a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.

  2. Oh na! Glaw eto!

    Tywydd, BBC Cymru

    Mae newyddion siomedig yn dod o gyfeiriad y swyddfa dywydd, "Fydd 'na dipyn o heulwen mewn ardaloedd dwyreiniol ddiwedd y pnawn," meddai Robin Owain Jones, "ond yn fwy cymylog tua'r gorllewin cyn i law gyrraedd o’r gogledd-orllewin dros nos gan ledu tua’r de-ddwyrain erbyn yr oriau man. Bydd hi'n noson fwyn, y tymheredd yn 14C ar ei isaf."

    Am eich tywydd lleol dros y penwythnos, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  3. Carcharu dau am ymosodiad yn y Rhyl

    Daily Post

    Mae'r Daily Post wedi bod yn son giang a ymosododd ar deithwyr tacsi gyda chyllell, sydd wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug. 

    Fe gyfaddefodd y ddau i ymosod ar y teithiwr ym mis Awst y llynedd. 

    Fe gafodd Aldo Tamburrini, 23 oed, ei garcharu am ddwy flynedd a hanner a Christopher Roper, 27 oed, ei garcharu am 28 mis.  

  4. Ar y ffyrdd...

    Teithio BBC Cymru

    Ar yr M4 tua’r gorllewin, mae ‘na dagfeydd am 7 milltir rhwng cyffordd 23A, Gwasanaethau Magwyr a chyffordd 26, Ffordd Malpas

    Ar yr M4 tua’r dwyrain, mae’r traffig yn symud a stopio am yn ail am 7 milltir rhwng cyffordd 30, Porth Caerdydd a chyffordd 26, Ffordd Malpas – ac am 6 milltir rhwng cyffodd 44, Llansamlet a chyffordd 41, Baglan.

  5. Caernarfon: Caffi'n ymateb

    Golwg 360

    Bythefnos ers i golwg360ofyn am ymateb gan Costa i’r cwynion am ddiffyg arwyddion Cymraeg mewn siop newydd yng Nghaernarfon, mae’r cwmni coffi wedi cysylltu gydag ymateb.

    Dywedodd llefarydd: “Nid ydym ar hyn o bryd yn darparu bwydlenni dwyieithog yn ein siopau, ond ein bod yn darparu amseroedd agor yn Gymraeg ac arwyddion ‘Dim Ysmygu’ yn Gymraeg.

    “Yn ogystal â hyn, mae ein staff yn gwisgo bathodynnau oren, sy’n dynodi eu bod yn siarad Cymraeg a Saesneg ac fe allent gyfieithu bwydlen os oes angen.“

  6. Emyr Huws i Gaerdydd

    BBC Cymru Fyw

    Mae CPD Caerdydd wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae, Emyr Huws o glwb Wigan Athletic.

    Fe fydd cytundeb HUws yn ei gadw gyda'r Adar Gleision am y tair blynedd nesa'.

  7. Ar y ffyrdd...

    Teithio BBC Cymru

    Yn Sir Gaerfyrddin, mae’r A484 ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Pibwrlwyd a Chwmffrwd yn dilyn damwain – hyn yn effeithio’r rhai sy’n teithio rhwng Caerfyrddin a Chydweli.  

    Ar yr A55 mae’r traffig yn symud yn araf iawn tua’r gorllewin dros Bont Britannia 

    Yn Sir Conwy, mae’r A548 wedi ei rhwystro’n rhannol yn dilyn damwain ger y troiad am Bandy Tudur – mae’r heddlu yn cyfeirio’r traffig.

  8. Lidl yn ystyried herio’r hawl i ffurfio undeb

    Golwg 360

    Mae golwg360 wedi adrodd fod cwmni Lidl wedi dweud ei fod yn ystyried apelio yn erbyn dyfarniad barnwrol ddoe a oedd yn rhoi’r hawl i weithwyr yr archfarchnad ymuno gydag undeb.

    Roedd undeb y GMB wedi bod yn llwyddiannus wrth herio penderfyniad yr archfarchnad i rwystro gweithwyr eu warws ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhag cael eu cynrychioli.

  9. Elusen anifeiliaid yn apelio yn erbyn penderfyniad llys

    BBC Wales News

    Mae elusen anifeiliaid wedi apelio yn erbyn penderfyniad y llys na all mwnci fod yn berchen ar hawlfraint i hunlun o honno'i hun. 

    Fe gafodd y llun o'r mwnci ei dynnu yn y jyngl yn Indonesia yn 2011, pan gododd y mwnci gamera dyn o Sir Fynwy i fyny a'i ddefnyddio.

    mwnci
  10. Newydd dorri: Llafur yn llwyddo i wyrdroi penderfyniad yr Uchel Lys

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r blaid Lafur wedi ennill eu cais i wyrdroi penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu aelodau newydd y blaid i bleidleisio yn yr etholiad am yr arweinyddiaeth.

  11. Tagfeydd yn Abertawe

    South Wales Evening Post

    Fe ddywed y South Wales Evening Post bod car wedi taro'r lain ganol ar Ffordd Fabian yn Abertawe gan achosi oedi hir i draffig.

  12. Rhedeg efo seren Olympaidd

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Dim pob dydd mae rhywun yn ymarfer gyda rhedwr sy'n dal record y byd a'r fedal aur Olympaidd dros 800 metr. Ond dyna'n union wnaeth un dyn ifanc o Borthmadog tra ar ymweliad ag Affrica yn ddiweddar.

    Tair blynedd ers ymuno â'i glwb rhedeg lleol, penderfynodd Owen Roberts, 19, deithio i Kenya yn gynharach yn yr haf er mwyn datblygu ei hyfforddiant gyda David Rudisha!

    osian
  13. Cymru, gwlad y jazz?

    BBC Cymru Fyw

    Ar benwythnos Gŵyl Jazz Aberhonddu, mae Cymru Fyw'n bwrw golwg ar hanes jazz yng Nghymru gyda'r cerddor Rhys Taylor.

    Y sacsoffonydd Rhys Taylor
    Image caption: Y clarinetydd Rhys Taylor
  14. Carchar am ddigwyddiad meddw

    Daily Post

    Mae Daily Post wedi cyfeirio at ddyn sydd wedi ei garcharu am fygwth lladd dieithryn llwyr tu allan i arcêd yn y Rhyl. 

    Roedd Duane Melvin Peters yn byw ar Ffordd Dewi Sant yn y dref ar y pryd, ond clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ei fod mor feddw nad oedd yn cofio'r digwyddiad.  

  15. Plaid v Plaid yng Ngwynedd

    Golwg 360

    Mae Golwg360 wedi datgelu bod dau o gynghorwyr Plaid Cymru yn cyhuddo Cyngor Gwynedd o anwybyddu cynnig gafodd ei basio gan fwyafrif o gynghorwyr, a hynny mewn cyfarfod llawn yn gynharach eleni.

    Daeth y cynnig dan sylw ar derfyn cyfarfod ar Fawrth 18, wedi i nifer o gynghorwyr o bob plaid ladd ar y Cynllun Datblygu Lleol sy’n sôn am roi caniatâd cynllunio i godi 4,292 o dai newydd yn y sir.

  16. Chester yn Aston Villa

    Twitter

    Dywed BBC Wales Sport ei bod yn ymddangos i James Chester gwblhau ei drosglwyddiad i Aston Villa.

    View more on twitter
    chester