Cyfarfod Llawn am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu: Symud Cymru Ymlaen
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf
Datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol
Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Teithio llesol
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl
A dyna ni am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
BBCCopyright: BBC
Cost segurdod corfforol i'r Gwasanaeth Iechyd
Yn ôl Rebecca Evans y llynedd "dim ond 6% o oedolion yng Nghymru wnaeth wneud taith llesol ar feic a 63% wneud taith ar grwydr unwaith yr wythnos neu fwy, sy'n golygu bod traean o oedolion yng Nghymru ddim yn cerdded neu'n seiclo mewn wythnos arferol."
Mae'n dweud bod y ffigyrau mwya diweddar yn amcangyfrif bod cost segurdod corfforol i GIG yng Nghymru yn £51 miliwn y flwyddyn.
Roedd y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a llwybrau i gerddwyr a beicwyr yn barhaus, a pharatoi mapiau sy'n nodi'r llwybrau presennol a'r llwybrau posibl y gallant eu defnyddio yn y dyfodol.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Teithio Llesol
Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
Y Wybodaeth ddiweddaraf ar Teithio llesol.
'Chwedl anffodus'
Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud ei bod wedi clywed bod yna "chwedl anffodus bod yn rhaid i chi siarad Cymraeg er mwyn gweithio yn y Gwasasnaeth Iechyd yng Nghymru."
BBCCopyright: BBC
Ymgyrch yn dechrau 20 Hydref
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi y bydd ymgrych yn dechrau ar 20 Hydref i ddenu rhagor o feddygon i Gymru.
Mae'n dweud y bydd "ymgyrch recriwtio fawr yn genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fel lle deniadol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu a'u teuluoedd, i gael hyfforddiant, gwaith ac i fyw."
BBCCopyright: BBC
Recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol
Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol.
ThinkstockCopyright: Thinkstock
'Allwn ni symud yn gyflymach'
Mewn ymateb i gwestiwn gan Llyr Gruffydd mae Kirsty Williams yn dweud " gallwn ni symud yn gyflymach na'r hyn rydyn ni wedi ei wneud" wedi iddo fe gyfeirio at yr amser mae'n ei gymryd i weithredu argymhellion Athro John Furlong.
Ymgynghoriad cyhoeddus ar fras-feini prawf
Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud y bydd hi ddydd Llun nesaf 26 Medi yn dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar fras-feini prawf ar y ffordd y caiff rhaglenni addysg hyfforddiant cychwynnol athrawon eu cymeradwyo a'u hachredu.
Mae hyn yn seiliedig ar adroddiad annibynnol yr Athro John Furlong, a ddaeth i'r casgliad bod angen diwygio hyfforddiant athrawon er mwyn codi safonau.
Mae'r achrediad diwygiedig yn cynnwys:
Rôl gynyddol i ysgolion;
Rôl gliriach i brifysgolion;
Cyd-berchnogaeth o'r rhaglen addysg gychwynnol athrawon;
Cyfleoedd strwythuredig i gysylltu dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion;
Ymchwil fel elfen ganolog.
BBCCopyright: BBC
Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae'r datganiad nesa gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:
Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf.
ThinkstockCopyright: Thinkstock
Gwelliannau i'r A40 'dal ar yr agenda'
Mae'r Prif Weinidog yn dweud wrth yr aelod Ceidawadol Paul Davies bod gwelliannau i'r A40 yn y Gorllewin yn "dal ar yr agenda".
Y Gwrthbleidiau yn gytûn ar 'ddiffyg manylion'
Mae'r gwrthbleidiau yn gytûn ar yr hyn mae nhw'n alw yn "ddiffyg manylion" yn y rhaglen 15 tudalen.
'Pot pourri o ystrydebau'
Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y rhaglen yn "pot pourri o ystrydebau" yn llawn "lol ddiystyr".
BBCCopyright: BBC
Sut i gynnig rhywbeth newydd i'r etholwyr
Dadansoddiad
Daniel Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Quote Message: Mae 'na gwestiwn mawr yn wynebu'r blaid Lafur ar ôl 17 mlynedd wrth y llyw ym Mae Caerdydd. Sut i gynnig rhywbeth newydd i'r etholwyr heb droi eich cefn ar record y blaid? Fe lwyddodd Carwyn Jones i grynhoi'r broblem yna ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad mis Mai. "Nid dyma'r amser i gymryd risg," meddai ar y pryd. Yn hytrach, fe soniodd am gadw'r momentwm i fynd ac adeiladu ar "sylfeini cadarn". Felly peidiwch disgwyl newidiadau radical mewn polisi pan fydd Mr Jones yn ceisio egluro sut y bydd yn troi'r maniffesto yna'n realiti yn ei raglen am y llywodraeth ddydd Mawrth. Ond heb fwyafrif yn y Senedd, gyda chweryla yn ei blaid ei hun a phwysau ar y gyllideb, nid rhwydd hynt fydd hi i Mr Jones nes yr etholiad nesaf ymhen pum mlynedd.
Mae 'na gwestiwn mawr yn wynebu'r blaid Lafur ar ôl 17 mlynedd wrth y llyw ym Mae Caerdydd. Sut i gynnig rhywbeth newydd i'r etholwyr heb droi eich cefn ar record y blaid? Fe lwyddodd Carwyn Jones i grynhoi'r broblem yna ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad mis Mai. "Nid dyma'r amser i gymryd risg," meddai ar y pryd. Yn hytrach, fe soniodd am gadw'r momentwm i fynd ac adeiladu ar "sylfeini cadarn". Felly peidiwch disgwyl newidiadau radical mewn polisi pan fydd Mr Jones yn ceisio egluro sut y bydd yn troi'r maniffesto yna'n realiti yn ei raglen am y llywodraeth ddydd Mawrth. Ond heb fwyafrif yn y Senedd, gyda chweryla yn ei blaid ei hun a phwysau ar y gyllideb, nid rhwydd hynt fydd hi i Mr Jones nes yr etholiad nesaf ymhen pum mlynedd.
'Digalon a dweud y lleia'
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn anhapus gyda pha mor fyr yw'r rhaglen: "15 tudalen ar gyfer pum mlynedd o lywodraeth."
Mae'n dweud ei bod hi'n ddigalon a dweud y lleia mai dyma ydi'r gorau y gall Llafur ei chyflwyno ar gyfer rhaglen pum mlynedd o lywodraethu.
'Diffyg manylion'
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn feirniadol o'r hyn mae hi yn ei alw'n ddiffyg manylion ar sut y bydd y llywodraeth yn cwrdd ag amcanion y rhaglen.
Mae'n gofyn a yw polisiau'r Democrat Rhyddfrydol, (dosbarthiau llai o faint a Grant Amddifadedd Disgyblion) yn ychwanegol tuag at addewid Llafur i wario £100m yn fwy ar ysgolion.
Y Prif Addewidion
Mae'r prif addewidion yn cynnwys:
Torri cyfraddau busnes ar gyfer cwmnïau llai;
30 awr o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed;
100,000 o brentisiaethau sy'n agored i bobl o bob oed;
Hwyluso'r defnydd o feddygfeydd, a sefydlu cronfa ar gyfer triniaethau newydd ac arloesol;
Arian i ysgogi gwelliannau i safonau ysgolion, ac i adnewyddu neu adeiladu ysgolion newydd;
Adeiladu ffordd osgoi ar gyfer yr M4 a sefydlu Metro De Cymru, a sefydlu cwmni rheilffyrdd newydd nid-er-elw;
Band-eang cyflym a dibynadwy i bob cartref yng Nghymru.
Symud Cymru Ymlaen
Nawr datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu: Symud Cymru Ymlaen.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl
A dyna ni am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Cost segurdod corfforol i'r Gwasanaeth Iechyd
Yn ôl Rebecca Evans y llynedd "dim ond 6% o oedolion yng Nghymru wnaeth wneud taith llesol ar feic a 63% wneud taith ar grwydr unwaith yr wythnos neu fwy, sy'n golygu bod traean o oedolion yng Nghymru ddim yn cerdded neu'n seiclo mewn wythnos arferol."
Mae'n dweud bod y ffigyrau mwya diweddar yn amcangyfrif bod cost segurdod corfforol i GIG yng Nghymru yn £51 miliwn y flwyddyn.
Vaughan Roderick yn dadansoddi
Cyfleusterau a llwybrau i gerddwyr a beicwyr
Nod y Cynllun Gweithredu ar Deithio Llesol yw annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn amlach ar gyfer teithiau bob dydd.
Pleidleisiodd aelodau o blaid y Mesur Teithio Llesol (Cymru) ar 1 Hydref 2013.
Roedd y Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a llwybrau i gerddwyr a beicwyr yn barhaus, a pharatoi mapiau sy'n nodi'r llwybrau presennol a'r llwybrau posibl y gallant eu defnyddio yn y dyfodol.
Teithio Llesol
Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
Y Wybodaeth ddiweddaraf ar Teithio llesol.
'Chwedl anffodus'
Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud ei bod wedi clywed bod yna "chwedl anffodus bod yn rhaid i chi siarad Cymraeg er mwyn gweithio yn y Gwasasnaeth Iechyd yng Nghymru."
Ymgyrch yn dechrau 20 Hydref
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi y bydd ymgrych yn dechrau ar 20 Hydref i ddenu rhagor o feddygon i Gymru.
Mae'n dweud y bydd "ymgyrch recriwtio fawr yn genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fel lle deniadol i feddygon, gan gynnwys meddygon teulu a'u teuluoedd, i gael hyfforddiant, gwaith ac i fyw."
Recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol
Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol.
'Allwn ni symud yn gyflymach'
Mewn ymateb i gwestiwn gan Llyr Gruffydd mae Kirsty Williams yn dweud " gallwn ni symud yn gyflymach na'r hyn rydyn ni wedi ei wneud" wedi iddo fe gyfeirio at yr amser mae'n ei gymryd i weithredu argymhellion Athro John Furlong.
Ymgynghoriad cyhoeddus ar fras-feini prawf
Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud y bydd hi ddydd Llun nesaf 26 Medi yn dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ar fras-feini prawf ar y ffordd y caiff rhaglenni addysg hyfforddiant cychwynnol athrawon eu cymeradwyo a'u hachredu.
Mae hyn yn seiliedig ar adroddiad annibynnol yr Athro John Furlong, a ddaeth i'r casgliad bod angen diwygio hyfforddiant athrawon er mwyn codi safonau.
Mae'r achrediad diwygiedig yn cynnwys:
Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae'r datganiad nesa gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:
Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf.
Gwelliannau i'r A40 'dal ar yr agenda'
Mae'r Prif Weinidog yn dweud wrth yr aelod Ceidawadol Paul Davies bod gwelliannau i'r A40 yn y Gorllewin yn "dal ar yr agenda".
Y Gwrthbleidiau yn gytûn ar 'ddiffyg manylion'
Mae'r gwrthbleidiau yn gytûn ar yr hyn mae nhw'n alw yn "ddiffyg manylion" yn y rhaglen 15 tudalen.
'Pot pourri o ystrydebau'
Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud bod y rhaglen yn "pot pourri o ystrydebau" yn llawn "lol ddiystyr".
Sut i gynnig rhywbeth newydd i'r etholwyr
Dadansoddiad
Daniel Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
'Digalon a dweud y lleia'
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn anhapus gyda pha mor fyr yw'r rhaglen: "15 tudalen ar gyfer pum mlynedd o lywodraeth."
Mae'n dweud ei bod hi'n ddigalon a dweud y lleia mai dyma ydi'r gorau y gall Llafur ei chyflwyno ar gyfer rhaglen pum mlynedd o lywodraethu.
'Diffyg manylion'
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn feirniadol o'r hyn mae hi yn ei alw'n ddiffyg manylion ar sut y bydd y llywodraeth yn cwrdd ag amcanion y rhaglen.
Mae'n gofyn a yw polisiau'r Democrat Rhyddfrydol, (dosbarthiau llai o faint a Grant Amddifadedd Disgyblion) yn ychwanegol tuag at addewid Llafur i wario £100m yn fwy ar ysgolion.
Y Prif Addewidion
Mae'r prif addewidion yn cynnwys:
Symud Cymru Ymlaen
Nawr datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu: Symud Cymru Ymlaen.
Rhaglen Pum Mlynedd.
A48 yn Sir Gaerfyrddin
Mae Simon Thomas yn mynegi pryder bod ffordd yr A48 yn Sir Gaerfyrddin wedi cau am chwech wythnos i gyfeiriad y dwyrain rhwng Caerfyrddin a Nanycaws.
Mae'n cau oherwydd gwaith atgyweirio i bibell tanwydd a bydd y ffordd ddim yn ail agor tan 28 Hydref.
Mae nam wedi ei ddarganfod ar ddarn o'r bibell amldanwydd sy'n mynd o burfa Penfro i derfynellau ym Manceinion a Kingsbury.