rhain wneud!
Un afr sydd ddim yn cystadlu
Sioe Frenhinol Cymru
Mae Siencyn yr afr ar y maes gyda band y Gwarchodlu Cymreig yn cadw llygad ar y cystadlu mae'n siwr.
Diwrnod poetha'r flwyddyn yng Nghymru
Tywydd, BBC Cymru
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cadarnhau bod y tymheredd wedi cyrraedd 31.2C ym Mhorthmadog yn ystod y dydd, ac felly heddiw yw diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn yng Nghymru.
Cyngor i godi ffi am barcio
Cyngor Sir y Fflint
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i gyflwyno ffi parhaol yn eu meysydd parcio yng nghanol trefi'r sir.
Fe bleidleisiodd cynghorwyr yr awdurdod o blaid y cynnig y bore yma ac maen nhw'n disgwyl codi £438,000 y flwyddyn o ganlyniad i'r newid.
Pwy yw Gene?
Sioe Frenhinol Cymru
Y gystadleuaeth ar lwyfan y Ffermwyr Ifanc yw gwisgo arweinydd eich clwb fel seren bop.
Nawr Gene Simmons o'r band Kiss yw'r person yma i fod, ond pwy yw e mewn gwirionedd?
Atebion ar gerdyn post...
Oriel y dydd o'r Sioe Fawr
BBC Cymru Fyw
Os nad ydych chi'n gallu mynd draw at faes y Sioe Fawr heddiw, ewch i weld ein oriel luniau am flas o ddigwyddiadau'r dydd.
Carcharu ymosodwr 'Jekyll a Hyde'
South Wales Argus
Mae'r Argus yn dweud bod dyn 24 oed o Gasnewydd, gafodd ei ddisgrifio fel cymeriad "Jekyll a Hyde", wedi ei ddedfrydu i garchar am dorri gên perchennog tafarn ac ymosod ar ei ffrind gyda photel.