a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd.

    Fe fyddwn ni yn ôl am 08:00 bore fory.

    Hwyl i chi am y tro.  

  2. Marchogaeth unochrog

    Sioe Môn

    Mae marchogaeth ar un ochr (side saddle) yn un o'r cystadlaethau sy'n denu tyrfaoedd yn y prif gylch yn Sioe Môn lle mae na bob math o geffylau yn cael eu dangos.

    Dynes yn marchog ceffyl gyda 'side saddle'
  3. Ewch yn Wyllt!

    Sioe Môn

    Roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn Sioe Môn heddiw i lansio’r rhifyn cyntaf o Gwyllt, cylchgrawn natur i blant gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy'n cael ei gyhoeddi yn Gymraeg am y tro cyntaf.

    Mae 77 rhifyn wedi ei gyhoeddi yn Saesneg yn barod.

    Iolo Wiliams yn lawnsio Cylchgrawn Gwyllt
  4. Calfari'n canu

    Sioe Môn

    Mae'r orsaf radio leol Môn FM yn darlledu o dri safle yn y sioe dros y deuddydd nesa'; tro'r hogiau lleol, Calfari, oedd hi i berfformio ar eu prif lwyfan y prynhawn 'ma.

    Calfari
  5. Lansio gradd pêl-droed mewn prifysgol

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi uno i lansio gradd hyfforddi chwaraeon.

    Bydd y cwrs yn dechrau fis Medi ar ôl i'r ddau gorff ddod at ei gilydd.

    Yng nghanolfan Colliers Park y brifysgol yn Wrecsam fydd y myfyrwyr yn astudio, a bydd y radd yn cyfuno hyfforddi proffesiynol a chwrs academaidd.

  6. Y wlad wedi'i hollti?

    Tywydd, BBC Cymru

    "Heno bydd y cawodydd yn parhau ar draws y gogledd a rhannau o'r canolbarth," meddai Llŷr Griffiths Davies, "ond fydd hi'n noson gymylog ar y cyfan, gyda'r tymheredd isa'n rhyw 9C mewn mannau gwledig."

    Am eich tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  7. Digon o sioe, tan fory

    Sioe Môn

    Mae wedi bod yn braf am y rhan fwyaf o'r dydd yn Sioe Môn er bod glaw mân wedi cyrraedd erbyn hyn a'r tyrfaoedd yn dechrau gadael.

    Ewch i weld lluniau'r dydd.

    Wil Williams o Landdeusant gyda Irene y fuwch a oedd yn fuddugol yn ei dosbarth
  8. Gemau Olympaidd Ar y Marc

    Ar y Marc

    BBC Radio Cymru

    Mae blog rhaglen 'Ar y Marc', BBC Radio Cymru'n sôn am gyswllt Cymreig sydd yng nghystadleuaeth pêl-droed y Gemau Olympaidd yn Rio. 

    Mae Rhian Wilkinson yn ferch o Fro Morgannwg sydd yn chwarae i dîm Canada.

    Rhian Wilkinson
  9. Rio: Cordina yn colli

    Mae'r bocsiwr pwysau ysgafn o Gymru, Joe Cordina, wedi colli ei ornest 16 olaf i Hurshid Tojibaev o Uzbekistan sy'n golygu ei fod allan o Gemau'r Olympaidd.

    View more on twitter
  10. Dyn ar goll ger traeth Mwnt

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod y dyn aeth ar goll yn y môr yng Ngheredigion yn 23 oed ac yn dod o Orllewin Canolbarth Lloegr.

    Bu dau ŵr yn cerdded ar y creigiau ger Mwnt pan ddisgynnodd un i'r dŵr ddydd Sul.

    Mae'r chwilio am y dyn wedi dod i ben erbyn hyn.

  11. Cyfle arall i Geraint Thomas

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y seiclwr Geraint Thomas yn cael cyfle arall i ennill medal Olympaidd yn Rio ddydd Mercher.

    Roedd gan y Cymro gyfle i ennill y ras ar y ffordd dros y penwythnos, ond cafodd ddamwain ddifrifol a gorffen yn ddegfed.

    Ond daeth cyhoeddiad ddydd Mawrth ei fod yn mynd i fod yn cystadlu yn y ras yn erbyn y cloc ddydd Mercher gan fod aelod arall o Team GB wedi gorfod tynnu nôl oherwydd anaf.

    geraint
  12. Hofrennydd yn 'dod o uned yn y Fali'

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod yr hofrennydd Griffin yn dod o uned hyfforddi chwilio ac achub awyrlu'r Fali ar Ynys Môn.

    Dywedodd llefarydd hefyd mai pedwar o bobl oedd ar ei bwrdd a'u bod i gyd yn saff.

    Doedd dim angen triniaeth yn yr ysbyty ar yr un o'r bobl, meddai llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru.

  13. Y Davis Cup ar daith

    Sioe Môn

    Mae Tenis Cymru yn dangos y Davis Cup yn Sioe Môn fel rhan o'u taith i ysbrydoli cenhedlaeth newydd i chwarae tenis.

    Fe fydd yng Nghlwb Tenis Rhuthun 'fory rhwng 17:00 a 20:00.

    Mae'n 116 mlwydd oed ac yn un o dlysau chwaraeon mwya'r byd,

    Tenis Cymru gyda Tws Davies
  14. Damwain hofrennydd: 'Problem dechnegol'

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud bod hofrennydd hyfforddi Griffin wedi glanio yn Eryri yn dilyn "problem dechnegol".

    Yn wahanol i adroddiadau blaenorol, dywedodd y weinyddiaeth bod pedwar o bobl ar yr hofrennydd, a'u bod yn ddiogel.

    Dywedodd y llefarydd bod yr hofrennydd yna wedi mynd ar dân ar y ddaear.

  15. Damwain hofrennydd: Chwech o bobl yn ddiogel

    BBC Cymru Fyw

    Mae Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau bod chwech o bobl yn ddiogel ar ôl damwain hofrennydd i'r gorllewin o'r Wyddfa.

    Dywedodd yr asiantaeth bod ambiwlans awyr yn agos i'r safle pan ddigwyddodd y damwain, a'i fod wedi cyrraedd y safle yn gyflym.

    Mae hofrennydd o Sain Tathan a thimau achub o Lanberis, Ogwen ac Aberglaslyn wedi eu gyrru i'r digwyddiad.

    Eryri
  16. Cymraes yn y rownd derfynol

    Mae'r Gymraes Victoria Thornley wedi cyrraedd rownd derfynol y parau rhwyfo yn y Gemau Olympaidd gyda'i phartner Katherine Grainger.

    View more on twitter
  17. Digwyddiad Eryri: Hofrennydd yr Awyrlu

    Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

    Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud bod y digwyddiad yn Eryri yn ymwneud â hofrennydd yr Awyrlu.

    Mae un ambiwlans awyr wedi cyrraedd y digwyddiad.

  18. Gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad Eryri

    BBC Cymru Fyw

    Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod y gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad ar fynydd yn Eryri.

    Mae'r Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a'r Ambiwlans ar y ffordd. Dim mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.

    Tan Eryri
  19. Adroddiadau o ddigwyddiad yn Eryri

    Adroddiadau gan lygad-dyst o ddigwyddiad yn Eryri y p'nawn 'ma.

    Dim mwy o wybodaeth na chadarnhad ar hyn o bryd.

    View more on twitter