a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
  2. Y cyfarfod llawn yn dechrau am 13.30 gyda Chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  3. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ddull gweithredu’r Pwyllgor o ran ei gylch gwaith, a sut y mae’n bwriadu ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru
  4. Dadl gan Aelodau Unigol ar daclo TB buchol
  5. Dadl Plaid Cymru ar y fwrsariaeth nyrsio
  6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflwyno ei Rhaglen Lywodraethu o fewn ei chyllideb
  7. Dadl Fer: Heriau i'r sector gofal yng Nghymru yn y dyfodol

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw. 

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesa 4 Hydref.

    Y Senedd
  2. Gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru

    Mae Eluned Morgan yn gobeithio dechrau trafodaeth, ar sail traws-bleidiol, ar wasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, gwasanaeth y mae hi'n gobeithio fyddai'n "cael ei garu a'i werthfawrogi fel y GIG."  

    Eluned Morgan
  3. Heriau i'r sector gofal yng Nghymru

    Ac yn ola yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Eluned Morgan.

    Y pwnc: Heriau i'r sector gofal yng Nghymru yn y dyfodol.  

  4. 'Mandad i gyflawni'

    Mae Jane Hutt yn ymateb ar ran y llywodraeth ac yn dweud "mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros ein rhaglen ac mae ganddon ni fandad i gyflawni'r rhaglen." 

    Jane Hutt
  5. Neil Hamilton yn cael cerydd

    Mae Neil Hamilton yn cael cerydd gan y Dirprwy Lywydd am gyfeirio at Joyce Watson fel "Joyless Watson".

  6. Diffyg cynnwys

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud hyn am y ddogfen, "hyd yn oed os ydyn ni'n derbyn mai dim ond 16 tudalen sydd i'r ddogfen... mae yna'n bendant ddiffyg cynnwys".

    Gareth Bennett
  7. Rhaglen yr Wrthblaid

    Mae Adam Price yn dadlau bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi "agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru".  

  8. Gwasanaeth Iechyd saith diwrnod yr wythnos

    Mae Andrew RT Davies yn tynnu sylw at y ffaith bod Ysgrifennydd Iechyd San Steffan Jeremy Hunt wedi ennill brwydr Uchel Lys heddiw yn erbyn meddygon iau yn Lloegr a'u cytundeb newydd.

    Fe fydd hyn yn golygu Gwasanaeth Iechyd saith diwrnod yr wythnos meddai. "O leiaf mae Llywodraeth Prydain wedi gosod uchelgeisiau. Beth ydych chi wedi ei wneud yn y ddogfen hon?" ychwanega Mr Davies. 

    Andrew RT Davies
  9. 'Cyfleoedd bywyd'

    Am yr awr nesa mae'r aelodau yn gwrando ar ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    • Yn credu nad yw Rhaglen Lywodraethu Prif Weinidog Cymru yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru.
    • Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflwyno ei Rhaglen Lywodraethu o fewn ei chyllideb. 
  10. 'Methu rhagdybio proses y gyllideb'

    "Rydw i'n cydnabod ysbryd y cynnig, ond allwn ni ddim rhagdybio proses y gyllideb" medd Carl Sargeant ar ran y llywodraeth.

    Carl Sargeant
  11. Diogelu gwasanaethau ataliol allweddol

    Mae Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr yn dweud bod ei blaid yn mynd gam ymhellach na Phlaid Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    • sicrhau bod y gwasanaethau ataliol allweddol a ddarperir ochr yn ochr â'r rhaglen Cefnogi Pobl gan y gyllideb atal digartrefedd a'r cyllid pontio ar gyfer tai yn cael eu diogelu rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn, ac 
    • cydnabod bod y cyllid hwn yn helpu pobl i fyw'n annibynnol, yn achub bywydau, yn arbed arian i'r gwasanaethau statudol ac yn llwyfan ar gyfer ffynonellau ariannu eraill i gael eu defnyddio ar gyfer gwaith ataliol.  
    Mark Isherwood
  12. Nod y rhaglen

    Yn ôl Llywodraeth Cymru nod y Rhaglen Cefnogi Pobl yw rhoi cymorth i:

    • bobl sy’n agored i niwed i fyw mor annibynnol ag y bo modd
    • rhoi’r cymorth sydd ei angen ar bobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain, mewn hosteli, tai â chymorth neu dai arbenigol eraill
    • atal problemau yn y lle cyntaf neu roi help mor gynnar ag y bo modd er mwyn osgoi rhoi cymaint o bwysau ar wasanaethau eraill megis iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
    • rhoi help ochr yn ochr â’r gofal personol neu feddygol fydd ei angen ar rai pobl
    • sicrhau bod gwasanaethau o safon yn cael eu darparu mor effeithiol ac mor effeithlon ag y bo modd drwy sicrhau bod sefydliadau sy’n cynllunio ac yn cyllido gwasanaethau a chyrff sy’n darparu gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd
    • hybu cydraddoldeb a lleihau anghydraddoldeb.
  13. Dadl ar y Rhaglen Cefnogi Pobl

    Yn ei hail ddadl mae Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei hamddiffyn rhag unrhyw doriadau ariannol dros dymor y Cynulliad hwn.   

  14. 'Cyllid ddim yn rhwystr'

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn cadarnhau bod ei blaid yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.

    "Rydyn ni wedi ein hymrwymo i sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i yrfa mewn nyrsio" meddai.

    Vaughan Gething
  15. 'Ymresymiad llywodraeth Prydain'

    Mae Caroline Jones UKIP yn dweud nad yw hi'n deall rheswm llywodraeth Prydain dros gael gwared â'r fwrsariaeth. 

  16. Galwad am adolygiad "byr a phendant'

    Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn galw am "adolygiad byr a phendant" o sut y mae modd gwneud y proffesiwn gofal iechyd yn fwy atyniadol.

  17. Y fwrsariaeth nyrsio

    Nesa dwy ddadl gan Blaid Cymru. 

    Mae'r cyntaf ar y fwrsariaeth nyrsio. 

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

    Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gadw'r fwrsariaeth nyrsio fel rhan o raglen ehangach i gynorthwyo rhagor o bobl o gefndiroedd incwm isel i gael gyrfaoedd yn GIG Cymru.  

    Rhun ap Iorwerth
  18. 'Dim brechlyn flwyddyn nesaf'

    Ar ran y llywodraeth mae Lesley Griffiths yn dweud y bydd hi'n gwneud datganiad ar 18 Hydref ynghylch "agwedd newydd ar sut i gwared â TB".

    "Gawn ni ddim brechlyn flwyddyn nesa" meddai wrth Simon Thomas, a "does ganddon ni ddim dyddiad pryd y cawn ni'r brechlyn".

    Lesley Griffiths
  19. Ffermwr yn ei ddagrau

    Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn dweud bod ffermwraig oedd yn ceisio delio gyda TB buchol yn ei dagrau pan ffoniodd ei swyddfa yn wythnos ddiwethaf.

    Mae Mr George yn darllen llythr gan y ffermwr sy'n dweud bod angen agwedd ddeubig gan y llywodraeth er mwyn cael gwared â'r clefyd.

    Russell George
  20. Cefndir: TB buchol

    Fe gafodd rhaglen frechu ei chyhoeddi gan weinidogion Llafur yn 2012, pan wnaethon nhw roi'r gorau i fwriad y llywodraeth glymblaid flaenorol Llafur/Plaid Cymru i ddifa moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys.

    Y llynedd fe gafodd y cynllun i frechu moch daear yn erbyn TB buchol ei ohirio oherwydd prinder o ran cyflenwadau brechu. 

    Moch daear