A dyna ni o faes yr Eisteddfod am ddiwrnod arall ond cofiwch bod y cystadlu yn y Pafiliwn yn parhau heno a bydd modd dilyn y cyfan ar y wefan.
Bydd mwy o straeon o'r maes ar ein gwefan drwy'r dydd yfory hefyd, ond am y tro, hwyl fawr.
'Steddfod i Lundain'
Golwg 360
Ar ôl treulio wythnos yn Y Fenni yn ymweld ac yn gohebu o’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Prif Olygydd Celfyddydau’r BBC am weld y Brifwyl yn mynd i Lundain, meddai Golwg 360.
bbcCopyright: bbc
Will Gompertz yn trafod gyda Huw Edwards yn gynharach yn yr wythnosImage caption: Will Gompertz yn trafod gyda Huw Edwards yn gynharach yn yr wythnos
Ymlacio yn yr haul
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yr haul wedi disgleirio ar y Maes y prynhawn 'ma, a Miriam o Drefor a Dafydd o Fryncir wedi mwynhau'n fawr yn ôl yr olwg.
BBCCopyright: BBC
Chis yn paratoi
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Huw Chiswell yw'r prif atyniad ar lwyfan y Maes heno, bydd 'Y Cwm' a'i glasuron eraill i gyd i'w clywed o 20:00 ymlaen.
BBCCopyright: BBC
Huw Chiswell (dde) yn gynharachImage caption: Huw Chiswell (dde) yn gynharach
'Noson braf'
Tywydd, BBC Cymru
Mae yna noson braf o'n blaenau er y bydd yn troi'n oerach dros nos.
Bydd yn ddiwrnod hyfryd 'fory ac yn sych i ni gyd. Nos sadwrn fe fydd yna ychydig o law ond bydd yn troi'n sych ac yn braf ddydd Sul, er yn fwy gwyntog.
"Beth sy'n gyffredin rhwng pob un o enillwyr yr Eistedfod Genedlaethol eleni?" gofynnodd yr Archdderwydd Geraint Llifon o lwyfan y Pafiliwn.
"Pobl ifanc ydyn nhw i gyd" meddai "ac mae'n dyfodol ni'n saff yn eu dwylo nhw".
BBCCopyright: BBC
Cyflwyniadau i'r bardd buddugol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Daw Merched y Ddawns Flodau yn Seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod o ysgolion cynradd Cantref, Dewstow, Ifor Hael, Y Ffin ac Ysgol Gymraeg Y Fenni.
Rebeca Rhydderch-Price, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, yw Morwyn y Fro yn Seremoni Cadeirio'r Bardd yn yr Eisteddfod. Hi sy'n cyflwyno'r Flodeuged i'r Bardd Cadeiriol, sef ysgub fach o "flodau tir a daear Cymru".
Catrin Wood, Mam y Fro, sy'n cludo'r Corn Hirlas a Morynion y Llys yw Elinor Edwards ac Angharad Morley. Alexander Hemington a Ieuan David Merchant yw Macwyaid y Llys.
Cafodd y gadair ei chyflwyno am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl 'Ffiniau'.
BBCCopyright: BBC
Bardd y Gadair
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r bardd buddugol ar ei draed.
bbcCopyright: bbc
'Tad Diymadferth?' yw enillydd y Gadair
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
'Tad Diymadferth?' yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy.
Er mai Siac oedd "cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth" am ei gerdd am daith lenyddol i Mwmbai roedd cerdd Tad Diymadferth? yn rhoi "llwyfan i rai o ofnau dyfnaf unrhyw riant. Cerdd sy'n gnweud inni feddwl a'n hannog i gyd i beidio a bod yn ddiymadferth," meddai Tudur Dylan Jones o'r llwyfan.
Naw wedi ymgeisio
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Naw bardd wedi ymgeisio am y Gadair eleni meddai Tudur Dylan Jones, a'r beirniaid "yn rhyfeddol agos at ei gilydd o ran trefn y naw".
Mae dau wedi eu diystyru am "fethu a llwyddo i greu cerddi mewn cynghanedd gyflawn".
bbcCopyright: bbc
Beirniadaeth Tudur Dylan Jones
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y Prifardd a'r Athro Tudur Dylan Jones sy'n traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid Meirion MacIntyre Hughes a Cathryn A Charnell-White.
Fe enillodd Tudur Dylan y Gadair ddwywaith, yn 1995 a 2005, a'r Goron yn 2007.
Mae wedi ei chreu gan Emyr Garnon James a oedd yn ymweld yn gyson â chartref Dic Jones.
Eisteddfod GenedlaetholCopyright: Eisteddfod Genedlaethol
Cadair 2016 a'r gadair enillodd Dic Jones yn 1966Image caption: Cadair 2016 a'r gadair enillodd Dic Jones yn 1966
Gweddi'r Orsedd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ffion Hâf sy'n canu Gweddi'r Orsedd a'r gynulleidfa yn cyd-ganu gyda hi am y tro olaf yr wythnos hon wrth i'r Orsedd gynnal ei seremoni olaf yn Eistedfod y Fenni 2016.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
A dyna ni o faes yr Eisteddfod am ddiwrnod arall ond cofiwch bod y cystadlu yn y Pafiliwn yn parhau heno a bydd modd dilyn y cyfan ar y wefan.
Bydd mwy o straeon o'r maes ar ein gwefan drwy'r dydd yfory hefyd, ond am y tro, hwyl fawr.
'Steddfod i Lundain'
Golwg 360
Ar ôl treulio wythnos yn Y Fenni yn ymweld ac yn gohebu o’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Prif Olygydd Celfyddydau’r BBC am weld y Brifwyl yn mynd i Lundain, meddai Golwg 360.
Ymlacio yn yr haul
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yr haul wedi disgleirio ar y Maes y prynhawn 'ma, a Miriam o Drefor a Dafydd o Fryncir wedi mwynhau'n fawr yn ôl yr olwg.
Chis yn paratoi
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Huw Chiswell yw'r prif atyniad ar lwyfan y Maes heno, bydd 'Y Cwm' a'i glasuron eraill i gyd i'w clywed o 20:00 ymlaen.
'Noson braf'
Tywydd, BBC Cymru
Mae yna noson braf o'n blaenau er y bydd yn troi'n oerach dros nos.
Bydd yn ddiwrnod hyfryd 'fory ac yn sych i ni gyd. Nos sadwrn fe fydd yna ychydig o law ond bydd yn troi'n sych ac yn braf ddydd Sul, er yn fwy gwyntog.
Ewch i'r wefan dywydd am ragolygon pellach.
Clipiau'r enillwyr
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Pwy enillodd yr Unawd Mezzo-Soprano/Contralto/Gwrth-denor dros 25, y Parti Alaw Werin a'r Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed?
Gyda'r cystadlu am y dydd wedi dod i ben gallwch weld canlyniadau a chlipiau enillwyr heddiw i gyd cyn diwedd y dydd ar ein tudalen ganlyniadau.
Mae holl ganlyniadau'r wythnos i'w gweld yma.
Llongyfarch y Prifardd Aneirin Karadog
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Gadawodd Aneirin Karadog y Pafiliwn i gymeradwyaeth eisteddfodwyr gyda rhai yn gweiddi "hen bryd!" i ddileit y bardd buddugol.
'Henaint ni ddaw ei hunan'
'Dyfodol yn saff'
"Beth sy'n gyffredin rhwng pob un o enillwyr yr Eistedfod Genedlaethol eleni?" gofynnodd yr Archdderwydd Geraint Llifon o lwyfan y Pafiliwn.
"Pobl ifanc ydyn nhw i gyd" meddai "ac mae'n dyfodol ni'n saff yn eu dwylo nhw".
Cyflwyniadau i'r bardd buddugol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Daw Merched y Ddawns Flodau yn Seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod o ysgolion cynradd Cantref, Dewstow, Ifor Hael, Y Ffin ac Ysgol Gymraeg Y Fenni.
Rebeca Rhydderch-Price, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, yw Morwyn y Fro yn Seremoni Cadeirio'r Bardd yn yr Eisteddfod. Hi sy'n cyflwyno'r Flodeuged i'r Bardd Cadeiriol, sef ysgub fach o "flodau tir a daear Cymru".
Catrin Wood, Mam y Fro, sy'n cludo'r Corn Hirlas a Morynion y Llys yw Elinor Edwards ac Angharad Morley. Alexander Hemington a Ieuan David Merchant yw Macwyaid y Llys.
Aneirin Karadog yw enillydd y Gadair
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Aneirin Karadog o Bontyberem yw enillydd Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.
Cafodd y gadair ei chyflwyno am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl 'Ffiniau'.
Bardd y Gadair
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r bardd buddugol ar ei draed.
'Tad Diymadferth?' yw enillydd y Gadair
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
'Tad Diymadferth?' yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy.
Er mai Siac oedd "cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth" am ei gerdd am daith lenyddol i Mwmbai roedd cerdd Tad Diymadferth? yn rhoi "llwyfan i rai o ofnau dyfnaf unrhyw riant. Cerdd sy'n gnweud inni feddwl a'n hannog i gyd i beidio a bod yn ddiymadferth," meddai Tudur Dylan Jones o'r llwyfan.
Naw wedi ymgeisio
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Naw bardd wedi ymgeisio am y Gadair eleni meddai Tudur Dylan Jones, a'r beirniaid "yn rhyfeddol agos at ei gilydd o ran trefn y naw".
Mae dau wedi eu diystyru am "fethu a llwyddo i greu cerddi mewn cynghanedd gyflawn".
Beirniadaeth Tudur Dylan Jones
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y Prifardd a'r Athro Tudur Dylan Jones sy'n traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid Meirion MacIntyre Hughes a Cathryn A Charnell-White.
Fe enillodd Tudur Dylan y Gadair ddwywaith, yn 1995 a 2005, a'r Goron yn 2007.
Cadair er cof
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Gadair yn cael ei rhoi eleni er cof am y Prifardd a'r Cyn Archdderwydd Dic Jones a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl ‘Y Cynhaeaf’ 50 mlynedd yn ôl.
Mae wedi ei chreu gan Emyr Garnon James a oedd yn ymweld yn gyson â chartref Dic Jones.
Gweddi'r Orsedd
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ffion Hâf sy'n canu Gweddi'r Orsedd a'r gynulleidfa yn cyd-ganu gyda hi am y tro olaf yr wythnos hon wrth i'r Orsedd gynnal ei seremoni olaf yn Eistedfod y Fenni 2016.
Dim lle i bawb?
Seremoni'r cadeirio yn dechrau
Ciwio i'r Pafiliwn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae ciwiau hirfaith i fynd i mewn i'r Pafiliwn ar gyfer prif seremoni'r dydd heddiw.