Clywodd llys fod Kirsty Sutherland, 28 oed, hefyd wedi gyrru'r car heb yswiriant.
Morgannwg yn paratoi
Criced, BBC Cymru
Mae gan chwaraewyr Morgannwg ychydig dros awr i aros cyn dechrau eu gêm fwyaf o'r tymor.
Byddant yn herio Sir Efrog yn rownd olaf y gystadleuaeth 20 pelawd yn Stadiwm Swalec gan ddechrau am 19:00.
Pe bai Morgannwg yn ennill byddant yn cymryd rhan yn y rowndiau terfynol yn Edgbaston wythnos i'r Sadwrn.
PACopyright: PA
Llafur: Uchel Lys i benderfynu ddydd Gwener
Mae'r Uchel Lys wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi ei ddyfarniad yfory wrth i'r Blaid Lafur apelio yn erbyn dyfarniad sy'n rhoi'r hawl i dros 120,000 o aelodau newydd bleidleisio yn yr etholiad i ddewis arweinydd.
Roedd Pwyllgor Gwaith y blaid wedi dweud na fyddai unrhyw un oedd wedi ymaelodi ar ôl canol Ionawr yn cael cymryd rhan yn y broses bledleisio.
Ond ddydd Llun fe enillodd pum aelod newydd eu her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
PACopyright: PA
Jeremy Corbyn ac Owen SmithImage caption: Jeremy Corbyn ac Owen Smith
Dedfryd o garchar wedi ei ohirio
BBC Cymru Fyw
Cafodd dyn o Landyrnog, Dyffryn Clwyd, ddedfryd o 26 wythnos o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd ar ôl i blismyn arfog gael eu hanfon i'w gartref.
Clywodd y llys fod Grayson Plumb, 46 oed, wedi yfed gormod a'i fod yn chwifio bwyall.
Fe gafodd gwn taser ei ddefnyddio er mwyn ei atal.
Cafodd ddirwy a chostau o £400 ac fe fydd o'n gorfod gwneud 160 awr o waith di-dâl yn y gymuned.
Heddlu am holi ail ddyn
Western Telegraph
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i achos honedig o gynnau tân yn fwriadol yn Aberdaugleddau yn chwilio am ail ddyn i'w holi, meddai'r Western Telegraph.
Fe gafodd dyn 17 oed ei arestio ddydd Mawrth a'i ryddhau ar fechnïaeth.
Cyhuddo dyn o droseddau ar-lein
Mae dyn 19 oed o Lanelli wedi ei gyhuddo gyda nifer o droseddau rhyngwladol yn ymwneud â hacio cyfrifiaduron.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Ynadon Westminster ar 12 Medi.
Mae'n wynebu cyhuddiad o weithgarwch wnaeth effeithio ar waith Coleg Sir Gâr, gan gynnwys y modd roedd arholiadau yn cael eu gweinyddu.
Mae yna ddau gyhuddiad yn ymwneud â blacmel, un yn ymwneud â pherson oedd yn cael ei gyflogi gan gwmni yn Awstralia, a'r llall o flacmel yn ymwneud â pherson oedd yn gweithio i gwmni yng Nghanada.
Powell yn colli
Y Gemau Olympaidd
Mae Natalie Powell o Gymru wedi colli yn y rownd gogynderfynol yn yJudo yn Rio.
Ond mae Powell, 25 oed, yn parhau a gobaith o ennill medal efydd.
GettyCopyright: Getty
Amddiffynwr yw'r target i Guidolin
Twitter
Mae Lauren Jenkins wedi trydar ynglŷn â blaenoriaethau Guidolin wrth arwyddo chwaraewr newydd.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymateb yn dilyn digwyddiad yng Ngharchar Abertawe ddydd Gwener pan gafodd tri o swyddogion y carchar eu hanafu.
Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y digwyddiad wedi para am 15 munud a bod y carcharorion oedd yn gyfrifol am y digwyddiad wedi eu hanfon i garchardai eraill erbyn hyn.
Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno system rheoli dŵr gwerth £1.5m ar gyfer cronfa Llandegfedd i'r gogledd o Gasnewydd.
Cafodd y system reoli ei gynhyrchu yn Awstralia ac yna ei roi at ei gilydd ar lannau'r gronfa sy'n cyflenwi 500,000 o gwsmeriaid.
Bu'n rhaid defnyddio hofrennydd i'w osod yn ei le.
Dwr CymruCopyright: Dwr Cymru
Gêm gwpan i Gaerdydd
BBC Sport Wales
Fe fydd Caerdydd oddi cartref heno yn erbyn Bristol Rovers yn rownd gyntaf Cwpan y Gynghrair. Pe bai nhw'n curo, Scunthorpe fydd ei gwrthwynebwyr yn yr ail rownd.
Cafodd Andrew James Jones, 27 o Wrecsam ei garcharu am bedair blynedd a hanner, a chafodd David Ryan Williams, 45, o'r Waun ei garcharu am bedair blynedd.
Dyna'r hyn y mae BBC West Midlands Sport wedi ei drydar yn ystod yr hanner awr ddiwethaf.
Symudodd y Cymro o glwb Hull i West Brom am £8m y llynedd ond mae son fod clwb Hull ar ei ôl hefyd, wedi iddyn nhw sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan am heno ond fe fydd y gwasanaeth newyddion yn parhau ar y brif hafan.
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Gwener gyda'r newyddion diweddaraf o Gymru ac o'r Gemau Olympaidd yn Rio.
Dwyn car ar ôl gadael carchar
The Leader
Cafodd dynes o Wrecsam wnaeth ddwyn car o fewn tri diwrnod o adael carchar ei charcharu am chwe wythnos a'i gwahardd rhag gyrru am chwe mis, meddai'r Leader.
Clywodd llys fod Kirsty Sutherland, 28 oed, hefyd wedi gyrru'r car heb yswiriant.
Morgannwg yn paratoi
Criced, BBC Cymru
Mae gan chwaraewyr Morgannwg ychydig dros awr i aros cyn dechrau eu gêm fwyaf o'r tymor.
Byddant yn herio Sir Efrog yn rownd olaf y gystadleuaeth 20 pelawd yn Stadiwm Swalec gan ddechrau am 19:00.
Pe bai Morgannwg yn ennill byddant yn cymryd rhan yn y rowndiau terfynol yn Edgbaston wythnos i'r Sadwrn.
Llafur: Uchel Lys i benderfynu ddydd Gwener
Mae'r Uchel Lys wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi ei ddyfarniad yfory wrth i'r Blaid Lafur apelio yn erbyn dyfarniad sy'n rhoi'r hawl i dros 120,000 o aelodau newydd bleidleisio yn yr etholiad i ddewis arweinydd.
Roedd Pwyllgor Gwaith y blaid wedi dweud na fyddai unrhyw un oedd wedi ymaelodi ar ôl canol Ionawr yn cael cymryd rhan yn y broses bledleisio.
Ond ddydd Llun fe enillodd pum aelod newydd eu her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Dedfryd o garchar wedi ei ohirio
BBC Cymru Fyw
Cafodd dyn o Landyrnog, Dyffryn Clwyd, ddedfryd o 26 wythnos o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd ar ôl i blismyn arfog gael eu hanfon i'w gartref.
Clywodd y llys fod Grayson Plumb, 46 oed, wedi yfed gormod a'i fod yn chwifio bwyall.
Fe gafodd gwn taser ei ddefnyddio er mwyn ei atal.
Cafodd ddirwy a chostau o £400 ac fe fydd o'n gorfod gwneud 160 awr o waith di-dâl yn y gymuned.
Heddlu am holi ail ddyn
Western Telegraph
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i achos honedig o gynnau tân yn fwriadol yn Aberdaugleddau yn chwilio am ail ddyn i'w holi, meddai'r Western Telegraph.
Fe gafodd dyn 17 oed ei arestio ddydd Mawrth a'i ryddhau ar fechnïaeth.
Cyhuddo dyn o droseddau ar-lein
Mae dyn 19 oed o Lanelli wedi ei gyhuddo gyda nifer o droseddau rhyngwladol yn ymwneud â hacio cyfrifiaduron.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos gerbron Ynadon Westminster ar 12 Medi.
Mae'n wynebu cyhuddiad o weithgarwch wnaeth effeithio ar waith Coleg Sir Gâr, gan gynnwys y modd roedd arholiadau yn cael eu gweinyddu.
Mae yna ddau gyhuddiad yn ymwneud â blacmel, un yn ymwneud â pherson oedd yn cael ei gyflogi gan gwmni yn Awstralia, a'r llall o flacmel yn ymwneud â pherson oedd yn gweithio i gwmni yng Nghanada.
Powell yn colli
Y Gemau Olympaidd
Mae Natalie Powell o Gymru wedi colli yn y rownd gogynderfynol yn yJudo yn Rio.
Ond mae Powell, 25 oed, yn parhau a gobaith o ennill medal efydd.
Amddiffynwr yw'r target i Guidolin
Twitter
Mae Lauren Jenkins wedi trydar ynglŷn â blaenoriaethau Guidolin wrth arwyddo chwaraewr newydd.
Apêl am fachgen 14 oed
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth am fachgen 14 oed o ardal Tredegar sydd heb ei weld ers 8 Awst.
Mae James Weaver o gorff main ac roedd yn gwisgo siwmper llwyd a gwyn, a throwsus trackwisg llwyd pan gafodd ei weld ddiwethaf.
Ymchwiliad: Penodi cadeirydd newydd
BBC Cymru Fyw
Mae Ysgrifennydd Cartref wedi penodi'r Athro Alexis Jay i arwain yr Ymchwiliad Annibynnol i droseddau rhyw hanesyddol.
Fe fydd yn olynu Ustus Lowell Goddard o Seland Newydd wnaeth gyhoeddi'r wythnos diwethaf ei bod yn camu i'r neilltu.
Yr Athro Jay yw'r pedwerydd person i gael ei phenodi i gadeirio'r ymchwiliad.
Medal arian i Victoria Thornley
Y Gemau Olympaidd
Mae'r Gymraes Victoria Thornley wedi cipio medal arian yn y gystadleuaeth cwch i ddwy, gyda Katherine Granger yn cyd-rwyfo.
Bu bron iddi gael medal aur ond daeth rhwyfwyr Gwlad Pwyl yn gyntaf o drwch blewyn.
Gwrthdrawiad ar yr A483 ger Wrecsam
Twitter
Mae tagfeydd traffig yn yr ardal meddai gwefan Leader Live
Trafferth mewn carchar
BBC Cymru Fyw
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymateb yn dilyn digwyddiad yng Ngharchar Abertawe ddydd Gwener pan gafodd tri o swyddogion y carchar eu hanafu.
Mewn datganiad, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y digwyddiad wedi para am 15 munud a bod y carcharorion oedd yn gyfrifol am y digwyddiad wedi eu hanfon i garchardai eraill erbyn hyn.
Cymru dan 19 i wynebu'r Springboks
S4C
Ar wefan S4C mae cyfweliad gyda Billy McBride, maswr tîm dan 19 Cymru. Mae Billy yn trafod y daith i Dde Affrica lle bydd Cymru yn chwarae yn y Gyfres Ryngwladol Dan 19.
Buddsoddi £1.5m mewn cronfa ddŵr
BBC Cymru Fyw
Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno system rheoli dŵr gwerth £1.5m ar gyfer cronfa Llandegfedd i'r gogledd o Gasnewydd.
Cafodd y system reoli ei gynhyrchu yn Awstralia ac yna ei roi at ei gilydd ar lannau'r gronfa sy'n cyflenwi 500,000 o gwsmeriaid.
Bu'n rhaid defnyddio hofrennydd i'w osod yn ei le.
Gêm gwpan i Gaerdydd
BBC Sport Wales
Fe fydd Caerdydd oddi cartref heno yn erbyn Bristol Rovers yn rownd gyntaf Cwpan y Gynghrair. Pe bai nhw'n curo, Scunthorpe fydd ei gwrthwynebwyr yn yr ail rownd.
Carcharu dau am droseddau cyffuriau
The Leader
Dywed gwefan y Leader fod dau ddyn o ardal Wrecsam wedi eu carcharu ar ôl pledio'n euog o fod a gwerth £20,000 o gocên yn eu meddiant gyda'r bwriad o'i werthu.
Cafodd Andrew James Jones, 27 o Wrecsam ei garcharu am bedair blynedd a hanner, a chafodd David Ryan Williams, 45, o'r Waun ei garcharu am bedair blynedd.
Gareth Blainey'n proffwydo
Twitter
James Chester i symud i Aston Villa?