Dyna ddiwedd y llif byw am heddiw. Dewch yn ôl aton ni o 08:00 yfory.
Eric Jones yn gwerthu ei gaffi
Daily Post
Mae'r dringwr Eric Jones o Wynedd yn gwerthu ei gaffi a maes gwersylla yn Nhremadog wedi 37 o flynyddoedd, yn ôl y Daily Post.
Mae Eric yn adnabyddus yn y byd dringo, ac mae ei gaffi wedi dod yn fan cyfarfod i ddringwyr a cherddwyr yn yr ardal.
Penderfyniad Gemau'r Gymanwlad yn un 'pathetig'
BBC Cymru Fyw
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud ei fod yn benderfyniad "pathetig".
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae hyn yn hynod o siomedig ac mae'n eithaf pathetig fod Llywodraeth Cymru unwaith eto yn ceisio defnyddio Brexit fel esgus i guddio diffyg uchelgais a dychymyg."
BBCCopyright: BBC
Oedi wedi gwrthdrawiad Caerffili
Teithio BBC Cymru
Mae'r A468 wedi rhwystro'n rhannol yng Nghaerffili yn dilyn gwrthdrawiad ar gylchfan yr A469.
Mae'r digwyddiad hefyd yn achosi oedi ar yr A470 a'r B4600.
Cawodydd a chymylau heno
Tywydd, BBC Cymru
Y rhagolygon gan Llyr Griffiths-Davies: "Heno'r cawodydd yn para, yn bennaf ar draws y gogledd. Noson gymylog.
"Dros nos bydd glaw'n symud dros y wlad o'r gorllewin. Y tymheredd isa'n rhyw 11C."
Fe wnaeth y chwaraewr 27 oed arwyddo cytundeb gyda Reading ym mis Chwefror, ond mae'r cytundeb yn cynnwys cymal sy'n golygu y bydd yn cael gadael y clwb os fydd clwb arall yn gwneud cynnig o dros £1.2m amdano.
"Mae’r artistiaid fydd yn perfformio ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016 wedi eu cyhoeddi ac, am y tro cyntaf erioed, bydd S4C yn darlledu’r perfformiadau yn y gigs yn fyw ar eu gwefan," medd datganiad gan S4C
"Cwmni teledu Antena o Gaernarfon fydd yn cynhyrchu’r gwasanaeth ar-lein o Maes B ac ymysg y perfformwyr eleni fydd Yws Gwynedd, Candelas, Yr Eira, Mellt, Calfari, Band Pres Llarregub, Y Reu, Fleur De Lys, HMS Morris, Yr Ods a DJ Huw Stephens."
Saracens, enillwyr y gystadleuaeth yn 2015Image caption: Saracens, enillwyr y gystadleuaeth yn 2015
Ysgol Llangennech: Ymgynghoriad ffurfiol
BBC Cymru Fyw
Mae cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi pleidleisio i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gynnllun i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech drwy uno dwy ysgol dau gyfrwng. Bydd y cyngor llawn wedyn yn cymryd y penderfyniad terfynol.
Newydd Dorri: 115 i golli swyddi
BBC Cymru Fyw
Bydd 115 o bobl yn colli eu swyddi mewn ffatri gemegion Dow Corning yn Y Barri.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Dyna ddiwedd y llif byw am heddiw. Dewch yn ôl aton ni o 08:00 yfory.
Eric Jones yn gwerthu ei gaffi
Daily Post
Mae'r dringwr Eric Jones o Wynedd yn gwerthu ei gaffi a maes gwersylla yn Nhremadog wedi 37 o flynyddoedd, yn ôl y Daily Post.
Mae Eric yn adnabyddus yn y byd dringo, ac mae ei gaffi wedi dod yn fan cyfarfod i ddringwyr a cherddwyr yn yr ardal.
Penderfyniad Gemau'r Gymanwlad yn un 'pathetig'
BBC Cymru Fyw
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud ei fod yn benderfyniad "pathetig".
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae hyn yn hynod o siomedig ac mae'n eithaf pathetig fod Llywodraeth Cymru unwaith eto yn ceisio defnyddio Brexit fel esgus i guddio diffyg uchelgais a dychymyg."
Oedi wedi gwrthdrawiad Caerffili
Teithio BBC Cymru
Mae'r A468 wedi rhwystro'n rhannol yng Nghaerffili yn dilyn gwrthdrawiad ar gylchfan yr A469.
Mae'r digwyddiad hefyd yn achosi oedi ar yr A470 a'r B4600.
Cawodydd a chymylau heno
Tywydd, BBC Cymru
Y rhagolygon gan Llyr Griffiths-Davies: "Heno'r cawodydd yn para, yn bennaf ar draws y gogledd. Noson gymylog.
"Dros nos bydd glaw'n symud dros y wlad o'r gorllewin. Y tymheredd isa'n rhyw 11C."
Am fwy ewch i'r wefan dywydd.
Cyn heddwas yn cyfaddef bod â lluniau anweddus
Wales Online
Mae WalesOnline yn adrodd bod cyn heddwas wnaeth gyfaddef bod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant wedi dweud bod ei ddiddordeb yn y fath ddeunydd wedi dechrau drwy ei waith.
Cyngor i brynu'r Guildhall
BBC Wales News
Bydd y Guildhall yng Nghaerfyrddin yn cael ei brynu gan y cyngor sir am £225,000 ar ôl i fwrdd gweithredol yr awdurdod bleidleisio o blaid hynny.
Mae dyfodol yr adeilad wedi bod yn ansicr ers y cyhoeddiad y byddai'r llysoedd barn yn cau ym mis Mai.
Croeso i'r Fenni!
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Eisteddfod yn agosáu, ac mae'n ymddangos bod croeso mawr i ymwelwyr i'r Fenni yn barod.
Chris Gunter i symud i Hull?
BBC Sport Wales
Mae BBC Sport Wales yn adrodd bod gan Hull City ddiddordeb mewn arwyddo amddiffynnwr Cymru a Reading, Chris Gunter.
Fe wnaeth y chwaraewr 27 oed arwyddo cytundeb gyda Reading ym mis Chwefror, ond mae'r cytundeb yn cynnwys cymal sy'n golygu y bydd yn cael gadael y clwb os fydd clwb arall yn gwneud cynnig o dros £1.2m amdano.
Heddlu'n dal i chwilio
Harry Greaves: Marwolaeth yn ddamwain
BBC Cymru Fyw
Mae cwest dyn o'r canolbarth fu farw wrth gerdded ym Mheriw, De America, wedi dod i'r casgliad ei fod wedi marw'n ddamweiniol.
Aeth Harry Greaves, o Fronygarth ger Croesoswallt, ar goll yn yr Andes ar 7 Ebrill eleni, ond ni chafwyd hyd i gorff y dyn 29 oed am bythefnos.
Morgannwg yn colli ail wiced
Morgannwg yn colli wiced
Criced, BBC Cymru
Ar ôl dechrau da mae Morgannwg wedi colli wiced yn eu gêm yn y Cwpan Undydd yn erbyn Essex.
Gigs Maes B i'w darlledu'n fyw
S4C
"Mae’r artistiaid fydd yn perfformio ym Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016 wedi eu cyhoeddi ac, am y tro cyntaf erioed, bydd S4C yn darlledu’r perfformiadau yn y gigs yn fyw ar eu gwefan," medd datganiad gan S4C
"Cwmni teledu Antena o Gaernarfon fydd yn cynhyrchu’r gwasanaeth ar-lein o Maes B ac ymysg y perfformwyr eleni fydd Yws Gwynedd, Candelas, Yr Eira, Mellt, Calfari, Band Pres Llarregub, Y Reu, Fleur De Lys, HMS Morris, Yr Ods a DJ Huw Stephens."
Gemau Cwpan Eingl-Gymreig wedi'i cyhoeddi
BBC Sport Wales
Mae rhestr gemau Cwpan Eingl-Gymreig ar gyfer tymor nesaf wedi eu cyhoeddi. Bydd pedwar rhanbarth Cymru'n herio timau Uwchgynghrair Lloegr mewn cystadleuaeth sy'n cael ei ystyried gan lawer fel cyfle i ddatblygu chwaraewyr ifanc.
Ysgol Llangennech: Ymgynghoriad ffurfiol
BBC Cymru Fyw
Mae cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi pleidleisio i gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gynnllun i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech drwy uno dwy ysgol dau gyfrwng. Bydd y cyngor llawn wedyn yn cymryd y penderfyniad terfynol.
Newydd Dorri: 115 i golli swyddi
BBC Cymru Fyw
Bydd 115 o bobl yn colli eu swyddi mewn ffatri gemegion Dow Corning yn Y Barri.
Gemau'r Gymanwlad: Ymateb
Cyfaddef trosedd wedi ymosodiad ci
BBC Cymru Fyw
Mae dyn wedi cyfaddef bod â chi peryglus yn ei feddiant ar ôl i ddyn 54 oed gael ei dynnu ar hyd y llawr gan gi yng ngogledd Cymru.
Roedd rhaid i Barry Williams o Fanceinion gael llawdriniaeth ar ôl yr ymosodiad ym Mae Cinmel ger y Rhyl.
Bydd William Robinson, 73 o St Helens, yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon yn ddiweddarach.
Oedi ar yr A490
Teithio BBC Cymru
Ger y Trallwng, mae'r A490 wedi'i rhwystro'n rhannol ger Lôn y Felin Wynt.